Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
YMGAIS I DDINYSTRIO TREN.
YMGAIS I DDINYSTRIO TREN. Awdwr y Chwedl yn Saethu ei hun. Lie hynod am chwedlau o'i heiddo ei hun yw Llangollen, a phan fydd rhyw ddigwyddiad bychan dibwys yn cymeryd lie yno, bydd yr hanesion yn y wasg Seisnig wedi chwyddo i faintioli anferthol, ac yn cael en hadrodd gyda'r fath fedrusrwydd dyfeisgar fel yr arweinir y cyhoedd i gredu y cwbl hyd nes y ceir y gwir yn mhen dyddiau ar ol hyny. Ychydig wythnosau yn ol, cafodd Llangollen ddaeargryn o'i heiddo ei hun, ac yr oedd yr effaith ar y llestri yn y tai, ac ar bethau eraill mor gyffrous fel ag i achosi dychryn ac ofnad- wyaeth trwy fynwes yr holl drigolion'! Ond wedi aros hyd dranoeth, cafwyd nad oedd y daeargryn yn ddim ond effaith ergyd mewn craig yn ymyl ty y gohebydd sydd yn digwydd bod yn berchenog ar ddychymyg Iled fywiog. Yn y newyddiaduron ddydd Sadwrn cafwyd adroddiad cyffrous fel y canlyn :-Fel yr oedd signalman o'r enw Rowland Ellis Evans, yn myned ar hyd y ffordd tua una'rddeg o'r gloch nos lau, clywodd swn ar y gledrffordd am y clawdd ag ef, aeth drosodd a gwelodd ddau ddyn yno yn gosod coed cledrau (sleepers) ar y llinelI, ac yn y fan tarawyd ef a phastwm nes y syrthiodd ar lawr, ac wrth syrthio teimlai rhywbeth miniog yn tori ei wddf. Collodd ei ymwybyddiaeth, ond daeth ato ei hun yn mhen ychydig eiliadau. Yr oedd y ddau ddyn wedi diflanu o'r lie, a rhedodd yntau mor gyflym ag y gallai i'r signal-box i droi yr arwydd o berygl er atal y tren gan y byddai iddi gyfarfod a thrychineb anaele os deuai yn mlaen i'r pentwr coed oeddynt ar y cledrau. Yna cofiodd na byddai i'r tren sefyll wrth gael yr arwydd ond arafu yn unig. Cafodd afael mewn Ilusern ar yr Orsaf, a rhed- odd a'i holl egni ar hyd y llinell i gyfarfod y tren er mwyn ei hatal gyda'r goleu coch chwareuai ol a blaen. Pan ddaeth y tren syrthiodd fel marw ar ochr y Ilinell, a chodwyd ef i'r gerbydres, Ar ol symud y coed awd yn mlaen i'r orsaf, a bu Evans yn anymwybodol hyd yn hwyr nos Wener, ac ofnid am ei fywyd. Dyna'r stori. Ychydig o honi yn wir, nid oedd ol dim ar gorph Evans, ni bu yn anymwybodol yn ngolwg neb, ac nidoedd arwydd leiaf fod ar ei iechyd. Gwaith y Gohebydd yn dych- mygu yw y pethau hyny. Cynhaliwyd ym- chwilian manwl i'r hyn ddywedodd Evans, a'r oil o'r cyfryw gaed yn gywir ydoedd, iddo fynedx i'r Signal Box a throi yr arwydd yn erbyn y tren, ac ar ol hyny redeg i lawr y llinell gyda goleu coch ar ei lusern i atal y tren a bod coed ar y cledrau. Er pob ymgais i gael ar- wyddion i gadarnhau chwedl Evans ni chaed dim; a'r unig gasgliad ellid ddod iddo ef osod y coed yno ei hun; cael prawf o hyny ydoedd an- hawdd drachefn gan eifod yn un o'r dynion ieu- aingc rhagoraf ei gymeriad oedd gan y cwmni. Pwysid arno am eglurhad ar ei fod yn y lie yr