Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"YN EISIAU.- LIe fel Housekeeper, mewn Ty Preifat, wedi cael profiad helaeth. Ymofyner gyda E." y Swyddfa hon. Ysgol Ganolraddol Ffestiniog. PIERCE'S GRANTS. YN ei ewyllys gadawodd y diweddar Wm, Pierce, Ysw., yn nwylaw Ymddiriedol- wyr y swm o C60 y flwyddyn am saith mlynedd i'w rhoddi bob blwyddyn (at gym- eradwyaeth Rheolwyr yr Ysgol) yn ol R20 yr un i dri ysgolor teilwng o'r Ysgol Ganol- raddol Ffestiniog fyddo yn gadael yr Ysgol ac yn cychwyn ei yrfa mewn rbyw grefft, galwedigaeth neu fapnacb. Wrth gariiatau y Rhoddion cymerir i ystyr- iaeth amgylchiadau y rhieni, ymroddiad, llwyddiant, acymddygiad y plant yn yr Ysgol ynghyd a'u rhagolygon i fod yn Llwyddianus yn yr alwedigaeth, &c., mewn golwg. Ceisiadau yn ysgrifenedig i'w hanfon cyn Gorphenat 31, i Mri. R. 0. Jones & Davies, clercod yr Ysgol, yn rhoddi pob manylion, yn cynwys :— 1. Enw yn llawn a chyfeiriad. 2. Oedran. 3. Enwaa y rhieni ynghyda'u gwaith a'u hamgylchiadau. 4. Manylion o yrfa y plant yn yr Ysgol ynghyda'u hadroddiadau (Terminal Reports) 5. Hysbysiad o'u bwriad ar ol gadael yr ysgol, h.y., pa yrfa fydd ganddynt mewn golwg. Arwyddwyd R. O. JONES A DAVIES, Clercod i'r YsgoLSirol. Chwefror 7fed, 1906.
Rhyddfrydwyr Blaenau Ffestiniog…
Rhyddfrydwyr Blaenau Ffest- iniog yn beffroi. Sefydlu Clwb i'r Blaid. Nos Wener, yn ysgol y Bechgyn, M aenoffer- en, cyfarfu y Rhyddfrydwyr o wahanol ranau o'r ardal mewn atebiad i wahoddiad hysbysiad- ol yn y newyddiaduron lleol, a'r cylch-lythyrau a anfonwyd allan gan y ddau Ysgrifenydd Mygedol (Mri. J. Cadwaladr a H Ellis Hughes) Llywyddwyd yn fedrus gan Mr William Owen, U.H., Piaswaenydd, yr hwn hefyd yw Cadeir- ydd y Blaid yn y Sir. Eglurodd o'r Gadair yn r beth oedd amcan y cyfarfod. Teimlai y Blaid yn y lie yr anfanteision dirfawr yr oedd o danynt o ddiffyg lie priodol i gyfarfod a'u gilydd i drefnu ac ymgyngori. Fel yr oeddynt yn awr yr oedd yn rhaid cael benthyg lie i gynal pob pwyllgor, a deuai hyny yn gost drom arnynt gan fod pedwar etholrau yn y dref. Mewn Clwb ceid pob cyfle i drafod materion oeddynt yn hanfodol bw vsig i'r Blaid, a gallant hefyd gael anerchiadau, &c ar byngciau y iydd. Mr. Griffith Rcberts a gynygiodd eu bod yn sefydlu Clwb Rhyddfrydol i'r dref. Yr oedd y manteision o gael sefydliad felly yn amlwg i bob un o honynt. Cefnogwyd gan Mr. R. E. Ellis. Darllenodd Mr. H. Ellis Hughes nifer o lythyrau dderbyniwyd oddiwrth amryw o Ryddfrydwyr blaenllaw yr ardal yn gefnogol i'r symudiad, ac yn addaw ymaelodi yn y Clwb. Y Cadeirydd a roddodd adroddiad o'r gwaith a. wnaed gan y Pwyllgor Mygedol yn nglyn a chael lie i gynal y Clwb, os byddid yn pasio i sefydlu un Cyfarfyddasant wythnos i nos Iau ac yn ddilynol i hyny buont yn siarad a Phwyll. gor y Gymdeithas Gydweithiol i'r amcan o gael deall yn nglvn a rhentu ystafell. Ystyrient mai rhentu d" y ystafell fyddai oreu i ddechreu ac yna ail-ystyried yn mhen tri mis. Yr oedd y Pwyllgor yn barod i'w cyfarfod yn mhob modd y'gallent, a dangoswyd iddynt ystafell gyfleus ar y llawr cyntaf uwchben y shop. Gallai triugain eistedd yn hono, ac yn ei hochr yr oedd pwyllgorfa gyfleus iawn. Ceid yr ystafell fwy- af yn hollol at eu gwasanaeth, a'r un arall hefyd Yn ychwanegol, yr oedd ystafell fawr uwchben He y gallai