Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

YMGAIS I DDINYSTRIO TREN.

1Briwsion o Ffestiniog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

1 Briwsion o Ffestiniog. MYN'D i FFWRDD.-Fel Ilawer ardal arall nid yw y Llan yma yn ol o golli rhai o'i mheibion mwyaf glew yn yr argyfwng presenol. Yn ddiweddar gadawodd y cyfaill Henry Williams, Tyddyn gwyn,' ei Gymru anwyl, man ei gryd a'i chwareu difyr, am Australia ddieithr a phell. Yr wythnos hon drachefn gwelwn lawer bwlch yn llefaru am ymadawiad Mr. R. Cynfal Roberts o'n plith, yntau wedi gadael cartref ei awen am y Deheudir boblog. A phwy nad ydyw yn dymuno Ilwyddiant gwir cyfeillion mor hoff, a chymwynaswyr mor barod. Ac er mwyn eu llwyddiant rhaid i ni hyd yn nod roi ffordd i bob colled, a chroesi pob teimlad, gan obeithio nad yw ei absenoldeb i fod yn un hir. DAL I GWYNO.—Nid yn ami y bydd cwyn a chri yn cael awdurdod yn mywyd plentyn. Mwy nodweddiadol iddo ef ydyw r gan a'r wen, y salm a'r delyn. Ond y mae afiechyd hyd yn nod yn gallu lleddfu salmau plant, a thristau eu hoender ieuanc, a dyma hanes llawer o'r rhai bach yn y dyddiau hyn. Er pob gofal anwyl, myn afiechyd ei hawliau, rhaid iddo gael ei ffordd, ond gobeithiwn yn fawr na chaethiwir y rhai bach yn hir. Aiff goreu ein hardal i golli, os na chaiff yni ei plant. Ond siawhs na ddaw eto haul ar fryn, a blodeu a'r ddol, pan ddaw'r haf a'i fendith lawn i guro wrth ddrws ein hardal am hoender cyntefig ei phlant. MAEN A BEDD.—Dyma s'yn cyfarfod rhai o'n cyfeillion o hyd. Maen yn cuddio'r angel a Bedd yn clwyfo'r fron. Yr wythnos ddiweddaf collodd William Davies, Bryn Hir ei blentyn hoff Willie Rees yn 3 blwydd oed. Yr wythnos hon drachefn dyma Mr, John Ephraim Pant Llwyd, mewn dyfroedd dyfnion wedi colli o hono ei briod serchog yn 36 oed cyd- ymdeimlir yn fawr a'r ddau gyfaill yn eu trallod dwfn a'u hunigedd dyeithr. A dymunwn iddynt lawer o nerth a chysur y Diddanydd arall i ym- gynal o dan y brofedigaeth chwerw. DOD ADREF.—Pa fwyniant tebyg i fwyniant cartref ? Pa groesaw tebyg i groesaw mam ? Dyma oedd iaith llawer wrth adael llwch y trefi poblogam lendid pentref eu Cymru wen. Do, daeth ein llanciau a'u gwyryfon adre'n Ilu, a phawb yn falch o'u gweled. Pa wlad fel Cymru am garu ei plant, rydd oreu ei thant i'w meithrin. A dyma ddyry fod i serch y Cymro at ei Walia hoff pa le bynag y bydd, y ffaith fod Cymru'n caru'r Cymro er gwaetha pob Offa a Ffin, a gobeithiwn nad anghofia Cymru ieuanc ein hardal ninau pan yn mhell o'u gwlad, fod cariad Cymru yn hawlio eu serch hwythau at eu hiaith, eu gwlad, eu cenedl, a'u Duw, er cynydd a rhyddid gwirionedd. CYMRU SOBR.-Dal i weithio o hyd mae'r cyfeillion gyda Dirwest. Dyma sydd yn gadernid a sefydlogrwydd i'r Gymdeithas. Cyfarfod gweddio gafwyd nos Wener diweddaf, a phawb mewn hwyl yn addoli. Da iawn genym glywed dynion ysprydol en barn yn tystio nad yw Yspryd y Peth Byw" yn ddyeithr i weddiau Cymru Sobr. CYMANFA'R PASG. Dyma'r Gymanfa bellach wedi myned, ond nid heb adael bendith lawn a'i hoi. Fe gofir byth am y Gymanfa hon gan lawer fu dan ei gweinidogaeth rymus. I R'oedd y gweision oil yn eu hwyliau goreu, ac odlau mawl yn dyrchafu i ogoneddu'r Ceidwad., A pha ryfedd fod yr argae wedi tori fwy nag unwaith mewn llawer calon, a'r dylanwad Dwyfol wedi mynu ei ffordd i gynwys yr oedfaon cynes. Do, cafodd llawer afradlon wledd lawen yn y Gymanfa hon, a llawer pererin ei gadarnhau a'i ysprydoli ar riwiau- r byd i Gaanan Duw. Cymanfa odidog oedd hon yn mhob ystyr. a chawodydd bendith yn disgyn ar yr oil o honi.

Cynghor Egiwysi RhyddionI…

IBeddgelert a'r Amgylchoedd.

IBuddugoliaethau'r Groglith…

ICytundebau y Tafarnau Rhwym.I

i Ilentyn yn Saethu ei Fam.I

I Cymdeithas Ysweiriol y Britannic.

IBlaenau Ffestiniog.I

Advertising