Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Llanrwst. !
Llanrwst. St. Mary.—H( Parch. T. Felix; 6, Parch. J. Morgan. St. Crwst.—10.30., Parch. J. Morgan; 6, Parch. T. Felix. Seion,- Parch. J. M. Jones, Bangor. Scotland Street.—Parch. T. O. Jones, Yspytty. Tabernacl .-Parch. W. C. Williams. F-,I)ellezer. -Parch. Horeb.—Parch. W. G. Williams, Eglwysbach. St- James.—Rev. H. Jones, Colwyn Bay. I enuel.—Mr. Francis, Carnarvon. Yn ystod y bregeth yn nghapel Horeb nos Sabbath diweddaf, cafwyd Unawd Cysegredig gan Miss Jones, Confectioner, Station Road. CYFARFOD TERFYNOL.—Ymgasglodddros 200 o bobl ieuangc Cymdeithas Lenyddol Seion at eu gilydcl nos Wener diweddaf i derfynu y tym- or. Yr oedd gwledd ardderchog wedi ei phar- atoi yr hon oedd yn cael ei rhoddi gan Miss Jones, Tynycaeau (is lywyddes) Mri Tudor Williams. W. H, Jones a Phillips, Bank Build- Ings, a Mr Walter Roberts, y Banc. Cyn dechren ar y wledd i'r corph cafodd y meddwl. ei wala o Anerchiad rhagorol gan y gweinidog y Parch \V. Thomas, ei destyn oedd—"Pa fodd y gallaf fod yn hapus?" Buasai yn dda genym allu ei rhoddi i'n darllenwyr ond ni chaniatta ein gofod, ond y mae yn dda genym ddeall nad yw ifyned ar goll, ymae Mr Roberts, Avon- dale yn garedig iawn wedi addaw dwyn y draul o'i hargraffu a'i rhauu i'r bobl ieuangc. Di- olchwyd yn gynes i Mr Thomas ar ran yr ael- odau gan Mr W. Williams, County School (Lly- wvdd y gymdeithas); a Mr W. Hughes, Gwern- for. Ar gynygiad y Parch W. Thomas a chef- nogiad Mr Hughes talwyd yr un diolchgarwch i Lywydd y gymdeithas am ei ffyddlondeb gyd- a'r gymdeithas a phob achos da arall. Yna awd i ysgafnhau y byrddau llwythog oedd yn gwenu arnom, a chafwyd caneuon ac adrodd- iadau gan Misses Thomas, George Street Roberts, Poplar Grove; Mr Hughes a Griffiths, Londou House; Lloyd, Borthwen Rd. a Tom Ellis, Denbigh Street; E. P. Jones, Station; O. Evans-Jones, Taidra E. Pughe, "Rhedegydd" Office. Wedi i Mr J. Richard Jones gynyg diolchgarwch i garedigion y gymdeithas, arwein- niodd Miss joues, London House, "Hen Wlad fy Nhadau," a therfynwyd noson ddityr dros ben. Cyfeiliwyd gan Mrs Jack Williams a Mr T. Lewis Roberts. Fel hyn y canodd Miss E. A. Evans, George Street i'r gymdeithas:- Noddwn ein gwyl Lenyddol,—yn wastad Hi estyn i'r dynol; Gyda'r rhin'gedy ar ei ol I dyfu feddyliau dwyfol. CYNGHERDD Y COR UNDEBOL.—Yr oedd y Church House wedi ei lanw hyd yr ymylon nos Iau diweddaf, i wrandaw ar y Cor Undebol yn rhoddi perfformiad o'r "Ddinas Sanctaidd," dan arweiniad y Proff. D. D. Parry. Cymer- wyd yr Unawdau gan Miss Mary King Sarah Talsarn; Miss Josephine Williams. Llangefni; Mr. Evan Lewis, Capel Curig: a Mr. Arthur Penrhyn, Blaenau Ffestiniog. Gwnaeth y Cor a'r Unawdwyr eu rhan yn ganmoladwy, ac yr oedd gymeradwyaeth gawsant yn ddigon o ernes fod y dref yn disgwyl ychwaneg o'r un un peth. Treuliwyd yr ail ran yn amrywiaethol fel y canlyn :-Unawd, "Blow, blow thou wintry wind," gan Mr. Arthur Penrhyn, encor, a canodd "The Yeomans Wedding Song." Unawd Sing, Sweet Bird," gan Miss Mary King Sarah, encoriwyd, a canodd Love the Pedlar. Cydgan gan y Cor "The Songs of the Virkings." Unawd "Nirvana," Mr. Evan Lewis, enncoriwyd a canodd "The Veteran Song." Unawd "Angus Mac'Donald," Miss Josephine Williams, encoriwyd a chanodd Unwaith eto'n Nghymru Anwyl." Unawd, "Father o O'Flynn," gan