yn agos i dri chant eistedd, ac yr oedd meingciau yn hono yn barod. Gellid ei chael pan y mynid at gynal cyfarfodydd, 7s 60 yr wythnos a ofynid fel ardreth, a chynwysai hyny y goleu a'r tan. Heno fe ddaeth llythyr oddiwrth Mrs Thomas, Greffyn Temperance, yn eynvg gwasanaeth ystafell ddodrefnedig am bris vhesymol, gvda gwasanaeth y Bwrdd peli am bris gostyngol i aelodau y Clwb. Yn awr yr oedd y cyfarfod yn rhydd i daafod yr holl gwestiwn. Mr William Thomca a gynygiau eu bod yn myned yn mlaen. Llawenhai weled pethau Wedi dod i'r safle yr oeddynt, a theimlai yn ddiolchgar i'r pwyllgor am y gwrith da a wnaed ganddynt. Mr R J Williams a ofynodd a oedd y Clwb 1 wneyd i ffordd a'r Gymdeithas Ryddfrydol ? Cafodd ef y cwestiwn gan un o gyfeillion goreu y Gymdeithas, ac yr oedd ef ei hunan yn awvddys iawn am gael gwybodaeth glir ar y pen Cadeirydd, Na wna. Yn hytrach cadarnhau a chryfhau y gymdeithas wna'r Clwb. Y mae 130 wedi arwyddo eu parodrwydd i ymuno, a bydd y symudiad presenol yn uno yr holl aofibs trwy y He. Yna rhoddwyd y penderfyniad i fyny, a phasiwyd yn unfrydol i sefydlu Clwb i'r ardal. YR ADEILAD.—Y Cadeirydd a ofynodd beth am yr ystafell i gyfarfod? Yr oedd yr ystafelloedd a welodd y pwyllgor yn rhai cyfleus iawn i gychwyn, a cheid hwynt ar brawf am dri mis, Mr Lewis Jenkins a ystyriai y cynyg yn un rhesymol iawn, ac yr oedd y lie yn nodedig o gyfleus lie canolog i'r holl ardal, ac heb fod ynddrud. Gallai y gwahanol etholranau ddod yno i gynal pwyllgorau, a bydd yn gartref i Ryddfrydwyr y lie. Byddai hefyd yu gyfleus iawn gyda'r etholrestr, a gellid cael gwoll gw,vbwaeth am symudiadau yr etholwyr o'r naill ran i'r ardal i ran aral. Ceid hefyd arian trwy yr aelodau yn lle^bod yn ddiffyg- iol fel yr oeddynt. Yr oedd yn dda ganddo Weled y mudiad ar droed. Mr M E Phillips a ofynodd a oedd gwylio y lie yn gynwysedig yn y rhent crybwylledig ac atebwyd y byddai y lie yn cael ei gau a'i agor gan swyddog y masnachdy. Mr H Ellis_Hughes a ddywedodd fod llwy- ddiant y peth yndibynu i raddau helaeth ar y modd y cychwynir. Dylasai fod ganddynt adeilad o'r eiddynt eu hunain. Costiai yr ystafell tua ugain punt i'w dodrefnu yn briodol Ofnai eu bod yn ofni mentro digon. Dylai y lie gael ei wneyd yn counter-acting i leoedd eraill nes denu yr aelodau yno. Dylid cael Bwrdd peli er nad oedd ef yn arferol a chwareu. llyfrau a newyddiaduron. Y Cadeirydd a ddywedodd nas gellid disgwyl mewn munyd gael pobpeth fel y dymunid ar y dechreu. Yr oedd mor ffafriol i'r Bwrdd peli a chwareuon eraill ag ydoedd Mr Hughes ond dylent ystyried barn rhai eraill yn ogystal a'u barn eu hunain. Yr oedd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion yn erbyn chwareuon, yn enwedig y Bwrdd peli. Dechreu heb ddim o'r pethau hyny a fyddai oreu Gellid eangu os byddid yn llwyddianus ac wedi eychwyn a chael trafodaeth ar bethau gellid cael y Cyngor uchod o'u plaid cyn bo hir. Mr. R 0 Jones a ofnai eu bod yn cymeryd golwg rhy galed ar Gyngor yr Eglwysi Rhydd- ion yn y mater. Yr oedd y dref gyda'i phobl- ogaeth o ddeuddeng mil yn haeddu cael Clwb iawn. Nid oedd He o'i faint yn y wlad heb Glwb. Pwy fedrai wneyd peth iawn os nad allent hwy. Yr oedd ef yn cynyg eu bod yn prynu adeiladau y Gymdeithas Gydweithiol. Cadeirydd, y nae anhawsderau ar ffordd gwneyd