Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Llafur Chineaidd yn Ngfopmru.

I Helyntion y Meddyg(?) Llygaid.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Helyntion y Meddyg(?) Llygaid. Yn Llys Manddyledion Manceinion o flaen y Barnwr Parry, gofynodd Isabella Butterworth un William Mellor, "gwell- hawr llygaid arbenig," o Oxford Street, Manceinion, o'r swm o 24p 3s. Mr. W. Ambrose Jones ar ran yr hawlyddes a ddywedodd mai gweithio yn y felin yr oedd, a bod rhyw ddrwg ar ei llygaid pr's cryn amser. Bu i Dr. Roberts, o Ysbytty y Llygaid, Man- ceinion, ddywedyd wrtbi yn ddigwmpas fod y drwg yn anfeddyginiaethol, a daeth meddyg arall i'r un penderfyniad. Yn 1902, gwelodd ei brawdhysbysiad mewn newyddiadur i'r perwyl fod deng mil a'r hugain wedi cael gwella eu golygon gan y diffynydd. Mewnymddiddan dilynol, sicrhaodd Mellor hi y gallai feddyg- iniaethu y drwg a'i galluogi i weled heb wydrau. Byddai i'r feddyginiaeth gael ei chyflawni heb lawfeddygiaeth. Y Barnwr "Ond nid beb i ginis." Cafodd boteli o gyffuriau, a peleni rbwng Mawrth 1902 a Mawrth 1903, gan ymweled a Mellor dair gwaith ar hugain gyda thalu gini bob tro. Ar- wyddodd bapur iddo, ond ni bu iddo ei ddarllen iddi hi na'i mham, yr hon oedd yn anllythrenog. Yn ol telerau y papur yr oedd hi i roddi ei hun yn wir- foddol o dan ei driniaethau, ac nid oedd dim arian i'w dychwelyd dan unrhyw ystyriaeth. Meddyliai hi mai ysgrifenu ei henw a'i chyfeiriad i'r "Doctor" yr oedd, a dim arall. Aeth ei llygaid yn waeth-waeth o dan ei driniaeth fel nad allai weled hyd yn nod gyda gwydrau, a gorfu iddi weithio yn y felin am lai o gyflog o'r achos. Cynygiodd Mellor weini arni am haner gini y tro, os deuai ato o'r newydd. Mewn amddiffyniad dywedwyd fod yr achos yn gorphwys yn benaf ar y papur a arwyddwyd. Gwadai Mellor iddo erioed roddi sicrwydd o wellhad, ac yr oedd ei dalebau yn dangos mai am y weinyddiaeth feddygol yr oedd yr arian. Gallasai hi beidio a dod ato pan y mynai, ond daliodd i ddod yn y gobaith o gael gwellhad. Os oeddid am dori y cytundebau deuai busnes Mellor i ben. Y Barnwr,— Yna hwyrach yr elai i America neu rywle arall lie y mae quacks yn fwy poblogaidd. Y Barnwr wrth rcddi ei ddyfarniad a ddywedodd nad oedd yr achos yn un hawdd iawn i'w benderfynu gan fod y ddwy ochr yn dywedyd yn groes i'w gilydd. Yr oedd y Diffynydd yn perthyn i ddosbarth o ddynion oeddynt yn der- byn symiau mawrion o arian gan bobl dlodion ac anllythrenog trwy honi y gallent eu gwella o afiechydon dychryn- llyd. Yr oedd un o bamphledi Mellor yn dywedvd y gallai wella dallineb heb lawfeddygiaeth. a hwn oedd y ciun cyntaf yn yr achos ond ni Jdywedid gair ynddo am roddi sicrwydd y gwell- heid. Yr oedd ei bamphled y Lth ag i arwain pobl i gredu y byddai gwellhad. Yr oedd ei hysbysiadau yn ymddangos mewn papurau isel, a mynegiad ynddynt fod deng mil a'r hugain wedi ca-el ad- feriad i'w golwg. Paham iSbetruso felly roddi sicrwydd. Am y papur cytundeb yr oeddynt y boreu hwnw wedi cael prawf fod yr eneth o feddwl gwan. Yr oedd ef wedi ei foddloni nad oedd yr eneth na'i mham yn deall amcan y papur, a bod Mellor wedi rhoddi sicr- wydd y gwnelai iachau golwg yr hawl- yddes. Rhaid oedd i'r 24p 3s gael eu talu yn ol i'r hawlyddes, ond nid oedd yn rhoddi costau, gan y teimlai y dylai pobl os oeddynt yn ddigon ffol i roddi eu hunain yn llaw y fath bersonau ddyoddef i ryw raddau.

I. Trefnu Priodas yn y Liys.I

Advertising

LLYS ,MANBDYLEBiCmI BLAENAU…