Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

---Maentwrog.-- - -

Advertising

AT EIN GOHEBWYR. '

NODIADAU WYTHNOSOL \ -i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU WYTHNOSOL Cywiriad Gwall. P7 Yn yr ysgrif dan y penawd "Mesur Addysg 1906" yn y Irhifyn diweddaf o'r Rhedegydd ceir y geiriau a ganlyn :— Bwrier fod rhieni o'r hyn lleiaf bedwar neu bump o'r plant yn gwneyd cais am i addysg I enwadol gael ei chyfranu yn yr ysgol hono &c." Y cysodydd sydd yn gyfrifol am argraphu pedzvar neu buvip; y geiriau a ysgrifenwyd oeddynt pedair rhan o bump. Ni fuasem yn cyfrif fod angen am gywiro y gwall fel hyn, oni bae ein bod yn gwybod fod rhai wedi eu camarwain drwyddo. Disgwyl- iasem y gwelsai pawb fod yn rhaid mai gwall o eiddo'r cysodydd oedd. Mr. J. Bryn Roberts. Mae penodiad Mr. J. Bryn Roberts yn Farnwr Llys Siriol Morganwg wedi rhoddi boddlonrwydd ac wedi cael cwmeradwyaeth gyffredinoJ. Buasai ynanhawdd penodi gwr mor gymwys ag ef i'r swydd buasai yn anmhosibl cael ei gymhw/sach i'w benodi iddi. Er's llawer o flynyddoedd saif gerbron y wlad fel un wedi enill iddo ei hun radd dda iawn fel bargyfreithiwr, ac ymhlith ein gwyr cyhoeddus o'r braidd y mae cynifer ag un ag y mae gan y cyhoedd ymddiried mor lwyr yn ei anibyniaeth a'i eofndra. Gwyr pawb nad yw ofn dyn wedi dwyn magi iddo erioed. Fwy nag unwaith yinae wedi sefyll wrtho ei hun, a phawb o'r bron yn ei erbyn. Nid ofnodd draethu ei farn yn eglur ar gwestiynau pwysig yn nghyfrif ei wlad pan oedd ei farn ef yni walianol i eiddoV rhai y disgwylid iddo gytuno a chydweithredu a hwy, a cheir tystiolaeth i ymddiried cyffred- inol yn ei dc;!ysr\vydd yn yftal Lli nachollodd ddim o'i barch trwy wneyd hyny. Rhvdd ei bwyll a'i eofndra iddo safle ar v fainc tarnol nad yw rhai barnwyr wedi ei enill eto er iddynt fod yn eistedd dros lawer o flynyddoedd. Nid yn unig mae yn deall iaith y bobl ond fwrtn reswm) yn ei siarad cyn rhwydded a neb o honom, heb ddim o'r iediaith ag y mae rhai o'i ddosbarth a'i safle yn ei arfer. Llongyfarchwn ef a chalon rwvdd ar ei ddyrchafiad, a dymumvn iddo lawer o flynyddoodd i weinyddu cyfiawnder yn y cylch y mae yn awr wedi myn'd i fewn iddo. Y Sedd Wag yn Eifion. Rhaid i etholwyr Eifion gael rhywun yn lie Mr. Bryn Roberts t'w cynrychioli yn Nhy'r Cyffredin, ac nid oes genym ond gobeithio y cant yn olynydd iddo gynrych- iolydd mor ffyddlon a phybyr ag ef. Y tri a enwir amlaf ar hyn o bryd ydyw y Mri. D. P. Williams, D. R. Daniel, ac Ellis W. Davies (cyfreithiwr Bethesda). Mae'r tri, fel mae'n wybyddus, yn Rhyddfrydwyr iach, ond byddai Mr. Daniel neu Mr. Davies yn cael edrych arno nid fel Rhyddfrydwr yn unig ond fel Cynrychiolydd Llafur hefyd. Nid ydym yn awr yn teimlo yn rhydd i ddywedyd dim am gymhwysderau gydmarol y tri wyr hyn. Nid ydym yn sicr fod yr un o honynt yn dyfod i fyny a'n dymuniadau, ond nid ein dymuniadau ni, ond dymuniadau etholwyr Eifion yn y peth yma sydd yn bwysig. Er hyny mae'r dewisiad a wnant yn bwysig i eraill heblaw hwy eu hunain. Nid anhawdd fydd iddynt gael gystal dyn a'r cyffredin o'r Aelodau Cymreig, ond byddai yn dda genym iddynt gael dyn yn rhagori ar naw o bob deg o'r rhai hyny- dyn a'i ofal am ei genedl yn fwy na'i ofal am ei glod ei him—dyn a'i awydd i wasan- II aethu ei genedl