Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd GwarchaidwaSd Penrhyndeudraeth,

Cynghor Dinesig LlanrwstI

Ystormydd a Gwlaw yn Eryri.…

I Maentwrog.

IBwrdd Rheolwyr Ysgol Sirol…

Cwmni Yswiriol y Prudential.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cwmni Yswiriol y Prudential. Dyw. unwn alw sylw arbenig ein darllenwyr at adroddiad blynyddol y Cwmni uchod am y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 31, 1905, fel ag y dengys yn ein colofnau hysbysiadol. Er cym- aint sydd wedi ei ddweyd a'i ysgrifenu o dro i dro trwy ein colofnau am weithrediadau y Prudential fawr, wedi'r cwbl nid oes terfyn area gweithrediadau eang. Y flwyddyn 1905 ydoedd y flwyddyn fwyaf llwydaianus a groniclwyd eto yn eu hanes, ac edrychwn ar drafnidiaeth y Cwmni gyda syndod ac edmygedd. Yn y Gangen Gyffredin (Ordinary Branch) fe welir fod cymaint a 75,263 o hawl-ysgrifau newydd- ion (new policies) wedi cael eu rhoddi allan, yn creu yswirebaeth newydd o 7,211,427p., ac yn cynyrchu incwm blynyddol newydd o395,R29p. Cyrhaedda yr incwm yn y gangen hon am y flwyddyn 4,123,318p. cynydd o 154,302p. ar y flwyddyn flaenorol, a thalwyd allan y swm o l,812,618p. mewn hawliau yn ystod y flwyddyn yn y ga: gen hon. Yn y Gangen Lafurawl (In- dustrial Branch), cyrhaedda y derbyniadau y swm enfawr o 6,139,050p., cynydd o 159,175p., a chyrhaedda y cyfanswm a dalwyd yn y gangen hon 2,261,748p. Yr oedd nifer yr hawl yegrifau ar derfyn y flwyddyn dros un- filiwn ar byintheg. Dymunwn nodi y ffeith- iau canlynol o ddyddordeb maw: i'r cyhoedd. Yn gyntaf, cyrhaedda cyfanswm yr incwm yn y ddwy gangen am y flwyddyn dros ddeng miliwn a chwarter o bunnau. (2) Yr oedd cvfanswm yr hawliau a dalwyd allan yn ystod ) flwyddyn dros bedair miliwn o bunau. Gol- yga hyn daliad allan yn agos i dair mil ar ddeg ar gyfartaledd yn ddyddiol ag eithrio y Sab- bathau. Cyrhaedda holl gyfalaf y Cwmni ar derfyn y flwydctyn yn agos i dri ugain miliwn o .nau (= £ 60,000,000), sef cynydd o dair miliwn o bunau ar y flwyddyn flaenorol. Y mae yn anmhoslbl amgyffred ystyr y fath ffigyrau a r rhai hyn, ond gallwn gael rhyw ddrychfeddwl gwan o honynt drwy dybio fod yr holl eiddo hyn yn dael ei droi yn bunnoedd, ac fod y pun- oedd hyn yn cael eu gosod ar eu gilydd i ffurfio colofnau o aur. Buasai un golofn yn cyrhaedd am bedair ar bymtheg a deugain o filldiroead c uchder, a baasent yn ffurfio deg o golofnau a phob un o honynt mor uchel a'r Wyddfa. (4} Darfu i'r Cwmni ymddwyn yn hael tuag at yr yswirebdalwyr dan y Tablan A a C yn y Gangen Lafurawl trwy ychwanegu 2i y cant at yr ys- wiriaeth. Effeithia hyn ar gymaint a thair miliwn ar ddeg o yswirebau, a throsglwyddwyd 71)1) OOPp. i'r cyllid i gyfarfod a hyny. Fe welir lu 1 • "ii ffigyrau y Cwmni mor fawr, ac mor eang fel y mae yn hawddach ei ysgrifenu na'11 amgyffred, felly anogwn y darllenydd i'w dar- Ilen drosodd a throsodd drachefn, fel ag yr ym- ddangosent yn yr adroddiad. Da genym ddeall fod dosbarth Portmadoc o dan arolygiaeth Mr W. Hughes wedi gwneyd ei rhan yn dra effeith- iol i ddwyn y cyfryw lwyddiant i ben. Hefyd da genym ddwyn tystiolaeth uchel i'r IIwydd. iaut mawr sydd wedi dilyn ymdrechion Mr J. Eames, yr Arolygydd Cynorthwyol ag sydd yn gofalu am y Rhan-ddosbarth hwn, oherwydd mai ef a'r goruchwylwyr sydd dan ei ofal fel ag ein hysbysir wedi bod yn hynod o deyrngarol a llwyddianus. Am bob manylion pellach dy- munwn eich cyfarwyddo at yr Arolygydd, Mr W. Hughes, Preswyifa, Portmadoc, neu a'r Arolygydd Cynorthwyol, Mr J. E imes, 42 High street, Blaenau Ffestiniog; Mr J. Jones, 18 Maenofferen, Blaenau Ffestiniog Mr Edward Rowlands, Fronhatil, Tanygrisiau Mr T. J. Williams, 20 Jones street; Mr. D. M. Roberts, Holborn House, Llan Ffestiniog; Mr E. P. Roberts, P. 0. Garreg, Llanfrothen Mr Tudor Owen, Bronallt, Trawsfynydd.

-Portmadog.

Advertising