Mr. Penrhyn, encor- iwyd a canodd I Fyny bo'r Nod." Cydgan gan y Cor The Village Blacksmith," Mr. Ed. Jones, Dolgarrog, yn cymeryd yr Unawd. Dipyn yn Seisnigaidd oedd y wledd, tybed nad oedd caneuon Cymreig. CYfeiliwyd gan Mrs Watling Mr. B. J. Rich, a Mr. Morris Williams, The Library, yn Ysgrifenydd, a gwnaeth waith godidog. Y mae trigolion y dref a'r wlad yn llawenychu fod y Milynydd rhadlon Mr. Robert Edwards wedi cael awenau y Felin Isa i'w ddwylaw ei hun. Welldone Bob. Y mae y darllithiwr ieuangc Mr. Caradoc Mills yn cael galwadau parhaus y dyddiau hyn i ddarlithio. Y mae trigolion Trefriw yn cael y fraint o'i glywed nos Wener y Groglith. Heddyw (dydd Gwener), y mae y dyn fu yn difyru ei hun trwy dori ffenestri masnachdal Llanrwst, yn sefyll ei brawf yn Mrawdlys Dinbych. Hefyd hwnw gyhuddid o ladratta ieir o Pandy Tudur. CYFARFOD PREGETHU.—Y mae Eglwys Ebenezer (A), wedi rhoddi gwahoddiad i'r Parchn. D. Wynn Evans, Caer; a H. R. Will- iams. Colwyn Bay i gadw eu Cyfarfod Pregethu blynyddol, Gwener y Groglith. Ac Eglwys Horeb (W), yn disgwyl y Parchc, David Jones, Liverpool; a Richard Jones, B.A., Bwlchgwyn, i draethu yr hen hen hanes Sul a Llun y Pasg. Y mae rhagolygon addawol iawn am gyfarfod cystadleuol dan gamp yn Carmel, ger Llanrwst Gwener y Groglith. SOUTH AFFRICA.-Dr-g genym i ni beidio croniclo hanes y ddarlith ardderchog gafwyd yn Nghapel Horeb, nos Iau, Mawrth 22, gan y Parch. D. Gwynfryn Jones, Llandudno. Eg- lurwyd y ddarlith trwy gyfrwng lluserh, yr hon arolygid gan Mr, W. O. Williams, Llandudno. Yr oedd hon y ddarlith oreu glywson erioed, a cadwodd dorf luosog yn ddifyr am ddwy awr a haner. Llywyddid yn ol ei fedr arferol gan y meddyg rhadlon Dr. Williams, Penmachno. Y mae Mr. Isgoed Jones a Miss Jones, Plas- yndre,' wedi dychwelyd adref, ar ol bod yn y Canary Island am ddau fis. Edrycha y ddau yn dda. NOSON DDIFYR.—Dyna gafwyd yn nghapel y Tabernacl nos Wener diweddaf, dan lywyddiaeth y boneddwr rhadlon Mr. Jones, N. & W. Bank. Cymerwyd rhan mewn canu, ac adrodd gan blant y Band of Hope, ac y mae rhywun yn cymeryd llawer o drafferth gyda hwy. Hefyd cafwyd Darlith ragorol gan Mr. Caradoc Mills, ar "Ymhlith y bydoedd pell." Y mae ef yn boblogaidd iawn fel darlithwr. Mwynhawyd ei sylwadau yn fawr. Eglurid y Ddarlith drwy gael darluniau ar y canvas. ETO.-Nos Fawrth, ymgynullodd plant Gobeithluoedd Seion a'r Ysgol Genhadol yn Watling Street, i'r Lecture Room, i gyfranogi o wledd o de roddwyd iddynt gan nifer o garedigion. Am 7 o'r gloch cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol, pryd y cafwyd caneuon ac adroddiadau gan y plant, a bu Mr, Alfred Hughes, Compton House, yn garedig iawn' o roddi Magic Lantern Entertainment iddynt, yr hon fwynhawyd yn fawr. Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr. D. J. Williams, Board School. Y FFAIR.—Yr oedd y Ffair ddydd Mercher yn boblogaidd iawn. a gwerthwyd^nifer dda o wartheg, ond cwynid yn fawr fod y prisiau yn isel. Hyderwn y gwnaiff pethau wella yn fuan. YSGOL SIROL LLANRWST.—Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Llywodraethwyr dydd Iau diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol y Mri. John Roberts (Is-gadeirydd) W. J. Williams, W. H. Williams, D. J. Williams, H. Owen, W. Owen, y Parch. John Morgan. Miss Jones, Mrs Jones. Mri. P. Mc'Intyre (clerc); a Thos. Griffith (clerc cynorthwyol),—Derbyniwyd esgusodion drosabsenoldeb ar ran y Cadeirydd. Parch. Wm. Thomas, Mil. Sandbach. a Mr. Thomas Williams, Trefriw.