adeg hono o'r nos, a phaham na fuasai yn symud y coed ei hunan oddiar y cledrau yn hytrach na rhedeg ol a blaen i'r Orsaf ? Nid oedd ei gyfrif yn foddhaol i'r awdurdodau, a phwysai hyny yn fawr ar ei feddwl trwy ddydd Gwener a Sadwrn, ac ofnai gael ei ddodi yn ngharchar ar ymchwiliad pellach i'r amgylchiadau. Nos Sadwrn, aeth Evans o Langollen am ei gartref yn Pantyceubren, Llanuwchlyn. Treul- iodd y Sabboth bron yn gyfangwbl yn ei wely, a methai ei fodryb yn lan a'i sirioli, Boreu ddydd Llun, ar haner ymwisgo, aeth allan gyda gwn, i "edrych am wningod meddai ef wrth ei fodryb, Tystiodd y gweision iddynt ei weled yn pasio yr adeiladau ychydig wedi saith o'r gloch, a gwn yn ei law. Ychydig wedi wyth o'r gloch, darganfyddwyd ei gorph marw mewn llyn o waed gyda'r gwn wrth ei ochr. Yr oedd wedi gosod ffroen y gwn ar ei fynwes, a gollwng yr ergyd i'w galon gyda darn o wialen oedd yn ei ymyl. Ni adawodd air o gwbl i egluro y chwedl am y coed ar y Llinell. Yr oedd y trangcedig yn ugain oed. Dywedir ei fod wedi darllen ffugchwedlau yn ddiweddar am anturiaethau arwrol, a gall i bethau o'r fath effeithio ar ei feddwl nes ceisio gwneyd arwr" o hono ei hun. Y TRENGHOLIAD. Dydd Mawrth, yn Pantyceubren, Llanuwch- llyn, cynhaliodd Mr. R. O. Jones, y Trenghol- ydd Sirol, drengholiad ar y corph. Eglurodd Mr. Jones i'r Rheithwyr mai dyledswydd Cwmni v Rheilffordd ydoedd chwilio i mewn i'r digwyddiad yn Llangollen, ac mai ei gwaith hwy oedd chwilio i achos marwolaeth y trangc- edig yn unig. Tystiwyd gan y teulu sut y bu gydag Evans a'r gwn, a'r modd y cafwyd ef yn gorwedd yn farw a'r gwn wrth ei ochr, Dy- wedodd David Richard Roberts, Bala, ei fodar ymueliad a Pantyceubren dros wyliau y Groglith a'r Pasg, ac wrth ymddiddan yn nghylch "digwyddiad Llangollen" bu i Evans I ddywedyd ei fod wedi cael cerydd gan awdur- dodau Cwmni y Rheilffordd am na cheisiodd symud y coed oddiar y Llinell. Y Prif-arolygydd W. Thomas a ddywedodd fod Evans yn ngwasanaeth y Cwmni er Mawrth 30, 1903. Yr oedd ei ddyrchafiadau yn hynod gyflym. Nid oedd wedi ei atal o gwbl. Trengholydd: A; ni chyhuddwyd ef o fod wedi gosod y pethau ei hun ar y Llinell ?— Naddo. Trengholydd Dywedodd wrth un o'r tyst- tonlei fod wedi ei geryddu yn Ilym.-Rhaid mai dychymyg noeth' ar ei ran oedd hyny. Dychweiwyd Rheithfarn o, Saethu ei hun tra mewn cyflwr o orphwylledd dros dymor." Hysbysodd y Trengholydd fod dau lythyr wedi eu derbyn yn Llangollen gyda chyfeiriad Evans arnynt. Gwobr o bunt yr un i Evans am ei ddewrder yn atal y tren oeddynt, y naill oddiwrth J. Dayman,-Abertawe, a'r llall oddi- wrth Ledlsy Taylor, White Lodge, Steering- ham. Ery: y digwyddiad hwn yn ddirgelwch, gan nad oes dim arwyddion wedi eu darganfod er cynorthwyo yr awdurdodau i allu penderfynu a oedd dau ddyn ar y lie a'i peidio.
1Briwsion o Ffestiniog.
