Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd GwarchaidwaSd Penrhyndeudraeth,

Cynghor Dinesig LlanrwstI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynghor Dinesig Llanrwst Cynghor bychan o ran gwaith a rhif yr aelodau oedd noa Wener diweddaf. Yn bresenol Mri W. Hughes yr is-gadeirydd yn y gadair Parch W, Cynwyd Williams, T. Rogers Jones, W. Davies, W. G. Jones, Edward Mills, Dr Owen, W. J. Williams, R. R. Owen, (clerc) George Wynne (arolygydd) a E. M. Jones, (casglydd). Adroddiad yr Arolygydd. Cvflwynwyd plan o'r gwelliantau fwriedir wneyd i'r Urinal yn Station Road. Yr oedd Mr Jones, Comet Stores, wedi gwneyd yr hyn ofynid ganddo ar y Uwybr sydd yn arwaiu i Cae'rgroes. Yr oedd y ffordd sydd yn arwain heibio y Vicerdy yn ddrwg, ac nid oedd Mr Morgan yn cydfyned ag awgrymiadau y Swyddog o'i gwella. (Gallwn ofyn rhwng cron- fachau yn y fan hon—" Paham y ceuir y dim hwn allan ar ddiwrnod y Ffair ? arferai fod yn agored). Galwai y Swyddog sylw at gyflwr y troed-lwybr yn George Street, a gofynai hefyd am ganiatad i wella y ffordd sydd yn atwain at y Cottage. Mr T. Rogers Jones—Y mae amryw leoedd eraill yn y dref ac angen eu hadgyweirio, ond y mae safle pethau yn y dref ar hyn o bryd yn galw arnom fod yn ofalus a theimlo ein ffordd. Pasiwyd fod i'r Pwyllgor fyned i weled y leoedd hyn. Adroddiad y Casglydd. I Casglodd Mr E. M. Jones yn ystod y mis 182p 15s 8c, Hysbysodd y Clerc fod safle arianol y Cyngor yn foddhaol i,iwii eleni a'i gyferbynu a'i un adeg y llynedd. 01-ddyledion. I Hysbysodd Mr R. R. Owen fod symiau mawr heb eu talu gan adeiladwyr am ddwfr, rhai yn bur hen. Pasiwyd eu bod i dalu yn mlaenllaw I o hvn allan. -1 Ardrrth. I Pasiwyd i osod ystafell y Cynghor i'r Odydd- ion yn ol 2p 2s y flwyddyn. Ymweliad Mr. Gower. I Yn ol yr hyn basiwyd yn y Cyngor diweddaf, daeth Mr Gower i ddadleu ei achos o berthynas fod y Cynghor yn bwriadu tori ymaith gysyllt- iad y bibell ddwfr a'r Hafod Trefriw. Yr oedd Mri Curr a Ritchie, cynllunwyr, wedi cytuno ag ef flynyddau yn ol iddo gael dwfr am gan- iatad roddasai ef i fyned a'r bibell trwy ei dir. Nid oedd yn sicr oedd yr addewid hono mewn ysgrifen, ond pan dorai rhai o'r pibellau ac andwyo ei yd a'i wair, ni fyddai yn gofyn dim iawn tra yr oedd eraill yn gwneyd. Hefyd yr oedd wedi rhedeg llawer yn ddiweddar pan dorodd y btif bibell yn Trefriw am ei fod yn cymeryd dyddordeb yn y gwaith dwfr. Mr Mills,—A fuoch chwi yn gweithio Tur- pine" o'r brif bibell ?-Do, unwaith, ond o gyflenwad Trefriw y gweithir ef yn awr. Pasiwyd i Mri T. Rogers Jones, T. R. Jones, a W. Hughes fyned i olwg y lie. Overseers. Dewisiwyd y Parch Cynwyd Williams a Mr W. G. Jones, Farm Cottage, yn Overseers am y fiwyddyn ddyfodol. Cais. Ar gynygiad y Parch Cynwyd Williams, pas- iwyd i ofyn i Gwmni y Reilffordd agor mynedfa i'r troedlwybr ya y rhan agos,sf i'r dref o'r orfaf. I Cadarnhau. Yi; oedd y Cyngor Sirol yn cadarnhau cais y Cyngor o newid ddyddiad vr Etholiad i ddydd Sadwrn Mawrth 31, er hwylusdod i weithwyr y dref. I Cefnogi. Anfonai Cyngor Llandudno gais am i'r Cyngor hwn gydyrnffurflo a hwy trwy anfon at yr aelod Seneddol i ofyn iddo gefnogi y cais o gael newid tj^mor gwyliau y Benedd er budd-, iant cyffredinol, yr oedd y Cyngor hwn wedi pasio 4 wneyd yn fiaenorol, I Promenade. Yr oedd y Cyngor wedi pasio i ofyn telerau perchenogion ystad y Gwydr am gymeryd drosodd y ffordd gerrig sydd dros y Bont Fawr a'i wneyd yn Promenade yr ardreth ofynid am y flwynyn oedd swllt. Mr W. J. Williams-Y mae yr enw yn swnio yn grand, ond nid oeddid yn bwriadu ond gwastadhau y lie a gosod meinciau, ac y mae amryw yn barod i roddi rhai. Mr T. Rogers Jones ddadleuai yn erbyn, os oedd rhai yn barod i roddi meinciau, y Cyngor fyddai raid talti am gadw y lie, ac am y niweid- iau wnaethai Mi as Conwy yn awr ac ya y man. Mr W. J. Williams,—Y mae cwynion fod pethau anymunol yn cymeryd lie pan bydd bechgyn yn ymdrochi, a byddai genym hawl ar y lie wedyn. Mr T. Rogers Jones,—Os oes cwynion y mae y gallu i alw sylw yr heddgeidwaid ato. Mr W. G. Jones-Dylai Clwb y Bel Droed toddi eu helw yn awr ac yn y man at y gost, ni ddylid cymeryd dim o'r trerhi. Pasiwyd i'r Arolygydd wneyd amcangyfrif o'r gost o wastadhau y lie. Cynllwyd. Rhoddodd Mr W. J. Williams a'r Parch W. Cynwyd Williams, fanylion am ansawdd y grat a'r pobty yn Cynllwyd. Pasiwyd i adgyweirio y He yn dda. Mewn Pryd. Mr W. J. Williams, a alwai sylw i'r priodol- deb o wneyd cais mewn pryd am Ysgolion Nos eleni, yr oedd awydd am y cyfryw, yr oedd rhai yn yr ardaloedd cylehynol a'r dref yn gorfod talu attynt. Arianol. I Yn y Bane 469p 8s 6c biliau i'w talu, 103p 8s 3c, yn gadael gweddill o 366p Os 3c yn ffafr y Cyngor.

Ystormydd a Gwlaw yn Eryri.…

I Maentwrog.

IBwrdd Rheolwyr Ysgol Sirol…

Cwmni Yswiriol y Prudential.

-Portmadog.

Advertising