—Yn unol a'r Scheme pasiwyd i gofnodi sedd Mr. Owen Hughes (un o'r Llywodraethwr), yn wag o herwydd ei fod wedi eieddyfarnu yn fethdalwr. -Cafwyd trafodaeth ar y cynllun o ddewis Cadeirydd, a phasiwyd mai priodol fyddai ei newid bob blwyddyn.-Penderiynwyd fod y Prif-feistr i gyflwyno adroddiad ar y priodoldeb o gynwys dysgu elfenau Cerddoriaeth yn Time Table yr ysgol.—Hefyd"pasiwyd fod y Clerc i anfon at Mr J. C. Davies, M.A,, Cyfarwyddwr Addysg Sir Ddinbych, er gwybod ai oedd y Dosbarth a gynhelid yn bresenol ar ddydd Sadwrn, ar gyferl Is-athrawon yr Ysgolion Elfenol, i'w gynal ar ol y Pasg. DRAMA DDIRWESTOL.—Yn Ysgoldy Capel Methodistiaid nos Wener diweddaf, cafwyd gwledd na chlywsom ei gwell er's llawer blwyddyn, a credwnj pe byddai ychwaneg o wrth-weithio y drwg o ymyfed trwy y ddull ymarferol hwn o weithio buasal yn llawer mwy effeithiol- Y Penawd:oedd "John Barleycorn," cymerwyd rhan y gwahanol gymeriadau yn effeithiol gan ylMri. T. W. Evans, Thomas Parry, Evan Jones, William Jones, Thomas Griffith, D. C. Hughes, William Jones, John Roberts, J. R. Lloyd, W. R. Willtams. R. D. Jones, Rt. Williams, Lewis Pierce, Misses Kitty Roberts, Annie Evans, Jenny Hughes, Mri. Albert Jones, J. Makin Edward Roberts, D. W. Evans, Dd. Williams, Ellis Roberts, R. H. Jones, D. L. Hughes. Arolygydd yr Esgyn- lawr oedd Mr. D. M. Davies. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, a phawb yn dymuno am weled y Cwmni yn cymeryd drama gyffelyb i fyny. CARMEL, GER LLANRWST, Nos Fawrth y 3ydd o Ebrill, cafwyd gwledd ragorol o De, Coffi. ynghydag amryfed fathau o gig-fwyd a danteithion, o dan arweiniad deuheuig ein parchus weinidog—Mr. H. Jones- Davies. Llywyddwyd gan Mr. Robert Lloyd, Nantwrach, Canwyd yn swynol iawn amryw weithiau gan Miss Ellis, ac hefydgan ei brawd, Mr. R. C. Ellis, y rhai ynewyllysgar adirodres addaethant i fyny i gynorthwyo a'r gais Mr. Owens. Diolchwyd o galon iddynt am eu parodrwydd. Cawsom anerchiadau pwrpasol iawn yn ystod y wledd, ac wedihyny. Cymer- odd amryw o blant y Band of Hope ran deilwng yn ystod y wledd, mewn adrodd, a chawsom ddadl, "Y Morwynion a'rMeddwyn," yr hon a encoriwyd. Yn wir yr oedd yr adroddiad naturiol iawn o'r ddadl ac yn hynod effeithiol mewn rhanau. Rhoddwyd araeth ddifyfyr, yn yr hon yr ymgeisiodd pedwar, y goreu oedd. Mr. O. Harker, NantyFedwen. Diolchwyd i'r chwiorydd am baratoi gwledd ardderchog, ac ymwahanwyd trwy ganu Dan dy fendith wrth ymadael." Gwerthwyd y gweddill o'r wledd i fyned i godi cronfa, neu at roddir gwobrwyon i blant y Band of Hope am eu ffyddlondeb.
I Hanes Buchedd Meirion.
I Hanes Buchedd Meirion. Dydd Mawrth, cynhaliwyd pwyllgor Heddlu Meirion yn y Bala. Ar gynygiad Mr. A. Osmond Williams, A.S., ail etholwyd Mr. O. Slaneg Wynne yn Gadeirydd. Dangosai Adroddiad y Prif Gwnstabl i 1695 o grwydriaid alw yn y Tlotai yn ystod y chwarter, ar gyfer 2687 yr un amser y llynedd lleihad o 992. Yr oedd mwy o 17 wedi eu dirwyo am gardota nag a wnaed y llynedd; a 31 wedi eu dirwyo am feddwi, yr hyn oedd yn gynydd o un. Chwech a gosbwyd am ladrata: llai o dri na'r llynedd. Dangoswyd boddhad wrth glywed yr adroddiad ffafriol hwn. Nid oedd yr un carcharor i'w brofi. a chafodd yr Arglwydd Raglaw bar o fenyg gwynion.