1 Briwsion o Ffestiniog. MYN'D i FFWRDD.-Fel Ilawer ardal arall nid yw y Llan yma yn ol o golli rhai o'i mheibion mwyaf glew yn yr argyfwng presenol. Yn ddiweddar gadawodd y cyfaill Henry Williams, Tyddyn gwyn,' ei Gymru anwyl, man ei gryd a'i chwareu difyr, am Australia ddieithr a phell. Yr wythnos hon drachefn gwelwn lawer bwlch yn llefaru am ymadawiad Mr. R. Cynfal Roberts o'n plith, yntau wedi gadael cartref ei awen am y Deheudir boblog. A phwy nad ydyw yn dymuno Ilwyddiant gwir cyfeillion mor hoff, a chymwynaswyr mor barod. Ac er mwyn eu llwyddiant rhaid i ni hyd yn nod roi ffordd i bob colled, a chroesi pob teimlad, gan obeithio nad yw ei absenoldeb i fod yn un hir. DAL I GWYNO.—Nid yn ami y bydd cwyn a chri yn cael awdurdod yn mywyd plentyn. Mwy nodweddiadol iddo ef ydyw r gan a'r wen, y salm a'r delyn. Ond y mae afiechyd hyd yn nod yn gallu lleddfu salmau plant, a thristau eu hoender ieuanc, a dyma hanes llawer o'r rhai bach yn y dyddiau hyn. Er pob gofal anwyl, myn afiechyd ei hawliau, rhaid iddo gael ei ffordd, ond gobeithiwn yn fawr na chaethiwir y rhai bach yn hir. Aiff goreu ein hardal i golli, os na chaiff yni ei plant. Ond siawhs na ddaw eto haul ar fryn, a blodeu a'r ddol, pan ddaw'r haf a'i fendith lawn i guro wrth ddrws ein hardal am hoender cyntefig ei phlant. MAEN A BEDD.—Dyma s'yn cyfarfod rhai o'n cyfeillion o hyd. Maen yn cuddio'r angel a Bedd yn clwyfo'r fron. Yr wythnos ddiweddaf collodd William Davies, Bryn Hir ei blentyn hoff Willie Rees yn 3 blwydd oed. Yr wythnos hon drachefn dyma Mr, John Ephraim Pant Llwyd, mewn dyfroedd dyfnion wedi colli o hono ei briod serchog yn 36 oed cyd- ymdeimlir yn fawr a'r ddau gyfaill yn eu trallod dwfn a'u hunigedd dyeithr. A dymunwn iddynt lawer o nerth a chysur y Diddanydd arall i ym- gynal o dan y brofedigaeth chwerw. DOD ADREF.—Pa fwyniant tebyg i fwyniant cartref ? Pa groesaw tebyg i groesaw mam ? Dyma oedd iaith llawer wrth adael llwch y trefi poblogam lendid pentref eu Cymru wen. Do, daeth ein llanciau a'u gwyryfon adre'n Ilu, a phawb yn falch o'u gweled. Pa wlad fel Cymru am garu ei plant, rydd oreu ei thant i'w meithrin. A dyma ddyry fod i serch y Cymro at ei Walia hoff pa le bynag y bydd, y ffaith fod Cymru'n caru'r Cymro er gwaetha pob Offa a Ffin, a gobeithiwn nad anghofia Cymru ieuanc ein hardal ninau pan yn mhell o'u gwlad, fod cariad Cymru yn hawlio eu serch hwythau at eu hiaith, eu gwlad, eu cenedl, a'u Duw, er cynydd a rhyddid gwirionedd. CYMRU SOBR.-Dal i weithio o hyd mae'r cyfeillion gyda Dirwest. Dyma sydd yn gadernid a sefydlogrwydd i'r Gymdeithas. Cyfarfod gweddio gafwyd nos Wener diweddaf, a phawb mewn hwyl yn addoli. Da iawn genym glywed dynion ysprydol en barn yn tystio nad yw Yspryd y Peth Byw" yn ddyeithr i weddiau Cymru Sobr. CYMANFA'R PASG. Dyma'r Gymanfa bellach wedi myned, ond nid heb adael bendith lawn a'i hoi. Fe gofir byth am y Gymanfa hon gan lawer fu dan ei gweinidogaeth rymus. I R'oedd y gweision oil yn eu hwyliau goreu, ac odlau mawl yn dyrchafu i ogoneddu'r Ceidwad., A pha ryfedd fod yr argae wedi tori fwy nag unwaith mewn llawer calon, a'r dylanwad Dwyfol wedi mynu ei ffordd i gynwys yr oedfaon cynes. Do, cafodd llawer afradlon wledd lawen yn y Gymanfa hon, a llawer pererin ei gadarnhau a'i ysprydoli ar riwiau- r byd i Gaanan Duw. Cymanfa odidog oedd hon yn mhob ystyr. a chawodydd bendith yn disgyn ar yr oil o honi.
