Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd Llywodraethwyr Ysgolion…

Cyfyng, Dolwyddelen. I

Llanfrothen.

-Glanaulr Fachno.I

I Eisteddfod Rhyl.

Cynghor Gwfedig Geirionydd.I

Jabez Balfour yn rhydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Jabez Balfour yn rhydd. Tachwedd 28, 1895, o flaen y diweddar Farnwr Bruce, cafwyd Jabez Spencer Balfour, cyn-aelod seneddol dros Burnley, yn euog o dwyllo ar raddfa anhygol o eang yn nglyn a Chymdeithas Adeiladu a Chyfalafu y Liberator. Cariodd ei dwyll yn mlaen o dan gochl crefydd a dyngarwch, a thrwy hyny hud-ddenu cynifer ag wyth mil a'r hugain i'w rwyd, canoedd o honynt o Gymru. Pan ddaeth ei gwymp, cafwyd fod ei ddyledion yn £ 8,360,804, ac nid oedd ond eiddo tybiedig o werth tair miliwn i'w cyfarfod, fel a chaniatau fod y tair miliwn hyny yn profi yn gywir, colledwyd pobl ddiniwed y deyrnas o bum' miliwn, tri chant a thri ugain o filoedd, wyth cant a pedair o bunau. Troes allan drachefn nad oedd mewn gwirionedd ond gwerth tua miliwn o bunau i'w sylweddoli, ac felly yr oedd dwy filiwn arall i'w hychwanegu at y colledion. Dedfrydwyd ef am ei dwyll i bedair-blynedd-a'r-ddeg o benyd wasanaeth, ac felly y mae wedi treulio deg a haner o honynt. Bydd am y tair a haner nesaf o dan lygaid yr Heddlu, a rhaid iddo adrodd am dano ei hun ar y 14eg o bob mis ar gyfer y dydd y gollyng- wyd ef yn rhydd. Yn ngharchar Porkhurst, Isle of White y bu yn dwyn ei benyd, a bu yn gweithio yno fel teiliwr, garddwr, a Ilyfrgellydd Treuliai ei oriau hamddenol i ddarllen ac ysgrifenu. Cuddid ef o dan yr arwydd o "V 590," fel na wyddai neb ond yr awdurdod- au pwy ydoedd. Bernid y buasai yn cymeryd ei gartref gyda'i frawd yn Lymington, ond y mae am fyned i un o'r trefi mawrion i ymgolli yn y lluaws yn hytrach na hyny. Dywedid ei fod yn uno yn y Cymundeb, yn aelod o'r cor, ac yn weithgar fel crefyddwr tra yn y carchar. Bu ei dwyll yn ergyd drom i ganoedd o deulu- oedd yn Nghymru. "oo.

Y Broffwydes Ddiwygindol.

I Etholaeth Eiflon.--"..