Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd 8Wareheldwaid Limarwst.

ICapel Curlg.

Penrhyndeudraeth.

Maentwrog.,

Cynuddiad o Ladrafta Da Pluog…

I Llythyr o South Affrica.…

Blaenau Ffestiniog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Blaenau Ffestiniog. PENODIADAU AR YR RFILFFORDD.-MEWR canlyniad i ddyrchafiad Mr. W. R. Davies, Gorsaf-feistr y Great Western, y mae amryw gyfnewdiadau i gymeryd lIe ar Linell y Great Western. Bydd Mr, John Williams, Traws- fynydd yn dod i'r Blaenau, Mr. Richard Jones, Frongoch yn dod i Trawsfynydd, a Mr. John Evans, Manod yn myned i'r Arenig, a gorsaf- feistr Arenig yn myned i Frongoch. Hyd yn hyn, nid yw enw gorsaf-feistr y Manod wedi ei wneyd yn hysbys. Deallwn fod pwyllgor cryf yn cael ei ffurfio er eydnabod gwerthfawrogiad yr ardal o was- anaeth Mr. W. R. Davies yn ystod y t-mor maith y bu yn ein.plith. Hyderir allu cyflwjno iddo anrheg deilwng ar ei ymadawiad i'w gartref newydd. YMFUDO.—Parhau i Drefnu mordeithiau personau ydynt am ein gadael am wledydd tramor y ma.e Mr. Wiiliam Jones, Penygroes, y goruehwylydd lleol. Dydd Sadwrn nesaf, bydd pedwar yn ymadael am America; ac yn mhen ychydig ddyddiau bydd dau yn ymadael am Canada. ARW.ERTHIA,NTAU.-Dydd Sadwrn nesaf bydd Mr. John Davies, Auctioneer, yn gwerthu eiddo a dcdrefn yn Isfryn, Manod Road. Hefyd yr un dydd bydd yn gwerthu dodrefn defnyddiol a da yn 6 Hafod-Ruffydd. Dym- unwn i'r darllenwyr sylwi fod y ddwy sale yr un dydd. DYCHWELIAD MR. ARTHER.-—Llawen genym oil weled Mr. Arthur (y Mri. Arthur & Co) wedi dychwelyd adref ar ol taith yn Ngwlad yr yr Aifft. Bu yn absenol am saith wythnos, ac y mae wedi derbyn adnewyddiad mawr i'w iechyd, ac adfywiad i'w ysbryd. Bydd dysgwyl am gael ganddo hanes y daith cyn cyn bo hir fel y eafwyd ganddo hanes ei deithiau blaenorol Yn sicr, bydd yn ddydd- orol iawn cael adroddiad ganddo am yr hyn a welodd o wlad y caethiwed a'i farn am yr hyn ydoedd pan oedd Israel yn yr Aifft. LLIFOGYDD.- Y n ystod nos Fercher disgyaodd y gwlaw mor drwm nes peri llifogydd dros yr holl wlad. Achoswyd colledion ar y dyff- rynoedd, ac ataliwyd chwaiel Voty a Bowydd gan i ranau o honi gael eu boddi. Da genym ddeall fod llu mawr o gystadleuwyr ar y llythyrau at Gyfarfod Llenyddol y Garreg- ddu, a bydd disgwyliad mawr i gael allan pwy fydd y buddugwyr nos Fercher nesaf, 14eg cyfisol. LLWTDDIAXT.—Nos Sadwrn, yn NghylchwyV Horeb, B., Garn Dolbenmaen, enillodd Dewi Mai o Feirion gini am Doddeidiau Beddareraffol. ODDICARTREF WTL DEWI.—Yn y Penrhyn y bu Mr David Francis (y Telynor Dall o Feirion), a Mr John D. Jones (loan Dwyryd), Rhiw, gydag ef yn canu penillion. Da genym ddeall i'r ddau roddi cyfrif da o honynt eu hunain. Mae Mr John D. Jones, yn ganwr campus gyda'r tanau, wedi gwneyd y gelf gain hon yn faes.,astudiaeth, a diameu y ceir clywed llawer am dano yn y cy- feiriad hwn yn y dyfodol agos. Nos Wener hefyd, yr oedd y Telynor yn dyddori efrydwyr y Bala, a chlywsom iddo dynu y ty i lawr gyda'i chwareuad o'r Hen Alawon, ac ar awdnrdod dda, gallwn hysbysu fod y Telynor y tro hwn yn y Bala wedi enill ei B.A., yr hyn mae yn debyg a olyga Bachelor of Airs.