Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

YMGAIS I DDINYSTRIO TREN.

1Briwsion o Ffestiniog.

Cynghor Egiwysi RhyddionI…

IBeddgelert a'r Amgylchoedd.

IBuddugoliaethau'r Groglith…

ICytundebau y Tafarnau Rhwym.I

i Ilentyn yn Saethu ei Fam.I

I Cymdeithas Ysweiriol y Britannic.

IBlaenau Ffestiniog.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Blaenau Ffestiniog. GWERTHU GLO.—Fel y gwelir mewn colofn arall, y mae Mr Richard Williams, Park Square, wedi cymeryd i fyny fasnach glo Mr W. Austin Davies. Y mae Mr Davies wedi penderfynu ymadael o'r ardal, a felly daeth i'r penderfyniad uchod o werthu ei fasnach glo, yr hwn a gariai yn mlaen yn llwyddianus er's cryn amser. Eiddunwn i'r cyfaill Mr Richard Williams bob llwyddiant fel masnachwr. DIRWESTOL.—Cynhaliwyd fCyfarfod Dir- westol gan Gymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd yn School-room Garregddu, nos Wener diweddaf, dan lywyddiaeth Mrs R. R. Morris, Tabernacl, Llywyddes Cymdeithas y Chwiorydd. Dechreuwyd gan Miss Hughes, Manod Road. Papur ar Anffyddlondeb i Foddion Gras," gan Miss Jones, Garregwen, Rhiw. Papur Ddewisiad lleol er mwyn Plant," gan Miss Owen, Rhiw. Adroddiadau gan Annie J. Davies, 4Cissie Jones. Caneuon gan Misses Katie Williams, a'i Pharti; Katie Jones, Trefeini, a'i chyfeillesau Polly Jones, Mrs Ephraim, a Mr. W. J. Williams, 23. New Market Square. Gair gan y Brawd E. Cefni Thomas, yr hwn hefyd a gynygiodd ddiolch- garwch i'r Chwiorydd, a chefnogwyd gan y Brawd John Owen. Terfynwyd gan Mrs R. R. Morris. Cofier am y Demi nos Wener nesaf, am 7 o'r gloch.—T.R. HEDDLYS ARBENIG.—Prydnawn dydd Mawrth o flaen Dr. R. D. Evans, yr hedd- geidwad Owen Jones, a gyhuddodd Robert Gwilym Jones, yn awr yn gweithio yn Neheu- dir Cymru, o fod yn feddw Tach. 21, 1905. Nid ymddangosodd yn y Llys ei gwysiwyd iddo, a rhoddwyd gwarant allan i'w ddal. Daeth drosodd o'r Deheudir nos Sadwrn, a rhoddodd ei hun i fyny boreu dydd Mawrth.— Dirwy o swllt a deunaw swllt o gostau. CYNGHERDD Y PYSGOTWYR.- Cynhaliwyd yr uchod nos lau, yn Ysgol y Bechgyn, Maen- offeren. I aros i'r cynulliad ddod ynghyd, difyrwyd y rhai oedd yn bresenol gan Gramo- phone Mr. W. Owen, Plasweunydd, pa rai a fwynhawyd yn fawr gan y rhai oedd yno. Llywyddwyd gan Dr. Roberts (Isallt), gan yr hwn y cafwyd ^nerchiad campus, gyda hanes cychwyniad a gwaith y Gymdeithas o'i dechreu hyd yn awr. Detholiad ar y delyn gan Mr D. Francis. Cafwyd Can Caller Herrin gan Miss S.. A. Morris. Canu gyda'r Tannau gan Mr. W. 0. Jones. Ymgyrch y Gamallt (anerchiad barddonol) gan Mr. Bevan. Can gan Mr. W. Thomas Jones, Soldier Song." Canu gyda'r