Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

-Llanrwst-

Etholiad Eifion-(diwedda,.af)…

FOOTBALL COMPETITION. I

Family Notices

/!\I PWYSIG I CHWARELWYR,

Penrhyndeudraeth. 1

TREFN OEDFAON Y SULI

Advertising

Llofruddiaeth Arswydus Cigydd.-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llofruddiaeth Arswydus Cigydd. I Y Wraig yn y Ddalfa. Rhwng saith ac wyth o'r gloch boreu ddydd Mercher, cymeroddcyflafan arswydus le yn Church Street, Preston. Yn yr heol hono yr oedd Cigydd o'r enw Albert Dewhurst a'i wraig Margaret Alice yn cario yn mlaen fasnach llwyddianus, ac yn byw yn nodedig o hapus gyda'u gilydd. Yr oedd y wraig er's cryn amser yn wanllyd ei hiechyd, ac yn ymddangos yn hynod^ ei dull ar brydiau. Ychydig wedi chwech o'r gloch yr oedd y ddau wedi codi, a chyrhaeddodd eu gwas am haner awr wedi chwech. Bu ef a'i feistr yn tynu y cigoedd i lawr, ac yn tori darnau i wneyd, i fyny archebion oeddynt mewn Haw, a'r wraig yn dodi yr holl ar llyfryn y swyddfa fechan yn y masnachdy. "Dyna chwi" meddai y meistr, gellwch wneyd eich hunain yn awr, yr wyf fi am gychwyn am y farchnad." Yna aeth o'r neilldu i baratoi, ond yn mhen ychydig daeth yn ol, a dywedodd, Yr wyf wedi methu gael y cerbyd: mae wedi myn'd." Yna aeth i'r gegin, a phanjoedd y-u dododdiyno cyfarfyddwyd ef gan ei wraig, ac nid ddywed- odd y naill yr un gair wrth y llall, ond gwelodd y gwas ei feistr yn rhoddi ei ddwylaw ar ei fol, ac yn gruddfan fel pe mewn poenau mawrion, ac heb yngan gair, cerddodd i gyfeiriad y drws a syrthiodd i lawr. Rhedodd y gwas i'r gegin, a gwelodd yno Mrs Dewhurst yn edrych yn wyllt a chyffrous ac yn chwifio cyllell dori cig" Rhuthrodd i'w breichiau, a gafaelodd am ei chanol, ac yn yr ymdrech syrthiodd y gyllell o'i llaw. Ond methodd a'i dal, ac aeth i gynorthwyo ei feistr. yr hwn oedd yn marw yn gyflym iawn.— Tynwyd sylw yr heddgeidwad Jones at y lie, a thorodd yntau i fewn i'r shop, lie y cafodd Dewhurst yn gyaedu ar lawr, gofynodd "Pwy wnaeth hyd? ac atebodd y gwas. Aeth y swyddog i'r gegin, a chlywodd Mrs Dewhurst yn rhedeg i fyny i'r llofft, aeth yntau ar ei hoi, ond yr oedd hi wedi sicrhau y drws, yr hwn a dorodd y swyddog yn y fan. Cafodd hi a chyllell yn ei llaw uwchben ei genethfach ddeg oed, yr hon oedd yn ei gwely, ac yn gwaeddi, Peidiwch mam, peidiwch tra'r oedd y fam yn ceisio ymosod arni a'i dwy law. Neidiodd Jones iddi, ac er ei fod yn ddyn ieuanc cryf, cafodd drafferth fawr i'w diarfogi, a rhaid fu iddo gael cynorthwy swyddog arall i'w sicrhau. Pan gyhuddwydd hi o'r lofruddiaeth, gofynodd, "Nidyw wedi marw, ydi o?" Yr oedd dau archoll mawr ar y trangcedig, y naill o dan ei gesail, a'r Hall ar gyfer y galon. Cododd ei ddwylaw i fyny i ofyn am gyn- orthwy, ac yna disgynodd ynfarw. Dywed y j gwas iddo fod gyda hwy am dair blynedd, ac na chlywodd air croes rhyngddynt erioed.

- ----Adolygiad. - I

IBlaenau Ffestiniog.I