Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Beddgelert a'r Amgylchoedd.

- YNMALDWYN. - - I LLOFRUDDIAETH…

I NODION O'R CYLCH. I

rLlanrwst.

Boddi mewn Bwced.

IBlaenau Ffestinlog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Blaenau Ffestinlog. ARWERTHIAD TY.—Cafodd Mr. John Davies, Ar- werthiad llwyddianus iawn yn Manod Road, ddydd Sadwrn diweddaf, ar ddodrefn fa thy yn Isfryn Terrace. Gwerthwyd y ty am 160p i Mr. William Williams, Hafod rnffydd. Hefyd dydd Sadwrn nesaf bydd Ty 15 Bowydd Street, yn myned ar Auction yn y Queen's HoteL am ddau o'r gloch. SALE FAWR A'R DDILLAD.—Nos Wener, Sadwrn, a Linn nesaf, bydd Mr John Davies yn gwerthn y gweddill o ystorfa ddillad Mr. Ted Lloyd, yn Church Street. Dechreuir haner awr wedi chwech nos Wener a Llun, a haner awr wedi pedwar prytlnawn Sadwrn. Cyfle rhagorol i gael nwyddau newydd yn rhad. Gweler yr hysbysiad yn tudalen 8. FOOTBALL MATCH.—A Grand Match will be held at the Recreation Ground, next Saturday. Festiniog v Llanrwst. Kick off 3.45. Team— E.Hughes, W. R. Jones, H. J. Rowlands, Evan LI. Hughes, D. Hughes, Richard Roberts, John Jones, David Roberts, Robert Roberts.—Reserve W. R. Owen. CYMDEITHAS BETHEL, TAKYGRISIAU.—Nos Iau diweddaf, dan lywyddiaeth y Parch. R. Silyn Roberts, M.A., cafwyd papur dyddorol a chyn- wysfawr ar Morgan Llwyd o Wynedd gan Mr H. H. Roberts, Dolrhedyn Cottage. Agorwyd ymdrafodaeth arno gan Mr. W. Edwards, Ddol, a chafwyd ymddiddan pur fywiog. Cyfarfod llewyrchus iawn.-iz. DAMWAIM.-Dydd Mawrth, yn Chwarel Maen- offeren. cyfarfu Mr. Richard Griffiths, 16, Lord Street, a damwain ofidus. Ymddengys ei fod yn codi carreg fawr, pryd y tarawyd ef a handls y craen yn ei ben. Torwyd archoll ar ei wyneb, ac un mawr ar ei dalcen, gan beri ysgydwad i'r ymenydd. Gweinyddwyd arno gan y meddygon Evans, Llys Meddyg. Y CLWB RHTDDFRYDOL.—Nos Fawrth, yn Ystaf- ell y Clwb, cafwyd trafodaeth fywiog a buddiol ar Anhebgorion Dinesydd Da." Agorwyd y drafodaeth gydag anerchiad ragorol gan Mr Wm. Owen, Plasweunydd llywydd y Clwb, yr hwn a nododd gymeriad da, addysg dda, safle fydol dda yn mhlith yr anhebgorion. Nid oedd yn cyfrif fod Ffestiniog wedi rhagori fel meithrinfa i ddineswyr da; yr oedd gan y dref fanteision a'i galluogai i wneyd mwy nag oedd wedi ei wneyd hyd yma yn y cyfeiriad hwn. Siaradwyd yn ddilynol gan Mri D. White Phillips, R. T. Jones, Tanyrallt; R. J. Williams, Lewis Jenkins a Hugh Lloyd. Pwysleisiodd pob un o'r siaradwyr ar ryw wedd neu gilydd i'r pwnc. Cafwyd cyfar- fod neillduol o hwyliog a gohirwyd y drafodaeth hyd yr wythnos nesaf. TEML Y DIPHWYS.—Cynhaliwyd y cyfarfod nos Wener diweddaf. Agorwyd yn y ffordd arferol. Wedi anerchiad rhogorol gan y Teilwng Brif Demlydd aed yn miaen gyda gwaith y cyfarfod. Aaroddiadau gan Gracie Evans, Dilys Evans, Maggie Edwards, Wm. F. Evans. Cystadleuaeth darllen y tair adnod cyntaf o'r Barnwr, cyfartal oreu D. G. Evans a Morris Roberts, cyfartal ail, Maggie Edwards a Catherine Jones. Beirniad- wyd gan y Brawd G. Williams a'r Chwaer Miss Owen. Rhoddwyd y gwobrwyon gan Thomas Roberts. Adroddiadau