Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cynnor Dinesig Ffestiniog.

, Talybont. I

"'-'Harlech. I

Glanau'r Fachno. J

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Glanau'r Fachno. [GAN YR HEN DDYRNWR]. Ychydig o gyfnewidiad "ergwell" sydd yma. Y mae llawer o gyfnewidiadau yn ddiweddar wedi cymeryd lie, ond yr oil yn myned yn erbyn y gweithiwr druan. Tynu oddiwrth ei ryddid, a gwneyd mwy o slave o hono. A ydych yn paratoi at Wyl Llafur fechgyn anwyl ? Beth am eich Hundeb bellach ? oes yna ddim tipyn o swn yn mrig y Morwydd bellach ? Mae yn hen bryd i chwi ddeffroi. TE A CHYNGHERDD.—Nos Sadwrn Mawrth 24ain, rhoddodd Mr. Hughes School House, swper irhagorol i aelodau yr Ysgol nos. Ar ol y swper cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol dan lywyddiaeth y Parch B, Jones, Rheithordy. Agorwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau gan Miss Vaughan Jones, a'r aelodau yn uno yn y cydgan. Unawd Llanciau Eryri' gan Miss Ffoulkes Jones. Adroddiad Helynt sel y gornel" gan Miss L, K. Evans. Solo gan Miss Jennie Evans, Bod Alaw. Adroddiad Robin Owen. Pant y Buarth" gan W. G. Evans. Unawd Merch y Melinydd," gan Miss Vaughan Jones a gorfu iddi ail ganu. Dadl gan Misses L. T. Evans, a Mary Jones. Detholiad ar y Violtn gan Miss Ffoulkes Jones. Gair byr gan W. G. Evans. Derbyniwyd y rhaglen yn mhob adran o honi gyda chymer- adwyaeth. Cynhaliodd Gwyr Ieuainc Bethania (W.) eu cyfartod nos Sadwrn diweddaf. Cafwyd cyfarfod hwyliog, pobpeth yn hollol chwaethus yr hyn sydd yn anrhydeddd i'r Gymdeithas. Llywydd y noson oedd y doniol ar galluog Mr. J. Williams, Comerce Housa, CROESI'R AFON.—Bore Sul diweddaf ehed- odd ysbryd yr hen bererin duwiol Tomas Ivan, Brynbedyddfaen. At yr hwn a'i rhoes. Hen frawd siriol a gwyneb agored oeddyr ymadaw- edig, a chalon gynes at achos y Gwaredwr. Yr oedd yn feddyliwr dwfn a dyfal, yn meddu deall cryf, barn dda, a chwaeth bur, fel duweinydd yr oeddym yn edrych i fyny arno, ac fel gweddiwr yr oedd yn gryf a nerthol. Mwynder Mai a Hefin lond ei galon, a hwnw yn gwawrio yn ei wedd. Bu yn rhodio am fisoedd gyda glanau terfysglyd yr afon, yn gwrando a'r furmur ei thonau, ac yn syllu ar ei hymchwydd ond roedd Gobaith yr Efengyl yn taflu ei belydrau llachar i oleuo iddo y ffordd drosodd i'r glanau bytholwyrdd, lie nad oes ing nac ochain. Os na chafodd ei farw effaith daeargryn, bu fel diffodd canwyll yn y nos ar yr aelwyd ac yn golled i'w theimlo. Bydded i wenau yr Anweledig Un, ddifodi cad dug a thywyllwch yr amgylchiad, fel y delo ei deulu i ganmol ei gyfiawnder, ei ddoethineb a'i gariad. DAN Y GAWOD.-Y mae llawer o gwyno oherwydd afiechyd yma yn barhaus. A drwg genym ddeall fod John Richards Ysq., Park Hill, ymhell o fod yn foddhaol o ran ystad ei iechyd. Y mae i Mr. Richards, safle uchel fel lienor, bardd, beirniad, a duweinydd. Medd feddwl diwylliedig, barn addfed, a syniadau pendant. Does ond gobeithioydaw hin hyfryd y dyddiau hyn, ac adgyfnerthiad, ac adgyfnerth- iad llwyr iddo'am fod ei angen mewn cylchoedd pwysig. Tra yn dilyn ei orchwyl yn chwarel Bwlch Slaters dydd Gwener diweddaf. Cyfarfyddodd Mr. John Williams, Pen y groes a damwain drwy i ddarn o graig ddisgyn ar ei fraich ai anafu yn lied dost, er na wyddom i fanylrwydd pan yn ysgrifenu faint o niweidiau a dderbyn. iodd. Ond gobeithiwn a dymunwn y goreu iddo. VESTRI FLYNYDDOL.—Deallwn i rif dda o etholwyr a rhai eraill oedd yn teimlo dyddordeb mewn materion plwyfol, ddod ynghyd nos Sadwrn. Darllenwyd cylrii yr elusenau am y flwyddyn, a phasiwyd ymddiriedaeth yn yr ym- ddiriedolwyr a'u gwaith. Wedi trafod mater y llyfrgell a phethau eraill, clywsom iddynt ym. wahanu mewn heddwch. Llanwyd y gadair i'w hymylon mewn corph a meddwl gan Dr. Williams, Mostyn Villa. PREGETHU.-Nos Iau, Mawrth 29ain bu y Parch J. Ll. Richards, B.A., Dolwyddelen, yn pregethu yn rymus iawn i dorf luosog yn yr Eglwys Sefydledig. Camolwn y cyfeillion am sicrhau gwasanaeth gwr mor alluog aphregeth- wr morddeniadol.-Ac yn nghapel Salem (M.C) y Sul diweddaf cawsom ddwy bregeth wlithog gan y larch H. Harris Hughes, B.A., B.D., Bl. Ffestiniog. NEWYDD DA.—Y mae yn dda genym ddeall fod yr "Rhedegydd" yn cael derbyniad brwd- frydig gan amryw o'r newydd, er pan mae wedi newid dwylaw. Bydded iddo gael cylchrediad helaethach eto yn y dyfodol

I',Ymchwiliad y Bwrdd Lleol…

-I Ymosod ar Ohebydd.

IMarwolaeth Cyn-gyfreithiwr…

/Schos Modrwy Caergyhi. I