Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
I Argiwyddes Warwicka'r Sosialwyr.…
Argiwyddes Warwicka'r Sosialwyr. I Gwyr pawb fod Arglwyddes Warwick yn cytuno i fesur helaeth a'r Sosialwyr. Yn ddiweddar rhoddwyd gair allan eu bod wedi gwerthu llawer a'i gemau er mwyn gallu estyn cymorth arianol iddynt i ddwyn allan ymgeiswyr yn ystod yr etholiad diweddaf. Pe gwnaethai hyny, mater iddi hi ac nid i neb arall fuasai, feddyliem ni. Boed hyny fel y bo, mae'n hysbys bellach mai Z6500 oedd y swm a roddodd iddynt. Ac yr oedd yn swm sylweddol hefyd-yn ddigon i ddangos ei bod yn cytuno a'r Sosialwyr nid ar air ac ar dafod, ond a gweithred a gwirionedd. Nid oedd fodd I bynag, yn swm a alwodd am iddi werthu ei gemau fel y gallai ei gael i'w roddi, Dengys rhai duedd i gymeryd yn vsgafn ei chyfathrach air Sosialwyr; credwn eu bod ii'w beio am hyny. Mae'r daioni a wna yr Arglwyddes garedig yn y gwahanol gymydogaeth ag y mae cysylltiad rhynddi a hwy yn profi fod I ynddi awydd gref i wellha cyflwr cymdeith- asol a moesol y bob!, ac mae ei hyrndrechion i wneyd hyny yn raeddll c'od ac yn hawlio iddi hithau barch. Da y gwna llawer o bendefigesau i ddilyn ei hesiampl. Felly caent a gwnaent fwy o les nag y maent yn ei gael nac yn ei wneyd.
I Penrhyndeudraeth.-I
I Penrhyndeudraeth. I I (GAN GEE PEE). I Dydd Llun diweddaf, yn bur sydyn bu farw un o hen frodorion mwyaf adnabyddus a pharchus yr ardal, yn Porthmadog le yr oedd ef a'r teulu yn byw er's maith flynyddoedd,- Cadben Thomas Jones. Yr oedd yn hanu o un o hen deuluoedd hynaf a lluosocaf yr ardal. Bu ei fam yn cadw masnachdy Iwyddianus am lawer o flynyddoedd yma ac yn Porthmadoc. Y pryd hwnw yr oedd "Doli Thomas" yn gymeriad adnabyddus iawn. Yr oedd yn aelod selog o Gapel y Garth (M.C.) ac yn gristion gloyw ei gymeriad. Teimlir cbwithdod mawr yno ar ol aelod mor werthfawr a dichlynaidd ei fuchedd. Y mae iddo briod a phlant a pherthynasau luaws ar ei ol yma ac yn Porthmadoc.—Y mae rhai o'i fechgyn yn mhellderoedd y byd. Tuag wyth a thriugain oedd ei oedran. Y CYNGOR PLWYF.—Am y flwyddyn ddyfodol etholwyd Mr. David Griffith yn Gadeirydd a Mr. Wm. Jones, (Festinfab,) yn Is- Gadeirydd. Diolchwydi Mr. Wm. Richards am ei wasanaeth yny gadairo'r blaen. Pender- fynwyd galw sylw goruchwiliwr Ystad Madog at sefyllfa ddifrifol ffordd y Mor-glawdd. Ffordd ond ei chadw yn briodol ddylai fod yn un o'r rhai mwyaf dymunol i'w cherdded i deithwyr ac i gerbydau, ond sydd yn un y rhaid talu yn ddrud ar y Sabbath am ei defnydd- io. Tra yn dilyn ei orchwyl yn chwarel Croesor, cyfarfu Mr. Evan Davies, mab Mary Davies, Church Street, a damwain ddifrifol drwy i ran o'r graig lithro i lawr ar ei draed a'i malurio mor dost fel y bu yn rhaid tori y goes ymaith Yr wythnos hon yr oedd Mr. J. Lloyd Williams, mab Mary Williams Brongelynen, yn ein gadael am wlad fawr y gorllewin yn nghwmni di frawd Rhys Williams yr hwn oedd wedi bod ar ymweliad a'i hen ardal enedigol. Eiddunwn iddo ef, ac eraill sydd wedi myned o'i flaen bob llwyddiant.
