Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

— —————— —————— in. AT EIN…

NODIADAU WYTHNOSOL.

NODION 0"R -CYLQH.

Dyledwvr yn cofio dim.I

ACHOS OWEN HUGHES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ACHOS OWEN HUGHES. Yr achos nesaf a ddaeth gerbron ydoedd eiddo Owen Hughes, Melinycoed, Llanrwst. Yr oedd Ma E. Davies Jones yn gwylio yr achos ar ei ran. Gosodid ei ddyledion i lawr 1319p 17s 10c a'i eiddo yn werth 552p Is 10c, ar wahan i'r dyledion llyfrau. Achos ei feth- daliad yn ol fel y gosodai ef y mater i lawr ydoeddColledion trwy ddyledion drwg. Gorfod talu premiums yswirio trymion. Coll- edion ar eiddo (stock). Colledien ar gyfranau yn Ariandy Cenedlaethol Cymru. Mewn atebiad i Mr Tobias dywedodd iddo ddechreu masnachu ddeng mlynedd a'r hugain yn ol, gyda chyfalaf o ddau gant o bunau. Ddeng mlynedd yn ol galwyd ei ofynwyr yn nghyd. Yr oedd ei ddylediou dros ddwy fil o bunau, a thalodd 10s y bunt o'r cyfryw allan o'i eiddo. Mri. Mahon, Boost & Howard, Lerpwl, benodwydyn ymddiriedolwyr. Rhodd- odd Bill of Sale i'w wraig ar eiddo yn y Felin ac yn y Ty am £200. 1 jMr. Tobias "Dau neu dri chant" a ddywed- asoch o'r blaen. Pa un sydd wir? Y Methdalwr: "Dau cant a gefais." Nid oedd wedi talu Hog erioed ar y swm. Fe ail gofrestrwyd y Bill of Sale. Y stock a gyn- wysid ynddo, ac nid oedd ganddo ef ddim ond oedd yn y Bill hwnw. Cyn ei fethdaliad yr oedd yn cadw masnach yn Melin-y-Coed, ac yn amaethu. Mr. Tobias: "A oes genych rywbeth i'w ddywedd am y Felin Isaf ? Methdalwr: Oes wrth gwrs." Mr. Tobias: Paham na fuasecli yn dywedyd hyny wrthyf o'r blaen ? Beth oedd eich amcan yn ceisio cuddio pethau fel hyn ? Methdalwr: "Yr wyf yn sicr o fod wedi dywedyd wrthych. Rhaid mai chwi ddarfu ddim deall." Mr. Tobias: "Na. Y mae pobpeth a ddywedasoch wedi ei roddi i lawr, ac y mae pob gair ydych )::1 ei ddywedyd heddyw yn cael ei roddi i lawr. Rhaid i chwi fod yn ofalus.