Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Llanrwst. !

I Hanes Buchedd Meirion.

I Anfadwaith Abererch

Blaenau -Ffestiniog.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Blaenau Ffestiniog. I CYFARFOD BLYNYDDOL Y GYMDEITHAS ADEILADU .-Nos Iau yn y Greffin Temperance Hotel, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cym- deithas Adeiladu Barhaol Sir Feirionydd. Llywyddwyd gan Mr. John Joseph Jones, cadeirydd y cyfarwyddwyr, ac yr oedd nifer dda yn bresenol.-Darllenodd Mr. Richard Jones, yr Ysgrifenydd medrus a gofalus y Fantolen a'r adroddiad am y flwyddyn 1905. Dangosai fod 75 o fenthyewyr ar y llyfreu. ac i dri o newydd ddod i mewn yn ystod y flwyddyn, ond talodd pedwar eu benthyciadau i tyny. Gwnaed elw clir ° C211 13 3, ac argymellid talu pum punt y cant i'r cyfranddalwyr, a throsglwyddo y gweddill i'r drysorfa wrth gefn yr hon sydd yn awr yn £ 478 2 2. Gwerth y gymdeithas yw f4952 6 10. Yr oedd adroddiad Mr Thomas Charles, yr archwillwr yn galonogol iawn. Elai dau o'r cyfarwyddwyr allan eleni, sef Mr. David Lewis, Maesgwyn, a Morris W, Jones, Glasdo House.—Pasiwyd i dalu £ 5 y cant, ac ail ddewisiwyd y Mri D. Lewis, a Mr. W. Jones fel cyfarwyddwyr. Dewisiwyd Mr. John J. Roberts, Llwynygell yn drysorydd, a Mr. R. T. Williams yn stewart am y flwyddyn.-Ar gynygiad Mr. Andreas Roberts a chefnogiad Mr. R. T. Williams pasiwyd i anfon cofion a chydymdeimlad y gymdeithas at Mr Robert E. Williams, Penrhyn a Mr. J. J. Reberts yn eu cystudd,—Yna cafwyd gair gan y cyfarwyddwyr a'r cyfranddalwyr,—Y cadeirydd a dywedodd fod golwg foddhaol iawn ar y gymdeithas, a gallesld gwneyd llawer rhagor o fasnach pe buasai ganddynt fwy o gyfalaf i roddi allan fwy o fenthyciadau. Yr hyn oedd eisiau ydoedd rhagor o gyfalaf.—Mr Morris W. Jones, a ddywedodd fod y gymdeithas yn gwneyd yn dda a hyny yn ei phwysau naturiol ei hun. Dangos- ai hyny fod ei chyflwr yn ddiogel. Yr oedd yn awr ar sylfaeni cedyrn, er y stormydd mawrion a gafodd-Mr. David Lewis a ddywedodd eu bod fel cyfarwyddwyr yn arfer pob gofal gda'r eiddo. Carai ef weled mwy o arihn yn dod i mewn. Rhoddai y gymdeithas elw da ar yr arian gwell elw nag a geid yn gunman :arall- Mr John Owen, a ddatganodd ei lawenydd o weled fod y gymdeithas yn parhau mewn mor rhagorol. Yr oedd y drysorfa wrth gefn yn un dda iawn i gyfarfod ag unrhyw anffawd allasai ddigwydd.—Mr. Andreas Roberts a ddywedodd i ffyddlondeb mawr gael ei ddangos gan y swyddogion yn ystod y flwyddyn. Tynwyd y £500 dyled oedd ar y gymdeithas i'r Ariandy ddechreu y flwyddyn i lawr i £ 117, ac eto yr oeddid yn gallu talu £ 5 y cant o log. Rhoddwyd amryw fenthyciadau newyddion yn ystod y flwyddyn, ond bu raid gwrthod amryw o rai mawrion-rhy fawrion i'r gymdeithas allu eu cyfarfod yn sefyllfa bresenol ei chyllid. Credai ef yr elai y cymylau presenol oeddynt uwchben y lie yn fasnachol ymaith, ond nid yn fuan, yr oedd yn ofni, Teimlai yn ddiolchgar iawn i'r Cadeirydd am ei sel a'i ffyddlondeb,- Yr ysgrifenydd a ddywedodd fod llawer mwy o werth mewn eiddo gan y gymdeithas nag ydoedd yr arian oedd amynt yn fenthyc, Yr oedd y Ilog yn eithriadol o dda yn fwy nag a roddai yr un gymdeithas arall gyftelyb. Yr oedd y Gymdeithas wedi byw dros y cyfnod cyfyng fu ami; ac yn ol ei chyfalaf presenol yr oedd yn iach a ehadam.-Ar gynygiad Mr. T. Jones a chefnogiad Mr. John Owen, pasiwyd pleidlais o ddiolch i'r cyfarwyddwyr am eu gwasanaeth ffyddlon a gwerthfawr i'r gym- deithas. YR ARDDANGOSFA.