Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

I Argiwyddes Warwicka'r Sosialwyr.…

I Penrhyndeudraeth.-I

IDonioldeb uwchben y Bit Addysg.…

Marwolaeth Mr. William Williams,…

1-- -Arwerthiant Taiycafn.I

Beddgelert. I

DAEARGRYN -YN -CALIFORNIA.…

Marwolaeth Mrs Roberts, Plasmeini,…

Family Notices

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU WYTHNOSOL I Mr. John Redmond a'r Llywod- I raeth. Dydd Sadwrn diweddaf, traddododd Mr. Redmond araeth dyddorol yn Kilteely, swydd Limerick. Mae'n amlwg oddiwrthi ei fod yn awyddus i'r Weinyddiaeth beidio cael blinder diachos ynglyn a'r cwestiwn Gwyddeiig, a'r casgliad naturiol i'w dynu oddiwrth hyny ydyw ei fod yn credu fod ganddi ewyllys i wneyd, a bwriad i geisio gwneyd cyfiawnder a'r Iwerddon. Dywed- odd mewn cynifer o eiriau fod mwyafrif anferthol o aelodau'r Weinyddiaeth ac o aelodau Ty y Cyffredin yn gyfeillgar i'r Iwerddon, a ffolineb noeth fyddai gwrthod rhoddi i'r Weinyddiaeth amser i barotoi ei chynllunisu i lywodraethu yr Iwerddon." Croesawn y geiriau hyn fel arwydd fod Mr. Redmond erbyn hyn yn argyhoeddedig fod ganddo ef a'i gyfeillion waith amgenach i'w wneyd nag ymosod yn barhaus ar y Blaid Ryddfrydol a'u harweinwyr. Maent wedi gwneyd hyny allan o fesur yn y biynyddoedd sydd wedi myn'd heibio, a'r canlyniad ydyw fod y Gwvddelod wedi colli cydyrndeimlad rhai o'u cyfeillion goreu, ac wedi gwneyd llawer iawn o Ryddfrydwyr oeddynt yn dra phleidiol i ymreolaeth yn ddifater iawn yn ei gylch. Os nad yw eu cred ynghylch Ymreolaeth wedi newid, mae eu sel drosto wedi oeri, a'u brwdfrydedd ymhlith y pethau a aethant heibio. Nid ydym yn meddwl am foment, ac nid ydym yn tybied fod Mr. Redmond yn disgwyl y bydd i'r Llywodraeth ddwyn Mesur Ymreolaeth o flaen y Senedd bresenol, oblegid byddai disgwyliad felly yn hollol ddisail ac yn sicr o droi allan yn ddisgwyliad ofer. Ond yr ydym yn credu y bydd iddi mewn gwahanol ffyrdd geisio gwellha cyflwr y wlad a rhoddi i'r Gwyddel- od ryddid llawnach a mesur helaethach o gyfiawnder nag y maent wedi ei gael hyd yn hyn. Dichon yr un pryd na fuasai Mr Red- mond mor fwyn a rhesymol hydrin oni bae ei fod yn gwybod fod mwyafrify Weinyddiaeth yn Nhy yCyffredin y fath ag i wneyd pob gwrthwynebiad iddi o du'r Gwyddelod yn ddirym ac aneffeithiol.

Dinystr San Francisco. !

Etholiad Eifion.

I Gwaeiedd Syr Horatio Lloyd.…

IHau'r Gwynt.

Y Pabyddion yn Yingynghori.

Gwadu haeriad Mr. Keir Hardie.I

I Cyfarfyddiad y Senedd.

I Aberystwyth yn erbyn y Bala…