IDonioldeb uwchben y Bit Addysg.…
Donioldeb uwchben y Bit Addysg. I Y mae y Mesur Addysg newydd yn faes i lawer chwareu ei peliarno. Wrth bregethu yn Cheetham y Sabboth, sylwodd yr Esgob Vinor, i'r Llywodraeth dalu iawn i feistri y caethion am eu rhyddhau, a gofyna yntau am degwch cyffelyb i'r Eglwys yn nglyn a'r Ysgolion. Pe buasai Mr. Birrell yn gwybod sicrwydd fod Athrawon yr Ysgolion Cenedlaethol yn gaethion o dan eu Mheistri y Clerigwyr, diau y buasai yn cymeryd y peth i ystyriaeth; ond dyma y tro cyntaf. hyd y gwyddom ni, i ddatganiad o'r fath gael ei wneyd gan Esgob, fel nad oedd caethiwed yr Ysgolfeistr yn gwbl wybyddus o'r blaen fel ag i ddarparu iawn i'w feistr am ei ryddhau.—Hysbysodd y Parch. E. Winter eglwyswyr Elland, fod yr Eglwys fel morfil mawr Ilonydd. ond y chwalai ddwfr yn enbyd pan ysgydwai ei gynffon. Y Clerigwyr a ystyriai ef yn "gynffon yr Eglwys," ac mae'n debyg Iluchio dwfr yw ei gwaith pan wedi deffro! Mr. Winter bia'r syniad barddonol (?) hwn.—Mewn araeth alluog o'i eiddo ddechreu yr wythnos hon, cyfeiriodd Mr. J, H. Yorall, A.S., at y modd y rheolid yr Ysgolion Cenedl- aethol, ac mewn dull cellweirus dywedodd. Rheolir llawer o'r Ysgolion hyn gan y Rheithior, yr hwn a reolir gan ei wraig, yr hon a reolir gan ei mherch. Mewn geiriau eraill, gan "rector," y"director," a'r ",ntisdirector, ac feliy nis gall y rheolaeth fod yn un foddhaol."
Marwolaeth Mr. William Williams,…
Marwolaeth Mr. William Williams, Preswylfa, Llanrwst. Er nad oedd ond y newydd pruddaidd hwn i'w ddisgwyl, eto pan y daeth y mae yn an- hawdd sylweddoli fod y cristion cywir ac o angenrheidrwydd y boneddwr caredig uchod, wedi myned o ffordd yr holl ddaear at y Gwr yr oedd wedi rhoddi ei holl ofal arno er's Ilawer blwyddyn. Ehedodd ei ysbryd ymaitb. nos Fercher, noson y gyfeillach, a sicr genym iddo gyrhaedd adref i ddweyd ei brofiad yn y gyfeillach Dragwyddol. Yr oedd Mr. Williams yn 72 mlwydd oed. Cleddir prydnawn dydd- Llun yn Mynwent Capel Seion. Ceir y manyl- ion yn yr oedfaon nos Sabboth. Bydd genym ychwaneg am y gwr da hwn yn ein nesaf. Yr Arglwydd a fyddo yn nerth i'w briod hawddgar i ddal y ddyrnod hon.
1-- -Arwerthiant Taiycafn.I
1- Arwerthiant Taiycafn. I Cynhaliodd y Mri Robert a Rogers Jones arwerthiant lwyddianus iawn ddydd Llun diweddaf yn y Talycafn Mart. Yr oedd nifer anarferol wedi dod ynghyd a nirer fawr o anifeiiiaid i'w gwerthu a bu i'r oil bron newid dwylaw. Gwerthai y Gwartheg Tewion i fyny i £ 21 Buchod a Lloi da o £ \Z 10s i £ Y1 10s; Dynewaid o £6 i £8 15s marchnad dda ac ystyried y tywydd. Cafwyd marchnad fywiog iawn ar y Defaid Tewion-Myllt Cymreig yn gwerthu i fyny i 37s 6c; Defaid Shropshire i fyny i £2 10s; Wyn yn gwerthu i fyny i 32s Gwerthwyd y Cyplau am brisiau da, Cyplau (crossbred) yn gwneyd i fyny i 41s 6c a Cyplau Cymreig i fyny i 30s. Gwerthai y Lloiau Tewion yn rhwydd am brisiau o £2 5s i £ 3 10s. Cymer yr arwerthiant nesaf le dydd Llun Mai 7fed.