—X. GLAUDWR (M.C.).—Cynhaliodd Gobeithlb y He uchod ei gyfarfod pen y mis nos Fawrth, yr hwn a dreuliwyd yn benaf i ddathlu Gwyl Nawdd Sant y Cymru. Y Llywydd oedd Mr. Owen Roberts, ac arweiniwyd gan Dewi Mai 0 Feirion. Cymerwyd rhan mewn adrodd gan Johnny Wil- liams, Kate Owen, Johnny Owen, Kate M. Wil- liams, a Mr. John Williams; ac mewn datganu gan Miriam Hughes, a Mri. John Elias Pritchard Richard Vaughan, Oeu.), a Meredith Roberts. Am ganu Rwy'n Gweddio drosoch chwi, yr oreu oedd Jennie Williams; a gwobrwywyd Kate M. Williams, Jane 0. Williams, Priscilla Rees. Ar ganu unrhyw Alaw Gymreig i rai dan 15eg oed, y goreu oedd Morris Hughes ac i rai dros 15eg, yr oreu oedd Miss Hannah Thomas. Am chwareu y don "Dies Arae," gwobrwywyd Michael Vaughan, Canodd y plant dan arwein- iad Mr. Meredith, a chyfeiliwyd gan Miss Laura E. Jones. Cafwyd cynulliad mawr a chyfarfod rhagorol. CYMDEITHAS SOAR.-Nos Wener diweddaf, cynhaliwyd yr uchod dan lywyddiaeth Mr James Smith. Wedi dechrea gan y Llywydd, aed at waith y cyfarfod, sef papur ar" Berthynas y Beibl a Gwyddoniaeth," gan Mr. Wm. Williams, Bron Gwynedd. Teimlwm fod y testyn hwn vn ein harwain i dreiddo tirogaeth lied newydd, ond gwir angenrheidiol. Gellir tvstio fod y papyr yn dangos ol llafur eithriadol, ac arddangosiad amlwg fod y brawd wedi wedi byw llawer gyda'r prif awduron ar y mater hwn, fel trwy hyny yr oedd pawb yn fanteiswyr o'i glywed. Caed sylw gan amryw o'r aelodau, ac wedi diolch am y papyr rhagorol, terfynwyd gan Miss Williams, a theimlir ein bod wedi cael noswaith adeiliadol a buddiol i bawb.—AELOD. CTSTADLEUAETH TABERNACL.—NOS Fawrth, yn nghapel Tabernacl caed cystadleuaeth ddydddr- ol ar genu unrhyw Unawd. Ymgeisiodd deucBeg pa rai oeddynt yn ganwyr newyddion ac heb enill gnobr o'r blaen. Dyfarmryd y wobr, sef Medal Arian hardd, rhoddedig gan Mr W Thomas ■loses, Watch maker, Newborough Buildings, i Miss Aonie Griffiths, Hendre House, High Street, a dywtdir mai yr ail oreu oedd Mrs. Ephraim. Beirniadwyd gan Mr- John Llcyd Edwards, Gelli Isaf. Cyfeiliwyd gan Mri. John G. Thomas, a T H. Roberts. Diolchwyd i'r Beirniad, a rhodd- w-yd y Medal gan Mr. R. R. Hughes, Treborfab, a chefnogwyd gan y Parch. R. R. Morris. Arwisg- wyd y Buddugol gan Mrs. Morris. Llywyddwyd y Gweithrediadau gan Mr. John Griffiths, Hendre House. Cyfarfod Iluosog iawn. Pwtllgob DIRWESTOL Y CHWIORYDD.—Cynhal- iWTd yr uchod yn ysgoldy Ebenezer, prydnawn Mercher, Chwefror 28, dan lywyddiaeth Mrs. R. R. Morris. Cynhelir cyfarfod gweddi dirwestol yn Glandwr, ar y 15eg, o'r mis hwn, pryd y darllenir papur gan un o chwiorydd y Gymdeithas Pasiwyd cydymdeimlo atheuluoeddprofedigaeth- us yr ardal, a nodwyd chwiorydd i ymweled a chleifion. YR HORSE SHOW.