Cynghor Egiwysi RhyddionI…
Cynghor Egiwysi Rhyddion Blaenau Ffestiniog. Cynhaliwyd cylarfod o'r uchod nos Fawrth, Ebrill lOfed. (1) Darllenwyd apel oddiwrth Bwyllgor Addysg Gelfyddydol yn gofyn am gydweithrediad y Cynghor ynglyn a'r Ysgolion Nos a drefnir yn y gauaf ar gyfer y bobl ieu- aingc. Wedi ymdrafodaeth faith ar y mater, pryd yr amlygodd llawer y fantais a ddeillia oddiwrth ffyddlondeb i'r ysgolion hyn, pasiwyd yn unfrydol, Ein bod yn datgan ein cydym- deimlad a'r ymdrechion a wneir gan garedig- ion addysg yn y cyfeiriad hwn, a'n bod yn cyf- lwyno yr apel i sylw yr eglwysi, gyda chais am iddynt wneyd yr hyn a allant er hyrwyddo yr vsgolion hyn vn vstod v tvmhor nesaf." (2) Derbyniwyd a chymeradwywyd adroddiad yrls-Bwyllgor, a phasiwydyn unol a'i awgrym- iad i alw sylw y rhieni trwy y gwahanol eg- lwysi at y perygl anianyddol a moesol sydd yn deilliaw i'r plant o ysmygu Cigarettes. Pasiwyd i gysylltu a'r adroddiad anghymeradwyaeth i Raiilo a gymer le mor fynych yn y wlad. (3) Pasiwyd ein bod fel Cynghor yn cefnogi y Mesur sydd o flaen y Senedd yn gwahardd gwerthu Cigarettes i rai dan 16eg, ac yn dymuno iddo ddyfod yn ddeddf yn fuan. (4) Pasiwyd y penderfyniad a ganlyn o berthynas i'r Mesur Addysg presenol, a'i fod i'w anfon i'n haelod Seneddol-Mr A. Osmond Williams, ac i'r Prif Weinidog,—Y Gwir Anrhyddedus Syr H. Campbell Bannerman. "Dymuna Cyngrair Eglwysi Rhyddion Blae- nau Ffestiniog ddatgan ei ymddiried llawn yn Llywodraeth ei Fawrhydi, a'r llawenydd di- ffuant a deimla o herwydd fod Mesur i symud y camwri dybryd wnaed ag Anghydffurfwyr Lloegr a Chymru gan Ddeddf Addysg 1902, wedi ei ddwyn o flaen y Senedd gan y Gwir Anrhydeddus A. J. Birrel, gweinidog Addysg. Teimla'r Cynghor hwn yn nodedig o falch wrth weled y sicrheir gan y Mesur hwn lywodraeth- iad gan y bobl ar bob ysgol a gynhelir o'r dreth, a diddymir pob prawfion crefyddol ar athrawon, ac y cedwir allan o'r ysgolion dar- paredig addysg grefyddol enwadol." (5) Pasiwyd fod dirprwyaeth o'r Cynghor i j groesawu Cymanfa Gyffredinol y Metho dish iaid i'r ardal. Penodwyd fel Dirprwyaeth y personau canlynol: Parchn. J, Rhydwen Parry, Isfryn Hughes, John Hughes, Mri. D. G, Williams, Church Street; W. W. Jones, Brynawel; a William D. Jones, Brynegryn. (6) Pasiwyd hefyd fod dirprwyaeth o'r Cynghor i groesawu Undeb yr Annibynwyr Cymreig i'r ardal. Penodwyd y personau canlynol i weithredu fel Dirprwyaeth:— Parchn. David Jones, Garregddu; T. Isfryn Hughes, D. D. Jones, Tanygrisiau; D. Hoskins, M;A., Mri. Andreas Roberts, a Rd. Jones, Salem Cottage. (7) Pasiwyd ein bod i dalu arian y Girls' Guild yn ol i'r Gymdeithas. (8) Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a pherthynasau y diweddar Hugh Hughes, a gollodd ei fywyd drwy gyfarfod a damwain angeuol yn y Chwarel, yr oedd yn aelod o'r Cynghor, a gair da iddo gan bawb. (9) Dadganwyd gwerthfawrogiad o fywyd a llafur y diweddar Barch David Roberts, Rhiw. Yr oedd yn wr mawr yn Israel, cafodd ffafr gan Dduw, a pharch gan yr holl bobl. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r weddw a'r teulu yn eu galar. I GEORGE DAVIES, Brynbowydd.
IBeddgelert a'r Amgylchoedd.
I Beddgelert a'r Amgylchoedd. Prydnawn Sadwrn cynhaliwyd Cyfarfod Ymadawol i'r llanciau ieuaingc canlynol:—Mri Robert Goodman, William Jones, Rt. Jones, a John Williams, yr oil o honynt wedi eu geni a'u magu yn yr ardal, y maent erbyn hyn ar eu taith i wlad y Gorllewin. Cafwyd cyfarfod rhagorol a buddiol iawn mewn canu, adrodd, ac anerchiadau. Cymerwyd rhan gan y rhai canlynol:—Canu, Eos Gwynant, Rt. Roberts a Evan Roberts. Adrodd, John Parry, Anerch- iadau Barddonol, W. O. Williams ac Evan Williams. Cafwyd gair gan Mri. Jack Jones, Robert Roberts, David Pritchard, Griffith Wil- liams. Cafwyd gair o ddiolchgarwch am y teimladau a'r cynghorion da tuag y cyfeillion gan Mr. Robert Goodman. Cododd y dorf ar eu traed i ddangos eu dymuniadau goreu iddynt Cyfeiliwyd gan Mr. Morris Parry, Llanberis. Arweiniwyd y cynherdd gan Mr. E. Evans. DARLITH.—Yr un noswaith cafwyd gwledd ragorol i'r Meddwl a'r Ysbryd gan y Darlith- ydd enwog Ap Glaslyn ar y testyn amserol Y Tan Cymreig," yn nghapel y Pentref.- Cymer- wyd y gadair gan y Parch. J. T. Job, Bethesda. Yr oedd y teimladau wedi codi i dir uchel, yr oedd mewn yspryd rhagorol, yn neillduol pan yn canu rhai darnau cysegredig. Cafwyd gair gan Alafon, Job, a Mr. Williams, Gweinidog Moel Tryfan. Yr oedd y cyfeillion ieuangc wedi bod yn ddoeth iawn i ddiweddu cyfres cyfarfodydd y gauaf yn y dull hwn. MARW HENAFGWR.—Prydnawn Sadwrn di- weddaf, bu farw Mr. Edward Owen o Rhyd- ddu, wedi cyrhaedd oedran teg o 80 mlynedd, Ychydig dros flwyddyn sydd er pan y bu farw ei briod, cafodd y ddau oes faith gyda'u gilydd. Hen gymeriad di-rodres a gwreiddiol ydoedd Edward Owen, yr oedd yn gwerthu glo er's llawer (J) flynyddau. Claddwyd ei weddillion yn mynwent Beddgelert prydnawn heddyw (dydd Ian).-Ap GELERT.