Beddgelert. I
Beddgelert. CYFARFOD PREGETHU.—Cynhaliodd yr Annibynwyr yn y lie uchod eu cyfarfod blynyddol fel arfer ar nos Sadwrn, Sul, a LIun y Pasg, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn H. Elfed Lewis, Llundain, a J. Rhydderch, Waenfawr. Boreu Sul, pregethai Mr. Rhydderch yn y capel Coffadwrfaethol Porth- madog, a Mr Elfed Lewis yno yn yr hwyr, pryd y daeth cynulleidfa fawr ynghyd. Y mae y cyfeillion yn Salem a'r Capel Coffadwriaethol yn nodedig o garedig a haelionus i'r ddeadell t fechan yn Meddgelert. Yr oedd y Parch J. Lewis Williams, M.A., B.Sc,, Lerpwl yn bresenol yn y cyfarfod. Gofidus oe ddgenym glywed mai yno er mwyn adgyfnerthiad i'w iechyd yr oedd. Methodc1 a chyflawni ei acddewid i wasanaethu yn nghyfarfod blynydd- ol Gilgal ac Utica, Maentwrog y Pasg. Hyderwn y ca adferiad buan a llwyr. Cafwvd cyfarfod rhagoaol yn mhob ystyr. CAREDiGRVvrYDD.—Ar ol yr oedfa pryd y gwasanaetha Mr. J. R. Jones, (Gerallt) yn Beddgelert nos Sabboth diweddaf, darllenodd Mr. W. M. Jones, lythyr nodedig o dyner oddiwrth J. Iones-Morris, Ysw., Porthmadog, yn amgau rhodd ei frawd, Daniel Morris, —- Lerpwl sef lp; a'r eiddo yntau sef^lOs at dreuliau eu cyfarfod pregethu, er cof am etf hanwyl frawd y diweddar Dr. W. Jones-Morris yr hwn a fu yn neillduol o garedig tuag at yr achos yn Meddgelert. Pasiwyd pleidlais gynes ac unfrydol o ddiolchgarwch i'r ddaufoneddwr uchod am eu cofio mewn modd mor sylweddol.
DAEARGRYN -YN -CALIFORNIA.…
DAEARGRYN YN CALIFORNIA. :1 Dinas San Francisco yn Adfeilion. 1 Tua phump o'r gloch boreu ddydd Mercher, wythnos i ddoe, bu daeargryn arswydus yn Sao Francisco, a gwnaeth bron yr holl ddinas yn garnedd. Ni pharhaodd wr ysgydwad ond tua thri munyd, ac ofnid ar y dechreu fod un-cant- ar-bymtheg wedi colli eu bywydau, a miloedd lawer wedi eu gwneyd yn ddigartref. Ond yn ffodus, fel gyda'r holl newyddion ddaw atom o'r America, gellir tynu o leiaf yr haner o hona ymaith. Gan fod yr adeiladau mawrion wedi cwympo ar draws yr heolydd, a'r pibellau dwfr wedi eu malurio trwy yr ysgwydiadau, yr oedd yn anhawdd cael at y trueiniaid oeddynt o dan y carneddi, na chael dwfr at ddiffodd y tan oedd wedi tori allan yn nghanol yr adeiladau maluriedig. Y mae y gwaith dwfr yn awr mewn trefn, a'r adfeilion yn cael eu clirio gyd- a'r fath gyflymder fel y mae megis tref'newydd yn prysur dyfu ar adfeilion yr hen un. Nid yw yn bosibl dywedyd swm y colledion, ond y mae y Cwmniau Yswirio eisoes wedi cael ar ddeall fod eu cyfrifoldeb dros haner :can' mil- iwn o bunau, ac y mae gwerth y cyfranu yn y Cwmniau wedi gostwng yn fawr o'r achos. Y mae personau unigol wedi colli, rai wyth can' mil o bunau, amryw wedi colli chwe' can mil ac eto y maent yn barod ac yn awyddus i wario yr oil sydd yn ngweddill ganddynt i ail adeil- adu y ddinas. I gyfarfod a thrueni a sefyllfa ddigartref y