hyny yn bresenol. Mr R 0 Davies a ddywedodd fod yn dda ganddo weled rhyw gynllun ymarferol yn cael ei ddwyn yn mlaen. Gwahaniaethai oddiwrth Mr R 0 Jones gyda gyda golwg ar brynu adeilad. Yr oeddynt oil yn gwybod y dylent gael Clwb iawn; a gwyddent hefyd eu bod yn selog iawn am siarad, a gwneyd dim. Bu y rhai fu'n trefnu hyd yma yn ddoeth iawn. Yr oedd un peth pwysig iddynt oil ei gofio, sef mai nid Clwb Cymdeithasol oedd hwn i fod, ond Clwb Rhyddfrydol. Rhagorol o beth oedd cael cymdeithasu, ond dysgu a chadarnhau Rhyddfrydwyr mewn Rhyddfrydiaeth oedd y pwngc yn bresenol. Os bydd pethau yn llwyddianus yn mhen tri mis, gellid symud yn mlaen. Golygai prynu lie o leiaf fil o bunau ac o ba le yn rhesymol y gellid disgwyl y fath swm yn ngwyneb amgylchiadau yr ardal; Dylai Cyngor yr Eglwysi Rnyddion roddi i mewn i'r rhai sydd yn ceisio darparu ar gyfer ieueugctyd y lie gan nad ydynt hwy yn gallu gwneyd dim i'r oyfeiriad hwnw. Bu ef yn dadleu am Drwydded Bwrdd peli o flaen y Faingc, a'i atebiad i'r Cyngor oedd nad oedd- ynt hwy fyn gwneyd dim a bod yn afresymol iddynt wrthwynebu y rhai a geisient wneyd eu rhan dros yr ieuaingc. Bydd y Clwb yn gyfleusdra i gael newid meddyliau a theimlad- au. Dyma gyfle rhagorol i gychwyn y peth yn ymarferol, ac wedi cael prawf teg, gellid symud am le inwy. Mr David W. Williams, a ddywedodd ei fod yn gefnogol iawn i'r symudiad, ond yr oedd yn selog yn erbyn y Bwrdd Peli ac ysmygu. Dylai pob un a olygai ei hun yn ddyn godi uwchben lolach o'r fath Y syniad o ddyn yn ei oed a'i synwyr yn cicio pel a chwareu fel plentyn Yr oedd ef yn brofladol o demtasiynau y Bwrdd Peli, a chafodd drafferth dirfawr i ymddadros oddiwrtho. Yr oedd degau o ddynion yn awt yn y Blaenau allant dybio eu dinystt wrth FWldd Peli y Cocoa Rooms fu yn y lie Sefydler Clwb, ond dim chwareuon, Cadeirydd, gwell peidio son am betbau na bydd angen am danynt yn bresenol. Y mater o'n blaen yw derbyn neu v thod telerau y Gymdeithas gydweithiol. Mr R. O. Davies, « gynygiodd a chefnogodd Mr Edward Rowlands eu bod yn Rhentu yr ystafelloedd hyny am dri mis yn ol 7s 6e yr wythnos, a phasiwyd yn unfrydol. AELODAETH.—Mr R. J. Williams a gynyg- iodd, a Mr Edmund LI. Powell a gefnogodd fod tal aelodaeth yn y clwb i fod yn haner eoron y flwyddyn,-Mr Parry N. & S. Wales Bank, a ofynodd a oedd hyny yn ddigon i gyfarfod a'r holl gostau ? Byddai yn dda iawn ganddo ef roddi y tal yn is os gellid er mwyn i bob un allu aelodi, ond yr oedd traul fawr yn sicr o ddod ar y Clwb,—Y Cadeirydd, Mri R. 0. Jones a R. O. Davies a ddadleuent dros beidio codi rhagor na haner coron, er mwyn i'r holl weithwyr allu uno. Pasiwyd y cynygiad, a bod tal yr Aelodau Anrhydeddus i fod yn haner gini. SWYDDOGION.—Etholwyd fel y canlyn :— Llywydd, A. Osmond Williams, Ysw«A.S. Cadeirydd, Mr Wi Owen, Piaswaenydd Islywyddion, Mri R. 0. Jones, D, White Phillips, Parch J. Rhydwen Parry, Hugh Lloyd, a W. W. Jones. Trysorydd,—Mr Hugh Jones, Fferyllydd. Ysgrifenyddion Mri John Cadwaladr, a Hugh Ellis Hughes, Yn Bwyllgor dewisiwyd Mri Edward Rowlands T. G. Evans Gray Parry R. T. Jones Owen Owen, Deintydd D. G. Jones Mathew Jones R. J. Williams; D. W. Wil- liams Lewis Jenkins Thomas Owen Thos. Roberts a John Jones Williams, Cynhelir y cyfarfod agoriadol yn un o yetatelloedd y clwb.
