Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

I ER 'COF--

Tai am Ddwy Bunt yr un.

Maer Lludain yn Chwarel yI…

-"-"""".............-......,...-.........,.…

IDyrysu'r Wyl.I

Advertising

MYFYRDOD HIRAETH

ER COF I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ER COF I Am Gwladys, geneth i Mr. Edward Jones, Charters Towers, Queensland, gynt Co- operative Stores, Blaenau Ffestiniog, yr hon a fu farw Rhagfyr 27ain, 1905. Gwladys hardd ei gwedd a wywodd, Machlud wnaeth y seren dlos, Canol dydd o gylch yr aelwyd, I Heddyw sydd fel canol nos Tad a mam ddi-nam yn wylo Ar ol colli un mor gu, Mewn dwfn dristwch yn galaru Wrth adgofio'r hyn a fu. Ocheneidiau dwys a galar Glywir yn Awstralia draw Trwm a chaled ydyw'r ddyrnod Roddodd angeu, brenin braw Pwy all draethu maint yr archoll Heddyw sydd o dan eich bron, Ar ol colli un mor anwyl A gobeithiol ag oedcf hon. Ar ei gwedd yr oedd prydferthwch, Diniweidrwydd pur di-nam Yn ei llygaid tlws canfyddwn Ddarlun byw o lygaid mam Un o'r blodau mwyaf prydferth Dyfai yn ngardd dynolryw, Oedd y dlos a'r ddiymhongar Wladys bach pan oedd yn fyw. Oer yw'r gwely lie gorwedda Hithau sydd mewn tawel hun; Trwm i natur oedd ffarwelio Ag un oedd mor hardd ei llun Ni chaf mwyach gusan ganddi Tra b'wyf yma ar y llawr Mae fy Ngwladys wedi dianc Draw i'r tragwyddolfyd mawr. Nis gallai'r nefoedd wen, Er cymaint rhif y perlau Gymerwyd fry, tu draw i'r lien, I ardd y nefol odlau Mo hebgor Gwladys fach, I'r dlos ddaearol winllan Rhaid ydoedd ar yr IESU glan Ei chael i'w gol ei hunan. Yno mae fy Ngwladys heddyw 'N mhell uwchlaw pob loes a chlwy'; Ac ni ddaw un math o ofid I fiino'i hysbryd tirion mwy Ca'dd ei blino ami weithiau Tra yn teithio anial fyd Ond rhoes ffarwel i'w gofidiau Cyn i henaint wywo 'i phryd, Rwy'n dychmygu clywed Gabriel Ar orielau euraidd mad, Yn gofyn iddi garai ddychwel Nol i dy ei mam a'i thad "Na," medd hithau, "ni ddychwelaf Byrh i wlad y cystudd mawr "— Gwlad y goifd, gwlad y galar, Gwlad yr eisiau ar bob awr. D'aiff galar ddim i'r wlad Lie mae Susan bach a Gwladys, Mae engyl gwynion Gwynfa'n dweyd Eu bod yn ogoneddus Y fath lawenydd oedd Yr ochr draw i'rafon; Y Nith a'r Fodryb wrth eu bodd yn sibrwd "Dyma ddigon." Hoff ac anwyl berthynasau Ni raid wylo amser maith Mae eich hoff ac anwyl Wladys Wedi'ch blaenu ar y daith Yn y nef y mae ei chartref Chwareu'r delyn yw ei gwaith, i Moli'r IESU yn dragywydd, Dyna fydd ei hyfryd waith I I Byddwch chwithau barod beunydd I fyn'd yno ati hi, Ni ddaw hi mae hyn yn sicrwydd' Yna eilwaith atoch chwi. I CYFAILL.

I - - - Corph Marw ei Thad.