yn gryfach na'i awydd i ?enill iddo ei hun enw. Os enfyn etholwyr Eifion un felly i'w cynrychioli yn y Senedd, bydd Cymru oil yn eu dyled. Y Cythrwfl yn Natal. Hyd yn hyn nid yw y penaeth Bambaata wedi ei dda! nac wedi ei orchfygu chwaith. J Mae ef a'i ganlynwyr wedi cilio i le diffaeth ac angnghyfanedd, ac nid ydym yn pwyso dim ar y gair ei fod yn ymarferol wed. ei am- igylchugan y fyddin Brydeinig ac nad yw yn bosibl iddo ddianc rhag cael ei ddal ganddi Clywsom beth fel hyn am De Wet yn ystod y rhyfel diweddaf drosodd a throsodd drachefn a gwyddom na ddaliwyd ef wedi'r cwbl. Cn petn sydd yn peri pryder i'r awdurdodau jydvw'r ffaith fod dau o benaethiaid y Zulu- aid wedi gwrthod galw eu milwyr ynghyd i gynorthwyo y Prydeimvyr yn erbyn Bambaata. Tybid fod yr holl Zuluaid yn deyrngarol i'r eithaf, ond y mae peth fel hyn yn ein gwneyd yn amheus ynghylch hyny. Nid oes genym ond gobeithio nad yw hwn yn rhyfel bychan a hair flinder mwy a cholled fwy mewn bywyd dynol ac arian nag a feddyliodd neb. Mae genym, gw.aetha'r modd, brofiad helaeth o "ryfcl bychan yn tyfu yn rhyfel mawr. Felly y bu yn .achos y rhan fwyaf o'n rhyfeloedd yn erbyn y brod- orion mewn gwahanol ranau o'rbyd. Mesur Addysg 1908. Nid ydym we Hi cael achos i newid ein barn am y mesur hwn er's pan ysgrifenasom arno wythnos yn oi. Wedi hyny, cawsom tgopi o'r mesur, ac nid oes ynddo ddim pwysig na chyffyrddwyd ag ef gan-Mr. Birrell yn ei araeth wrth ei gyflwyno i'r i Senedd. Mac vnddo un adran sydd yn meddu dyddordeb neillduol i ni, bobl Ffestiniog. Adran 26 ydyw hono. Dyry awdurdod i'r Cyngor Sir i ddirprwyo i un- rhyw Gyngor Dosbarth Dinesig, ar ei gais, bob awdurdod sydd ganddo dan y ddeddf hono ond yr awdurdod i benodi a disw ddo athrawon ac i benodi y cyflog a delir iddynt. Ni raid i'r Cyngor Sir wneyd hyny, ond os gwrthyd gais a wneir ato, bydd gan y Cyn- gor Dinesig a wnaeth y cais hawl i apelio at y Bwrdd Addysg, dyfarniad yr hwn fydd yn derfynol. Nid ydym yn cyfrif fod yr adran yma yn werth llawer fely mae. Os ceidw'r Cyngor Sir (h.y. Pwyllgor Addysg y Sir) yn ei law ei hun benodiad a diswyddiad athrawon, a phenodiad eu cyflog-a rhaid iddo wneyd hyny yn ol yr adran yn ei ffurf bresenol-bydd dwylaw y Cyngor Dosbarth Dinesig wedi eu rhwymo rywbeth yn debyg i ddwylaw Rheolwyr Ysgolion y Dosbarth yn awr. Ond mae'n bosibl, os nad yw yn debygol hefyd, y goddefir i'r Cyngor Sir ddirprwyo ei holl awdurdod i Gyngor Dos- barth Dinesig. Os felly byddai ein Cyngor Dinesig ni yn cymeryd lie y Bwrdd Ysgol yn y dosbarth hwn. Rheolid yr ysgolion ganddo, s threthid y dosbarth (ar wahan i'r Sir) i'w cynal. I Yr Esgobion a'r Clerigwyr yn I Gwrth-dystio. Ni fyddai yn gywir dywedyd fod yr Eglwyswyr yn gwrth-dystio, oblegid nid ydynt. Ein cred yw fod naw o bob deg o Eglwyswyr yn ddigon boddlon i'r Addysg Grefyddol yn yr Ysgolion fod yn anenwadol. Daliant dros i'r Beibl gael ei ddarllen a'i ddysgu ynddynt, ond nid ydyw y mwyafrif o honynt yn gofalu dim am y Cater,ism. Mae'r esgobion, fodd bynag, bron i gyd yn dwyn cymaint o sel dros Gatecism Eglwys Loegr a thros y Beibl. Ni wnaem gam a hwy pe dywedem eu bod yn dwyn mwy o set dros eu Catecism na thros y Beibl. Oblegid dywed- ant eu hunain na fydd i'r Beibl ei hunan lesau i'r plant, a thros y Catecism. y