Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Damwain Rhivj-! -.bach, I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Damwain Rhivj- bach, Creigiwr yn cael ei ladd a fthQw. Prydnawn ddydd Llun yn ysgoldy Rhiwbach, o flaen Mr. J. Pentir Williams, Trengholydd Gogledd Arfon, a deuddeg o Reithwyr, i'r rhai yr oedd Mr. John Jones, 1, Rhiwbach Terrace, Cwm, yn Flaenor, ar gorphJohn Jones, Isfryn, Trawsfynydd, yr hwn fu farw nos Wener. Gwylid yr achos ar ran y Perchenogion a'r ''Guardian Insurance Co. gan Mr. D. White Phillips, a Mr. W. Caer Jones (Mri D. Lloyd George a George ) dros v teulu, Yr ocdd yr Arolygydd Mr. G. J. Williams, F.G,S,, a Mr. Humphries hefyd yn bresenol, gyda'r Meddyg Dr. T. Carey Evans. Owen -Williams, 10, Ardudwy Terrace, Trawsfynydd, a dywedodd ei fod yn adna b ocl y Trancedig, corph yr hwn y Rheitnwyr 3/11 k edrych arno. Yr oedd yn 37 mlwydd oed, yn ddyn tawel, ac yn greigiwr medrus a gofalus. David Jones, 8, Ardudwy Terrace, a ddywecl- odd ei fod yn Frawd, i'r Trancedig. Clywcdd am ddamwain i'w frawd, a chyrhaeddodd y lie rhwng haner awr wedi pump a chwech o'r gloch. Cafodd ef ei wely yn anymwybodol, a bu farw tna saith o'r gloch, Ellis Wynne Evans 5, Cwmorthin Road, Tanygrisiau, a ddywedodd ei fod yn gre i g i wr, ac yn gweithio gyda John fones boreu dydd Gwener,. Yr oedd o fewn troedfeddiddo ar adegyddamwain. Una'rddego'rgloch ydoedd ar y pryd. Darn o rew ddisgynodd o gwr uwchaf y graig—tua again llath uwchlaw iddynt—disgynodd a'r ben Jones pan ceddynt wrth odrau y graig yn myned i hollti plyg yn y lie. Tarawyd ef yn farw ar lawr fel y dis- gynodd rhwng ei draed. Ni wyddai amcan beth oedd pwysau y clamp rhew ddisgynodd. Bu Jones heb anadlu am ddeng munu d ac wedi. ei roddi yn y gwelv fe ddywedodd, Tvnwch fi'n rhydd Tynwch fi'n rhydd 1" a dyna'r oil a ddywedodd. Bu farw tua saith o'r gloch. Yr oedd yn ymarferol wedi ei ladder y tarawiad. Bu y ddau oruchwyliwr—Thomas Owen Williams a David Edwards, yn ceisio taraw y rhew i lawr trwy daflu ceryg ato. Llwyddodd D. Edwards i'w daraw unwaith. Addawodd ef fyned yno gyda chad wen i'w dynu i lawr. Nid aeth ar y pryd i'w dynu, er ei fod yn meddwl am fyned. Daeth y rhew i lawr yn mhen haner awr ar ol hyny. Yr oedd yr ymadawedig yn weithiwr gofalus iawn. Mewn atebiad i Mr. G. J. Williams, dywed- odd y tyst yn mhellacb, ei fed yn gweithio yn Rhiwbach er's dros ddau fis. Gwyddai am y Rheol Arbenig oedd yn gofyn i'r goruchwyliwr neu Is-oruchwiliwr ymweled a'r holl waith ddwy waith y dydd, ac yr oedd y Rheol hono yn cael ei chadw yn ofalus yn Rhiwbach. Gaiwodd y ddau oruchwyliwr eu sylw at y rhew, ond yr oeddynt hwy yn gweithio ddeg Hath oddiwrth y graig ar y pryd. Aeth ef a Jones at y graig i gael plyg oddiyno, a galwodd sylw Jones trwy ddywedyd, "John, gwell i ti nesu, yr wyt reit o dan y rhew, rhag iddo ddisgyn," ac yn y fan tarawyd Jones gan y rhew nes oedd yn disgyn rhwng ei goesau. Gwyddau am y rheolau gyda golwg ar ufydd- hau i orchymun i dynu pethau peryglus cyn myned i'r lie i weithio. Dywedodd y goruchwylwyr wrtho fod yn well iddynt dynu y rhew i lawr: nid gorchymyn iddynt fyned i'w dynu. Gweithiodd yno er yn gwybod am yperygl. Ni fuasai yn cymeryd haner awr i dynu y rhew i lawr. Mewn atebiad i Mr. Caer Jones, dywedodd fod y rhew ar y graig er's bythefnos. Yr oedd Griffiith Ellis Jones yn gweithio yn ymyl. Ni roddwydd gorchymun i dynu y rhew, ond dywedodd ef yr elai i'w dynu pwy bynag a dalai iddo am wneyd, rhag icldo ddod i lawr ar eu penau. Mewn atebiad i Mr. D. White Phillips, dywedodd iddo ddywedyd yn glir yr elai ef i dynu y rhew, ac aeth y ddau oruchwiliwr yn eu blaenau wedy'n. Robert Morris, 2, Arthur