I Marwolaethau.
Marwolaethau. Parry.—Ar y 14eg cyfisol Mr. Thomas Parry, 22 Dorvil Street, Blaenau Ffestiniog. Ciedd r dydd Mercher yn mynwent Bethesda am 2-30 Jones.—Dydd LIun diweddaf, bu arw Gerynt Jones, unig ac allwyl bieatyn Mr. Meirion Jones, Minycoed, Blaenau Ffestiniog, yn naw mis oed. Y mae ein eydymdeimlad llwyrat a'r teulu. Jones.-Boreu ddydd Mercher yn sydvn bu farw Mrs Mary Jones, 85 High Street Blaenau Ffestiniog. Gedy dri o blant i alaru a'r ei hoi. Yr oedd yn ftlmdyner a gofalus, ac yr oedd ei mhab Mr Daniel Jones, Athraw yn ysgol Glanypwyll, gyda hi gartref. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu trallodus. Nawdd y nef fyddo droatynt.
I Blaenau Ffestiniog.
I Blaenau Ffestiniog. Mae y Parch. R. O. Jones, mail Mr. R. 0. Jones, Glyndwr gynt, wedi ei benodi i guradiaeth yn Hallaton, Leicestershire. Yn Llandudno yr oedd Mr Jones, ac wedi gweithio yn dda yno. ADDysG-Gwelwn fod Miss Jones, Fronden, Bethania, wedi ei phenodi yn athrawes yn Ysgol y Gainedd, Dolwyddelen. Pob llwydd iddi yn ei maes newydd. HEDDLYS AP.BENIG.-Heddyw (Iau), o lfaen Dr R. D. Evans, yr heddwas Morgan, Maen- twrog, a gyhuddodd ddau grwydryn o gardota yn y pentref hwnw.—Anfonwyd hwy i garchar am 14 niwrnod. SALE.—Gwelir mewn colofn arall fod arwerth- iant i'w gynal yn Neuadd Ffestiniog, nos y fory (Wener), ar ddllladau o bob math. Dyma gyfle da i sicrhau bargeinion. Hefyd cofied pawb am yr Arwerthiantau ar Dai sydd i'w cynal ddydd Sadwrn nesaf ar y premises. Yr arwerthwr ydyw Mr John Davies, Y DARLITHYDD-Nos Fercher, yr oedd Mr R. R. Hughes (Treborfab), yn darlithio yn Bont Ddu, Dolgellau, a nos Iau yn yr Abermaw dan nawdd Undeb yr Eglwysi Rhyddion, ar yr Hen Ddiwygwyr a'r Diwygiadau Crefyddol yn Nghymru." GWABLEDD-Da genym ddeall fod Mrs Thomas, Cwmbowydd gynt, yn gwella yn rhagorol ar ol bod o dan lawfeddygiaeth yn Lerpwl.-Drwg genym ddeall am waeledd trwm Mr. R. Walker Davies, Cae'rblaidd, Dymunwn iddo adferiad buan a llwyr. HYFRYDFA-Y mae y capel hwn wedi myned ol dan adgyweiriad trwyadl, a gwnaeth Mri. Evan Griffith, a'i Fab waith campus arno, Gosodwyd gallery arno, a chostiodd y cyfnewiad tua chwe' chant o bunau. Ail agorwyd ef y Sul diweddaf, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. O. L. Roberts, Lerpwl. Football Match dydd Sadwm nesaf, yn y Recreation Ground. Bala Press v Festiniog. Kick off 2,30 p.m. -Team-E. Hughes. W. R. Jones, Richard Roberts. Evan Hughes, David Hughes, H. J. Rowlands, Evan D. Hughes, Cannon Jones, John Jones, Evan Hughes, Rt. Roberts. Bydd yn ddrwg gan y Iluaws i Henry Edwards, 30, Manod Road (gynt o Fair View), ddeall ei fod yn wael yn yr Y spytty yn Victoria, Colorado, er's oddeutu mis o dan y Peumonia. Hyderwn v bydd iddo gael adferiad buan ydyw ein dymuniad. Derbynied ei fam weddw ein cydymdeimlad yn ei haml brofedigaeth. CERDDOROL—Mewn cyngherdd a gynhaliwyd nos Fercher yn Criccieth, gan yr Anibynwyr yr wythnos hon, gwasanaethir gan dri o feibion Festiniog," sef Mri. Hugh Roberts, Joseph H. Jones gyda'r crwth a William Ed. Jones fel cyfeilydd yn ychwanegol at Miss Mary King Sarah, Miss Josephine Williams, a Mr. Tegfan Roberts. YMFUDO—Deallwn fod Mr William Jones, Penygroes, yn cael hwyl neilldaol gyda bookio rhai sydd yn ymfudo o'n plith. Y mae llu mawr wedi cael trefnu eu taith trwyddo, a hyny yn y modd mwyaf boddhaol; ac y mae amryw eto wedi ymgyngori ag ef i fyned tua'r Gorllewin, Mr Jones ydyw Goruwchwyliwr dwy ö'r prif Linellau sydd yn hwylio i wledydd tramor. GWAELEDD.