IBuddugoliaethau'r Groglith…
I Buddugoliaethau'r Groglith a'r Pasg. Dymunwn longyfarch y cyfeillion canlynol ydynt o'r cylch hwn fuont mor lwyddianus yn nghystadleuon y Groglith a'r Pasg. Yn Nghaernarfon enillodd Gutyn Eifion bum gini ar yr Her Unawd, ei briod yn gydradd ail a Mr. Evan Lewis, Capel Cerig am y tair gini, Gutyn ei hun yn oreu ar yr Unawd Tenor, ac efe a'i briod yn fuddugol ar y Ddeuawd. Yn yr un Eisteddfod cystadleuodd pum cor, a daeth Ffestiniog, Caergybi, a Nantlle allan yn oreu, ond gan nad oedd mwy nag un wobr, dyfarnwyd hi i Nantlle. Mr. J. W. Davies Pentrefoelas ydoedd yr ail, allan o lu mawr, ar yr Unawd Tenor yn Eisteddfod y Rhyl. Yn Arddangosfa Nefyn enillodd. Fox-terrier Mr. William Thomas (Cromlechydd), Porth- madoc, y wobr flaenaf, a Mr. E. Lloyd Hope, Llanrwst yr ail wobr, Mr. T. Foulkes Morris, Blaenau yr ail wobr gyda ci defaid blewyn garw. Mr. D. R. Evans,' Porthmadoc enillodd gyda'r Helwr-gi goreu, ac efe oedd perchenog y ci goreu o unrhyw rywogaeth wahanol i'r rhai ddynodid ar y Rhestr. Yn yn Arddangosfa ceffylau Conway am geffyl gwedd tair oed cafodd Mr. R. Roberts, Llan- rwst yr ail wobr; a Mr. R. Williams, Glan Conway am un ddwy flwydd oed. Am gaseg a chiw (amae thy ddol) cafodd Mr. G. O. Jones, Merchlyn yr ail wobr. O. Hughes (Glasgoed). Tanrallt Terrace, Blaenau. enillodd gyda 50 Llinell ar Yr lesu a safodd."
ICytundebau y Tafarnau Rhwym.I
Cytundebau y Tafarnau Rhwym. I 0 flaen Heddlys Crewe, ddydd Mawrth, bu ystyriaeth faith uwchben trwydded Angel Hotel. Dywedodd y cadeirydd fod hanes an- hyfryd i'r ty hwn lei gyda llawer o dafarnau eraill oeddynt yn eiddo i'r Darllawyr, ac yn rhwym o danynt. Yr oeddynt fel ynadon yn gwrthwynebu yr adran oedd yn y cytundeb yn gofyn am i'r tenant dalu y rhent yn miaen ilaw. Cydsyniai y Darllawyr i dynu hyny allan. Yr oedd y Faingc yn mhellach yn gwrthwynebu yn gryf i'r adran oedd yn rhwymo y tenant i dros- glwyddo o'i law yr oil a ddaliai heb ystyriaeth bellach mewn ystyr arianol, a hyny ar y rhy- budd lleiaf, Yr oedd adran o'r fath yn cymer- yd unig amddiffyniad y tenant o'i law. Hefyd dylai pris y cwrw fod i lawr, er mwyn i'r Faingc weled a oeddynt yn rai teg. Caniatawyd tros- glwyddo dros dro, hyd nes y ceid amser i gwbl glirio y pwyptiau pwysig uchod. Y mae y Meingciau Ynadol trwy'r holl wlad yn dod i deimlo y dylai tafarnwyr gael mwy o chwareu teg gan y cwmniau.
i Ilentyn yn Saethu ei Fam.I
i I lentyn yn Saethu ei Fam. Nos Sul, chwareuai plentyn un-ar-ddeg oed gyda gwn yn Thurston, ger Norwich. Taniodd y gwn yn ddamweiniol, ac 'aeth yr ergyd oedd ynddo trwy galon Mrs. Harriet Lloyd, mam y bachgen.