trigolion, y mae America yn anfon cynorthwy yn mhob ffurf, a holl Europ yn uno mewn anfon eu miloedd at borthi a diddosi yr anghenus. Fel y mae goreu'r modd sicrheir nad yw nifer y rhai gollasant eu bywydau yn cyraedd i lawn chwe chant. Y mae trens yn rhedeg ol a blaen gyda nwyddau, &c., at borthi y bob], a bernir fod y gwaethaf drosodd erbyn hyn. Tua haner awr wedi deg nos Fawrth, bcl. daeargryn arall, ond hysbysir na wnaed niwed i ddim trwyddo, fel y mae y trigolion a'r holl fyd yn hyderus na cheir ymweliad din-tiiol eto. Ofer fyddai i ni fyned i geisio desgrifio y trychineb enbydus hwn ond yn y wedd gyffred- inol uchod, gan fod y wlad a daeargrynfeydd (yn eu nhatur a'u heffeithiau) yn ddyeitbr i gorph ein darllenwyr. Diolchwn ein bod wedi cael "lie ei preswylfod" ar ran o'r ddaear sydd yn mhell oddiwrth fynyddoedd tanllyd a daeargrynfaoedd. T——I————iinwi in IWI inmiM 11 rni
Marwolaeth Mrs Roberts, Plasmeini,…
Marwolaeth Mrs Roberts, Plas- meini, Ffestiniog. Yn hynod sydyn, bump o'r gloch boreu heddyw (dydd Iau) bu farw y foneddiges uchod wedi cystudd byr ond trwm. Lai nag wythnos yn ol cafodd stroke, ac nid allodd lwyddo i gaei ymwared o'i heffeithiau, a rhaid fu ymostwng i'r anocheladwy. Mae ein cyd- ymdeimlad llwyr a'i phriod anrhydeddus, Mr. Robert Roberts, U.H., yn ei brofedigaeth lem, ac a'i mherch a'i mheibion, y rhai y cafodd y fraint o'u gweld yn dringo i safleoedd anrhyd eddus cyn cael ei galw ymaith o'n plith. Gan ein bod ar fyned i'r wasg pan ddaeth y newydd rhaid i ni adael y manylion am yr amgylchiad pruddaidd hyd ein nesaf.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. Jones.—Ar y 18fed cyfisol, priod Mr. Robert O. Jones, 130, Manod Road, ar fab. Davies.—Ar y 23ain cyfisol, priod Mr. Wm. Davies. Calfaria House, ar feroh. Burrows.—Ar y 25ain cyfisol, priod Mr. Burrows, Ironmonger, Llanrwst, ar ferch. PRIODASAU. Goodall—Williams.—Dydd Iau, Ebrill 19eg, yn Eglwys St. Michael, gan y Parch. C. P. Price, M.A., yn cael ei gyr.orthwyo gan y Parch. J. Davies, B.A., Mr. J, R. Goodall, Peirianydd, Wallesey, a Miss Maggie Wil- liams, ail ferch Mr. T. Williams, Gorsaf-feistr Ffestiniog. G wasanaeth v. yd fel gwas gan, Mr. Tnomas Roberts, Ffestiniog a Miss Edith Nelson Williams (chwaer y briodas- ferch), ei thair chwaer a'u dwy nith fel mor- wynion. Rhcddwyd y tvioclas-ferch ymaith gan ei thad, ac yr oedd y gwasanaeth drwyddo yn brydferth iawn. MARWOLAETHAU. Evans.—Ar y 24ain cyfisol, yn 40 mlwydd oed, Mr. Enoch Evans, Tylone, Maenan." Cleddir yn mynwent Seion, dydd Sadwrn.
Advertising
PEIDIWCH > I HI EB fod genych "Insurance Hat." MYN'D JrJl Pe digwyddai i chwi gyfarfad â I damwain cawsech ODDICARTREF amwain cawsech ? yr wythnos a„ru £ a d.. 'yr wy nos aoalluog, a IfjAA i'r perthynas agosaf d. mewn achos 0 farwolaeth. ■ 3/9 yr un. 3'/9 yr un. L SHOP YR ERYR, Chiurch Street.