maent yn ymladd. Rhaid cofio fod y mwyafrif mawr o'r Esgobion yn Uchel-Eglwyswyr; ni ellir dywedyd hyny ond y cyffredin o'r lleygwyr Eglwysig. Mae'r Esgobion yn gwneyd trefniadau i gyffroi y wlad:Eglwysig yn erbyn y mesur, ac y mae'n ddiameu genym y cant gymorth egniol y rhan fwyaf o'r clerigwyr. Ond prin yr ydym yn credu y llwyddant i wneyd y bobl gyffredin mor gul. a thrahaus A hwy. Mae'r bobl gyffredin sydd yn Eglwyswyr yn ymgymysgu ag Anghydffurfwyr; mewn canlyniad gwyddant pa fath bobl ydynt. Gwyddant nad ydynt (a ddywedyd y lleiaf) yn ol i Eglwyswyr mewn parch i bethau cysegredig, nac mewn awydd i ddwyn eu plant i fyny yn ofn Duw." Gwyr rhai Clerigwyr hyny, ond ymddengys mai dau neu dri o'r Esgobion sydd yn ei wybod. Pe buasent yn ein hadnabod yn well, buasai eu syniadau am danom yn dra gwahanol i'r hyn ydynt. Y Pabyddion a'r Mesur. I Mae Arweinwyr y Pabyddicn ar y cyfan yn dangos mwy o ddoethineb nag a ddengys Archesgob Caergaint ac Esgob Llundain a'u cyfeillion. Nid ydynt yn. cymeryd arnynt fod y mesur yn eu boddloni, ond nid ydynt hyd yn hyn yn ymddifyru trwy draethu ffolineb wrth eu hewyllys, a chwythu bygythioru Mae Dr. Bourne, Archesgob Pabydnol Westminster, yn gallach dyn na Dr. Davidson, Archesgob Protestanaidd (?) Caergraint, ac y mae ei ddylanwad ar Esgobion ac Offeiriad Pabyddol ac ar y bobl hefyd yn Ilawer iawn mwy na dylanwad Mr. Davidson ar y rhai y tybir ei fod yn ben ac yn flaenor arnynt. Hawdd ydyw credu ei fod hefyd yn gwybod mwy am danom ni Anghydffurfwyr, ac yn ein hadnabod yn llawer gwell na'i frawd o Gaergaint. Diau y cydweithreda y Pabydd a'r Eglwyswr i geisio newid y Mesur, ond yr ydym yn cam- gymeryd os nad oes terfynau dros y rhai nid el y Pabydd yn ei wrthwynebiad iddo. Mae'n gallach yn ei genhedlaeth na'r Esgob a'r Clerigwr Uchel-Eglwysig. I Plaid Anibynol Llafur. I Cynhelir Cynhadledd flynyddol Plaid An ibynol Llafur yn Stockton eleni. Agorwyd hi dydd LIun dan lywyddiaeth Mr. P. Snow- den, A.S., yr hwn a draddododd araeth yn yr hon y mae rhai pethau yr ydym yn cyt- uno a hwynt, ac amryw bethau nas gaIIwn gytuno a hwynt. Nis gwyddom i ba enwad crefyddol y perthyn Mr. Snowden, er ein bod yn gwybod ei fod yn ddyn crefyddol. Cred- wn ei fod wedi talu sylw nerllduol i gwestiyn- au Llafur, ac yr ydym yn barod iawn i gredu ei fod yn eu deall yn drylwyr, ond dengys rhai sylwadau o'r eiddo ddydd LIun mai ar- wynebol iawn ydyw ei wybodaeth am gwes- tiwn addysg, a'r casgliad naturiol i'w dynu oddiwrth hyny ydyw nad yw wedi cymeryd trafferth i'w astudio, ac nad yw felly yn ei ddeall. Dywedodd nad yw Mesur Addysg 1906 yn ddim amgen na moddion i sefyd- lu Anghydffurfiaeth. Pe dywedasai Mr. Snowden ei fod yn "sefydlu crefydd yn yr ysgolion, buasai yn rhp.id i ni gytuno ag ef, ond mae dywedyd ei fod yn sefydiu Ang- hydffurfiaeth ynddynt yr un peth a dywedyd mai Anghydffurifaeth ydyw Cristionogaeth ac mai Cristionogaeth ydyw Anghydffurfi- aeth. Er cymaint Anghydffurfwyr ydym nid ydym mor gul a honiadol a dweyd peth felly. (Gyda llaw, yr ydym wedi sylwi fod areithwyr eglwysig yn hoff iawn o ddywedyd nad yw addysg grefyddol anenwadol," neu addysg Feiblaidd syml" yn ddim amgen nag addysg grefyddol Anghydffurfiol. Nid ydynt yn gweled eu bod wrth ddywedyd hyny yn rhoddi y clod