Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

— —————— —————— in. AT EIN…

NODIADAU WYTHNOSOL.

NODION 0"R -CYLQH.

Dyledwvr yn cofio dim.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dyledwvr yn cofio dim. CANLYNIAD CYNGAWS ENLLIBIO. Dydd Mawrth o fiaen y Cofrestrydd Mr. Thos. Jones, yn yr Adeiladau Sirol, Bl. Ffestiniog, cynhaliwyd Llys Methdaliadol. Yr oedd amryw achosion i ddod ger bron, ond gohir- iwyd hwy hyd dranoetn yn Portmadoc. Holwyd y dyledwyr gan Mr. J. Tobias, y Dirprwy-dderbynydd Swyddogol. ACHOS GRIFFITH GRIFFITHS. Mewn atebiad i Mr. Tobias, dywedodd y Dyledwr ei fod yn byw yn 8. Ynys Terrace, Bl. Ffestiniog. Gwnaed ef yn Fethdalwr ar ei gais ef ei hun Chwefror 20. Yr oedd yn 61 mlwydd oed, ac yr oedd wedi byw yn Ynys Terrace am 28 mlynedd. Aeth y ddedfryd ynei erbyn yn y Frawdlys mewn cyngaws am enllib gyda £ 5 iawn, a /60 Is 4c o gostau. Golygai gost ei gyfreithiwr ei hun /80. Rhoddodd ei dy oedd a 24 o brydles heb redeg arno i'w gyfreithiwr, a 24s oedd y ground rent. Talodd Mr. Phillips ^16 3s 9c i gael y ty yn rhydd yn Tachwedd di- weddaf. Yr oedd ef yn hawlio y ty yn awr am y swm hwnw, -1-80 ei gostau, a'r^6 arall dalodcl Nid oedd dim eiddo ganddo at dalu" i'r un enillodd yn y cyngaws, na i'r un o'r wyth eraill y cafodd werth f 44 5s 9c o nwyddau ganddynt, Bu yn gyru peiriant o'r enw "Taffy" yn chwarel Foty a Bowydd, ond gwneyd gwaith creigiwr yr oedd yn bresenoi, ac enillai tua £ 4 10s y mis. Hyd o fewn chwe mis yn ol yr oedd mewn sefyllfa i allu talu i bawb. Daeth Margaret Edwards, cymydoges iddo, a cyngaws yn ei erbyn ef a'i wraig am enllib. Cafodd ei gynghori i wrthwynebu yr achos, ond collodd. Dyfarnwyd ei fod i dalu £ 5 o iawn a'r costau. y rhai oeddynt yn £ 66. Yr oedd ei gostau ef ei hun yn fawrion iawn. Mr. D. White Phillips oedd ei gyfreithiwr ef, ond ni wyddai beth oedd ei gostau, Mr. D. White Phillips,—" Dros £ 80." Y Dyledwr, Wyrach. Wn i ddim." Cafodd wys gan Miss Brymer gan nad oedd am dalu yr arian dyledus iddi. Collodd yr achos hwnw hefyd. Yn Hydref, cafcdd wys ynglyn a'r enllib. Yr oedd ei dy yn Nghlwb Criccieth, ond yr oedd bron wedi talu y Clwb allan. Ni thalodd ddimeu i Mr. Phillips, ond cafodd fenthyg ganddo i fyned yn mlaen gyda'r cynghaws. Fe dalodd £ 70 am ei dy, a chafodd fenthyg y swm yn llawn gan y Clwb. Yr oedd 23 mlydedd o'r brydles yn aros ar y ty. Pryn- odd ef ddeng mlynedd yn ol. £ 15 13s 3c oedd yn aros ar y ty heb ei glirio o'r Clwb. Talwyd y swm hwnw drosto gan Mr. Phillips, a rhodd- odd yntau y ty drosodd iddo er mwyn myned yn mlaen gyda'r cynghaws. Cafodd arian gan Mr. Phillips yn bersonol at draul y cyngaws; a £7 i £8 rhwng y cwbl. Ni thalodd efe ei hun ddimeu at y costau. Nid oedd ganddo ddint eiddo yn awr, gan fod ei dy a'i ddodrefn wedi myned. Credai y gallasai dalu i bawb oni bat am y cynghaws am enllib. Addefodd fod ei ddyledion cyn hyny yn £40, ond yr oedd y ty a'r dodrefn yn werth digon i'w clirio. Yr oedd yn credu y buasai yn enill yn Dolgellau. Nid oedd ganddo ddychymyg y buasai y cyngaws ya costio cymaint iddo enill oedd ei feddwl am wneyd. Yr oedd y dodrefn wedi eu prynu gan Mr. Phillips Ni symudodd ef ddim o'r ty. Yr oedd Owen Jones Ellis wedi symud bwrdd ddeng mlynedd yn ol. Ni symudwyd peiriant gwnio, gan na fn ganddynt yr un er's tair blynedd. Tegan longau (i s pientyn chwaren) yn unig a fu ganddo yn ci dy. Ni symudwyd chest of drawers o'i dy. Yr oead yn dywedyd yy ddifritol ;*r ei oedd wedi symud dim o'r ty yn adeg y mtjrhtb iiad. Mewn atebiad 1 Hugh Williams (Mri. R 0. Jones & Dav\&;}; Yr oedd yn sicr i Mr Pli?'lli.ps (, ei g.s?'re i t?  ?, ei gyfarwyddo i fyned ymlaen gydaV achos n tnliib. Er nad oedd ganddo ddimeu i rfod a'r gost, ietli vii mlaen. Nid oed s • ido y symad lleiaf* y byddai y costau n. drymion. Yr oedd y-a credu y dylasai enuL Gwnaed cynygiad i'r achos gael ei wrandav yn Llys y Manddyledion, ac yr oedd Mr Phîllipsyn ei gynghori i gyd- synio, ond yr oedd ef am fyned yn mlaen i Dol- gellau er nad oedd ganddo arian' Yn Tachwedd y cafodd y ty o'r Clwb, a chyflwynodd ef dros- odd i Mr Phillips yr un diwrnod. Yr oedd pob- peth yn y ty pan oedd Mr John Davies yr ar werthwr yno, ag oedd yno yn awr ni symud- wyd dim. Pwyswyd llawer ar y Dyledwr i gael y pethau uchod ganddo, Dywedai nad oedd yn cofio dim," a'i fod yn clywed yn drwm," &c,, pan roddid y cwestiynau iddo. Yr oedd Mr D. White Phillips yn gwylio yr achos ar ei ran, a Mr Hugh Williams dros y gofynwyr. Cauwyd yr archwiliad i gael ei ail agor os ceid nad oedd pethau yn gywir yn nglyn a'r dodrefn.

ACHOS OWEN HUGHES.