NODIADAU WYTHNOSOL I
NODIADAU WYTHNOSOL I Mr. John Redmond a'r Llywod- I raeth. Dydd Sadwrn diweddaf, traddododd Mr. Redmond araeth dyddorol yn Kilteely, swydd Limerick. Mae'n amlwg oddiwrthi ei fod yn awyddus i'r Weinyddiaeth beidio cael blinder diachos ynglyn a'r cwestiwn Gwyddeiig, a'r casgliad naturiol i'w dynu oddiwrth hyny ydyw ei fod yn credu fod ganddi ewyllys i wneyd, a bwriad i geisio gwneyd cyfiawnder a'r Iwerddon. Dywed- odd mewn cynifer o eiriau fod mwyafrif anferthol o aelodau'r Weinyddiaeth ac o aelodau Ty y Cyffredin yn gyfeillgar i'r Iwerddon, a ffolineb noeth fyddai gwrthod rhoddi i'r Weinyddiaeth amser i barotoi ei chynllunisu i lywodraethu yr Iwerddon." Croesawn y geiriau hyn fel arwydd fod Mr. Redmond erbyn hyn yn argyhoeddedig fod ganddo ef a'i gyfeillion waith amgenach i'w wneyd nag ymosod yn barhaus ar y Blaid Ryddfrydol a'u harweinwyr. Maent wedi gwneyd hyny allan o fesur yn y biynyddoedd sydd wedi myn'd heibio, a'r canlyniad ydyw fod y Gwvddelod wedi colli cydyrndeimlad rhai o'u cyfeillion goreu, ac wedi gwneyd llawer iawn o Ryddfrydwyr oeddynt yn dra phleidiol i ymreolaeth yn ddifater iawn yn ei gylch. Os nad yw eu cred ynghylch Ymreolaeth wedi newid, mae eu sel drosto wedi oeri, a'u brwdfrydedd ymhlith y pethau a aethant heibio. Nid ydym yn meddwl am foment, ac nid ydym yn tybied fod Mr. Redmond yn disgwyl y bydd i'r Llywodraeth ddwyn Mesur Ymreolaeth o flaen y Senedd bresenol, oblegid byddai disgwyliad felly yn hollol ddisail ac yn sicr o droi allan yn ddisgwyliad ofer. Ond yr ydym yn credu y bydd iddi mewn gwahanol ffyrdd geisio gwellha cyflwr y wlad a rhoddi i'r Gwyddel- od ryddid llawnach a mesur helaethach o gyfiawnder nag y maent wedi ei gael hyd yn hyn. Dichon yr un pryd na fuasai Mr Red- mond mor fwyn a rhesymol hydrin oni bae ei fod yn gwybod fod mwyafrify Weinyddiaeth yn Nhy yCyffredin y fath ag i wneyd pob gwrthwynebiad iddi o du'r Gwyddelod yn ddirym ac aneffeithiol.
Dinystr San Francisco. !
Dinystr San Francisco. Er nad yw yr holl ddinas wedi ei dinystro, golyga'r adroddiadau a gyhoeddir i fod dwy ran o dair o honi yn bentvvr o adfeilion. Effaith anuniongyrchol yn hytrach nag uniongyrchol y ddaeargryn ydyw hyny. Dinystrwyd yr adeiladau gan mwyafnid trwy gael eu dymchwel gan yr ysgytiad ond tnvy gael eu llosgi gan dan a gyneuwyd ac a ymledodd gyda nerth an-wrthwynebadwy a chyflymdra ofnadwy. Nid oes neb yn gwybod beth yw nifer y rhai gollasant eu bywyd. Un adeg amcan-gyfrifid fod eu nifer yn 5000 erbyn mae'n lied sicr, goreu'r modd, nad yw haner hyny. Barna treng- holydd y ddinas eu bod yn rhifo tua mil. Prin mae'n rhaid dy\\edyd fod miloedd lawer o'r rhai a ddiangasant wedi colli eu holl