I Anfadwaith Abererch
I Anfadwaith Abererch Dydd Iau, yn Pwllheli, buwyd ar hyd y dydd yn gwrandaw ar y cyhuddiadau yn erbyn John Jones (" Coch Bach y Bala "), am ymgais i lofruddio Sarah Jones, 71 mlwydd oed mewn anedd-dy unig, a'i hysbeilio o ddeg punt, Galwyd lluaws o dystion i wrthbrofi haeriad y carcharor ei fod yn Llanbedrog, pedair milltir o'r lie, ar adeg yr ymosodiad. Dywedasant na chyrhaeddodd yno am dair awr ar ol yr ymosodiad. Siaradodd eraill am waith y carcharor yn talu am ddiod i ddieithriad yn y gwestai. Tystiodd yr Arolygydd Jones fod yr olion esgidiau o amgylch y ty yn cyfateb i eiddo y carcharor. Cymerodd y carcharor gofnodion helaeth o'r tystiolaethau, a chroes- holodd yn fanwl. Croesholodd yr Arolygydd am haner awr, ac ar y diwedd dywedodd ei fod wedi blino ac yn newynog. Gohiriwyd y Llys o naw o'r gloch y nos hyd boreu ddydd Gwener am una'rddeg, a buwyd trwy'r dydd yn gwrandaw yr achos yn mhellach. Traddodwyd y carcharor i sefyll ei brawf yn y Frawdlys.
Blaenau -Ffestiniog.I
Blaenau Ffestiniog. I CYFARFOD BLYNYDDOL Y GYMDEITHAS ADEILADU .-Nos Iau yn y Greffin Temperance Hotel, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cym- deithas Adeiladu Barhaol Sir Feirionydd. Llywyddwyd gan Mr. John Joseph Jones, cadeirydd y cyfarwyddwyr, ac yr oedd nifer dda yn bresenol.-Darllenodd Mr. Richard Jones, yr Ysgrifenydd medrus a gofalus y Fantolen a'r adroddiad am y flwyddyn 1905. Dangosai fod 75 o fenthyewyr ar y llyfreu. ac i dri o newydd ddod i mewn yn ystod y flwyddyn, ond talodd pedwar eu benthyciadau i tyny. Gwnaed elw clir ° C211 13 3, ac argymellid talu pum punt y cant i'r cyfranddalwyr, a throsglwyddo y gweddill i'r drysorfa wrth gefn yr hon sydd yn awr yn £ 478 2 2. Gwerth y gymdeithas yw f4952 6 10. Yr oedd adroddiad Mr Thomas Charles, yr archwillwr yn galonogol iawn. Elai dau o'r cyfarwyddwyr allan eleni, sef Mr. David Lewis, Maesgwyn, a Morris W, Jones, Glasdo House.—Pasiwyd i dalu £ 5 y cant, ac ail ddewisiwyd y Mri D. Lewis, a Mr. W. Jones fel cyfarwyddwyr. Dewisiwyd Mr. John J. Roberts, Llwynygell yn drysorydd, a Mr. R. T. Williams yn stewart am y flwyddyn.-Ar gynygiad Mr. Andreas Roberts a chefnogiad Mr. R. T. Williams pasiwyd i anfon cofion a chydymdeimlad y gymdeithas at Mr Robert E. Williams, Penrhyn a Mr. J. J. Reberts yn eu cystudd,—Yna cafwyd gair gan y cyfarwyddwyr a'r cyfranddalwyr,—Y cadeirydd a dywedodd fod golwg foddhaol iawn ar y gymdeithas, a gallesld gwneyd llawer rhagor o fasnach pe buasai ganddynt fwy o gyfalaf i roddi allan fwy o fenthyciadau. Yr hyn oedd eisiau ydoedd rhagor o gyfalaf.—Mr Morris W. Jones, a ddywedodd fod y gymdeithas yn gwneyd yn dda a hyny yn ei phwysau naturiol ei hun. Dangos- ai hyny fod ei chyflwr yn ddiogel. Yr oedd yn awr ar sylfaeni cedyrn, er y stormydd mawrion a gafodd-Mr. David Lewis a ddywedodd eu bod fel cyfarwyddwyr yn arfer pob gofal gda'r eiddo. Carai ef weled mwy o arihn yn dod i mewn. Rhoddai y gymdeithas elw da ar yr arian gwell elw nag a geid yn gunman :arall- Mr John Owen, a ddatganodd ei lawenydd o weled fod y gymdeithas yn parhau mewn mor rhagorol. Yr oedd y drysorfa wrth gefn yn un dda iawn i gyfarfod ag unrhyw anffawd allasai ddigwydd.