Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

WISE AND OTHERWISE.

Y.M.A., BLAENAU FFESTINIOG.…

\CORWEN.i I CORWEN.- i

Ilaith aflan yn y Tren._I

Advertising

Blaenau -Ffestiniog.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Parhad o Tudalen 5. pwys ar y farn hono yn yr argyfwng presenol ar y fasnach lechi. Mae y cyfarfod yn hollol rydd i bawb. TEML Y DIPHWYS.—Cynhaliodd yr uchod ei chyfarfod nos Wener. Agorwyd gan MrW. Ellis. Derbyniwyd un yn aelod o'r Demi a chafwyd gair o groesawiad iddo gan yèMri Hugh R. Jones, William Ellis, Griffith T. Williams, John Hughes, E. C. Thomas, T. B. Demlydd a'r chwiorydd Mrs D, G. Williams, a Mrs Ephraim a'r Demi yn gyffredinol. Deuawd gan Gwladys a Dilys Evans, adrodd- iad gan Dilys Evans can gan Mrs Ephraim, a Hannah Evans. Gan fod y Reharsial yn nglyn a'r Gymrnfa Ganu yr wythnos nesaf gohirir y Demi hyd nos Wener Ebrill 13eg, pryd y bydd cymdeithas ddirwestcl y Chwior- ydd yma yn cynal y cyfarfod hwn yn gyfarfod cyffredinol i bawb,T.R. Y CLWB RHYDDFRYDOL.—Awd yn mlaen nos Fawrth gyda'r ddadl ohiriedig, sef "A ddylid dysgu Addysg Grefyddol yn yr Ysgolion Dyddiol?" Llywyddwyd gan Mr. H. Gray Parry. Siaradwyd yn effeithiol iawn gan y Parch. Moses Roberts, Mri. Griffith Roberts, Benar View; Hugh Ellis Hughes (Deryl) E. Morgan Phillips, B.Sc., Ysgol Uwchraddol; a G. G. Davies, Glanypwll. Cafwyd trafodaeth ddyddorol a brwdfrydig. Gohiriwyd y mater yn mhellach am wythnos, ac yn y cyfamser gwylir symudiadau Mr, Birell, Llywydd Bwrdd Addysg. ARWERTHIADAU A'R DDILLADAU.-Fel y gwelir mewn colofn arall, bydd Mr. O. V. Jones yn gwerthu Dilladau yn nodedig o rad nos Wener, Sadwrn, a thrwy yr wythnos nesaf. Mae ganddo Fargeinion digyffelyb mewn Dilladau i Ddynion a Phlant. Eithriadol yw cyfle fel hwn i gael dillad yn rhad. CANU YN IACH.—Dydd lau, cynhaliodd gweithwyr Chwarel Ganol Oakeley gyfarfod i ganu yn iach ar cyfaill ieuanc Hugh Jones Caeclyd (gynt), ar ei ymadawiad i'r America. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. Evan H. Owen, Manod Road, yr hwn a roddodd anerch- iad pwrpasol wrth agor y cyfarfod. Yna cafwyd unawd gan Robert Evans, Jones St. Rhoddwyd cynghorion buddiol iddo gan yr henafgwyr Robert Morris, Tanygrisiau; Rd. Hughes, Glynllifon Street; ac Elias Roberts, Llwynygell; ac ymfflamychiad byr gan John Hughes. Dolydd Terrace. Canodd S. Hughes Gladstone Terrace, eiriau o waith Bryfdir yn swynol iawn. Yna cyflwynwyd anrheg o Feibl hardd i Hugh Jones gan David Roberts, Dorfil Street. Terfynwyd trwy i'r baritoue enwog William Thomas Jones ganu Cymry Newydd.' -UN OEDD YNO. CANGHEN DDIRWESTOL Y CHWIORYDD YN TANYGRISIAU,-Nos Lun, torwyd tir newydd gan y Gymdeithas uchod, trwy gael cyfarfod unedig o wahanol Obeithluoedd yr ardal. Cynhaliwyd y Cyfarfod yn Bethel o dan lywyddiaeth y Parch. D, Jones, Cromlech, ac vr oedd golygfa hardd ar y plant. Dechreu- wyd trwy ganu ton a'r plant yn adrodd gyda'u gilydd Psalm. Aed i weddi gan Mr. R. Hughes, Glanmarian, a chymerwyd rhan yn rhagorol mewn canu, adrodd, a dadleu, gan y rhai canlynol: Misses Maggie Edwards, Blodwen Gabriel, Annie Williams, Jennie Jones, Maggie B. James, H. J. Hughes, Katie Jones, Annie Roberts, a Lizzie