Terrace, a ddy- wedodd ei fod yn greigiwr, ac yn gweithio o fewn:15 llath i'r trangcedig adeg y ddamwain, a gwelai y ddau ddynyn gweithio o dan y rhew Dywedodd y goruchwylwyr wrthynt oil ar y lie y dylid symud y rhew. Nid oedd yr un o honynt yn gweithic o tano ar y pryd. Gallasai rhai o'r dynion fod wedi adclaw symud y rhew heb iddo ef eu clywed. It oedd yn meirioli ar y pryd, a gallasai y rhew ddod i lawr unrhyw adeg. Yr oedd John Jones yn weithiwr gofalus iawn. Mewn atebiad i Mr. G. J. Williams, Yr oedd- ynt yn gweithio o dan y rhew bob dydd, ac ni chlywodd y swyddogion yn galw sylw ato ond y diwrnod y bu'r ddamwain. Mewn atebiad i Mr. Caer Jones. ni chlywodd air am y gadwen. Dywedodd wrthynt eu chweh y dylid tynu y rhew, ond ni chlywodd neb yn addaw gwneyd hyny. Ail alwyd Ellis Wynne Evans.—Bu sylwar y rhew yn ystod y bythefnos diweddaf. Gwaith y Cwmni yn ol ei farn ef oedd diogelu y lie. Yn ol y rheolau yr oedd yn rhald i'r dynion ddiogelu y lie y gweithient, ond gan fod y rhew hwn ar y gwnithfaen uwchben, nid lie'rgweith- iwr oedd ei symud. Mr. Thomas Owen Williams, 12, Bowydd Road, Blaenau, a ddywedodd ei fod ef a Mr. David Edwards, ei Gyd-oruchwyliwr, yn sylwi ar y rhew tua haner awr wedi deg boreu ddydd Gwener, Yr oedd y dynion yn glir oddiwrth y graig ar y pryd. Yr oedd swm mawr o rew ar y graig, a chan iddo ef ac Edwards fethu ei gael i lawr trwy ei daraw a chareg, siaradodd ef gydag Ellis Wynne Evans yn gyntaf, yn ei gylch, a dywedodd gan ei fod yn dal y byddai yn well iddo dreio ei bricio i lawr. Dywedodd Edwards bron yr un geiriau, ac atebodd E. W. Evans, "All right! Fydda'i ,ddim haner awr wrthi hi." Aethant hwy o'r lie ar hyny. Y peth nesaf a glywodd ydoedd fod John Jones wedi ei anafu. Yr oedd y dynion gystal a neb .am ufuddhau os gofynid iddynt wneyd unrhyw beth. ac ni chafodd drafferth cael ganddynt gadw y Rheolau. Mewn atebiad i Mr. G, J. Williams, dywed- j odd na chafodd achos i gwyno wrth Mr. Humphries a anufudd-dod y dynion. Bwriadai i'r dynion symud y rhew cyn myned o tano i weithio, gan eibod yn meirioli y diwrnod hwnw. Mewn atebiad i Mr. Caer Jones. Yr oedd y rhew ar graig bargen y dynion, a'u dyled- swydd oedd ei symud. Ystyriai ei bod yn beryglus gweithio o tano, a dyna paham y gorchymynodd ei symud. Cymerodd yn ganiataol y gwneid hyny gan i Ellis W. Evans addaw yr elai i fyny gyda chad wen. Mr. David Edwards, Rhiwhach a ddywed- odd iddo sylwi yn benodol a'r faint y rhew nos Iau, a chan ei bod yn meirioli boreu dydd Gwener, fe ddywedodd, Mae'n ofynol cael hwn oddi yma." Addawodd Ellis W. Evans yr elai 1 fyny gyda chadwen i'w dynu i lawr, Mewn atebiad i Mr. Caer Jones, gwelai y rhew yn Ilacio, ac nad oedd yn ddiogel myned o tano i weithio. Gallasai fod wedi Ilacio wrth iddo ef ei daraw a chareg. Dywedodd y dylesid ei dynu i lawr. Nid oedd. Nid oedd yn gallu dywedyd a oedd John Jones wedi clywed y sgwrs rhyngddo ag Ellis Evans, ond yr oedd o fewn cyraedd clywed. Atebodd Ellis Evans dros yr oil o'r dynion y gwnai ef dynu y rhew. Barnodd y Rheithwyr iddynt glywed digon am achos y farwolaeth, a bod y peth yn hollol glir fel nad oedd angen am alw y meddyg.— Pasiwyd Rheithfarn o"Fanvoiaeth Ddamwein-I ial. Ar gynygiad Mr John R. Hughes a chefnog- iad Blaenor y Rheithwyr, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r weddw a'r teulu, gydadiolch 1 gyfeillion Rhiwbach am eu caredigrwydd yn yr amgylchiad. Mr D. White Phillips a ddatganodd ar ran y Perchenogion eu cydymdeimlad dwysaf a'r weddw a'r teulu yn eu profedlgaeth.

 ? Bwrdcf Gwa?c?eMwaF? j…

AT Y DRAENOG. I

[No title]

Damwstin MngeiiQl yn Chwayel…

Cicio Pei 'a Ffwndro. - I

[No title]

Advertising