—Mr. Andreas Roberts a ddywedodd i ffyddlondeb mawr gael ei ddangos gan y swyddogion yn ystod y flwyddyn. Tynwyd y £500 dyled oedd ar y gymdeithas i'r Ariandy ddechreu y flwyddyn i lawr i £ 117, ac eto yr oeddid yn gallu talu £ 5 y cant o log. Rhoddwyd amryw fenthyciadau newyddion yn ystod y flwyddyn, ond bu raid gwrthod amryw o rai mawrion-rhy fawrion i'r gymdeithas allu eu cyfarfod yn sefyllfa bresenol ei chyllid. Credai ef yr elai y cymylau presenol oeddynt uwchben y lie yn fasnachol ymaith, ond nid yn fuan, yr oedd yn ofni, Teimlai yn ddiolchgar iawn i'r Cadeirydd am ei sel a'i ffyddlondeb,- Yr ysgrifenydd a ddywedodd fod llawer mwy o werth mewn eiddo gan y gymdeithas nag ydoedd yr arian oedd amynt yn fenthyc, Yr oedd y Ilog yn eithriadol o dda yn fwy nag a roddai yr un gymdeithas arall gyftelyb. Yr oedd y Gymdeithas wedi byw dros y cyfnod cyfyng fu ami; ac yn ol ei chyfalaf presenol yr oedd yn iach a ehadam.-Ar gynygiad Mr. T. Jones a chefnogiad Mr. John Owen, pasiwyd pleidlais o ddiolch i'r cyfarwyddwyr am eu gwasanaeth ffyddlon a gwerthfawr i'r gym- deithas. YR ARDDANGOSFA.-Cyfarfu nifer dda nos Iau i ystyried y priodoldeb o gynal Arddangos- fa eleni eto. Wedi trafodaeth bwyllog pender- fynwyd i'r Ysgrifenydd (Mr William Jones), alw cyfarfod cyffredinol yn nghyd trwy gylch- lythyr, Rhoddwyd ar ddeall fod y sefyllfa arianol yn foddhaol ac amlygwyd cryn sel gan y rhai ddeuddent yn nghyd o blaid cael ardd- angosfa o'r fath oreu y flwyddyn hon. YMFUDO.—Parhau i ymfudo y mae pobl o'r ardal. Mae lluaws mawr yn ymadael gan wneyd eu trefniadau trwy Mr William Jones, y goruchwylydd ymfudol lleol. Aeth amryw am Awstralia, a wyth am America yr wythnos hon. Yn ei plith yr oedd Mr a Mrs William Williams, Haulfryn Terrace, MORDAITH I LERPWL &c.-Gwelwn fod agerdd-long St Tudno, am ddechreu ar ei theithiau ddydd Iau Ebrill 12. Bydd yn rhedeg rhwng Lerpwl Llandudno, a Beaumaris. Dyma gyfle am fordaith dros wyliau y Pasg. Gellir cael pob manylion a thocynau yn y Co- operative Stores, Blaenau. SWPER AC ANRHEGU,-Nos Iau yn y Greffin Temperance Hotel, cyfarfyddodd pobl ieuainc Glandwr (M. C.), i fwynhau Swper. Rhifai y cwmni tua deugain. Yr oedd hyn wedi ei drefnu yn benaf gan y cyfeillion cerddorol yn y lie. Gwnaeth pawb berffaith chwareu teg a'r danteithion oedd ar eu cyfer, ond aeth pobpeth ymlaen yn hollol weddus ac mewn trefn. Ar 01 y wledd cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol hynod o ddifyr dan arweiniad Dewi Mai o Feirion. Cafwyd Anerchiadan Barddonol gan y Mri John Williams, W. O. Roberts, a'r Ar- weinydd. Cafwyd adroddiadau gan Miss M. E. Williams, a Mr W. O. Roberts. Datganwyd gan y Mri Richard Vaughan, Thomas Jones, Griffith Jones, John E. Pritchard, Griffith Jones Roberts, Miss Hannah J. Roberts a Mrs Rosina Jones. Yr oedd gwasanaeth Mr David Francis (y Telynwr Dall), wedi ei sicrhau, yr hwn a encoriwyd bob tro. Canodd Dewi Mai o Feirion Gerdd y Crefftau," gyda'r tanau ac encoriwyd ef, a rhoddodd yr Hen Delynor." Prif waith y cyfarfod oedd cyflwyno anrheg o Album hardd i Miss Laura E. Jones, am