I Cymdeithas Ysweiriol y Britannic.
I Cymdeithas Ysweiriol y Britannic. Y mae Mantolen y Cwmni hwn am 1905 wedi ei chyhoeddi, yn dangos i 513,561 o Policies newyddion gael eu rhoddi allan yn cynrychioli y swm o £ 351,125. Cyfanswm y Cyfalaf yw ^1,047,917 yr hyn sydd yn gynydd o ^215,497. Boddhaol iawn i'r Cwmni yw y ffaith fod eu masnach wedi dyblu yn ystod y pedair blynedd diweddaf. Yr Arolygydd Lleol yw Mr. Hugh Lloyd, ac y mae ganddo nifer o ddynion da yn gweithio o dano fel goruchwylwyr.
IBlaenau Ffestiniog.I
I Blaenau Ffestiniog. GWERTHU GLO.—Fel y gwelir mewn colofn arall, y mae Mr Richard Williams, Park Square, wedi cymeryd i fyny fasnach glo Mr W. Austin Davies. Y mae Mr Davies wedi penderfynu ymadael o'r ardal, a felly daeth i'r penderfyniad uchod o werthu ei fasnach glo, yr hwn a gariai yn mlaen yn llwyddianus er's cryn amser. Eiddunwn i'r cyfaill Mr Richard Williams bob llwyddiant fel masnachwr. DIRWESTOL.—Cynhaliwyd fCyfarfod Dir- westol gan Gymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd yn School-room Garregddu, nos Wener diweddaf, dan lywyddiaeth Mrs R. R. Morris, Tabernacl, Llywyddes Cymdeithas y Chwiorydd. Dechreuwyd gan Miss Hughes, Manod Road. Papur ar Anffyddlondeb i Foddion Gras," gan Miss Jones, Garregwen, Rhiw. Papur Ddewisiad lleol er mwyn Plant," gan Miss Owen, Rhiw. Adroddiadau gan Annie J. Davies, 4Cissie Jones. Caneuon gan Misses Katie Williams, a'i Pharti; Katie Jones, Trefeini, a'i chyfeillesau Polly Jones, Mrs Ephraim, a Mr. W. J. Williams, 23. New Market Square. Gair gan y Brawd E. Cefni Thomas, yr hwn hefyd a gynygiodd ddiolch- garwch i'r Chwiorydd, a chefnogwyd gan y Brawd John Owen. Terfynwyd gan Mrs R. R. Morris. Cofier am y Demi nos Wener nesaf, am 7 o'r gloch.—T.R. HEDDLYS ARBENIG.—Prydnawn dydd Mawrth o flaen Dr. R. D. Evans, yr hedd- geidwad Owen Jones, a gyhuddodd Robert Gwilym Jones, yn awr yn gweithio yn Neheu- dir Cymru, o fod yn feddw Tach. 21, 1905. Nid ymddangosodd yn y Llys ei gwysiwyd iddo, a rhoddwyd gwarant allan i'w ddal. Daeth drosodd o'r Deheudir nos Sadwrn, a rhoddodd ei hun i fyny boreu dydd Mawrth.— Dirwy o swllt a deunaw swllt o gostau. CYNGHERDD Y PYSGOTWYR.- Cynhaliwyd yr uchod nos lau, yn Ysgol y Bechgyn, Maen- offeren. I aros i'r cynulliad ddod ynghyd, difyrwyd y rhai oedd yn bresenol gan Gramo- phone Mr. W. Owen, Plasweunydd, pa rai a fwynhawyd yn fawr gan y rhai oedd yno. Llywyddwyd gan Dr. Roberts (Isallt), gan yr hwn y cafwyd ^nerchiad campus, gyda hanes cychwyniad a gwaith y Gymdeithas o'i dechreu hyd yn awr. Detholiad ar y delyn gan Mr D. Francis. Cafwyd Can Caller Herrin gan Miss S.. A. Morris. Canu gyda'r Tannau gan Mr. W. 0. Jones. Ymgyrch y Gamallt (anerchiad