Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd GwarchaidwaSd Penrhyndeudraeth,

Cynghor Dinesig LlanrwstI

Ystormydd a Gwlaw yn Eryri.…

I Maentwrog.

IBwrdd Rheolwyr Ysgol Sirol…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd Rheolwyr Ysgol Sirol Ffestiniog. Prydnawn Gwener, cynhaliwyd cyfarfod Rheolwyr yr Ysgol uchod, a daeth yn nghyd Mrs Jones, Isallt; Mri W. P. Evans, Dr R. D. Evans, D. G. Jones, J. Rhydwen Parry, J. Lloyd Jones, F. P. Dodd, M. A. (Prif Athraw) M. E. Phillips, B.Sc.; R. 0. Jones (clerc), ac Edward Jones (clerc cynorthwyol). Yr oedd y Cadeirydd—Mr R. Walker Davies yn absenol, a phleidleisiwyd Mr W. P. Evans i gymeryd y gadair yn ei Ie. Yn unol a chais Mr Haydn Jones, pasiwyd i anfon lOp at gyflog. y gogyddes, fel cyfran ? Bwrdd o'r swm delir iddi. Pasiwyd i ddychwelyd y 26p gweddill svdd mewn llaw heb ei gario o'r benthyciad a wnaed gan y bwrdd vn Liunda?n at yr adeiladau. Yr oedd y Bwrdd yn liawenhau cae! ar ddeall fod Mr. Walker Davies yn gwella, ac yn hoHol unfrydol dewisiwyd ef yn gideirydd am y I drydedd waith. Yr oedd ef wedi anfon vn deisyf am gael ei ryddhau, ond y parhai i wneyd ei ran dros addysg yr ardal gyda'r un sel ag arfer.—Pasiwyd i anfon ato deimladau y Bwrdd gyda dymuniad dwfn am ei gwbl adferiad. Cafwyd trafodaeth am yn agos i awr o amser ar adroddiad y Pwyllgor ar Arholiad yr ysgol- oriaethau. Pasiwyd fod yr un gwaith i fod i'r genethod a'r bechgen, yr un safon marciau i bawb fel eu gilydd, 45 y cant i fod yn rhif isaf i enill, nad oes neb dros 13 oed i gael sefylt arholiad, a gwaith safon 6 oedd i'w roddi fel maes arholi. Yr oedd adroddiad y Meistr ar lanhau yr ysgol i lawr ar raglen y cyfarfod, ac ystyried y saitb tender ddaeth i law am adeiladu ty newydd i'r meistr, ond er mwyn i'r rhai sydd yn tendro cael chwareu teg trowyd y cyfarfod yn bwyllgor, ac aeth y gohebwyr allan.

Cwmni Yswiriol y Prudential.

-Portmadog.

Advertising