ei gwasanaeth fel cyfeilyddes ar achlysuron neill- duol i'r cantorion. Yr oedd hyn yn syndod hapus i lu heblaw i'r sawl anrhydeddid, gan i'r peth gael ei wneyd yn gyfrinachol gan nifer o gantorion. Cyflwynwyd yr Anrheg gan Mr R. Vaughau gyda sylwadau pwrpasol, a chydnab- yddwyd y rhodd gan yr Arweinydd ar ran y derbynydd. Mae hyn yn brawf gonest mor gymeradwy yw Miss Jones yn y Ile. Talwyd y diolchiadau i bawb ac yn arbenig i Mrs Thomas am y wledd. Ymgeisiodd llu ar yr Unrhyw Unawd yn fyrfyfyr a'r goreu oedd Mr Thomas Jones. Cyfeiliwyd gan Miss Laura E. Jones, Glasgow House. Treuliwyd noson ddifyrus a hir gofiir.-G CANU.—Gwelwn i Mr. Arthur Penrhyn fod yn gwasanaethu yn Llanrwst nos Iau diweddaf. Cymerai ran yn yr Oratorio Holy City (Gaul), ac yn yr adran amrywiaethol o'r Cyngherdd. Cor Undebol Llanrwst o dan ar- weiniad Mr. D. D. Parry a ddatganai yr Oratorio. Y FASNACH LECHI.-Heno (nos Iau) am saith o'r gloch, ynysgoldy Garregddu traddodir Anerchiad ar y Dirwasgiad presenol yn y Fasnach Lechi," gan Mr Howell J. Williams. Y mae Mr Williams yn adnabyddus i amrvw o honom, fel gwr o gyrhaeddiadau uchel. Y mae yn un o brif adeiladwyr Llundain, ac yn aelod amlwg ar Cyngor Sirol y Brif Ddinas, ac fel y cyfryw mae ganddo farn aeddfed ar y pwngc y bwriada siarad arno, a dylem roddi Parhad yn tudalen 8.
Advertising
s £ i MA[ • • RHAID MYNED. AT ° y a I ° GWAED. Y Gwaed yw'r Bywyd. Y Gwaed yw'r Nerth. Y Gwaed yw Pobpeth. Y mae pawb-y cbwi yn eu mysg-yn agored i nifer fawr 0 glefydau. Paham feUy ? Am fod Anmhurdeb yr fawr 0 =4,lb y Dwfr, Anmburdeb Bwydydd, ac Aumhurdeb pethau amgylchynol yn creu Anmhnrdeb y GWAED. A phan bydd y GWAED yn cael ei lygru a'i wenwyno, mae yn gwneyd yn bosibl i'r SOURVY, EOZEMA, TARDDIANTAU Y CROEN, LLYGRIADAU, RASH, OOESAU OLWYFEDIG PENDDYNOD, RHEUMATISM, CORNWYDON, NEURALGIA, A llu o Glefydau eraill y Oorff a'r Ymenydd, i rnthro ar wahanol ranan o'r cyfansoddiad. Fe ellir atal a rhagflaenn y rhan fwyaf o'r clefydau ag sydd yn blino yr hil ddynol, drwy gadw y GWAED yr BUR. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod 'Kir T In S,5 0 HUGHES'S BLOOD PILLS YN PURO Y GWAED, AC YN EI GADW YN BUR. sarmynweh Heb weled llun hyny y Galon Twyll ar bob box y&r ydyw. Os byddwch yn dioddef oddiwrth DOLUR PEN, AFU DDRWG, DIFFYG TRAUL OORPFRWYMEDD, POEN Y CEFN, NERVES EGWAN, BILIOUSNESS, ANHWYLDERAU Y GWYNT, BRYD. CYLLA A'R ARENAU. ISEL YSBRYD, Cofiwch fod gwreiddyn y drwg yn y GWAED, a bod yn rhaid myned at y GWAED cyn y gellir cael iachad gwirioneddol. Mae HUGHES'S BLOOD PILLS yn cael effaith nniongyrchol ar y GWAED, ac ar yr hot gyfansoddiad. Rhoddwch brawf arnynt. Ar werth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine am Is lie, 2s 9c, 4s 6c, neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P. O. at JACOB HUGHES, M.P.S., L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. •« — Rhoddwch brawf ar Gomer^s, ? -??  j *?*?*?* j?< ?