—Drwg genym ddeall am waeledd y Parch David Roberts, Rhiw. Mae y duwein- ydd hybarch yn gorwedd er dydd Sul, ac wedi myned i wendid mawr. Cwynai er's cryn amser fel nad yw yr ymosodiad presenol yn un sydyn. Eiddunwn iddo adferiad buan i wasanaethu Duw yn ein plith am flwyddi lawer eto.-Nos Fercher yn y Seiat Undebol yn Jerusalem pas- iwyd pleidlais o gydymdeimlad ag ef. CYMDEITHAS JERUSALEM— Nos Fawrth diweddaf, dan lywyddiaeth Mr^Griffith Parry (Namor Wyn). Cafwyd dadl ar y testyn Pa un ai Geiriau dyn yute ei Weithredodd sydd yn cario mwyaf o ddylanwad." Agorwyd yr ochr o blaid Geiriau gan Mr Wm. Pierce, a'r ochr o blaid Gweithredodd gan Mr Hugh Lloyd (Dyfrdwy), a chefnogwyd gan y Mri H. Jones, High Street, ac R. R. Morris. Sinradwyd gan amryw o'r aelodau. Cauwyd y cidadl gan y Mri H. Lloyd (Dyfrdwy), a W. Pierce. Yn y bleidlias derfynol cafwyd mwyafrif o blaid mai Gweithredodd sydd yn cario mwyaf o ddylan- wad. O'R AMERICA—Yn y'Drych' cawn nodiad mai un o bethau mwyaf dyddorol Eisteddfod y Calan Utica, oedd cystadleuaeth y plant, yn mhlith y rhai nid y lleiaf doniol oedd bach Mr. David Lewis Roberts, gynt o Blaenau Ffestin- iog, yr hwn hefyd gariodd y wobr. Mewn rhifyn arall o'r Globe Americanaidd" ceir darlun o'r cerddor bach llwyddianus, yr hwn sydd yn dod yn adnabyddus t. wy y Cyfandir Mawr. Mewn capel Presbyteraidd Seisnig yn Ilios tra yr oedd un Mr. Frence yn traddodi darlith ar y Diwygiad Cymreig," gofynwyd i Mr. a Mrs Roberts, Mr Wm. 0. Jones a Mrs Jones a'u teuluoedd, ganu hen Emynau Cymreig, yr hyn wnaed gydag arddeliad anghyffredin. Sylwodd uit- gohebydd Er nad yn deall yr iaith, eto yr oeddynt yn canu megis angylion. CYMDEITHAS SOAR-Cynhaliwyd yr uchod nos Iau diweddaf, dan lywyddiaeth Mr Richard Jones. Dechreuwyd gan Mr Richard Williams. Yna aed yn mlaen i ddarllen dau bapur y naill ar "Ann Griffiths. yr Emynyddes," gan Miss Elizabeth Jones, Salem Cottage, a'r Hall gan Miss Elizabeth A. Griffiths,"Adwygoch, ac a'r gyfrif fod Miss Griffith wedi gadael y gymydogaeth, darllenwyd y papur gan Miss Ma y E. Griffith (ei chwaer), a gwnaeth berffaith chwareu teg ef. Caed dau bapyr gwir dda, a dilynwyd hyn gan amryw o'r aelodau, a phawb yn canmol am ea bod yn wir haeddianol. Ar y terfyn pasiwyddiolchgarwch i'r chwiorydd am eu llafur, ac fod y cyfryw ddiolch i'w anfon i Miss Griffiths am ei phapur rhagorol. Diweddwyd gan y Llywydd, a chaed cym- ( deithas gwir dda a buddiol.