Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

NOD/ON OYR CYLCH.

Cynghor Dosbarth Glaslyn.…

-Cyngor Dosbarth Deudraeth.-I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyngor Dosbarth Deudraeth. -I Cyfarfu yr aelodau canlynol yn swyddfeydd yr Undeb, Penrhyndeudraeth, prydnawn ddydd Mawrth. Mri. L. Foster Edwards, D. Tegid Jones, William Jones Robert Richards, John Roberts (Trawsfynydd), G. Parry Jones, J. R. Jones,. (Gerallt) Dr. Samuel Griffith, Thomas Roberts (Clerc), David Jones (Is-glerc), a Thomas Jones (Arolygydd). Y Clerc a eglurodd mai cyfarfod Rhaith ydoedd hwn, ac mai ei waith cyfreithlon a rheolaidd ydoedd ethol Swyddogion a Phyllgor- au. ETHOL CADEIRYDD.—Mr. G. Parry Jones a gynygiodd fod yr Is-gadeirydd am y flwyddyn ddiweddaf (Mr. D. Tegid Jones) yn cael ei ddewis yn Gadeirydd am y flwyddyn hon. Mr John Roberts a gefnogodd. Mr. William Jones a gynygiodd eu bod yn ail ddewis eu cadeirydd (Mr Robert Richards) i orphen tymor y Cynghor. Cefnogai Mr. L. Foster Edwards. Pan roddwyd y ddau enw i fyny cafwyd fod 4 o bobtu, a rhoddodd y Clerc ei bleidlais trwy ysgwyd ceiniog, o blaid Mr Tegid Jones. Yna cododd yr holl aelodau eu llaw dros Mr. Jones. Y Cadeirycd wrth gymeryd ei Ie a ddywed- odd ei fod yn cymeryd y gadair am nad oedd yn credu mewn i'r un dyn ei dal ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd ei barch yn fawr iawn i Mr Richards fel dyn ac fel eu cadeirydd, ond dylai y gadair fyned ar gylch. Yr oedd bod yn y Gadair yn gwrs o ddysgyblaeth er eu cym- wyso at eu gwaith, yn ogystal ag yn gyd- nabyddiaeth o gymwynas sgyda'r gwaith. Yr oedd ddiolchgar iddynt am yr anrhydedd a osodasant arno, a gobeithiai y: caent gyd- weithio gyda'r hyn oedd ganddynt i'w gyflawni fel Cynghor. YR Is-GADEIRYDD.-Mr. G. Parry Jones a gynygiodd nad oeddynt yn dewis Is-Gadeirydd a cefnogodd Mr William Jones—Y Cadeirydd a ,rgclerc a alwasant sylw yr aelodau fod y Cynghor o'i sefydliad hyd yn awr wedi arfer a dewis Is-gadeirydd, ac nad oedd reswm o gwbl dros beidio gwneyd hyny eleni fel arferol. Ar hyny cynygiodd Mr. William Jones a chefnogodd Mr. Foster Edwards eu bod yn dewis Is-gadeirydd. Aeth yr Is-gadair o gwmpas ond ni fynai Mr J. R. Jones ei derbyn a gwrthodwyd higan Dr. Griffith, a Mr Foster Fdwards, fel y bu raid ei gadael yn wag. PWYLLGORAU PLWYFOL.—Ail etholwyd yr holl aelodau ar y rhai hyn.

Cicio am y Gwpan Genedlaethol.…

Bwrdd Gwarcheidwaid Penrhyndeudraeth.

PENILLION COFFA I

LLONGYFARCHIAD

Can' Mil o Bunau i Grydd Tlawd.

Gwario Arian y Cyhoedd o dan…

TREFN OEDFAON Y SUL