/r ? *? Balm ????? c?sJm MAE II GOMElt S BALM YN EH AT BOB CLWYF, AC YN HYNOD AC ANBFAELEDIG AT BOB MATH 0 GLEFYDAU ALLANOL Y OCFFR. A oes genych Goes Ddrwg. Y mae GOMER 8 BALM yn iachan y Olwy braidd yn wyrthiol. Hefyd Archollion, Llosgiadau, Tarddiantau y Cnawd, Exzema Cedwir Ilawer Aelod. Drwy ddefnyddio GOMER S BALM. Y mae yn iachaa Orach ar y Pen a Gwynebau Plant, Yscaldanan, Piles, Llygnadan Plant a Benywod, Malaethau, :Tarwden, Traed Chwysedig, Gout, Gwynegon, Scurvy. Blood Poison. Gair at Famau, Gweithwyr Haiarn, Alean, Glo, Cerrig Ffermwyr, Morwyr, Engineers, Ymdeithwyr, CrefTtwyr o bob math, in ellir cael dim mor effeithiol a sicr a Gomer's Balm, at bob Archoll a Damwain i'r Onawd, a sicrhad Bioo Poison, marwol. SYNDOD YN SWYDD DEVON. Syr.-Mae eich Eli, sef Gomers B'tlrn, yn feddyginiaeth rhyfedd o effeithiol. Fe gafodd wyr i mi ei ysgaldann yn dj dj rwg iawn yn ei gefn a'r bol. Fe gafodd y Gomer's Balm 61 roddi arno mor fuan ag oedd yn bosibl, yn mhen yr wythnos yi- oedd yn abl I'w gael ei wisgo, ac yn bur fuan yr oedd ei wellhad yn drwyadl. Ar ol hyny fe gafodd fy merch ymosodiad llym iawn ran y Blast (neu'Erysipelas) ar ei choes, ar ol dioddef am chwech wythnosjaeth o dan driniaeth Doctor, yr hwn wnaeth mawr ddrwg iddi. Wedi hyny hi a ddefnyddiodd Gomer's Balm < yr hwn a'i gwellhaodd mewn ychydig ddyddiau. Mae dwseni wedi bod yn gofyn am enw yr eli, ac y mae pawb wedi ei brofi yn anmhrisiadwy. Mae yn bity nad yw pawb ddim yn gwybod am dano.—H. LEWIS, Brixham,(Devon. CLWYF GYMAINT SAUCER. Syr.—Ni allaf byth ddiolch n am eich Gomer's Balm, y mae yn iachan fy nglun flym iawn. Mae fy nglun wedi bod yn ddrwg iawn am n'mlynedd. elwyf mawr cymaint a sauccr, ac yn boe: v iawn, pawb yn rhyfeddn fy mod yn fyw, mae wedies 9 ythan y poen yn rhytedd. Yr wyf wedi gwario punotad lawer i ddim diben. Fe ddylai pawb wybod am dano. J. BUTLER, Dale-end, Dalarston. Rhodder Praw arno. Gofyner am Gomers Balm. Na thwyller chwi, mynweh weled enw "JACOB HUGHBS" ar bob blwch. Ar werth gan bob Chemist nen werthwr Patent Medicine an: Is lie., nen danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P, O. i'r gWLentnurwr, JACOB HUGHES, M.P.S,L.D.S MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH, CARDIFF a
ACHOS OWEN HUGHES.
Methdalwr: Yr wyf yn dywedyd pobpeth ydwyf yn ei gofio. Mae yn anhawdd iawn coflo pobpeth." Bu yn gwneyd masnach yn Cambrian Stores, Denbigh Street, Llanrwst. Rhoddodd brydles ar y lie hwnw i Mr. John Owen wyth mlynedd yn ol. Yr oedd yn Melin y coed, felin, ty, fferm, ac wyth o dai. Glan Llyn Terrace y gelwid y tai, ac yr oedd eu hardrethi yn cyrhaedd 28p y flwyddyn. Jane Roberts oedd Perchenoges y lie, a gadawodd yr eiddo i gyd i'w mherch, sef ei wraig ef. Yr oedd lOOp o arian ar y lie y pryd hwnw, a chafwyd 600p arno gan y diwedd- ar David Hughes Tyngwern, Yr oedd ei wraig wedi marw er's tair blynedd, a chafodd y plant, pedwar o honynt, arian o newydd ar y lie y llynedd. Efe oedd wedi talu y llog hyd nes bu farw ei wraig, a'r plant dalasant wedi hyny, gan fod yr eiddo yn myned iddynt o dan ewyllys eu mham. Rhoddodd i fyny ei fasnach yn Chwefror am fod rhai o'r gofynwyr yn pwyso arno. Nid oedd yn sicr a oeddynt wedi dod arno, ond yr oedd yn eu hofni. Mr. Tobias Yn awr. Mae yn rhaid i chwi gofio eich bod ar eich llw i ddywedyd y gwir, fel yr oedd pethau, ac