eiddo, ac yn awr yn ddigartref. Pan wybu yr Arglwydd Roosevellt fod yn Mhrydain Fawr a rhai gwlcdydd eraill drefniadau yn cael eu gwneyd i estyn cymorth i'r trueiniaid, gwnaeth yn hysbys ei fod (tra yn gwerthfawrogi hyd yr eithaf y cydyrndeimlad caredig oedd yn cael ei ddangos) yn cyfrif nad oedd angen cymorth neb o'r tu allan 'r Unol Dalaethau. Ei farn ydyw y dylai pobl yr Unol Dalaethau eu hunain estvn cvmorth rheidiol ac v mae'n teimlo yn sicr y gwnant hyny hefyd. Dywedir na fydd i'r Cwrniii Vswli-iol fanteisio ar yr adran sydd yn eu polisiau yn 01 yr hon nid ydynt yn gyfrifol am niwed a wneir i eiddo a gollir mewn canlyniad i ddaeargryn. Eisoes mae pris cyfranddalau yr holl Gwmniau Yswiriol yno, a iiawer o Gwmniau yn y wlad hon, wedi gostwng yn fawr. Yn wir, cyfrifwn eu bed mewn Uawe" o achosion, wedi gostwng yn afresymol. i Bydd i rywrai elwa ar beth fel hyn. Ceir I prawf o yni yr Americaniaid yn v ffaith eu bod eisoes yn hwylio fati i ail-adeiladu y ddinas, ac \n dywedyd y bydd y ddinas newydd yn rhagori yn anrhaethel ar yr hen.
Etholiad Eifion.
Etholiad Eifion. Mae Rhyddfrydwyr Eifion wrth y gwaith 10 ddewis ymgeisydd am le Mr. J. Bryn Rob- erts. Ymddengys fod Undeb y Chwarelwyr wedi penderfynu na fyddai yn fuddiol iddo ddwyn allan Ymgeisydd Llafur, ond nid yw hyny yn golygu y gadawant i fuddianau Llafur gael eu diystyru neu eu dibrisio. Bydd yn rhaid i'r ymgeisydd a ddewisir— pwy bynag fydd-fod mewn cydymdeimiad llawn a. Llafur. Y tri ag y mae eu henwau yn cael eu cymeradwyo gan y rhan fwyaf o'r Cymdeithasau Rhyddfrydol lleol ydyw Mri. D. P. Williams, Ellis W. Davies, a T. E. Morris. Erbyn hyn y mae enw Mr. D. R. Daniel gryn lawer yn fwy anamlwg nag oedd wythnos yn ol. Mae'r penderfyniad yr ydym wedi cyfeirio ato yn ddigon i gyfrif am hyny,
I Gwaeiedd Syr Horatio Lloyd.…
I Gwaeiedd Syr Horatio Lloyd. :Yr wythnos ddiweddaf, tra yn aros gyda'i fab yn Neheudir Llbegr, cymerwydjy Barn- wr Syr Horatio Lloyd yn wael iawn. Deall- wn ei fod erbyn hyn gryn lawer yn well, ond mae'n amheus a adferir ef i fesur digonol i'w alluogi i ail-afael yn ei ddyledswyddau. Fel mae'n hysbys, nid yw wedi mwynhau iechyd da ers rhai biynyddoedd, ac y mae mewn gwth o oedran. Wrth ystyried hyn ynghyd a natur ei ymosodiad diweddaf, ei ymddi- swyddiad ydyw yr unig beth y gellir ei ddis- gwyl, oblegid mae'r gwaith sydd gan farnwr i'w wneyd yn galw am graffder a chryfder meddwl yn ogystal ag am gryfder corph. Ar hyn o bryd, gwasanaetha Mr. Samuel Moss, A.S., fel ei ddirprwy mewn rhai lle- oedd, a Mr. Cuthbert Smith fel ei ddirprwy mewn lleoedd eraill. Gan yr Arglwydd- Gangellydd y penodir barnwyr Llvsoedd Man-ddyledion fel Llysoedd uwch.
IHau'r Gwynt.