—Beth sydd yn myned i ddod o'r Horse Show eleni ? Mae rhywan yn gofyn hyny o hyd. Pwy fedr ateb iddo ? Disgwyliwn y bydd hyn yn ddigon o awgrym i'r rhai y perth- yn iddynt symud yn y mater. Y mae pawb yn disgwyl wrth yr ysgrifenydd llafurus Mr William Jones. TEML DuFFws-Cynbaliodd y DemI ei chyfarfod nos Wener, agorwyd hi yn y ffordd arferol. Derbyniwyd un chwaer yn aelod o'r DeiP-?, a rhoddwyd gair o groesawiad iddi gan amryw o'r aelodau, a chafwyd gair ganddi hi ei hun. Caneuon gan Gaynor Lilian Owen, Jenny Lewis, Polly Jones, David G Evans, Wm. Rees Lewis. Adroddiadau gan Hannah Evans, Annie Roberts, a J. Davies. Caed cyfarfod gwir dda a chynulliad pur luosog yn enwedig y plant. Ein dymuniad yw a'r i bawb fanteisio ar y cyfleusdra ac i helpu y naill a'r llall. Terfynwyd yn y drefn arferol. DIRWESTOL.—Cynhaliwyd yr uchod nos Sadwrn diweddaf, dan nawdd Gobeithlu liaenofferen, ae o dan lywyddiaeth y Parch. Howell H. Hughes. Dechreuwyd trwy gael ton gyffredinol, ac adrodd- iad o ychydig adnodau gan Mr. Llewelyn Glyn Williams, a gweddiwyd gan Mr, Hugh Roberts. Ton gan y Gobeithu, o dan lywyddiaeth Mr Wm. Roberts. Anerchiad gan y llywydd. Adrodd- iadau gan Jennie Louisa Jones, Myfanwy Roberts, ISarah Thomas, Moses John Roberts, a chafwyd detholiad ganddo ar yr Oiferyn. CameLion gan Gwladys Jones, Llewelyn Glyn Y. iuiams, Laura A. Jones, Hannah Mary Davies, ac Elizabeth Powell. Hefyd ganodd y Gobeithlu yn rhagorol. Dadl gan Nell Jones a'i chwmni. Adroddiad gan Jennte Davies. Diweddwyd gan Mr. Hughes. Cyfeiliwyd gan Ñh. Phillips, Higher Grade School. Bydd Gobeithlu y Garregddu yno yn gwasanaeth y Sadwrn nesaf.— T.R. DYDD GWYL DEWI.—Yn mhlith buddugwyr eisteddfodol yr wyl eleni, cynrychiolir ein hardal gan y rhai canlynol. Enillwyd cadair Llandudno, am bryddest ar "Hwy a werthasant Joseph," gan Bryfdir. Yn yr un eisteddfod enillwyd yr unawd tenor gan Mr Evan R. Ellis, Gelli, a'r unawd bass gan Mr D. R. Jones, gynt o swydd fa'r Rhede.gydd. Yn eisteddfod Tyddynshoi;. ger P- )Pu.i, enillwyd gwobrwyon ar y farddoniaeth gaa J erorfryn. Llongyfarchwn y buddugwyr oil yn galonog. ODDICARTBEF.—Bu amryw o'n cantorion a'n cer- ddorion oddicartref dros yr wyl. Yn Coedpoeth y gwasanaethai y Mri Ted Lloyd a J. Tudor Owen Mr William Thomas Jones, yn Aberys- twyth; Mr Cadwaladr Roberts, yn Llanelwy; Mri Arthur Penrhyn Jones, J. D. Jones, a Miss Sallie Lewis, yn Penrhyndeudraeth. CYRDDAU MAWR.—Pregethai y Parch. Mose& Roberts y Sul diweddaf mewn cyfarfod mawr yn Rhymni, a'r wythnos hon yn Abertridwr. Dydd Sul nesaf bydd yn gwasanaethu yn Nghaersalem Newydd, ger Abertawe. LLWYDDIANT ODDICARTREF.-Da iawn gan Ffes- tiniog bob amser ydyw clywed am lwyddiant* ei phlant oddicartref. Bydd llawer yn falch o ddeall fod Mr 0. T. Jones (Alaw Ffestin) wedi enill y radd o L.T.S.C. Hefyd, arweiniodd gor i lwydd- iant mewn eisteddfod ddiweddar yn Llanelli. Eled rhagddo eto i binacl anrhydedd.

I R.Llanrwst.----