Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Damwain Rhivj-! -.bach, I

 ? Bwrdcf Gwa?c?eMwaF? j…

AT Y DRAENOG. I

[No title]

Damwstin MngeiiQl yn Chwayel…

Cicio Pei 'a Ffwndro. - I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cicio Pei 'a Ffwndro. I Cafwyd cryn hwyl yn Heddlys Conwy ddydd Llun, gyda llythyr un Alexander Billington, Homestead, Stanley Moor, Stoke-on-Trent, yr hwn ydoedd yn Commercial Traveller. Yr oedd wedi codi tocyn tourist i fyned i Pwll- heli. Chwefror 7, aeth hyd linell Dyffryn Conway i Bettwsycoed gan dalu am y daith yno, ond ni thalodd am docyn yn ol i'r brif- linell, Wedi pwyso arno yn y Junction ac yn Bangor am y tocyn, addefodd na chododd yr un. Anfonodd lythyr gyda'r tal gofynol am docyn i'r Swyddog yn Nghaer, ond anfonwyd yr arian yn ol iddo. Darllenwyd ei lythyr yn y Llys yn rhoddi hanes rhyfedd am dano ei hun y diwrnod y troseddodd. Anghofiodd brynu ceffyl yn ffair Llanrwst at amcanion Milwrol. Pan aeth i Abermaw, taflwyd ef oddiar ei echel trwy lythyr y swyddog. Er I mwyn boddi ei ofid aeth i gicio pel, ond yr oedd mor drwsgl gyda hyny fel yr anafodd ei goes. Yr oedd yn anfon tystysgrif y meddyg ar y mater, ond yr oedd Mr. Fenna yn fwy erlidgar nar Barnwr Jeffries Mae yh fwy diafoledig i ladrata cymeriad dyn na'i grogi" (Chwerthin mawr).-Dirwy o bunt a'r costau.

[No title]

Advertising