mwyaf sydd yn bosibl i Anghydffurfwyr. Maent gystal a chydnabod mai addysg "bur a dihalogedig" y Beibl ydyw ein haddysg grefyddol ni). Un peth yn araeth Mr. Snowden nas gallwn lai na sylwi arno ydyw y gwahaniaeth rhwng ei thon a thnn ei araeth yn Nhy y Cyffredin. Nid efe yw yr unig un ag y mae'n wir am dano ei fod yn siarad yn llawer mwy eithafol ar lwyfanau cyhoeddus nag y sieryd yn y Senedd. Ceir yn areithiau rhai arweinwyr yn Nhy y Cyffredin fwy o sylwedd nag o swn llawer o swn ac ychydig sylwedd sydd. yn eu hareithiau wrth anerch cyfarfodydd cyhoeddus. Onid ydynt trwy ddywedyd mewn cyfarfodydd felly bethau na ddywed- ant mohonynt yn y Senedd yn sarhau eu gwrandawyr trwy fod fwrw" bwyd fyddai yn rhy sal i'w roddi i seneddwyr yn ddigon da gynulliad o weithwyr. Nid ydym yn cytuno a hwynt. Mesur Anghydfod Llafurol. Dydd Mawrth, yn un o gyfarfodydd y Gynhadledd a enwyd uchod, cyfeiriodd Mr. Keir Hardie at y mesur hwn. Hysbysodd y cyfarfod fod y Llywodraeth wedi derbyn adran i'w gosod ynddo "ar linellau llafurol," ac y bydd y mesur o hyn allan. tra ar ei ffordd trwy Dy'r Cyffredin yn llaw Syr W. S. Robson, y Cyfreithiwr-Cyffredinol, yr hwn sydd yn cydymdeimlo yn fwy a golyg- iddau Undebau Llafur nag y gwna Syr Lawson Walton, y Twrne-Cyffredinol, gan yr hwn y cyflwynwyd y mesur i'r Ty. Dywed odd Mr. Keir Hardie hyn mewn dull holl.ol bendant, ac nid fel un yn siarad "ar ei gyfer." Os ydyw yr hyn a ddywedodd yn ffaith, yr oil a ddywedwn ydyw fod y Llyw- odraeth wedi gwneyd y peth goreu yn yr amgylchiadau, hwyrach,, trwy gymeryd y mesur o law Syr L. Walton a'i roddi yn Haw Syr W. S. Robson, ond ei bod wedi gwneyd peth na ddylasai fod angen am ei wneyd. Heblaw hyn, os oedd yn iawn iddi ar gymhelliad Plaid Llafur osod i fewn ynddo adran fel a grybwyllwyd, dylasai yr adran hono fod yn y mesur o'r dechreuad. Ofnwn fod y Weinyddiaeth mewn cyflwr anfoddhaol o ran ei pherthynas a'r mesur hwn. Undeb Athrawon Ysgolion Elfenol. I Yn nghyfarfod blynyddol yr Undeb yma yn Scarborough, yr oedd yn naturiol i'r Mesur Addysg gael sylw neillduol. Dywed- wyd yn ei erbyn gan ychydig aelodau ydynt naill ai yn Eglwyswyr neu yn Babyddion, ond ymhlith ei bleidwyr mwyaf selog cafwyd amryw athrawon ac athrawesau ydynt yn Eglwyswyr. Pan roddwyd penderfyniad yn ei gymeradwyo i bleidlais, pasiwyd ef gyda rhywbeth heb fod yn mhell oddiwrth unfryd- edd. Bydd hyn yn foddion i gryfhau dwy- law Mr. Birrell. Mae cymeradwyaeth corph mawr Athrawon y wlad yn rhywbeth gwerth ei gael, ac yn myn'd yn mhell i brofi fod y mesur yn un gwerth ei gael. Mr. Michael Davitt. Drwg iawn genym ddeall fod Mr Michael Davitt wedi bod yn beryglus wael. Mae yn awr, goreu'r modd, ryw gymaiat yn well. Er nad oes ymhlith meibion yr Ynys Werdd neb yn dwyn mwy o sel dros Ymreolaeth i'r Iwerddon nag ef, nid yw wedi cyfrif fod sel dros ymreolaeth yn galw am iddo wadu ei Ryddfrydiaeth neu ei chyfrif yn ail beth. Mae yn Rhyddfrydwr pybyr. Tra yn Babydd defosiynol, nid yw yn gaeth i'r offeiriaid, ac nid ydym yn meddwl fod ganddo syniad uchel am danynt. O'r holl arweinwyr Gwyddelig efe ydyw yr unig un y gwyddom am dano a gytunai gyda ni Anghydffurfwyr i Iwyr gondemnio Deddf Addysg 1902. Eiddunwn iddo adferiad buan a llawn.

Cwmni Yswiriol y New York,

Family Notices