Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

NODION O'R CYLCH. : -'-I

LLYFRGELL GYHOEDDUS PEN- I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYFRGELL GYHOEDDUS PEN- MACHNO. Syr,—Byddaf yn dra diolchgar os byddwch mor garedig a rhoddi cyhoeddusrwydd i'r ychydig linellau hyn yn eich papyr clodwiw. Fel y gwyr llawer o ddarllenwyr y Rhedegydd bwriedir cynal Cwrdd Plwyf yma y Sadwrn nesaf, a phrif waith y cyfarfod fydd penderfynu tynged y Llyfrgell. Nid oes neb ac ychydig o bleser mewn ddarllen, a ddywed nad yw Llyfrgell yn werthfawr, yn enwedig i'r ieuangc. Ond atolwg! a yw Llyfrgell Penmachno yn werth ei galw ar yr enw. Y mae ynddi ychydig nifer o lyfrau, rhai pur dda, ond rhaid cydnabcd fod ynddi lawer nad ydyw yn werth dim yn Penmachno. Nid oes neb yn y Plwyf yn fwy awyddus am Lyfrgell yn Penmachno na mi, ond gwyddwn oil fod hyny yn anmhosibl i I ni o gyfeiriad y dreth, ac os yw felly, rhaid mai gwastraff yw ceisio ei chynal i fyny. Teg ynwyf ydyw egluro fy hun, os gallaf. Gan ei bod yn anmhosibl ei chadw yn anrhydeddus o'r arian ellir eu cael trwy godi y dreth uwchaf posibl tuag ati, sef Ie y bunt, rhaid yw troi i gyfeiriad arall i chwilio am gynorthwy, a'r unig un, sef rhoddion gwir- foddol, mewn arian a Ilyfrau. Ond pwy rydd eu llyfrau na'u harain, pan y mae yn hollol wybuddus i bawb beth yw tynged y llyfrau ar ol eu rhoddi yno. Nis gallaf weled y bydd cadw Llyfrgell yn Penmachno nac un man arall, yn werth i neb heb gael rhywun taledig i roddi benthyg llyfrau allan i'r rhai sydd yn awyddus i'w cael, ac fel y cyfeiriais o'r blaen, y mae hyny yn beth an- mhosibl i Penmachno gyda y dreth uwchaf (lc y £1). Os wyf yn cofio yn iawn, rhoddwyd addewid gan un yn y Cwrdd diweddaf, y buasai ef yn aberthu wythnos i edrych ar ei hoi, ond gwyddom hefyd fod y brawd hwnw yn gweithio yn un o Chwareli Ffestiniog ar hyd yr wythnos a pha fodd y gall gyflawni ei addewid nis gwn. Pa fodd bynag, dylai y rhai sydd yn dwyn y draul, ac nid y rhai sydd yn gwaeddi am y gwelliant yma a'r gwelliant arall, ac heb fod yn talu dim tuag at y treuliau, ddyfod i'r Cwrdd nesaf, nos Sadwrn, i benderfynu, a yw yn werth cadw y Llyfrgell fel ag y mae, neu os nad yw yn ateb diben, ei ddiddymu. Unig amcan yr ychydig linellau hyn yw galw sylw y trethdalwyr at y pwysigrwydd iddynt fynychu y Cyrddau, a disgwyliaf weled nifer lluosog yn y Cwrdd nos Sadwrn nesaf.—LLEF.

Carmel, ger Llanrwst.I I --,I

Llanfachreth.-,-,

Llandudno Junction. I

O'R PEDWAR -CWR.I

Advertising

IAT "YR HEN DDYRNWR."

I Harlech. I