-Dutus. CYFARFOD MISOL Y GOBEITHLu-Cynhaliwyd yr uchod nos Fawrth, dan lywyddiaeth Mr. J. G. Roberts, Baltic Place. Wedi dechreu gan Mr Evan Jones, aed yn mlaen yn y drefn ganlynol:—Ton gan y Gobeithlu ;:anerchiad gan y Llywydd can gan Myfanwy Hughes; Adroddiad gan David Jones; Cystadleuaeth adrodd Gweddi yr Arglwydd, 1, Rhys Jones, 2, Willie Roberts; Adroddiad gan Nellie Jones can gan Edith M. Roberts Cystadleu- aeth ar y modulator, 1, Blodwen Hughes adroddiad gan J. R. Jones Can gan Maggie Maggie Roberts can gan y Band of Hope Adroddiad Willie Roberts; can gan Fanny Edwards a'i chyfeilles cystadleuaeth adrodd y Deg Gorchymyn, Robert E. Roberts Solo gan Rhys Jones Ysgrifenu y salm gyntaf, 1, Samuel Roberts a R. W. Jones Unawd gan Blodwen Hughes adroddiad gan John Evan Chart: Unawd gan Bessie Roberts ateb cwestynau, neb yn deilwng adroddiad gan I. Jones; Unawd gan John Lloyd. Diweddwyd gan v Llywydd. Caed cyfarfod gwir dda. Beirniadwyd gan aelodau o'r capel. Diolchwyd i bawb am eu gwasanaeth gan yr ysgrifenydd. CYMDEITHAS BETHEL, TANYGRISIAU.—Nos Iau diweddaf, dan lywyddiaeth y Parch R. Silyn Roberts, M.A. cafwyd Darlith h nod ddyddorol ac addysgiadol gan Profi. Hudson Williams, M.A. Coleg Bangor. Testyn ei Ddarlith ydoedd Beirdd Hiraeth," ac arweiniodd ni i mewn i gyfrifon Bardd- oniaeth wylofus ac alarus y Cymro. Y tri Bardd y sonicdd fwyaf am danynt ydoedd Goronwy Owen, leuan Prydydd Hir, leuan Glan Geirionydd. ".Gi-esyn fod cyn lleied yno yn gwrando. A oedd yr ychydig eira yn ddigon i rwystro bechgyn ieuainc heinyf i ddod i wrando ar wr mor athrylithgar a Mr. Williams ? DIRWESToL-Cynhaliwyd yr uchod nos Sadwrn diweddaf, o dan nawdd Gobeithlu Calfaria. Dechreuwyd gan y Parch, E. Cefni Jones. Ton gan y Gobeithlu. Adroddiadau gan Dina Owen, Margaret Owen, Malcome Jones, David Hughes, Annie J. Davies, Hannah Davies, Lizzie Roberts, Katie Hughes, ivor Lloyd, Griffith Thomas. Caneuon gan Hannah Davies, Bessie Williams, Gwynedd Davies, Lizzie Lloyd Smith, Blodwen Pugh, Jane Williams, Mary Hughes, Katie Roberts, Griffith Williams. Hefyd caed drama o "Moses Bach," a Daniel yn Ffau y^Llewod," gan y Band of Hope. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Robert Williams. CyfeiHwyd gan Misses Lizzie Jones a Ellen Jones. Terfynwyd gan Mr Jones. Bydd Band of Hope Ebenezer yno y Sadwrn nesaf-T.R. ST. JOHN'S AMBULANCE BRIGADE.-Nos Iau diweddaf. yn YsgolUwchraddoly Bechgyn, cyn- haliwyd cyfarfod er sefydlu y mudiad uchod. Llywyddwyd gan y Parch R. T. Hughes, Vicar- age, yn absenoldeb Mr. Owen Jones, Dolawel. Cafwyd anerchiad gan y Cadeirydd ar y priodol- deb o ymuno ar Brigade, ac eglurwyd amcanion y gymdeithas gan y Milwriad Lloyd, o Sussex, a Dr R. Jones. Ymunodd ugain a'r dosbarth, a disgwylir llawer eto o hyn i'r cyfarfod nesaf sydd i'w gynal yn Committee Room, y Neuadd Gynull, nos Iau Chwefror 22ain, am 7 o'r gloch. Cychwynwyd y mudiad hwn gan Mr. W. M. Owen (o swyddfa E. M. Owen). Iddo ef y mae clod-yr hwn a wir deilynga-am fodol- aeth y gymdeithas dda hon. Prif swyddog ydyw Mr. J. P. Roberts Gorsaf-feistr, Duffws. Y mae gwisg neillduol i'w gwisgo gan yr aelod- au, a bu ymarferiadau mewn "ambulance work" yn cymeryd lie yn rheolaidd. SALEM (A.)—Nos Fawrth diweddaf, y 13eg cyfisol, cynhaliodd cyfeillion y Gobeithlu gyfar- fod er ffarwelio a'r brawd ieuanc Mr. John O. Williams, Parry's Terrace ar ei ymadawiad i'r Unol Dalaethau, ae er dangos eu gwerthfawr- ogiad o'i lafur a'i ymroddiad gyda'r Gobeithlu. