Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Llys Ynadol Bettwsycoed.

I I __Llys Ynadol Llanrwst.

I Glanau'r Fachno.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Glanau'r Fachno. I [GAN YR HEN DDYRNWR]. ,I Eelurhad. Mae yn gywilydd o beth fod yn rhaid i ysbryd chwilfrydig wisgo enwau personau dieuog ni chewch byth wybod pwy ydwyf, pa waeth hyny; nid pwy ydwyf, ond beth ddywedaf sydd i fod yn wybyddus i'r darllen- wyr. Y Cwm. At luaws o angenrheidiau cymdeithasol ddylai fod yn gwasanaethu trigolion rhan- barth: anghyfleus fel y Cwm. Dymunwn alw sylw ar hyn o bryd at yr anghenrheidrwydd o gael llyfrgell a goleuo yr ardal. Mae amryw lecynod yn dywyll a pheryglus; fel y mae yn syndod fod cyn lleied o ddamwainiau wedi digwydd. Goleuni i'r hen, llyfrgell i'r ifanc, dyna ddau anhebgor y teithydd llwyddianus, ddylai fod yn feddiant iddynt. Pe ceid ael- odau Cynghor Plwyf y Cwm i ddeffro o'u cysgadrwydd ac i fod yn rhywbeth amgen na dumies. Gellid cario y peth'drwodd erbyn Hydref, i wasgar goleuni deublyg. Yn y tymor hwnw o'r flwyddyn mae natur yn fwy- af ceidwadol; os ra symudir yn fuan bydd fy ffyst yn gwneyd llawer o honynt yn ddi- werth fel dumies. Gwaith Dwr. Symud yn ddifrifol iawn yn ei flaen mae hwn a'i gostau vn treblu ac arian y treth- dalwyr yn cael eu^lluchio yn ddiystyr mewn swyddau yn y gwaith. Bydd genyf air yn rhagor arno cyn hir. Proneswr. Nos Lun Mawrth 5ed a nos Iau dilynol, bu y Proffeswr W. Hopkins Jones o Goleg Bangor, yn anerch ar "Dyfu llysiau a ffrwyth- au mewn gerddi bychain,aRgerddi.marchnad.¡ Darlithiau rhad' o ddewisiad y Cynghor Plwyf, ir amcan i gefnogi yr awydd g&rddwr- ol cyffredinol sydd yn yr ardal. Bydd tair eto yn dilyn am fis bob nos Lun. Cadeirydd oedd y doniol a'r galluog Dr Williams M. B., Mostyn Vilfa. Y Diwygiad. Ofnwn mai oeri i riiddau mae gwres diwyg- iadol yn y gymdogaeth yma. Ofnwn fod yr ysbryd beirniadol wedi tarfu Ysbryd Duw o'n plith, ac nad oes yn aros ond yr hyn sydd ddynol; a chwyno parhaus sydd oherwydd hyn, er ar yr un pryd yn edmygu sel a brwdfrydedd; ond waeth heb os nad ydyw y "gwirioneddoi" genym. Ofnwn weithiaufod goimod o'r dynol yn mynu gwthio ei huh i'r amlwg. Mae'n bryd deffro'r eglwysi. Dy- wedodd cyfaill wrthyf yr wythnos o'r blaen, "Ei fod yn aelod parchus" ebe fe "o unrhyw Eglwys yn Mhenmachno y dyddiau presenol, yr unig berh sydd yn angenrheidiol ydyw talu ardretb ei eisteddle, cyfranu yn hael at i gyflog y Gweinidog, a cad- ei hun yn Ian a thrwsiadus, .ni ofynir ychwaneg ganddo. Nid ydyw yn angenrheidiol fod ganddo gar- iad Ileiaf tuag at ei gymydog, nac unrhyw feddwl am ymadael ag un o'i gotiau, nid oes angen iddo fod yn elusengar, yn addfwyn, nac yn ostyngedi r, nac yn gymedrol ynmhob peth, na chymeryd trugaredd ar y weddw ar amddifad, gall sandio ei siwgr a phethau cyffeiyb, a dweyd yn ddrwg am ei gv-myd- og, ac eto bod yn aelod parchus o'r eglwys." Mae lie i ofni fed yr hyn ddywed yn ffaith. Mor wrthwynebai i ddysgeidiatth Crist onide! I Cleifion. I Ya mhlith llawer sy'n rhodio ar Ian llyn Bethesda, mae yr hen lenor William M. Jones (Gwilvm Machno). Nis gwn beth ddaeth o hono ef ai wiers. Calon drom afiechyd sydd i'r brawd R. M. Jones Llys Ifor. Y mae Mr Jones yn un o'r rhai mwyaf diymhongar, a dirodres, yn gyf- aill cywir, gonest a charedig, yn foneddwr a Christion. Brawd arall sy'n cwyno yw yr hen bererin Owen Roberts (Owain Fardd) Cwm. Ni welwyd gwr mwy boneddigaidd a charedig yn troedio ein ystrydoedd, ei ymddanghosiad urddasol, a'i barabl ystwyth. Ymholai'r trigolion am dano. Hyderwn y gwelir yr oil yn fuan wedi Ilwyr wella. Priodas. Yn nghapel Bethania (W) cymerodd yr amgylchiad dydaorol hwn le foreu Sadwrn diweddafj sef uniad hapus John T. Jones, Bridge St Llanrwst, gydag un o wyryfon ein hardal Miss Maggie Roberts Swch Isaf. Boed i wenau deufyd belydru ar eu bywyd I tra gwel yr Hollc lluog yr oreu i glwm eu priodas barhau. Manion. l-yarhwng nos badwrn a boreu bul bu i rhywyn neu rhywrai dori i efail Rhys Jones Gof, a chymeryd oddiyno eiddo neilltuol. Gresyn na cheid allan pwy oeddyut a'u cosbi am eu beiddgarwch. Deallwn fod materion pwysig yn cael eu trafod uwchben y gwpan de, a bod tipin o wlith ac arddeliad, a diwedd y visit hyn, hyn fydd "er gwell ac er gwaeth," Beware.

I JOHN ELWYN !

I OWEN A. ROBERTS.

I_____ENGLYNION CYFARCHIADOL

ER SERCHOG GOFF ADWRIAETH

RHINWEDDAU CRIST.