Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Dal y Llofrudd.| I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dal y Llofrudd.| I Tua phump o'r gloch prydnawn dydd Llun daliwyd y dyn a gyhuddid o lofruddio John Evans a'i wraig o'r Foel Lwyd, Sir Drefaldwyn y Sadwrn biaenorol. Prydnawn dydd Llun aeth Mr John Thomas, Tanllan Farm, i Lan- tyllin i hysbysu ei fod wedi gweled dyn yn ateb i'r desgrifiiad a roddid o Rowland Llywarch yn cuddio o dan ryw bont yn nghyrrydcgaefch Llanfihangel, Aeth y Cwnstabl Hamer allan ar unwaith i chwilio am dano, a phan ddaeth i fyny at Llowarch trodd hwnw arno ar unwaith. Tynodd allan gyllell a dechreuodd ymosod yn ffyrnig- ar y swyddog, gan rwygc ei glog o'r top i'r gwaelod a a thori ei felt yn ddau. Tynodd Hamer ei staff a tharawodd Llowarch ar ei ben gan wneyd cryn archoll a'i fwrw i'r llawr am foment yn anymwybodol. Pan ddaeth help rhwymwyd ef draed a dwylaw a chymerwyd ef mewn cerbyd i garchar Llanfyllin, lie cafodd drin ei friw gan Dr Lewis, a Dr Felix Jones. Wedi hyny cyfyngwyd ef i gell lie y torodd allan i wylo. Tua chwech o'r gloch yr un dydd symudwyd ef i Trallwm lIeyr oedd tyrfa anferth yn disgwyl am dano.

Family Notices

Advertising

Family Notices

IBlaenau Ffestinlog.