Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Cynghor Dinesig Bettwsycoed.

Arn ER COF ____ - -- - -

nvfl AR LAN Y BEDD. !

ER ANWYL GOFF AD WRIAET H

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ER ANWYL GOFF AD WRIAET H Am y diweddar Robert Jones, Oxford terrace (Bethesda gynt) yr hwn a hunodd yn yr lesu dydd lau, Mawrth 15, 1906. Nodweddion amlycaf ei fywyd oeddynt ei fod yn gymeriad arbenig a neillduol. Yr oedd yn weithiwr rhagorol yn mhob ystyr dymhorol, ac yn gyfaill trylwyr gwir galon. Meddai ar arab- edd nodedig a chynysgaeddid ef a doniau ar- benig. Yr oedd ganddo gof diderfyn bron, a gallai adrodd diddanion dyddorol, nes cadw cwmni yn adionol am yspeidiau meithion. Nid yn unig yr oedd yn meddu ar y nodweddion cymeriadol tymhorol yn helaeth, ond hefyd yr oedd iddo ei nodweddion crefyddol ac ysbrydol arbenig. Dychwelwyd ef at grefydd dan wein- idogaeth ddiwygiadol yr anfarwol Richard O wen. Byth er hyny y mae wedi bod yn aelod dichlynaidd yn eglwys Crist yn Maenofferen. Nid dyn cyftredin ydoedd yn y cylchoedd hyn, ond yr oedd yn ffyddlawn iawn, ac yn teimlo y dyddordeb mwyaf yn holl gysylltiadau mewnol ac allanol yr achos. Yn Gristion diamheuol fel y rhoddes brawf diamheuol yn ei gystudd o'r adnabyddiaeth eang a thrylwyr oedd yn feddu o'i Waredwr, a'r ymddipedaeth a roddai ynddo, ac amlwg oedd fod holl olud ei enaid aeddfed wedi ei llwyr roddi ar ac yn SeIon Crist. Bu farw a'i ben ar Ei fynwes sanctaidd Ef.—CYFAILL. Robert er ei arabedd,—edwinodd 0 dan donau gwaeledd 0 aethau 'i fyd aeth i'w fedd Yn goronog o rinwedd. G'wr hyfwyn a digrifol,—ydoedd hwn Gyda'i ddoniau siriol; Ei dclawn ef ni fyddai'n ol 0 lawenydd adlonol. Iddo'i dalent oedd delyn,— a'i thannau Mewn iaith hynod ddichlyn Deallus feddwl dillyn, I'w ofal ef roed fel hyn. Yn ei waeledd ni welai,-ond lesu Yn dywysydd garai Ei nawdd a'i drefn yn ddi-drai A gwyn feddwl ganfyddai. Ei Waredwr pur ydoedd Hynod dwr ei enaid oedd, Ef yn y ddofn afon ddu Ddewisodd gael nawdd Iesu Yn Ei enw heb fraw i'w fron I wynfyd ca'dd ei anfon. Bellach y mae'n iach mewn Nef Uwch dyddiau afiach dioddef, A'i fuddiol etifeddiaeth 0 eiddo'i Dduw iddo ddaeth. Cywir astud fel Cristion,-fti efe A'i fyw fawl yn Seion Hwn a'i ddifrad wen ddwyfron A wna sant yn nheyrnas Ion. GLAN TECWYN.

Advertising