barddonol) gan Mr. Bevan. Can gan Mr. W. Thomas Jones, Soldier Song." Canu gyda'r Tannau, Mr. J. D. Jones, Rhiw- bryfdir. Can gan Mr. Arthur Penrhyn. Can gan Mr. E. Ffestin Jones, "Merch y Cadben." Can gan Mr. R. 0. Davies, Bethania, "Mentra Gwen." Rhangan gan barti Mr. Evan Morris, Mae'r adar yn telori," y geiriau a'r alaw gan Isallt, y gynghanedd a'r cyfeiliant gan Mr. W. 0. Jones (allan o'r "Cymru" am Ebrill, 1906), a gorfuwyd ei hail ganu. Cyfeiliwyd gan Mr. M. E. Phillips, Higher Grade, ac arweiniwyd gan Bryfdir yn ei ddull deheuig ei hun, a chafwyd ganddo gyfres o benillion ar hynt y pysgotwyr, doniol a difyrus, gydag ambell gyieiriad at ami i dro trwstan rhai o'r pysgotwyr, pa rai a dderbyniwyd gyda chymer- adwyaeth fawr, ac yn yr ysbryd goreu. Caed gair byr a phwrpasol gan y Parch. J. Rhydwen Parry; a chawsom un o'r Cyngherddau goreu a dreuliwyd erioed yn yr ardal, dyddorol ac adeiladol, chwaethus, ac yn llawn o natur dda. Diolch lawer i'r Gymdefthas am drefnu rhag- len mor iachus, a hyderwn y cawn gyfle i gael ei debyg yn fuan eto. EIN CANTORION A'N LLENORION.—Yn beirniadu y Seindyrf vn Rugby y bu Mr. Fidler, arweinydd Seindorf Freiniol Oakeley. Yn clorianu y cantorion ac yn datganu yn Rhosesmor, Sir Fflint, yr oedd Mr, Ted Lloyd, a rhoddodd foddlonrwydd cyffredinol yno. Cydfeirniadu yr adroddiadau yn Nghaernarfon yr oedd Dewi Mai dros y Pasg. Gwasanaethai Mr E, Ffestin Jones yn Llanfairfechan nos Fercher a chaiodd hwyl nodedig. Bu Mr J. Tudor Owen hefyd yn brysur iawn. Yr oedd yn Machynlleth nos Wener a nos Sadwrn a nos Fawrth yn Harlech. ARDDANGHOSFA PWLLHELI.—Daeth y prif wobrwyon am Gwn yn yr Arddanghosfa hon i'r ardal yma. Mr Thomas Lewis, Rhydysarn, gafodd y wobr gyntaf a'r wobr arbenig am Spaniel a Mr Griffith Owen, Uncorn terrace, y drydedd. Mr H. Gray Parry, Clydfan, wob- rwywyd am Fox Terrier, yr hwn hefyd oedd y goreu yn yr Arddangosfa. Enillodd Mr Thomas Foulkes, Cross Keys, gyda'r Collie, a daeth amryw wobrwyon eraill i'r lie. CYMANFA'R PASG.—Cafwyd cymanfa Bregethu nodedig 0: lewyrchus eleni gan y Methodistiaid: cynulliadau mawrion, a phregethau grymus nodedig. Yr oedd mwy o gyffro cywrain y llynedd a'r gyfrif berw y Diwygiad oedd yn ein plith y pryd hwnw ond eleni yr oedd mwy o ddwysder dwfn yn effaith nerth apeliadol y gwirionedd: llai o ganu ysgafn, a mwy o feddylgarwch ystyriol. Nid lie newyddiadur yw beirniadu na cheisio desgrifio yr un o'r cenhadon na'u pregethau. Os yw y cenhadwr yn yr ysbryd y dylai fod, gall ddywedyd yn hyderus, Eithr genyf fi, bychan iawn yw fy marnu genych chwi," neu gan farn dyn, eithr yr Arglwydd yw yr hwn sydd yn fy marnu." Yn ngwyneb tystiolaeth o'r fath y mae'n gweddn i ni yn Parbad yn tudalen 8.
