Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Llys Ynadol Bettwsycoed.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llys Ynadol Bettwsycoed. DIRWYO TRWM AR LANCIAU YSPYTTYIFAN. Dydd Sadwrn o flaen y Milwriaid Johnson, (cadeirydd) J. W. Jelf Petit a R. Parry, Ysweiniaid. NIWEIDIO.—Henry Lloyd, Tai'nymaes, Yspytty Ifan (dros yr hwn yr ymddangosai Mr E. Davies Jones), a gyhuddai Henry Williams, Dylasa Uchaf, Penmachno D. Ellis Jones, Eidda Fawr, Yspytty Robert D. Roberts a David Davies, Gwernhowel, Uanciau o 15 i 17 oed faros y rhai yr ym- ddangosai Mr A. Lloyd Griffiths), o fod ar nos Sul, Chwefror 18fed, wedi taflu craen ar ben ei blentyn bach gan beri niweidfau corff- orol. Bu yr achos o flaen y Faingc bythefnos yn ol, ond gohiriwyd er gweled sut y byddai y plentyn. Tystiai Dr Williams, Penmachno, a Dr Pritchard, Bettwsycoed fod y plentyn allan o berygl, Parch R. M. Edwards, Yspytty a dystiai iddo weled y plentyn y noson dan sylw yr oedd archoll ar ei ben. gwelodd y craen wedi dymchwel i'r ffordd, ond nis gallai ddweyd pwy taflodd ef. Nid oedd yn meddwl fod bechgyn Yspytty yn waeth ra bechgyn eraill ond yr oedd yn awgrymu i'r Fainc y dylid cael heddgeidwaid yn y lie yr oeddynt yn talu trethi yno. Nid oedd yn gwybod am y cyhuddedigion ond nad oedd gan rai o honynt air da. Evan Hughes, Llanrwst, perchenog y craen a dystiai ei fod yn ei le ddydd Sadwrn ac fod yn ofynol dipyn o nerth i'w ddymchwel. Tystiodd yr heddgeidwad Davies, Pen- machno i'r cyhuddedigion addef iddynt redeg ymaith, Mr E. Lloyd Griffiths a ddywedai nad oeddynt yn gwadu i'r craen syrthio, ond na wnaed gydag unrhyw ymgais i niweidio neb mai damwain hollol ydoedd, ac mai achos i'r County Court oedd, ac nid llusgo bechgyn mor ieuainc i'r llys hwn. Holwyd 3 bechgyn yn galed gan y Cyf- reithwyr, ac yr oedd yr oil yn ddieuog o dailu y craen, ond rhoddent y bai y naill ar y llall. Ar ol i'r trydydd ddweyd ei stori hysbysodd Mr Griffiths nad oedd am gymeryd amser y Faingc gan mai yr un peth oedd gan y pedwerydd i'w ddweyd. Y Cadeirydd,—" Na gadewch i ni glywed pwy yw v goreu am ddweyd anwiredd." Ymneillduodd y Faingc, a rhoddwyd dirwy « 2p a ] p o gostau ar bob un ATAL TRAFNIDIAETH.—Yr Arolygydd Rees a gyhuddai Evan Hughes, perchenog y craen o'i adael a'r draws y ffordd dros y Sul Mr E. Davies Jones a hysbysai fod Hughes, yn gofidio am yr hyn gymeroid le ac iddo fyned at dad y plentyn anafwyd i ddangos ei gydymdeimlad. Taflwyd yr achos allan ar dalu y costau. YMOSODIAD YN YSPYTTY IFAN. Benjamen Lloyd, (dros yr hwn yr ym- ddanghosai Mr E. Davies-Jones). a gyhuddai John Jones, gwas Penbryn Eidda, Yspytty, (dros yr hwn yr ymddangosai Mr A. Lloyd Griffiths), o fod wedi ei daro a darn o bridd caled, ar yr 28ain o Chwefror nrs peri archoll ar ei dalcen, Yr oedd yn cynorthwyo gydar peiriant dyrnu yn Ty Ucha, a thra yn siarad yn nghyich clnfr ar ddefaid, dywedodd un Robert Roberts wrtho ei fod yn cymeryd plaid yr heddgeidwaid pa rai na wyddent ddim mwy na theiliwr fcm glaff. Ar ol hyny tarawyd ef yn ei dalcen, a chyhnddodd John Jones yr hwn oedd yn y llofff o fod wedi gwnejd. j Mr E. Davies Jones ddywedai fod yn bryd rhoddi ttalfa ar y gang o hollgans oedd yn y rhsn yma o'r wlad, yr oeddynt yn ddiarhebol er s yn '.gos i fiwydd/n. Rhingyll Rees a dystiai iddo fyned i Yspytty Ifan er ceisio dod at wreiddyr y drwg. er fod poblogaeih ei ddosbarth yn 5,5000 yr oedd mwy o gwynion o Yspytty na'r un He arall. Oddeutu mis yn 01 daeth dyn ieuanc i gwyno i rywynyrnosod arno ef a'i ferch ifanc, yr oedd ei ddillad yn waed a'i het wedi tori. Mr A. Lloyd Griffiths a ddadleuai nad oedd yn deg dod a hyn i fyny heddyw. John Jones a dystiai ei fod yn cynorthwyo y dydd dan sylw yn Ty Ucha, yr oedd ef gydag eraill yn y liofft a Benjamin Lloyd a R. Roberts yn v gwaelod yn codi gwellt, cafodd ddarn o bridd yn y gwellt a thaflodd ef allan, nid oedd bwriad o gwbl i daro Lloyd. John Parry, Blaen eidda, a gadarnhai y dystiolaeth ac mai ef roddodd y pridd i John Jones i'w daflu. Cadeirydd—" Pam na fuasech yd ei datln eich hun ?"—Nid wyf yn gwybod. Dirwy lp a lp 13s o gostau.

I I __Llys Ynadol Llanrwst.

I Glanau'r Fachno.I

I JOHN ELWYN !

I OWEN A. ROBERTS.

I_____ENGLYNION CYFARCHIADOL

ER SERCHOG GOFF ADWRIAETH

RHINWEDDAU CRIST.