Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

IPENILLION I

YMWELIA.D LLANCIAU R PENRHYN…

CYFLWYNEDIG I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFLWYNEDIG I I Mrs. Evans, a'r teulu, Briwet, Penrhyndeu- draeth, yn ei phrofedigaeth lem a sydyn, o golli ei hanwyl fachgen "Bob" ar y 30ain. o Fehefin, 1908. Na wylwch, chwi deulu trallodus I Os daeth peth gofidus i'ch rhan, Os ydych gan hiraeth yn methu, Mae'r nefoedd yn nerthu y gwan Mewn enyd daeth dyfnion ofidiau A thristwch a lanwai bob bron, Angerddol a chwerw ddu adwy Rhyw noswaith ofnadwy oedd hon. Nos olaf Mehefia, nos adfyd, Mae murmur y Ddwyryd gerllaw Fel odlau pruddglwyfus yn adsain, Yn peri wylofain a braw Mae'r blodau sy'n britho ei glanau Fel dwys alarnadau yn awr, Ar ol y blodeuyn a gollwyd, A dorwyd mor gynar i lawr. Er cymaint trallodion yr yrfa, Hon ydyw y fwya' i gyd, Am Robert pob calon sy'n wylo Mewn hiraeth am dano o hyd Efe ydoedd Eilun yr aelwyd, Atiwylach ni welwyd erioed, Ond ciliodd yn mlodau ei ddyddiau Diflanai yn ddeuddeng mlwydd oed. Tra'r haul dros y gorwel fachludai, Bob anwyl ymdrochai gerllaw, Ond clywai yn rhydiau yr afon Ganiadau'r angylion tu draw; Yn sydyn daeth gwys iddo yntau I uno 'nghaniadau y Cor, .Daeth Iesu o'r nefoedd i'w gyrchu I fynu at orsedd wen lor" Na wylwch, os duodd y wybren, Mae gobaith ar ddalen y nef, Daw eto rhyw heulwen i wenu Ond pwyso ar Iesu fel Ef; Cewch eto gyfarfod eich plentyn Ymadael byth wedyn ni bydd, Cewch aros mewn gwlad nad oes gofid Heb nos yn eich bywyd, and dydd. Penrhyn. EVAN REES,

SPRI DIC DOLI, AC WEDYN. I

■Y DAFARN. !

Y CARCHAR.

MARWOLAETH FY MRAWDI

Advertising

TREFN OEDFAON Y SUL

Advertising