Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd GwarchaidwaSd Penrhyndeudraeth,

Cynghor Dinesig LlanrwstI

Ystormydd a Gwlaw yn Eryri.…

I Maentwrog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Maentwrog. Cyindeithas Ymdrech Gr6fyddol. Nos Iau diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. William Hughes, Frongoch. Dechreuwyd drwy i Master W. J. Roberts, Ty nant, ddarllen Salm, ac i'r Ilywydd fyned i weddi. Prif waith y cyfarfod y noson uchod ydoedd gwrando ar anerchiad y Parch. W. Williams, Cainveoed. Wedi ychydig o sylwadau amserol gan y llywydd, galwyd ar Mr Williams i anerch y eyfarfod. Seiliodd Mr Williams ei sylwadau ar y llinell hono sydd erbyn hyn wedi dod yn adnabyddus iawn, sef" Ysbryd byw y deffro- adau," o waith y bardd awenyddol, y Parch. R. R. Morris, Tabernacl. Sylwodd Mr'Wil- liams fod amryw enwau ar y Deffroadau, negis Adfywiad, Deffroad, a Diwygiad. Dywedai ei fod yn beth mawr ac aml-ochrog. Y mae yn adfywiad, a dyda y gair arferir gan y Saeson- Revival. Ond y gair ddefnyddir genym yn fynych ydyw y gair diwygiad. Dylid cofio mai nid rhyw dyfiant ar wir grefydd ydyw, ond tyfiant yn dod allan o'i natur a'i gweithred- iadau. Y mae arnom ofn i ni gredu weithiau, mai peth damweiniol ydyw, ac nid o hanfod crefydd. Y mae deffroadau yn gysylltiedig a chrefydd o'i chychwyniad. Nid ydym yn ystyried galwad Abraham yn ddim amgen na deffroad pwysig-deffroad ag yr oedd iddo ei wirioneddau arbenig a'i nodweddion neillduol, Yr ail-ddeffroad ydoedd yr un drwy Ymadaw- iad y Genedl o'r Aipht. Yr oedd hyn yn ffrwyth deffroad mawr. Abraham oedd ynglyn a'r cyntaf, a Moses oedd yn nglyn a'r ail. Yn y cyntaf yr ydym yn cael y gwiriaidd o gred- iniaeth, ac ufudd-dod. Yn yr ail, yr ydym yn cael presenoldeb Duw gyda'i bobl fel y Jehofa yn amddiffynydd ac yn arweinydd iddynt. Y deffroad nesaf ydyw hwnw yn amser Samuel. Gellir ystyried hwn yn fwyaf arbenig yn ddeffroad addysgol. Dyma'r amser y sefyd- lwyd Ysgol y Prophwydi. Yn dilyn hwn cawn y diwygiad mawr yn amser Josiah, pan y daeth v Gyfraith i fwy o sylw, a'r deffroad yn amssr Nehemiah. Y gyfraith oedd yn cael y lie amlycaf yn y deffroad yn amser Josiah, ond cyfamod Duw yn amser Nehemiah. Yn dod nesaf cawn ddeffroad mawr y Testament Newydd-dyfodiad yr Ysbryd Glan. Yr oedd Ysbryd Duw wedi bod yn gweithio yn y byd yn flaenorol, ond yr oedd bywyd, marwolaeth, a chenhadaeth Iesu Grist, yn channels uwch a gwell i'r Yabryd weithio drwyddynt. Cafodd Ysbryd Duw channels yn ateb o ran pwysig- rwydd i'w genhadaeth. Nid oedd ganddo o'r blaen ond dynion, ond y mae ganddo yn a AT y tebycaf iddo, ei Fab. Y mae yn ymddangos i mi mai y peth sydd yn nodweddu crefydd ddwyfol sydd hefyd yn nodweddu Duw y deffroadau. Nid ydynt yn perthyn i greiyddau eraill. Y mae crefydd ddwyfol yn dwyn tebygolrwydd i'r hyn yw adfywiad mewn natur. Y mae adegau o gysgadrwydd a deffroad yn haues natur. Byddai yn afresymol meddwl fod Duw yn gweithredu yn wahanol mewn crefydd. Trwy ddeffroadau y mae crefydd yn ymddadblygu. Mae pob deffroad yn foddion i ddwyn rhyw wirionedd neu gilydd i amlygrwydd. Y mae i bob deffroad ei hanfodion. Y mae iddo, mae'n wir, ei ddi- gwyddiadau, ond gellir hebgor y cyfryw, ond erys ei hanfodion. (1). Yn mhob deffroad crefyddol, y mae rhyw bethau yn cael gwneyd ymaith a hwy. Pethau oedd yn atalfa i grefydd. Dyna oedd nodwedd y diwygiad presenol, iaith anweddus, ymyfed a meddwi yn cael eu rhoddi heibio. (2). Mae yna wirioneddau yn dod i amlyg- rwydd a oeddynt wedi eu rhoddi yn nghadwr- aeth Ysbryd Duw. Dyna un gwirionedd ddaeth i amlygrwydd ar ddiwygiad mawr dydd y Pentecost ydoedd marwolaeth Iesu Grist. Gwirioneddan ddaethant i amlygrwydd yn y diwygiad Protestanaidd a diwygiad Wesley, ydoedd Cyfiawnhad trwy Ffydd, a Chadwedig- aeth trwy Ras. Ae y mae un gwirionedd pwysig wedi dod i amlygrwydd yn y deffroad presenol, sef y nodwedd gariadlawn sydd yn perthyn i gymeriad Duw. Diolchwyd i Mr. Williams am ei anerchiad rhagorol, a siarad- wyd yn mhellach ar gynwys yr anerchiad gan y Mri. J. E. Pritchard, Ty Cqch; Thomas Roberts, Shop Isaf Wm. Roberts, Frondeg R. W. Roberts, Penlan; Edward Hughes, Brodawel J. R. Jones (Gerallt), a Joseph Lewis. Diweddwyd drwy weddi gan Mr. Thomas Pierce. Frongoch. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mr J. Williams' \| gynt o Benyglanau. 1 Yn nhy ei ferch yn Penrhyndeudraeth, y bu farw ein hen gyfaill adnabyddus John Wil- liams, a hyny vn bur sydyn ac anisgwyl- iadwy. Yn ddiweddar bu yn owyno am rai misoedd, ond yr oedd wedi gwella yn dda, ac yn gallu myned a dod, er nad oedd fel cynt. Er fod yn amlwg fod ei iechyd wedi ei an- mharu i raddau mawr, ni feddyliodd neb fod y diwedd mor agos. Anghyhoedd ydoedd ei angladd yn mynwent Eglwys Maentwrog dydd Sadwrn diweddaf. Gwasanaethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y Parch H. Ellis. Yr oedd y diweddar John Williams vn adnabyddus iawn yn mysg amaethwyr, a diau y teimla llawer chwithdod a hiraeth ar ei ol. Cydymdeimlir a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw. Safle uchel mewn Ymrysonfa. Llongyfarchwn y rhai canljnol — Mri Lewis Lewis, Llech own Ellis Lewis, Cae'r saeson, a Hugh Humphreys, Tanyrallt, ar eu safle uchel yn ymrysonfi. bwysig Port Treuddyn Farm, yr wythnos o'r blaen.

IBwrdd Rheolwyr Ysgol Sirol…

Cwmni Yswiriol y Prudential.

-Portmadog.

Advertising