Hau'r Gwynt. Mae Esgobion Eglwys Loegr wrthi yn hai-i- gwyi-it wrth eu hewyllys, fel rhai heb wybod fod y rhai a wnant hyny yn gor- fod medi'r corwynt." Gydag ychydig eithriadau, maent yn rhoddi mynegiad i'w teimladau digofus mewn iaith gref dros ben Rhaid eu bod yn treulio rhan helaeth o'u hamser i droi dalenau geirlyfr am ansodd- eiriau digon cryfion i osod allan wir natur y Mesur Addysg. O'r braidd yr oedd y wlad yn gwybod y gallai y gwyr urddasol a eis teddent ar y fame esgobol ymysgwyd a gwneyd cyffro. Maent o'r hyn lleiaf yn gallu cyffroi eu hunain a'u gilydd amser a ddengys faint o allu sydd ganddynt i gyffroi pobl eraill. Rhaid i ni ddywedyd y buasem yn disgwyl i wyr o'u safle hwy ddangos mwy o ddoethinob a phwyll, a Ilai o dymer ddrwg a nwyd. Prin mae'r Catecism yn werth i Esgob wneyd ei hun yn gyff gwawd rhai, ac wrthrych tosturi- eraill er ei fwyn. Mae am- bell un ohonynt yn gweled hyn ac yn ceisio dysgu doethineb iddynt. Er engraipht, ys- grifenodd Esgob Croydon i'r Times lythyr yn yr hwn y dywed ei fod bob amser wedi cael Anghydffurfwyr mor onest, a theg, a cydwybodol a phobl yr Eglwys, a'i fod yn argyhoeddedig na fynent er dim wneyd cam neu anghyfiawnder a'r Eglwys." Nid yw mwy nag esgobion eraill yn cymeradwyo y mesur, ond nid yw yn ei felldithio drwyddo draw. Cred y gellir ei wella mewn ffordd a'i gwna yn bosibl i Eglwyswyr ei dderbyn. Ysgrifena Dr. Ridgeway, Deon Carlisle, i'r un papyr lythyr yn yr hwn y gwna rywbeth tebyg i geryddu y fainc esgobol am eu brys .Jb b u' h b yn anog Eglwyswyr i wrthwynebu y mesur heb betrusder." Heblaw hyny, gwna dipyn o wawd o'r iaith eithafol mae llawer o'i uwchafiaid yn ei harfer ar hyn o bryd. Cyn belled ag y mae a wnelom ni a'r mater, yr ydym yn fwy na boddlon iddynt barhau i roaio'r ffordd y maent wedi dechreu ei rhodio. Gwyddom beth fydd y diwedd. I'r mesur y llwyddant i gynhyrfu a chyffroi a chamarwain eu praidd," i'r mesur hwnw y prysurant ddyfodiad diwedd ag y byddai yn rhaid i ni amgen aros am dano am nid ychydig o flynyddoedd. Diwedd y cwrs y maent yn ei gymcryd fydd nid cadw'r Cat- ecisrc., yii yr ?,sl,oli?): oiicl c,?,ti B?, b l allai-, o ecism yn yr ysgolion ond G¡ U y 8elb! allan o
Y Pabyddion yn Yingynghori.
Y Pabyddion yn Yingynghori. Fel y dvwedasom yr wythnos ddiweddaf mae' blaenor y Pabyddion, Dr. Bourne a'i rrodyr, yn dangos mwy o gallineb na'u c,iii,os iiw-?,l o ,allliieb tia'Ll ¡'l;- '1 dywed y gall' Pwyllgor Ji.. ll..1) u.({, J. Addysg, pa i wneir cais ato gan rE, i pedair rhan o bump o'r plant mewn ysgol drefnu fod addysg grefyddol enwadol i gael ei chyfranu ynddi, &c. Nid yw hyn yn ddigon i'w boddloni, ac mae'n debygol mai yr hyn a wnant ydyw gwasgu am i'r caniatad gael ei droi, yn orchymyn, fel y bydd yn rhaid i Bwyllgor Addysg pan geisir ganddynt drefnu, &c. Ond ofer yw celu'r ffaith fod yr adran neillduol yma yn yn ddigon anghymeradwy gan Anghyd- ffurfwyr hyd yn nod fel y mae. Byddai yn fwy anghymeradwy pe newidid hi yn ol ewyllys y Pabyddion. Rhaid i'r Llywod- raeth gofio fod y Mesur fel y mae yn rhy wan i ni fod yn frwdfrydig o'i blaid. Mae teimlad yr Eglwyswyr (yn enwedig) a'r Pabyddion yn ei erbyn yn llawer iawn cryfach na'n teimlad ni drosto. Nis gall y Llywodraeth fforddio diystyru'r ffaith sicr yma.