Tannau, Mr. J. D. Jones, Rhiw- bryfdir. Can gan Mr. Arthur Penrhyn. Can gan Mr. E. Ffestin Jones, "Merch y Cadben." Can gan Mr. R. 0. Davies, Bethania, "Mentra Gwen." Rhangan gan barti Mr. Evan Morris, Mae'r adar yn telori," y geiriau a'r alaw gan Isallt, y gynghanedd a'r cyfeiliant gan Mr. W. 0. Jones (allan o'r "Cymru" am Ebrill, 1906), a gorfuwyd ei hail ganu. Cyfeiliwyd gan Mr. M. E. Phillips, Higher Grade, ac arweiniwyd gan Bryfdir yn ei ddull deheuig ei hun, a chafwyd ganddo gyfres o benillion ar hynt y pysgotwyr, doniol a difyrus, gydag ambell gyieiriad at ami i dro trwstan rhai o'r pysgotwyr, pa rai a dderbyniwyd gyda chymer- adwyaeth fawr, ac yn yr ysbryd goreu. Caed gair byr a phwrpasol gan y Parch. J. Rhydwen Parry; a chawsom un o'r Cyngherddau goreu a dreuliwyd erioed yn yr ardal, dyddorol ac adeiladol, chwaethus, ac yn llawn o natur dda. Diolch lawer i'r Gymdefthas am drefnu rhag- len mor iachus, a hyderwn y cawn gyfle i gael ei debyg yn fuan eto. EIN CANTORION A'N LLENORION.—Yn beirniadu y Seindyrf vn Rugby y bu Mr. Fidler, arweinydd Seindorf Freiniol Oakeley. Yn clorianu y cantorion ac yn datganu yn Rhosesmor, Sir Fflint, yr oedd Mr, Ted Lloyd, a rhoddodd foddlonrwydd cyffredinol yno. Cydfeirniadu yr adroddiadau yn Nghaernarfon yr oedd Dewi Mai dros y Pasg. Gwasanaethai Mr E, Ffestin Jones yn Llanfairfechan nos Fercher a chaiodd hwyl nodedig. Bu Mr J. Tudor Owen hefyd yn brysur iawn. Yr oedd yn Machynlleth nos Wener a nos Sadwrn a nos Fawrth yn Harlech. ARDDANGHOSFA PWLLHELI.—Daeth y prif wobrwyon am Gwn yn yr Arddanghosfa hon i'r ardal yma. Mr Thomas Lewis, Rhydysarn, gafodd y wobr gyntaf a'r wobr arbenig am Spaniel a Mr Griffith Owen, Uncorn terrace, y drydedd. Mr H. Gray Parry, Clydfan, wob- rwywyd am Fox Terrier, yr hwn hefyd oedd y goreu yn yr Arddangosfa. Enillodd Mr Thomas Foulkes, Cross Keys, gyda'r Collie, a daeth amryw wobrwyon eraill i'r lie. CYMANFA'R PASG.—Cafwyd cymanfa Bregethu nodedig 0: lewyrchus eleni gan y Methodistiaid: cynulliadau mawrion, a phregethau grymus nodedig. Yr oedd mwy o gyffro cywrain y llynedd a'r gyfrif berw y Diwygiad oedd yn ein plith y pryd hwnw ond eleni yr oedd mwy o ddwysder dwfn yn effaith nerth apeliadol y gwirionedd: llai o ganu ysgafn, a mwy o feddylgarwch ystyriol. Nid lie newyddiadur yw beirniadu na cheisio desgrifio yr un o'r cenhadon na'u pregethau. Os yw y cenhadwr yn yr ysbryd y dylai fod, gall ddywedyd yn hyderus, Eithr genyf fi, bychan iawn yw fy marnu genych chwi," neu gan farn dyn, eithr yr Arglwydd yw yr hwn sydd yn fy marnu." Yn ngwyneb tystiolaeth o'r fath y mae'n gweddn i ni yn Parbad yn tudalen 8.

Advertising