Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

IPENILLION I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENILLION I I Mr. John Owen, Park Road, Penrhyndeu- draeth, ar ei ymadawiad i Awstralia. Mae fy nghalon yma'n cwyno Ac yn pigo tan fy mron, Pan bwy'n meddwl am fynudyn Ganu'n iach i'm cyfaill John Canu'n iach sydd raid i'm heddyw Iddo ef a'i deulu cu, Gan obeithio caf eu gweled Yn y Penrhyn fel y bu. Llwyddiant i chwi gyfaill calon Draw yng ngwlad Awstralia bell Boed i heulwen cysur dwynu Uwch eich pen yn llawer gwell: Aur ae arian fo'nt yn rhedeg I'ch Ilogellau yno'n stor, Fel y rhed yr afon loyw O'r mynyddau am ymor. Iechyd yw y trysor penaf Yn Awstralia fel pob gwlad, Ac heb hwnw, megis yma, Nid oes yno ddim mwynhad Boed i'r nefoedd wen ymarllwys Ei bendithion ar eich pen, Ac i chwithau wedi hyny Ddod yn ol i Walia Wen. Pan hyd wyneb maith y weilgi, I Boed i Lywiwr Mawr y don Ffrwyno ei chynddaredd" enbyd Tra bydd hi yn cludo John Chwythed awel dyner ysgafn Trwy y daith yn deg i gyd, Wedi cyrhaedd pen eich siwrna Yn Awstalia gwyn eich byd. Cofiwch fi at William Owen Gyda'i blant a'i briod dlos, David Evans, Catherine dirion, Hwythau feibion Owen Jo's Tom Tanrhiw a'i deulu dedwydd, Dafydd Evans o'r Hen Dy Ellen Jones a'i theulu hefyd A phob Cymro yno sy' Minffordd. W. TKILLIPS (DWYRYD), I

YMWELIA.D LLANCIAU R PENRHYN…

CYFLWYNEDIG I

SPRI DIC DOLI, AC WEDYN. I

■Y DAFARN. !

Y CARCHAR.

MARWOLAETH FY MRAWDI

Advertising

TREFN OEDFAON Y SUL

Advertising