Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT BIN GOHEBWYR.I

-O-I *, Nesur Addysg Rhif…

Esiampl Dda y Llywodraeth.…

Treuliau Llyngesoedd.

Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd. I Ymwelodd Mr. Lloyd George a Chaer- dydd ddydd Sadwrn, a thraddododd araeth sydd yn hawlio sylw ac ystyriaeth oreu Pwyllgorau Addysg Cymru. Cyfeiriodd at yr ymgais a wnaed yn ddiweddar i gael Cyngor Addysg Cenhedlaethol i Gymru, a gwnaeth yn hollol eglur fod methiant yr ymgais i'w briodoli nid i anewyllysgarwch Llywodraeth Mr. Balfour, ond i anallu neu hwyrfrydigrwydd arweinwyr Cymru mewn materion Adcysgol i gytuno a'u gilydd. Bydd y mesur y mae Mr. Birrell yn ei dynu allan yn awr yn darparu ar gyfer ffurfiad Cyngor Cenhedlaethol felly, ac y mae Mr. Lloyd George yn naturiol yn teimlo yn bryderus rhag i'r ddarpariaeth fyn'd yn ofer o herwydd anghytundebtebyg eto. Gwnaeth apel daer iawn at y rhai a elwir ynghyd i ymgynghori a'u gilydd, ac i drafod y mater, i wneyd hyny nid mewn vspryd enwadol, nac mewn yspryd politicaidd chwaith, ond mewn yspryd gwir genhedlaethol. Byddai Cynghor o'r fath yn gaffaeliad gwerthfawr iawn i'n gwlad, oblegid byddai ein holl sefydliadau addysgoI-ein hysgolion elfenol, a'n hysgolion canolraddol, a'n colegau hyfforcMiadol (neu Normalaidd) dan ei arolygiaeth ef fel y maent yn awr dan arol- ygiaeth Bwrdd Addysg y Llywodraeth. Cynygir i ni ymreolaeth yngtyn ag Addysg, a chywilydd fydd i ni os cyfyd rhwystr o'n plith ni ein hunain ar ein ffordd i w gael. Rhoddodd Mr. Lloyd George bwyslais neill- duol iawn ar yr angen am iddo fod yn wir genhedlaethol, ac yr ydym yn ddiolchgar iddo am wneyd hyny. Gobeithiwn ei fod ef a Mr. Birrell wedi gwneyd cyfrif o'r ffaith nas gall fod yn wir genhedlaethol heb fod yn wir gynrychioliadol, ac nas gall^fod yn wir gynrychioladol oni thelir treuliau y rhai a ddewisir yn aelodau o hono. Nis gall dyn- ion o bob rhan o Gymru, o Gaergybi i Gaer- dydd, gyfarfod mewn un lie, bedair gwaith mewn blwyddyn, heb gryn dipyn o draul-, traul nas gall ond cydmarol ychydig fforddio myn'd iddi. Oni thelir eu treuliau, gwneir y Cyngor i fyny, nid o'n gwyr cymhwysaf, nid o'n haddysgyddion (educationists) goreu, ond o bobl mewn amgylchiadau clyd. Bydd yn rhaid gofyn wrth ddewis aelodau o'r Cyngor, nid Pwy ydyw y rhai cymhwysaf ? ond Gan bwy mae'r llogellau llawnaf ? Gobeithiwn, fodd bynag, nad fel hyn y bydd.

I Dedfryd Ankygoel. I

I Mr. Austin Taylor, A.S.

Deddf Estroniaid, I

Costau Etholiadol Seneddol.…

IO—I ILlys y Manddyledion.…

Y Barnwr Cymroaidd. I

I Corwen. I

Advertising