Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cynnor Dinesig Ffestiniog.

, Talybont. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Talybont. I MARWOLAETI-I A CHLADDEDIGAETH.—Yr wythnos hon y mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth y brawd anwyl a'r cyfaill dyddan Mr David Hughes, Tanyffordd, Doly- garrog, yr hyn a gymerodd le Sul, Mawrth 25, 1 yn 69 mlwydd oed. Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn rhadlon a siriol, yn gymydog caredig a chymwynasgar, yn gymeriad pur, unplyg, ac yn gristion diamheuol, ac iddo air da gan bawb a, chan y gwirionedd ei hun." Yr oedd yn ddirwestwr trwyadl, yn Rhyddfrydwr i'r earn, ac yn Ymneillduwr egwyddorol. Llan- wodd y swydd o ddiacon, a hyny gyda deheu- rwydd, yn eglwys M.C. Talybont, am chwarter canrif, a theimlir colled fawr ar ei ol yn holl gyrddau yr eglwys, yn arbenig yn yr Ysgol Sabbothol, lie y bu yn athraw defnyddiol ac yn gynghorwr doeth a medrus. Er ei fod yn ddyn diwyd a darbodus, ac wedi llwyddo i gyrhaedd amgylchiadau cysurus, eto pethau crefydd oedd ei hoff bethau. Gwasanaethodd ei Feistr mawr yn ffyddlawh a difefl. Gwnaeth ddiwrnod o waith gonest yn ngwinllan ei Arglwydd, a bell- ach y mae wedi cadw noswyl, ac yn gorphwys yn ei ran. Dioddefodd gystudd maith a phoen- us, gan cancer yn yr ystumog, a hyny yn dawel a dirwgnach, gan ymostwng yn hollol i ewyllys ei Dad nefol, ac ar y dyddiad a nodwyd ehed- odd ei ysbryd i wlad lie nad oes poen na dagrau yn blino yr un o'i thrigolien, ac ni ddywed neb o honynt claf ydwyf." Prydnawn dydd Iau dilynol hebryngwyd ei weddillion marwol i dy ei hir gartref yn myuwent Talybont, a hyny gan dorf anarferol o luosog. Cafodd angladd tywysog, ac amlwg ydoedd fod gwr mawr yn Israel wedi cwympo." Gwasanaethwyd yn effeithiol wrth y ty, yn y capel, ac ar lan y bedd, gan y Parchedigion O. Gaianydd Williams, Roe Wen. a H. M. Roberts, Rhydlydan (cyn- weinidog Talybont). Gadawodd briod, un ferch, a thri o feibion i alaru ar ei ol. Heddwch i'w lwch. Y DDARLLENFA.—Cynhaliwyd pwyllgor chwarterol y Ddarllenfa nos Fawrth, pryd yr oedd yn bresenol Mr H. Davies, Ysgoldy (Cad- eirydd), y Parch R. Williams, B.A,, Mri W, O. Roberts, Plas Deulyn, E. Jones, Bodawel, E. Criffith, Castle House, E. A. Evans, Ty'nddol (Trysorydd(, a W. Hughes (Llyfrgellydd ac Ysgrifenydd). Yr oedd adroddiad y Llyfrgell- ydd yn foddhaol iawn, yn dangos cynydd o 11 o aelodau er y chwarter blaenorol. Presenoldeb Ionawr 663, Chwefror 573, Mawrth 580. Y nifer lleiaf rtiewn un diwrnod ydoedd 14, a'r rhif uchaf oedd 40. Y nifer lleiaf mewn wyth- nos ydoedd 114, a'r nifer mwyaf 160. Derbyn- iwyd 26 o lyfrau, ynghyda nifer o gylchgronau. Rhoddwyd Ilyfrau yn fenthyg :-Ionawr-31, Chwefror-52, Mawrth--56. Yr oedd adrodd- iad y Trysorydd yr un mor galonogol, yn dangos gweddill o f,4 8s. 6c.

"'-'Harlech. I

Glanau'r Fachno. J

I',Ymchwiliad y Bwrdd Lleol…

-I Ymosod ar Ohebydd.

IMarwolaeth Cyn-gyfreithiwr…

/Schos Modrwy Caergyhi. I