Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

I ER 'COF--

Tai am Ddwy Bunt yr un.

Maer Lludain yn Chwarel yI…

-"-"""".............-......,...-.........,.…

IDyrysu'r Wyl.I

Advertising

MYFYRDOD HIRAETH

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MYFYRDOD HIRAETH Ar ol y ddiweddar Mrs. Ellen Jones, anwyl briod Mr. Owen Jones, Rock Terrace, Pen- rhyndeudraeth. Pan oedd haul yr haf yn t'wyn. Ar fynyddoedd Gwalia wen; A swn can y cor adarol," Yn yr awyr uwch ein pen Blodau natur yn ymagor I groesawu'r boreu gwyn Araf lithro yr oedd Ellen I gyffiniau prudd y glyn. 0 mor bruddaidd ydyw meddwl Fod y teulu'i gyd ond un, Wedi cychwyn tua'r nefoedd I gartrefle Mab y Dyn Ellen anwyl, O mor unig, Heb dy gwmni, ydym ni, Y mae'r byd yn llawer. gwagach Wedi colli'th gwmni di. Colofn oeddyt yn yr Eglwys 0 dan achos Brenin Nef. Nid oedd dim yn ormod genyt I'w gyflawni erddo Ef Hwylio gyrfa llawer plentyn Tua'r Nefoedd a wnes ti, A phan dyf y plant i fyny Cofiant eu hathrawes gu. Teimlo wnest y dylanwadau Ydoedd i'r diwygiad gwyn, Ac yn foreu sicrheaist Gyfarwyddwr yn y glyn Medi'r oeddyt yn dy gystudd Ffrwyth dy lafur yn y byd, Ar ol cyrhaedd fry i'r gwynfyd Moli'r IESU wnei o hyd. Rhodiaist trwy'r anialwch caled Yn ngoleuni llusern Duw, Ac yn mrwydrau celyd bywyd, Wrth ei rheol caret fyw Ac r'wyt heddyw mewn llawenydd Wedi cyrhaedd pen dy daith Moli'r IESU byddi bellach Draw am dragwyddoldeb maith. W. M. HUMPHREYS, I 1, Bwlch Goleu, Penrhyndeudraeth.

ER COF I

I - - - Corph Marw ei Thad.