Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

YNADLYS BETTWSYCOED. i

TALSARNAU. I

HEDDLYS LLANRWST. I

0 GADAIR YNYS FADOG,I

Adolyjgiacl y Wasg.i

Beirniadaeth -Seindorf -OakeleyI…

IArddangosfa y Diwydianau…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Arddangosfa y Diwydianau Cym- reig yn Llandudno. Cynhaliwyd Arddangosfa Cymdeithas y Di- wydiadau Cymreig yn L'andudno. Medi 10, 11, 12. Hwyrach mai nid anfuddiol fyddai ceisio egluro beth ydyw amcan y Gymdeithas uchod. Fe'i ffurfiwyd er's tua dengmlynedd yn ol gyda yr amcan o ddadblygu a chefnogi y Diwydianau Cymreig, trwy ddarparu i'r gwneithurwyr bat- rymau da, etc, a'u cynorthwyo i ddod o hyd i well marchnad i'w nwyddau. Disgwylir yn y dyfodol y bydd o rhyw ddefnydd tuag at rwystro pobl y wlad i bentyru i'r dinasoedd mawrion, trwy roddi waith cartref. Bwriada hefyd feithrin yr hen batryma Cededlaethol Cymreig a Gweadwaith llawer o ba rai sydd wedi bod ar ddarfod am danynt y blynyddoedd diweddaf, Ymegni y Gymdeithas i gyr- haedd yr amcanion uchod trwy ffqrfio cang- henau, ac ymrestru Nawddwyr, Stewards, Cyfranogwyr, ac aelodau trwy sefydlu ystor- feydd er gwerthiant y nwyddau, trwy gynal yn achlysurol Arddangosiadau ac Arwerthiant, trwy gefnogi Dosbarthiadau lie mae ceHau cain yn cael eu dysgu a'i hymarfer. A ganlyn sydd restr o'r hyn mae yn ei gefuogi. Weav- ing, Knitting, Embroidery, Lace, Crotchet, Needlework, Wrought Iron and Metal work, Wood Carving. Turning, Inlaying, Pottery, China, Enamelling, Photography, Bookbuild- ing, Leather work, Basket and straw plaiting. Cymerir hefyd archebion am Gaws Cymreig, Mel, Ymenyn, Fowls, ac Wyau, Eleni cymerodd yr arddangosfa le yn Llandudno, gan fod yno gymaint o bobl o bob rhan o Brydain Fawr, a chyfleusderau teithiol mor hwylus. Dyma yr Arddangosfa Genedlaethol gyntaf gawsom ni yn y Gogledd ac yn ffort- ynus iawn trodd allan yn llwyddiant perfiaith -er gwaethaf y tywydd ystormus. Agorwyd hi y diwrnod cyntaf gan y Grand Duke Michael o Rwssia. Yr ail ddiwrnod gan Lady Eva Wyndham Nuin, S. Wales, a'r trydydd diwrnod gan Lady Naylor Leyland. Yr oedd y pwyllgor yn Llandudno wedi ei hysbysebu yn bur dda, ac maent yn haeddu eu canmol am wneud eu gwaith mor drwyadl. Buont yn ffortunus iawn yn eu detholiad o Ysgrifenydd Mygedol, sef Mr. J. Jones-Marks ac yr oedd cyfrifoldeb mawr iawn yn disgyn arno. Clywais ef yn dweyd ei fod yn ddigon i ladd pedwar o ddynion cyffredin, ond trwy ei fod yn dwrna, mae yn fyw. Derbyniwyd o ariah wrth y drws tloo yn bur agos; a gwerth- wyd yn ystod yr Arddangosfa werth [1000. Er pan gychwynwyd y gymdeithas mae nwyddau gwerth c28,000 wedi cael newid dwy- law. Yr oedd y cynyrchion yn rhagorol yn mhob ystyr, ac yn haeddu y gefnogaeth lwyraf. Cedwid y neuadd yn hynod o fywiog gan yr Euterpean Orchestra yn cael eu harwain gan y Misses Scott, Lerpwl. Daeth 9 o wobreuon cyntaf i Sir Feirionydd, ac o'r 9 daeth 4 i'r dref hon, sef i Jacob Jones & Son. 1st ar Ladies dress length in stripe flannel. 1st ar Ladies coat and skirt one colour. 1st ar ddafedd sana at Fancy Stockings, ac hefyd 1st ar Linsey Skirting. Cynhelir yr Arddangosfa nesaf yn Llundain yn mis Mawrth, 1909 ac fe geir pob manylion gan ein hysgrifenyddes glodwiw Miss K. A. Patchitt, Allt Fawr, Barrpouth. I\AAAAAAAAAA.A.AA.AAA.AAA.A At. A A A AAA.

OYNGOR GWLEDIG LLANRWST,

BWRDD aWARCHEIDWAID I LLANRWST.

IGWYTHERIN. - ....... - -…

TRAWSFYNYDD.

. - ...............- ....-…

- -CAPEL CURIG.

[No title]