Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cynnor Dinesig Ffestiniog.

, Talybont. I

"'-'Harlech. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Harlech. Bydd yn ddrwg iawn gan lawer glywed fod Mrs. Jones, gweddw y diweddar Daniel Jones, Gwyndy Stores, o'r lie hwn, a mam Mr. Daniel Jones, prif-athraw yr ysgol yma a Mr. John Ivor Jones, Gwyndy Stores, wedi cael tarawiad o'r parlys ac mewn cyflwr drwg iawn. Yr oedd Mrs. Jones bob amser yn foneddiges fawr ei pharch trwy y cymydogaethau hyn, a bydd yn ofid i lu o'i chydnabod glywed am ei hanwyl- deb. Un arall y bydd yn ddrwg gan luo'n darllen- wyr glywed ei bod yn wael ydyw Mrs. Richards, Pensarn Hall, yr hon fu yn dicddef o dan ymosodiad o glefyd yr ysgyfaint. Da genym ddeall ei bod yn gwella. Eiddunwn iddi Iwyr adferiad yn fuan. Foreu dydd Sadwrn diweddaf torodd tan allan yn ystabl Mr. Robert Owen, Castle Cot., a bygythiai wneyd cryn ddinystr. Ond cafwyd cynorthwy ewyllysgar gan nifer o bobl hen ac ieuainc, a diffoddwyd ef yn fuan, ond nid cyn didQi yr ystabl, a llosgi yr holl wair allawer o'r coed a pheri cryn golled. Prudd iawn oedd rhoddi Idwal bach yn ei fedd cyn cyraedd ei saith mlwydd oed, mab ydoedd i Mr. Evan a Laurah Williams, gynto'r Maesgwyn. Yr ydoedd yn un o'r plant mwyaf hoffus yn y dref. Anodd ydyw rhoddi desgrif- iad o gymeriad mor brydferth, eto yr oedd pawb yn teimlo ei fod yn flcdyn rhy dyner i hinsawdd oer ein byd ni. Ond mae wedi ei, symud i wlad y gall wreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy." Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'r tad a'r fam a'i ddau frawd a'i chwaer. Wedi iddynt golli un mor amlwg o'r teulu. Ni choll eich Idwal wrth basio y ser Mae'n awr yn ei balas yn ninas y Nef, Eich anwyl fab bychan a fuoch chwi'n drin Rhyw Seraph a'i cymer yn awr ar ei lin. R, DAVIES.

Glanau'r Fachno. J

I',Ymchwiliad y Bwrdd Lleol…

-I Ymosod ar Ohebydd.

IMarwolaeth Cyn-gyfreithiwr…

/Schos Modrwy Caergyhi. I