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. John Richards, Pant-yr-onen. Wedi cael ton gan y plant dan arweiniad Miss Kate E Jones, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. John Chart, Tal- waenydd. Cymerodd y rhai canlynol ran :— Unawd ar crwth gan Cissie Roberts, a datgan- wyd gan Mri. Hugh Hughes, John M. Roberts, Griffith Jones, Hugh Griffith Jones, Henry R Evans, Missis Annie Morris, Cissie Roberts, Edith Jones, ac adroddwyd gan Owen Richards. Mewn ychydig eiriau addas a phwrpasol cyflwynwyd y rhodd, sef, pump cyfrol o weithiau y Parch Owen Evans, D.D., Llyn- lleifiad, gan Miss Kate E. Jones a Miss A. G. Hughes. Diolchodd y brawd yn gynes i gyfeillion y Gobeithlu am eu teimladau cariadus a charedig a ddangoswyd tuag ato. Yna caed anerchiadau barddonol gan Mr Elias Roberts, Llwyn-y-gell, ac eraill. Yr ydym o galon dymuno iddo fordaith gysurus a Duw yn rhwydd a bendithion goreu'r nefoedd yn. mhob ystyr, yn dymhorol ac ysbrydol, ar ei ym- sefydliad yn ngwlady gorllewin. Caed ton gan y plant a therfynwyd trwy weddi gan Mr. Edwin Morris Llwyn-y-gell. TB/3FN OEDFAON Y SUL Y METHODISTIAID. KNG-EDI—Parch. David Jones.' TABERNACL-Parch H. R. Williams, Bettwsycoed. BI!iTHESDA-.Parch D. Hughes, Trawsfynydd. PENIEL-Parch. E. V. Humphreys, Abermaw. GARREGDDU-Parch J. Lloyd Jones. Bwlchsrwyn. MAENOFFEREN.-Parch. R. Parry, B.A., Llanrug. BOWYDD.—Parch R. R. Morris, Tabernacl, RHIW-Parch W. Griffith, M.A., Talsarnau. TANYGRISIAU—Parch. J. J. Evans, Bwla ENGLISH CHAPL.-Rev H H Hughes, B.A., B.D. YR ANNIBYNWYR. ETHEL—10, Parch. R. T. Phillips, HYFRYDFA,-Parch J Williams-Davies. BETHANIA- Parch J. Rhydwen Parry. JERUSALEM—Parch W Harris, B.A. B.D., Welshpool. BRYNBOWYDD-Parch. D J Richards, Trawsfynydd. SALEM- -Parch. E. Roberts, Talybont, ger Trefriw. CARMEL—10, Parch. J. Hughes, 6, Cenhadwr. Y WFSLEVAID. EBENEZER.-IO, Mr. Richard Roberts, 6. Parch T. Isfryn Hughes. DISGWYLPA.—10, Parch. R. Morton Roberts, 6. Mr. Thomas Williams, Blaenau. SOAR RI-IIW.-Mr. William Roberts, Maentwrog. TANYGRISIAU—10 Mr. D. D. Jones, 6 Mr W Willimas. FFESTINIOG.-Oartrefol. Y BEDYDDWYR. SEION.Parch Moses Roberts. CALFARIA.Parch Cefni Jones. CAERSALEM.Mr. J. D. Davies, Harlech. PISGAH.Mr Wm. Humphreys. Bl. Ffestiniog. MORlAH.Myfyriwr o Bangor.
ITan Mawr mewn Ystorfa Fasnachoi…
Tan Mawr mewn Ystorfa Fasnachoi yn BI. Ffestiniog. Ychydig wedi 6 o'r gloch boreu heddyw (dydd Iau) clywyd y gloch dan, a rhedodd Cabden John Jones ar unwaith i'r lie. Vrodd aelodau y Gatrawd i fyny gyda'r brys mwyaf, a gweithiodd pawb fel un gwr, a chyn pen ychydig fynudau yr oedd yr offerynau ar waith yn New Market Square. Yno, yn ystorfa fawr Mr William Evans, Grocer, yr oedd y tan. Llwyddodd y Gatrawd i gadw y tan rhag ymledu dim o'r ystafell lle'r oedd. Gwnaed difrod ar werth canoedd o bunau, gan fod y blawdiau te, a nwyddau eraill wedi eu hystorio yno. Bernir i'r tan gychwyn trwy i lygod gael at y matches oedd yn yr ystorfa. Gweithiodd y Gatrawd gyda'r yni mwyaf, ac yr oeddym o dan ddysgyblaeth arddercbog ond naw wfft i'r hen gloch salwia diwerth sy'n grog- edig ger pont y Queen's Bu raid i'r Cadben anfon negeseuwyr ogwmpas i alw ei ddynion ynghyd gan nad oedd y glochfo un pwrpas at hyny. Cydymdeimlir yn fawr a Mr Evans yn ngwyneb y difrod a wnaed ar ei eiddo.
