Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

YMGAIS I DDINYSTRIO TREN.

1Briwsion o Ffestiniog.

Cynghor Egiwysi RhyddionI…

IBeddgelert a'r Amgylchoedd.

IBuddugoliaethau'r Groglith…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Buddugoliaethau'r Groglith a'r Pasg. Dymunwn longyfarch y cyfeillion canlynol ydynt o'r cylch hwn fuont mor lwyddianus yn nghystadleuon y Groglith a'r Pasg. Yn Nghaernarfon enillodd Gutyn Eifion bum gini ar yr Her Unawd, ei briod yn gydradd ail a Mr. Evan Lewis, Capel Cerig am y tair gini, Gutyn ei hun yn oreu ar yr Unawd Tenor, ac efe a'i briod yn fuddugol ar y Ddeuawd. Yn yr un Eisteddfod cystadleuodd pum cor, a daeth Ffestiniog, Caergybi, a Nantlle allan yn oreu, ond gan nad oedd mwy nag un wobr, dyfarnwyd hi i Nantlle. Mr. J. W. Davies Pentrefoelas ydoedd yr ail, allan o lu mawr, ar yr Unawd Tenor yn Eisteddfod y Rhyl. Yn Arddangosfa Nefyn enillodd. Fox-terrier Mr. William Thomas (Cromlechydd), Porth- madoc, y wobr flaenaf, a Mr. E. Lloyd Hope, Llanrwst yr ail wobr, Mr. T. Foulkes Morris, Blaenau yr ail wobr gyda ci defaid blewyn garw. Mr. D. R. Evans,' Porthmadoc enillodd gyda'r Helwr-gi goreu, ac efe oedd perchenog y ci goreu o unrhyw rywogaeth wahanol i'r rhai ddynodid ar y Rhestr. Yn yn Arddangosfa ceffylau Conway am geffyl gwedd tair oed cafodd Mr. R. Roberts, Llan- rwst yr ail wobr; a Mr. R. Williams, Glan Conway am un ddwy flwydd oed. Am gaseg a chiw (amae thy ddol) cafodd Mr. G. O. Jones, Merchlyn yr ail wobr. O. Hughes (Glasgoed). Tanrallt Terrace, Blaenau. enillodd gyda 50 Llinell ar Yr lesu a safodd."

ICytundebau y Tafarnau Rhwym.I

i Ilentyn yn Saethu ei Fam.I

I Cymdeithas Ysweiriol y Britannic.

IBlaenau Ffestiniog.I

Advertising