Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cynnor Dinesig Ffestiniog.

, Talybont. I

"'-'Harlech. I

Glanau'r Fachno. J

I',Ymchwiliad y Bwrdd Lleol…

-I Ymosod ar Ohebydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ymosod ar Ohebydd. Yn Mrawdlys Chwarterol Sir Fflint ddydd Mawrth, o flaen Mr. P. P. Pennant ac ynadon eraill, daeth dri dyn ieuaingc i fyny o dan y cyhuddiad o ymosod ar Ohebydd o'r enw Woosman Hughes, Fflint. Ymddangosodd Mr. Ellis Jones-Griffith, A.S., i erlyn, ac amddiffynwyd gan Mr. R. V. Bankes. Yn ol y tystiolaethau, yr oedd Hughes yn cerdded adref yn lied hwyr ryw noson, a daeth y tri diffynydd-Edward Doyle, 21 oed Edward Beck, 29 oed; a Robert Jones, 22 oed; Uafurwyr o Fflint; ato ar y ffordd. Tarawodd Doyle ef nes y syrthiodd ar y ffordd. Pan ar lawr ciciwyd ef, ond nid oedd yn sicr gan pa un o'r tri. Dywedodd Doyle wrtho, "Cvmer hyd yna am roddi fy enw yn y papur." Taflwyd yr achos allan yn erbyn Beck a Jones, ac anfonwyd Doyle i garchar am dri mis gyda llafur caled. Dywedodd y Cadeirvdd fod y cyhuddiad yn un difrifol gan iddo ymosod ar ddyn oedd yn haeddu pob amddiffyniad posibl, ac oni bai am ei gymeriad da blaenorol buasai ei gosb yn drymach. Hyderent y byddai y peth yn wers iddo ef ac eraill at y dyfodol. ¿.

IMarwolaeth Cyn-gyfreithiwr…

/Schos Modrwy Caergyhi. I