gan Caradoc Evans, a Jennie Davies. Diweddwyd yn y drefn arferol. DIRWESTOL—Cynhaliwyd yr uchod nos Sadwrn diweddaf, yn School-room Jerusalem, dan nawdd Band of Hope Garregddu. Dechreuwyd trwy ddarllen [a gweddio. Ton gan y Band of Hope o dan arweiniad Mr Evan Owen, Bowydd Road. Anerchiad gan' y llywydd, Mr. Griffith Thomas Williame. Adroddiadau gan Ethel Lewis, John Jr>»khis, Jennie Humphreys, Robert J. Roberts, -.gie Edwards, Thomas Williams. Annie Tud&r Roberts, Lizzie Lewis, H. J. Evans, Jennie Williams. Caneuon gan Polly Jones, Gracie Owen. Deuawd gan Polly Jones a Katie Jones. Caneuon gan Evan Morris, Mary Hughes, Jennie Humphreys, a Robert O. Lloyd. Cah gan barti John Williams. Anerchiad gan y Parch. David Jones. Ton gan y Band of Hope. Cyfeiliwyd gan Miss Minnie Lewis. Oherwydd amgylch- iadau anorfod ynlluddias Band of Hope i fod yno y Sad wrn nesaaf, cynhelir cyfarfod cyffaed- inol. Gobeithio y bydd i ni barhau i ddool iddo.-T.R. EGLWYS ST. lOAN, TANYGRISIAU.—Cynhaliodd yr uchod ei chyfarfod diwylliadol nos Iau, ssf Dydd Gwyl Dewi, dan lywyddiaeth y Parch. D. F. Hughes, B.A.' Dechreuwyd y cyfarfod trwy i'r llywydd draddodi ychydig sylwadau, ar y pwysig- rwydd o iawn ddathlu Dydd Gwyl Dewi, ac hefyd i'r dyben o arddangos y pwysigrwydd o ddefnyddio y geninen (" leek ") ar y dydd. Yna cafwyd papur tra rhagorol ar Dewi Sant," ein nawdd Sant, gan Mr David Williams, Bryntwrog. Ar ol y darlleniad cafwyd adroddiad gan Miss Elizabeth V. Jones, Groesffordd. YiA darifea- wyd papur ar yr un t,-slyn gan Mr John Owes, Glanyllyn, Tanygrisiau. Siaradodd llawer o aolodau ar y pwnc, rhai yn gryi. yn erbyai y cywilydd o arddel Dewi Sant," fel Sant nawdd- ogawl y Cymry. Cafwyd cyfarfod tru llwydd- ianus, a diweddwyd trwy ganu emyn. ST. MABIHA.—Cynhal'iodd yr uehod gyfarfod amrywiaethol o'r gymdeithas nos Wener, dan lywyddiaeth y Parch W. J. Williams. Dechreu- wyd trwy gyd ganu "Hen wlad fy Nhadau." Cystadleuaeth ad rodd i biant dan 7 oed, cyfartal oreu, Maggie Hughes, Cissy M. Morris, a Evan G. Pugh. Can gan E. M. Thomas. Cystadleu- aeth adrodd i blant dan 10 oed, (1), W. Edwards, (2), Ellis Edwards, a Richard Pugh, (3), Tommy Morris. Can gan J. Edwards. Cystadleuaeth adrodd i blant dan 13 oed, cyfartal oreu, M. J. Williams, Gwladys Morrite, a David Pugh. Can. gan S. Williams. Adroddiad gan D. Pugh. Cystadleuaeth areithio, goreu, J. Pugh. Can gan J. Davies. Adroddiad gan M. J. Williams Terfynwyd trwy gydgallu Duw gadwo'r Brenin."—AELOD. CYMDEITHAS DDTWYLLIADOI J ERUSALEThl (A.)-- Nos Fawrth diweddaf, o dan lywyddiaeth Air G. Parry (Namor Wyn), cafwyd darlith rhagorol gan y Parch J. Hughes, Tanygrisiau, ar Ieuan Gwynedd." Cynygiwyd diolchgarwch i'r darlithydd gan Mr Wm Pierce, a chefnogwyd gan Mr E. R. Morris.!? Siaradwyd ymhellach gan y Mri. H. Lloyd, H. Jones a'r Llywydd. OvlI terfynu canwyd em yn o waith leuan Gwynedd. CYMDEITHAS LENYBDOL A DDWIKYDDOL Y GARREG- DDu. -Cynhaliwvd cyfarfod o'r gymdeithas uchod nos Iau diweddaf, piyd y cafwyd gwledd o'r fath flasusaf; trwy gael papur ar Lady Henry Parbad yn tudalen 8.