fel y maent yn awr. Oni ofynais i chwi pan ddaethoch i wneyd eich hun yn Fethdalwr a oedd y Bailiff i mewn, a dywed- asoch ei fod. A oedd ef i mewn a'i nad oedd ?" Methdalwr: Oedd, yr oedd wedi dod i mewn." Yr oedd tair o wartheg yn Melinycoed pan wnaeth ei hun yn Fethdalwr. Na, na un oedd yno," meddai drachefn. Yr oedd yno geffyl, dwy drol, a lurry, ac yr oeddynt yno o hyd. Bu iddo ddadgloi drws y swyddfa, ond ni chymerodd ddim oddiyno. Niwyddai ei fod yn troseddu wrth agor y drws hwnw. Yr oedd lease ar y Felin am 21 mlynedd. Enwodd y pethau perthynent i'r Felin Isaf. Gyda golwg ar Cambrian Stores, yr oedd prydles ar y He. Yr oedd wedi cytuno i brynu y lie ddiwedd yr haf diweddaf, a rhoddodd wystl o 13p i lawr. Gwnaeth hyny, er yn gwybod nad oedd ganddo ddim at dalu am y lie, heb eu benthyca. Credai y gwnelsai elw ar y fargen. 550p oedd y pris y cytunwyd aruo. Yr oedd ganddo tri ty Llanddoget y rhai a ardrethent i 12p y flwyddyn, ac yr oedd berchenog Ffridd elwid y "Fron." Wyth erw oedd hono, ac yr oedd yn werth 5p o ardreth blynyddol. Yr oedd 300p o arian ar y Tai a'r Fron. Yr oedd gan ei wraig dy yn 40, Gsorge Street, ardreth hwnw oedd 14p. 150p roddodd hi am dano, ac yr oedd gan merch Cefngadfa, Pentrefoelas, arian arno. Ni fu a wnelo ef o gwbl o'r ty hwn nac a'i ardreth. Adgyweirioddy Cambrian Stores a Melinycoed, ond yr oedd llawer o flynyddoedd er hyny. Yr oedd ganddo amryw Policies yn y Vt ocol t r Bank. Llanrwst. Yr oedi PQlicy i vd yn y N. & S. W. Bank, LIanrwst. vru done am 5p gan William Owen. yn ei ddyled o 50p, ac yr ne cl'V v yn settlo ycyfrif rhyngddynt. Yr oedd y Pw-icy am 200p a'i Surrender Value yn Op. Yn y fan hon, cyflwynodd Mr. Davies Jones iyfyr Bank i Mr, Tobias. I Mr. Tobias. Sut na fuasech rhwi wedi rhoddi hwn i mi o'r blaen? Sut yroeddych yn cuddio peth fel hyn oddiwrlhyf ? Y Methdalwr: "Nidoeddwn yn meddwl ei fod o unrhyw werth i chwk" Y Cofrestrydd: "Buasai o werth i chwi pc buasai y dyn yma'n marw." Mr. Tobias Yr ydych ar eich llw wedi dy- wedyd eich bod yn rhoddi i mi gyfrif o bob petn. eich eiddo a'ch dyled. A oes genych lawer o bethau fel hyn wedi eu cuddio ?'' Methdalwr: Nid wyf wedi cuddio dim, or.d y mae dyn mewn trafferlh fel hyn yn ffwdanus, ac yn anghofio llawer iawn o bethau." Nid oedd ganddo lyfrau Bangciau eraill. Yr oedd yn feichiau dros nifer fawr o bersonau, a nifer fawr drosto yntau. Symudwyd chwech o foch a heffer i Hendrewen, ty ei ferch. Ni roddodd orchymyn i'w symud, ond nid ymyrodd yn yr achos. Yr oedd ardreth am y Felin a'r Ty yn ddyledus i'r ferch. Yr oedd wedicael gwys gan Mr. Sargeant, Lerpwl, ac yn disgwyl y Bailiff » mewn. Wythnos cyn y methdaliad oedd hyn. Gan Mr. Watling y prynodd y fuwch am £12 10s, ond ni thalodd am dani. Yr oedd yn pyled-Mr. Watling o f 55. Aeth buwcha merlen i Mr. Watling at y ddyled hono. Symudwyd y pethau i Hendrewen ac i Mr. Watling wrth weled yr ystorm yn dod. Mr. Tobias: "A oeddych yn ystyried symud pethau fel hyn yn onest ? Methdalwr: D'wn i ddim beth sydd onest wedi cael fy nhwyllo gymaint fy hunan." Ychydig at dalu yr ardreth dyledus ydoedd y moch a'r heffer. Gohiriwyd yr Arholiad.