Advertising
f MAE ?L???????? ? <Mwj!fAiE? < ??. ??'° §MAE.. AT ? f '? H B GWAED. Y Gwaed yw'r Bywyd. Y Gwaed yw'r Nerth. Y Gwaed yw Pobpeth. Y mae pawb-y chwi yn eu mysg-yn agored i nifer fawr o glefydau, Paliam telly P Am fod Anmhurdeb yr Awyr, Anmhurdeb y Dwfr, Anmhurdeb Bwydydd, ac Anmhurdeb pethau amgylchynol yn cren Anmhnrdeb y GWAED. A phan bydd y GWAED yn cael ei lygru a'i wenwyno, mae yn gwneyd yn bosibl i'r SCURVY, ECZEMA, TARDDIANTAU Y CROEN, LLYGBIADAU, RASH, COESAU OLWYFEDIG PENDDYNOD, RHEUMATISM, OORNWYDON, NEURALGIA, A 11n o Glefydau eraill y Oorff a'r Ymenydd, i rnthro ar wahanol ranau o'r cyfansoddiad. Fe ellir atal a rhagflaenu y rhan fwyaf o'r clefydan ag sydd yn blino yr hil ddynol, drwy gadw y GWAED yr BUR. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod HUGHES'S BLOOD PILLS YN PURO Y GWAED, AC YN El GADW YN BUR. ArMynwoh weled llun y Galon ar bob box Heb tsa hyny Twyll ydyw. Os byddwch yn dioddef oddiwrth DOLUR PEN, DIFFYG TRAUL POEN Y CEFN, BILIOUSNESS, GWYNT, ISEL YSBRYD, AFU DDRWG, CORFFRWYMEDD. NERVES EGWAN, ANHWYLDERAU Y CYLLA A'R ARENAC. Cofiwch fod gwreiddyn y drwg yn y GWAED, a bod vn rhaid myned at y GWAED cyn y gellir cael iacbad gwirioneddol. Mae HUGHES'S BLOOD PILLS yn cael effaith uniongyrchol ar y GWAED, ac ar yr hot gyfansoddiad. Rhoddwch brawf arnynt. Ar worth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine am Is lie, 2s 9c, 4s 6c, neu danfoner en gwerth mewn Stamps neu P. 0. at JACOB HUGHES, M.P.S., L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. Rhoddwch brawf 1,' "0,- ar Gomer's ¡;(;- ???? Batm Hi GOMEITS BALM YN ELI AT ]BOB MAE "GOMERS BALM YN ELI AT BOB CLWYF, AC YN HYNOD AC ANIFAELEDIG AT BOB MATH 0 GLEFYDAU ALLdNOL V OOFFR. A oes genych Goes Ddrwg. Y mae GOMER S BALM yn inchau y Clwy braidd yn wyrthiol. Hefyd Archollion, Llosgiadau, Tarddiantau y Cnawd, Exzema Cedwir Jlawer Aelod. Drwy ddefnyddio GOMER S BALM. Y mae yn iachan Orach ar y Pen a Gwynebau Plant, Yscaldanau, Piles, Llygriadau Plant a Benywod, Malaethau,1:Tarwden. Traed Chwysedig, Gout, Gwynegon, Scurvy. Blood Poison. Gair at Faman, Gweithwyr Haiarn, Alcan, Glo, Cemg Ffermwyr, Morwyr, Engineers, Ymdeithwyr, Crefftwyr o bob math, ni ellii cael dim mor effeithiol a sicr a Corner's Balm at bub Archoll a Damwain i'r Cnawd, a sicrhad Bioo Poison marwol. SYNtJOD YN SWYDD DEVON. Syr.—Mae eich Eli, sef Gomers B'tlm, yn feddyginiaeth rhyfedd o effeithiol. Fe gafodd wyr i mi ei ysgaldann yn ddrwg iawn yn ei gefn a'r bol. Fe gafodd y Gomer's Balm ei roddi arno mor fuan ag oedd yn bosibl, yn mhen yr wythnos yr oedd yn abl I'w gael ei wisgo, ac yn bur fuan yr oodd ei wellhad yn drwyadl. Ar ol hyny fe gafodd fy merch ymosodiad llym iawn ran y Blast (neu Erysipelas) ar ei clioes, ar ol dioddef am chwech wythnos aeth o dan driniaetli Doctor, yr hwn wnaeth mawr ddrwg iddi. Wedi hyny hi a ddefnyddiodd Gomer's Balm yr hwn a'i gwellhaodd mewn ychydig ddyddiau. Mae dwseni wedi bod yn gofyn am enw yr eli, ac y mae pawb wedi ei brofi yn anmhrisiadwy. Mae yn bity nad yw pawb ddim yn gwybod am dano.—H. LEWIS, Brixham, Devon. CLWYF GYMAINT SAUCER. Syr,—Ni allaf byth ddiolch n am eich Gomer's Balm, y mae yn iachan fy nglun flym iawn. Mae fy nglun wedi bod yn ddrwg iawn am v; -n' mlynedd. elwyf mawr cymaint a sauccr, ac yn boe: t, iawn, pawb yn rhyfeddu fy mod yn fyw, mae wedi es s 9 ythau y poen yn rhytedd. Yr wyf wedi gwario pnnotad lawer i ddim diben. Fe ddylai pawb wybod am dano. J. BUTLER, Dale-end, Dalarston. Rhodder Praw arno. Gofyner am Gomer's Balm. Na thwyller cliwi, mynweh weled enw "JACOB HUGHES" ar bob blwch. Ar werth gan bob Chemist neu werthwr Patent Medicine am Is lie., neu danfoner eu gwerth mewn Stamps I neu P, O. i'r gWLeutfiurwr, JACOB HUGHES, M.P.S,L.D.8 MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH, CARDIFF