Jones. Prif atdyniad y cyfarfod oedd y ffaith fod Dr. Jones, Isallt, wedi addaw rhoddi anerchiad i'r plant a'r Alcohol, ac yn ngwyneb 11awer o anhawsderau ni'n siomwyd. Cafwyd anerch- iad rhagorol ganddo yn ymwneyd yn fwyaf arbenig ar effeithiau niweidiol yr Alcohol ar y Cyfansoddiad. Diameu genym y bydd tyst- iolaeth ein meddyg poblogaidd yn cael argraff ddofn ar feddyliau y gwrandawyr, Yn ystod y cyfarfod pasiwyd ein bod yn anfon ein cydym- deimlad llwyraf a'r llywyddes Mrs. Williams, Broneirian, yu ei gwaeledd. Talwyd diolch- iadau gan y Parchn Silyn Roberts a J. Hughes. —YSG. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL JERUSALEM (A.)—Nos Fawrth diweddaf, o dan lywydd- iaeth Mr G. Parry (Namor Wyn). Treuliwyd awr ddifyr trwy wrandaw ar Unawdau gan Misses K. Evans, L. Williams, a M. Towina Jones, Mri T. Pugh a W. Jones, Lord street. Cafwyd anerchiad grymus gan y Llywydd, deu- awd gan Misses M. J. ag A. Pearce. Dethol- iadau ar y Gramaphone trwy garedigrwydd Mr T. J. Williams ac araeth farddonol gan Namor Wyn. Daeth lluaws ynghyd a chawsant fodd- had hollol. CEDRON (A.), TANYC.RISIAU.-Nos Fawrth diweddaf, yn y lie uchod, arlwywyd gwledd ardderchog o ddantelthion blasus, mwyaf neillduol i Aelodau y Cyfarfod Darllen," yr hwn oedd yn cael ei gynal bob nos Fawrth, trwy y gauaf diweddaf. Wedi i bawb fwyta a cael digon i'r corph. yr hwn oedd fel arwydd gwau mi dybiaf o'r hyn oeddynt wedi wledda yn ysprydol trwy y gauaf o ddidwyll a maeth- lawn laeth y pair, fe gynhaliwyd cyfarfod adloniadol o dan lywyddiaeth Mr. B. Phillips. Dechreuwyd trwy ganu emyn, yna fe gafwyd sylwadau da a pnwysig gan y Llywydd nglyn a'r modd i ddarllen Gair Duw, gan roddi pwys neillduol ar roddi athrawon cymhwys gyda'r Ysgol Sul. Yna aed yn mlaen yns y drefn ganlynol ;-Adroddiad gan K. A. Davies, a Polly Hughes. Can Laura Williams. Adrodd- iad gan Willie Davies, a Birty Hughes. Deuawd gan Mri. Daniel Owen a Griffith Pierce. Adroddiad gan Owen Williams. Adroddiad gan Maggie Davies. Cystadleuaeth darllen darn heb ei atalnodi, 1, Kate A. Davies a R. B. Davies, 2, Laura William. Can gan Mr. D. Owen yn effeithiol iawn. Adroddiad gan Annie Hughes. Can gan Evan Parry. Adroddiad gan Dora Williams. Can gan Maggie Jane Owen. Adroddiad gan Annie Owens. Cystadleuaeth areithio difyfyr, goreu H. A. Davies, 2, Johnny Owen. Adroddiad gan Mr. G, Price. Pedwarawd gan Mri. D. Owen, J. R. Davies, John Parry, a Griffith Price. Gwasanaethwyd fel beirniad gan Mri. J. R. Williams a G. Price. Rhanwyd hefyd ychydig bres, pa rai oedd weddill mewn Haw ar ol talu am pobpelh at y wledd a'r gwobr- v.yon. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau canlynol, Misses S. A. Davies, M. Parry, Laura Williams, Mrs Hughes a Mrs Parry. Rhai a aethant oddiamgylch y tai oeddynt y Mri. J. R. Davies a John Parry. Cynygiwyd bleidlais o ddiolchgarwch i'r oil yn nghyda'r plant gan Mr. J. R. Williams, a chefnogwyd gan Mr. R. Davies. Ymwahan- odd pawb i'w dy ei hun yn llawen.—D. DIRWESTOL.