-Cyfarfu nifer dda nos Iau i ystyried y priodoldeb o gynal Arddangos- fa eleni eto. Wedi trafodaeth bwyllog pender- fynwyd i'r Ysgrifenydd (Mr William Jones), alw cyfarfod cyffredinol yn nghyd trwy gylch- lythyr, Rhoddwyd ar ddeall fod y sefyllfa arianol yn foddhaol ac amlygwyd cryn sel gan y rhai ddeuddent yn nghyd o blaid cael ardd- angosfa o'r fath oreu y flwyddyn hon. YMFUDO.—Parhau i ymfudo y mae pobl o'r ardal. Mae lluaws mawr yn ymadael gan wneyd eu trefniadau trwy Mr William Jones, y goruchwylydd ymfudol lleol. Aeth amryw am Awstralia, a wyth am America yr wythnos hon. Yn ei plith yr oedd Mr a Mrs William Williams, Haulfryn Terrace, MORDAITH I LERPWL &c.-Gwelwn fod agerdd-long St Tudno, am ddechreu ar ei theithiau ddydd Iau Ebrill 12. Bydd yn rhedeg rhwng Lerpwl Llandudno, a Beaumaris. Dyma gyfle am fordaith dros wyliau y Pasg. Gellir cael pob manylion a thocynau yn y Co- operative Stores, Blaenau. SWPER AC ANRHEGU,-Nos Iau yn y Greffin Temperance Hotel, cyfarfyddodd pobl ieuainc Glandwr (M. C.), i fwynhau Swper. Rhifai y cwmni tua deugain. Yr oedd hyn wedi ei drefnu yn benaf gan y cyfeillion cerddorol yn y lie. Gwnaeth pawb berffaith chwareu teg a'r danteithion oedd ar eu cyfer, ond aeth pobpeth ymlaen yn hollol weddus ac mewn trefn. Ar 01 y wledd cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol hynod o ddifyr dan arweiniad Dewi Mai o Feirion. Cafwyd Anerchiadan Barddonol gan y Mri John Williams, W. O. Roberts, a'r Ar- weinydd. Cafwyd adroddiadau gan Miss M. E. Williams, a Mr W. O. Roberts. Datganwyd gan y Mri Richard Vaughan, Thomas Jones, Griffith Jones, John E. Pritchard, Griffith Jones Roberts, Miss Hannah J. Roberts a Mrs Rosina Jones. Yr oedd gwasanaeth Mr David Francis (y Telynwr Dall), wedi ei sicrhau, yr hwn a encoriwyd bob tro. Canodd Dewi Mai o Feirion Gerdd y Crefftau," gyda'r tanau ac encoriwyd ef, a rhoddodd yr Hen Delynor." Prif waith y cyfarfod oedd cyflwyno anrheg o Album hardd i Miss Laura E. Jones, am ei gwasanaeth fel cyfeilyddes ar achlysuron neill- duol i'r cantorion. Yr oedd hyn yn syndod hapus i lu heblaw i'r sawl anrhydeddid, gan i'r peth gael ei wneyd yn gyfrinachol gan nifer o gantorion. Cyflwynwyd yr Anrheg gan Mr R. Vaughau gyda sylwadau pwrpasol, a chydnab- yddwyd y rhodd gan yr Arweinydd ar ran y derbynydd. Mae hyn yn brawf gonest mor gymeradwy yw Miss Jones yn y Ile. Talwyd y diolchiadau i bawb ac yn arbenig i Mrs Thomas am y wledd. Ymgeisiodd llu ar yr Unrhyw Unawd yn fyrfyfyr a'r goreu oedd Mr Thomas Jones. Cyfeiliwyd gan Miss Laura E. Jones, Glasgow House. Treuliwyd noson ddifyrus a hir gofiir.-G CANU.—Gwelwn i Mr. Arthur Penrhyn fod yn gwasanaethu yn Llanrwst nos Iau diweddaf. Cymerai ran yn yr Oratorio Holy City (Gaul), ac yn yr adran amrywiaethol o'r Cyngherdd. Cor Undebol Llanrwst o dan ar- weiniad Mr. D. D. Parry a ddatganai yr Oratorio. Y FASNACH LECHI.-Heno (nos Iau) am saith o'r gloch, ynysgoldy Garregddu traddodir Anerchiad ar y Dirwasgiad presenol yn y Fasnach Lechi," gan Mr Howell J. Williams. Y mae Mr Williams yn adnabyddus i amrvw o honom, fel gwr o gyrhaeddiadau uchel. Y mae yn un o brif adeiladwyr Llundain, ac yn aelod amlwg ar Cyngor Sirol y Brif Ddinas, ac fel y cyfryw mae ganddo farn aeddfed ar y pwngc y bwriada siarad arno, a dylem roddi Parhad yn tudalen 8.

Advertising

ACHOS OWEN HUGHES.