Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

WISE AND OTHERWISE.

Y.M.A., BLAENAU FFESTINIOG.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y.M.A., BLAENAU FFESTINIOG. I Mr. Gol.,—Yr wyf wedi clywed fwy nag unwaith fod y nifer sydd yn awr yn Aelodau o'r Gymdeithas uchod yn bwriadu cymeryd camrau braidcl yn freision. Y mae y sefydliad eisoes wedi bron golli ei amcan yn llwyr. Setydlwyd ef yn ein plith i addysgu yn "grefyddol a chymdeithol," a chadwyd yr amcan hwnw yn glir o flaen yr aelodau. Cafwyd cefnogaeth eithriadol at y lie, a thalwyd am yr adeilad trwy danysgrifiadau yr ardalwyr a charedigion oddiallan. Cyfranwyd dros 80p at yr Eistedd- fod gan y trigolion, a bu gwyneb yr ardal o blaid y sefydliad o'r dechreu hyd yn awr. Aberthodd amryw enwogion er dod i draddodi Anerchiadau i hyrwyddo y Gymdeithas, a gall lluaws o'n dynion ieuangc cyhoeddus briodoli eu safle bresenol fel siaradwyr i'r ymarferiad a gawsant yn y cyfarfodydd. Y mae gan yr ardal hawl foesol, os nad cyfreithiol, ar y sefydliad a'r modd y cerir ef yn mlaen. Deallaf fod y fee aelodaeth wedi ei chodi o 2s 6c i 5s i ba amcan, tybed ? Cauwyd gweithwyr ieuangc y lie allan trwy beth o'r fath. A'i gwir y son sydd yn awr, fod y dwsin aelodau sydd yn aros am gael Bwrdd Peli i'r lie? Os ydynt, ni phetrusaf ddywedyd y bydd hyny yn hollol groes i ddyben sefydliad y Gymdeithas, ac yn gwbl groes i farn a theimlad y rhai aberthasant er ei chael. Disgwyliaf atebiad pendant gan rai o'r Aelodau, a ydynt am gael Bwrdd Peli i'r ystafell, a'i nad ydynt ? Yr Eiddoch, CYMDEITHASOLWR.

\CORWEN.i I CORWEN.- i

Ilaith aflan yn y Tren._I

Advertising

Blaenau -Ffestiniog.I