—Cynhaliwyd cyfarfod dirwest- ol terfynol y tymor gan Gobeithlu Jerusalem. Dechreuwyd trwy ganu Ton gyffredinol; adrodd y 53 Bennod o Esaiah gan Hannah Williams, a gweddiwyd gan John T. Williams; ton gan y gobeithlu o dan arweiniad Mr. W. O. Jones; anerchiad gan y Llywydd Mr. Hugh Lloyd, (Dyfrdwy); adroddiadaugan Ivor Jones, Hugh G, Jones. Lizzie Evans, Jennie Jones, May Owen, Maggie Davies. Dadl gan Ellen Williams a'i chyfeilles. Caneuon gan Sarah Jones, Ellen Jane Williams, May Pritchard Davies, Joseph Jones. Dadl ddirwestol a'r gan gan Mri Hugh H. Hughes, a W. O. Jones. Cydgan gan y plant allan o'r gantata "Ymdaith Bywyd." Can" Plentyn y Meddwyn," gan Mr W. O. Jones. Anerchiad gan y Parch Rhys Davies, Corris, o therfynwyd gan W. O. Chwareuwyd ar yr Offeryn gan Mr Hugh H. Hughes, Lord Street.—T.R. CARMEL.Cynhaliodd y Gobeithlu uchod ei chyfarfod rheolaidd nos lau diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. W. O. Williams, Glan'rnfon Terrace. Wedi i Mr. John Davies (loan Alaw) ddechreu drwy ddarllen a gweddio, yna awd yn mlaen ar y rhaglen: Cystadleuaeth Datganu i Blant dan 7 oed, "Breseb Beth- lehem," goreu, David J. Jones, Fronhaul. Cystadleuaeth Adrodd i Blant dan 12 oed, "Y Llew ar Cadno," goreu Ellis Parry Davies, West End 2il, Winifred Davies. Cystadleu- aeth Datgann unrhyw Unawd, ymgeisiodd 5, goreu, Miss Maggie Jones, Dolydd Terrace. Cystadleuaeth Areithio ar "Joseph," heb fod dros bum' munyd, goreu, Jennie Evans, Wrysgan Fawr. Cystadleuaeth Datganu i Blant dan 12 oed, Pwy sydd gyda'r wawr yn rhodio,7 goreu Winifred Davies, West End. Beirniadaeth ar gyfansoddi "Can o groesaw i'r Undeb Cynulleidfaol," yr hwn a gynhelir yn BIaenau Ffestiniog Gorphenaf 1906, goreu Mr. W. J. Williams, Pencraig. Cystadleuaeth Adrodd i rai uwchlaw 12 oed, goreu Ellen J. Jones, Glan'rafon Terrace. Wedi cael Ton gan y Plant diweddwyd drwy i bawb adrodd Gweddi yr Arglwydd." Clorianwyd y Can- torion gan Mr. Evan Morris, Lord Street. Adroddiadau, Mr. George B. Hughes, Orthin- fa a Mr. John Jones, Rhydygro. Areithio ar Farddoniaeth gan y Parch. J. Hughes. A barn pawb oedd yn bresenol ydoedd eu bod wedi gwneud eu gwaith i foddlonrwydd cyffredinol. IEUAN GWYNEDD.Nos Fawrth, traddod- wyd Darlith i'r Gymdeithas Ymdrech Grefydd- ol Gwyr Ieuauc Carmel gan eu parchus weini- idog, J. Hughes, ar y testyn uchod, sef "Ieuan Gwynedd," yr hwn sydd a'i enw yn felus ar wefusan bob Cristion a Chymro o'r iawn ryw. Fel y gwyddys fod IeuattxGwynedd yn un o'r dynion mwyaf a fagodd Cymru, a dylem fod yn falch ein bod wedi cael ein geni a'n magu yn yr un Sir y ganwyd a magwyd y gwron anfarwol uchod, yr hwn fu wrthi yn llafurio yn galed drwy lawer o anhawsderau, thlodi, ac afiechyd blin. Fel y cofir, bu farw yn ddyn ieuanc, fel blodeuyn yn dechreu ymagor. ac er wedi marw yn llefara eto. Tystiolaeth pawb oedd yn bresenol ydoedd, mae da oedd bod yno.—MYFYR. ARDDANGOSFA Y SULGWYN.