Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd Llywodraethwyr Ysgolion…

Cyfyng, Dolwyddelen. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfyng, Dolwyddelen. I Nos Iau y 12fed cyflsol, cynhaliwyd cyfarfod yn y lie uchod i ffarwelio a Miss Williams, yr ysgolfeistres, ar ei hymadawiad i gymeryd gofal ysgol yn Talysarn, Arfon. Dechreu- wyd y cyfarfod am 7 yn yr hwyr, pryd y cymer wyd y gadair gan Mr D. Roberts, Bwlchymaen yr hwn a eglurodd amcan y cyfarfod, sef cyflwyno i Miss Williams. Anerchiad bychan, lliwiedig, a darlun o ysgol y Cyfyng, fel am- lygiad o deimladau da, a'r chwithdod a hiraeth ar ymadawiad Miss Williams o'n plith. Ar ol cael ton gan y plant, dan arweiniad Miss Wil- liams, cafwyd anerchiadau gan y Cadeirydd a Mri G. R. Roberts, William Owen, Humphrey Roberts,, David Thomas, Evan Hughes. Dygai yr oil o'r brodyr dystiolaeth ardderchog i alluoedd a sel Miss Williams, tra yn aros yn ein plith. Fel y mae yn wybyddus i lawer, hi ydyw yr ysgolfeistres gyntaf ddaeth yma ar ffurfiad yr ysgol, a bu yma am 6 mlynedd. Yn y cyfamser cododd cyfanrif yr ysgol o 23 i 35 o ysgoleigion. Heblaw hyny enillwyd bob blwyddyn y grants uchaf y Llywodraeth. Teimlir colled ar ei hoi hefyd i'r achos crefydd- ol yn y Cyfyng. Cymerai fel y sylwodd rhai o'r brodyr gymaint o ddyddordeb yn yr ysgol Sul ag a wnai yn yr ysgol ddyddiol. Cyflwyn- wyd yr Anerchiad ar ran y cyfarfod gan Dewi Tudur, a chydnabyddodd Miss Williams, yr amlygiadou hyn o garedigrwydd tuag ati mewn geiriau dwys a drylliedig. Cyfeiliwyd yn ystod y cyfarfod gan Mr G. Roberts, Bwlch-y- maen. Nid oes genym yn ardal Ewybrnant, hen gartref Dr Morgans ond dymuno i Miss Williams, yn ei lie newydd bob llwyddiant yn dymhorol ac ysbrydol.—ARWROL FAB ERYRI.

Llanfrothen.

-Glanaulr Fachno.I

I Eisteddfod Rhyl.

Cynghor Gwfedig Geirionydd.I

Jabez Balfour yn rhydd.

Y Broffwydes Ddiwygindol.

I Etholaeth Eiflon.--"..