Advertising
jtompare adbury* For economy ■ in use, for price, old for quality. Cadlurys is better value, and it"s the nicest cocoa also.
LLANRWST.
LLANRWST. CYHOEDDIADAU Y SUL. St MARY- 11, Parch. J. Morgan; Parch. T.. Felix, ST CRWST-10-30, Parch. T. Felix; 6, Parch J. Morgan. SHioN-Parch J. Jones, Brynrodyn, Arfon. SCOTLAND STREET-Parch. W. C. Williams, Llanrwst. TABKRNACL—Parch J. M. Edwards, Chwarel Goch, Bethesda. EBENEZER-IO, Cyfarfod Gweddi, 6, Pregeth. HOREB-Parch E. Davies, Penmachno, ST JAMES—Rev. George Bevan, Colwyn Bay. PBNuEL-Dr Abel J. Parry, Rhyl. CYMDEITHAS DDIRWESTOL Y CHWIORYDD.— Cynhaliwyd cymdeithas Ddirwestoly chwiorydd prydnawn dydd Gwener diweddaf yn Lecture room Sion" o dan lywyddiaeth Mrs Thomas, Frondeg. pryd y gwasanaethwyd gan Mrs Herbert Roberts, Bryngwenallt, Abergele. Llywyddes Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru. Dechrenwyd y cytarlod trwy ddarUen a efweddio gan Mrs R. J. Williams, Croesaw- yd Mrs Roberts yn gynes i'n plith gan y Llywyddes a cyfeirfwyd at wasanaeth rhagorol rhieni Mrs Roberts yn y gorphenol ynglyn ac achos Dirwestol, yr un modd gyda teulu Mr Herbert Roberts A.S., ar gwaith da sydd yn cael ei wneyd gan Mrs Roberts a'i phriod. Cafwyd anerchiad gyfoethog a ehalonog gan Mrs Roberts, galwodd sylw at y gwaith mawr mae y canghenau yn eu wneuthur yn mhob cyfeiriad yn arbenig er y flwyddyn -ddiweddaf pan yr oedd Ysbryd Duw yn gweithio mor rymau yn ein plith. Mae yna 18 o ganghenau newydd a 1,148 mwy o aelodau. Gyda llawen- ydd gwnaed gwaith da gan Gynghorau Bwrdeisdrefi y Brifddicas, anfonwyd allan ganddynt habysieni mawrion a'r Ddirywiad corfforol ac yfed Alcohol a gosodwyd hwy hefyd ar barwydydd allanol ysgolion. Terfyna yr hysbysleni gyda'r rhybudd hwn, Diota ydyw y gelyn mwyaf ofnadwy i iechyd person-- ol, i ddedwyddweh teuluaidd, ac i lwyddiant gwladol." Hefyd cawsom gynghorion rhagorol gan Mrs Roberts, ar y modd goreu i'r aelodau fvu fy-ou H Motto y ganghen set, Er mwyn Crist, gartref am cymydog." Cynorthwywyd yn y crhu gan Mrs Davis Jones a Mrs Dr Huw Williams. Cynygiwyd diolchgarwch gwresocaf i Idus H Roberts, gan Mrs Rowlands am ei charedigrwydd yn ymweied a ni yn ein cym- deithas, ac am ei hanerchiad rhagorol, cefnog- odd Mrs Hughes, Carrington Terrace. Pasiwyd g diolchgarwch hefyd i'r chwiorydd oedd wedi cymeryd rh&n. Cyfeiliwyd gan Mrs J M Williams, Watling St. Ar ol y cyfariod eisteddodd dros 80 i de rhagorol ddarparwyd 'I aga. roddwyd gan y ddwy chwaer garedig Mrs Rogers Jones. Dale Cottage, a Mrs Thomas Frondeg. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Miss E. Thomas, Frondeg, Miss L. Jones, Dale Cottage, Miss M. Roberts Avondale a Miss Williams. George Street.