Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

NODION O'R CYLCH. : -'-I

LLYFRGELL GYHOEDDUS PEN- I…

Carmel, ger Llanrwst.I I --,I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Carmel, ger Llanrwst. I I Cynhaliwyd cyfarfod Llenyddol yn y lie uchod Gwener y Groglith. Llywyddwyd gan Mr. J. R. Williams, C.S., Llwyndu ac arweiniwyd gan y Parch H. Jones-Davies. Cyfarfod i'r plant yn fwyaf oedd hwn ac yr oedd ol llafur arnynt, gresyn fed y rhieni y rhoddi cyn lleied o gymorth. ychydig iawn ddaeth ynghyd. Enilliwyd am ganu Y Tlysau," gan Mary E. Owen, Plas Drain 2il Dora Ellis, Ty'r Capel 3ydd, GwladysDavies Turnpike Uchaf. Denawd," Hyn, fydd yn nefoedd i mi," Sarah Morris a'i chyfeilles, Pandy Tudur, datganiad canmoladwy. Adrodd Emyn, Mary Ellen Owen, Plas Drain; 2il Gwladys Davies, Turnpike. Cafwyd uuawdau gan Mri W. E. Jones, Conwy a D. R.1 Jones, Llanrwst yn ystod y cyfarfod, Cyfarfod yr Hwyr,—Yr oedd y capel yn orlawn erbyn y cyfarfod hwn. Llywyddwyd gan y Parch W. Thomas, Llanrwst, ac arweiniwyd gan y Parch H. Jones-Davies. Adrodd Emyn, i rai dan 16 oed, laf, Jennie Lewis, Ffrith Ucha 2il, Kattie Owen, Plas Drain, Maenan Deuawd Y ddau Wladgarwr" un parti yn ymgeisio, sef Mri J. Lewis Davies, Maenan a'i gyfaill. Adroddiad "YTyheb do," gan Annie Harker. Parti Bethel o dan arweiniad Mr. John Jones, gafodd y wobr am ddatganu y don Presburg" datganiad agwir dda. Mr David Evans, Ty Newydd, Bryndyffryn oedd y buddugol am gerfio ffigiwr 5 at farcio defaid, a "Trebor yn ail. Mrs Owen, Ffarm Yard oedd yr oreu am weu par o hosanau. Mri Evan Parry, Ffrith Arw, John Roberts, Pentretafarnyfedw yn gyd- fuddugol ar ddarllen darn heb ei atalnodi; Mr David Thomas, (Dewi Tudur). Bettwsycoed oedd y goreu am wneyd englyn i'r Gwlithyn. Ymgeisiodd 8 a gantorion gwych ar yr Her- Unawd, a dyfarnwyd Missjones, (Dolwyddelen) London House yn oreu. Cafwyd dadl ddydd- qrol o Morgan a Shian gan ddau blentyn bach. Daeth dau barti i gystadlu ar y don "Lux Benigna." Parti Gwytherin, arweinydd Mr D. Jones, School House, a Bethel, arwein- ydd Mr. John Jones, dyfarnwyd y cyntaf yn oreu. Beirniadwyd y gerddoriaeth gan Mr. D. R. Jones a chafwyd amryw unawdau ganddo ef Mr. W. E, Jones, Conwy. Y Parch W. Thomas yn clorianu y beirdd a'r adroddwyr Mrs Mary Ellis, Pant Siglan a Mr W. Williams Henblas yr amrywiaeth. Cyfeiliwyd yn ol ei ddull dirodres gan Mrs Roberts, Cartrefle, Llanrwst. Gweithiodd yr ysgrifenydd Mr W. Roberts, Henffrith yn ddildio a cafodd ei ymdrech ei goroni a llwyddiant,

Llanfachreth.-,-,

Llandudno Junction. I

O'R PEDWAR -CWR.I

Advertising

IAT "YR HEN DDYRNWR."

I Harlech. I