—Nos Fercher yn Committee Room y Market Hall, cynhal- iwyd cyfarfod ynglyn a'r uchod. Llywyddid gan Mr W. E. Alltwen Williams. Pasiwyd yn unfrydol i gynal Show eto eleui ar yr un dydd- iad, ac hefyd pasiwyd fod yr Ysgrifenydd i anfon cais at gwmniau y rheilffyrdd yn anog roddi ychwaneg,o'u cefnogaeth i'r Arddangos- fa trwy redeg trens rhad i'r dref ar y dyddiad hwnw. Teimlai llawer oedd yn bresenol nad oeddynt yn cael chwareu teg ar law y cwmniau ynglyn a hyn. Yna awd yn mlaen i ddewis swyddogion am y flwyddyn ddyfodol. Gofid- iai Mr. William Jones, yr ysgrifenydd, ddatgan nad allai, oherwydd fod ganddo ormod o waith ymgymeryd a'r swydd o ysgrifenydd am y flwyddyn ddyfodel, ond ar yr un pryd addawai roddi pob cynorthwy yn ei allu i bwy bynag a ddewisid. Credai y cyfarfod, fodd bynag. nad allent ar hyn o bryd ollwng eu gafael ynddo, ac yn ffortunus llwyddwyd i gael gadddo ym- gymeryd a'r swydd am flwyddyn eto, a rhodd- wyd teyrnged uchel iddo am ei ddeheurwydd gyda'r gwaith. Yn drysorydd. ail-etholwyd Mr. H. Ariander Hughes, Metropolitan Bank. Cadeirydd y Pwyllgor Gweithiol fydd Mr. Wm. Powell, Grocer. Llywydd, W. E. Oakeley, Ysw., Tanybwlch. Is-lywydd, Arglwydd Newborough. Dewiswyd hefyd lu mawr o nawddogwyr. Wedi penderfynu ar Is-bwyll- gor o saith i ddewis Pwyllgor Gweithiol, ym- wahanwyd. DAMWEINIAU.—Prydnawn ddydd Gwener, yn Chwarel Rhiwbach, cyfarfu Mr. Robert Williams, Ysbytty, a damwain ofidus trwy i dwll danio arno. Cafodd ei anafu yn drwm yn ei wyneb a'i fraich. Yn ffodus yr oedd Dr. T. Carey Evans yn digwydd bod yn y lie ar y pryd yn gweini ar Mr. John Jones, oedd wedi cyfarfod a damwain yn gynarach ar y dydd, a gweinyddoad arno yntau. Boreu ddydd Mawrth, yn Chwareli Oakelev, cyfarfu Mr. D. Jones, 6, Cwmbowydd Road, a damwain drom trwy iddo syrthio cryn ddyfnder. Torodd ei fraich yn yr ysgwydd, a dadgymalodd hi. Gofelir am dano gan Dr. T. Carey Evans. ARWERTHIANT.Dymunwn alw Sylw ar yr arwerthiant fydd gan Mr John Davies, ar dai a dodrefn yn 47 a 48 Dorfil Street am ddau o'r gloch, dydd Sadwrn nesaf. Hefyd at y llu eraill o arwerthiantau sydd ganddo, fel y gwelir yn ein colofnau hysbysiadol, tudalen 8. YR YSGOL GANOLRADDCL.-Cynhaliwyd Cyfarfod o Lywodraethwyr yr Ysgol Sirol, nos Fercher diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol, Mr. R. Walker Davies, yn y gadair; Dr. R. D. Evaps, Mrs. Jones, Mr. W. P. Evans, Parchn J. Rhydwen Parry, R. T. Hughes, John Owen, D. Hoskins, Mr M. E. Phillips, B.Sc., Mr. F. P. Dodd, M.A., a Mr. Howard Jones, County Architect. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diweddaf, Dewiswyd Mri. D. G. Jones a J. Parry Jones yn gynrychiolwyr ar y Cyngor Sirol am y tair blynedd dyfodol; a Miss Greaves, Tremadog; Dr. R. D. Evans, Mri. W. P. Evans, R. G. Pritchard, Penrhyn; W. Roberts, Rhosydd Parchn. J. Rhydwen Parry, D. Hoskins; John Owen, a John Hughes, ar Fwrdd Addysg y Sir. Cafwyd trafodaeth ar adeiladu Ty i'r Prif- athraw. Yr oedd y cynygion ddaethant i law yn rhy uchel i'r Rheolwyr allu eu derbyn. Cynygiodd y Parch J. Rhydwen Parry, a chefnogodd y Parch J. Owen, fod y swm at y Ty i beidio bod dros 750p. Fel gwelliant cynygiodd y Cadeirydd a chefnogodd y Parch. D. Hoskinins i'r swm fod yn 850p. Dros y gwelliant pleidleisiodd y cynygydd a'r cefnog- ydd, gyda Dr Evans, W. P. Evans, ac E. M. Phillips (5); a'r cynygydd a'r cefnogydd gyda Mrs Jones, Isallt, dros y cynygiad gwreiddiol. Ni phleidleisiodd y Parch T. H. Roberts. Dewisiwyd y Mri Rhydwen Parry, J. Owen, Mrs Jones, J. R. Jones (Gerallt), a D. G. Jones, yn Bwyllgor Arianol gyda Mri J. Cadwaladr a H. Ariander Hughes yn Arch- wilwyr. Awd trwy y cyfrifon a phasiwyd i dalu y biliau.