Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

IPENILLION I

YMWELIA.D LLANCIAU R PENRHYN…

CYFLWYNEDIG I

SPRI DIC DOLI, AC WEDYN. I

■Y DAFARN. !

Y CARCHAR.

MARWOLAETH FY MRAWDI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH FY MRAWD (sef y diweddar Hugh Owen, Doppog, Tany- grisiau, gynt o'r Buarth Melyn). Rwy'n awr yn gwel'd yn eglur Na thal im' sefyll draw," Mae'r gelyn angeu'n tori Fy ngheraint ar bob llaw Daeth newydd dros y Werydd, Gan ddifa'n llwyr fy hedd, Nid hawdd ei sylweddoli- Fy mrawd sydd yn ei fedd. u Rwy'n awr yn gwel'd yn eglur" Fy nhaith yn dod i ben Ymddangos raid i minau 0 flaen yr orsedd wen I mi mae'r cyfan heddyw Fel wedi newid gwedd, Mae'r syniad yn fy lletbu- Fy mrawd sydd yn ei fedd. Mi welaf ei anwyliaid Rhwng bryniau Cymru fad, A'u gruddiau'n wlyb gan ddagrau Yn wylo am eu tad Tra'i weddw, Margaret dirion, 'Rol colli'i siriol wedd Mewa hiraeth geir yn wylo I Am Huw sydd yn ei fedd. u Rwy'n awr yn gwel'd yn eglur" Mai'r fynwent ydyw'r fan Sy'n anwyl yn fy ngolwg- Hen fynwent hoff y Llan Tra'r adar man yn canu 0 haf i haf mewn hedd, Fe'm gwelir i yn wylo Am frawd sydd yn ei feld. Y. D. D. OWEN (Melynfardd). I UtIca.N.Y.

Advertising

TREFN OEDFAON Y SUL

Advertising