Gwadu haeriad Mr. Keir Hardie.I
Gwadu haeriad Mr. Keir Hardie. Ysgrifenodd y Twrne Cyffredinol i wadu haeriad Mr. Keir Hardie fod y Llywodraeth wedi cydsynio i roddi y Mesur Anghydfod Llafurol adran a foddlona Blaid Llafur, a'i bod wedi cymeryd y mesur o'i ddwylaw ef (am ei fod yn ddiffygiol mewn cydymdeim- lad a'i ddarpariadau), ac wedi ei roddi yn nwylaw Syr W. S. Robson. Gwada yr haeriad cyntaf yn bendant, heb os nac oni bae." ond amodol yw ei wadiad o'r olaf. Dywed ei fod wedi ei gymeryd o'i ddwylaw ef oherwydd fod ei iechyd mewn cyflwr anfoddhaol. Amser a ddengys pa un a'i ef a'i Mr. Keir Hardie sydd yn iawn ar y pwynt cyntaf. Nid yw'n debygol y cawn byth wybodaeth sicr ar y pwynt olaf. Dichon mai y gwir ydyw fod cyflwr iechyd Syr L. Walton y fath ag i rwyddhau'r ffordd i drosglwyddo'r Mesur i ofal un yn credu'n llwyrach ynddo ac yn dwyn mwy o sel drosto.
I Cyfarfyddiad y Senedd.
I Cyfarfyddiad y Senedd. Cyfarfu Ty y Cyffredin brydnawn ddydd Mawrth ar ol gwyliau'r Pasg. Cydmarol ychydig o'r aelodau a ddaethant ynghyd. Yr oedd y Prif Weinidog yn absenol oher- wydd afiechyd, ac yr oedd lie Mr. Balfour hefyd yn wag. Am ychydig oriau y parha- odd yr eisteddiad-o 2-45 hyd 8-30; ac nid oedd y materion fuont dan sylw o ddyddor- deb cyffredinol. Dichon mai i ddifaterwch yn fwy nag i ddim arall y mae priodoli'r ffaith ddarfod i'r Ty heb ddim gwrthwyneb- iad oddiwrth neb, na dadl o gwbl ail-ddarllen y Mesur i wneyd i ffwrdd a'r angen am i Ynad Heddwch Sirol fod yn berchen eiddo rhydd-ddaliadol gwerth £100 yn y flwyddyn neu ynte fod yn byw mewn ty a'i ardreth flynyddol yn L100. Mae'n ddigon hysbys fod yn eistedd ar y Fainc Ynadol mewn gwa- hanol ranau o'r wlad ganoedd lawer heb fod y cymwysder (?) hwn ganddynt. Nid yw hyny yn chwanegu dim at urddas yr Ynad- aeth nac at ymddiried y cyhoedd ynddi.
I Aberystwyth yn erbyn y Bala…
I Aberystwyth yn erbyn y Bala a Threfecca. Cytuna y Methodistiaid Calfinaidd oil fod cynyg Mr. D. Davies, A.S., Llandinam, yn gynyg haelionus iawn a gwir ardderchog, a chydnebydd pawb o bob enwad hyny. Ond pan ofynir a ddylid derbyn y cynyg ni cheir cytundeb, ac nid yw hyny yn beth i ryfeddu dim ato. Y mae cysylltiadau'r Bala a Threfecca yn rhai cysegredig iawn, ac arwydd ddrwg yn ein golwg ni fuasai parod- rwydd i'w tori a chalon ysgafn. Mae'r mater wedi bod o dan ystyriaeth y Gym- deithasfa fwy nag unwaith. Penodwyd pwyllgor i roddi iddo ystyriaeth fanylach, a chafodd y pwyllgor hwnw fod penderfynu y mater yn waith anhawdd. Dygodd ei ad- roddiad ddydd Mawrth i Gymdeithasfa Chwarterol Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Rhathyn. Argymhellai y Pwyllgor eu bod yn ddiymdroi yn ceisio llais yr enwad yn Ngogledd Cymru ar y priodoldeb o gael un Coleg yn Aberystwyth yn lie y ddau sydd yn awr, y naill yn y Bala a'r llall yn Nhre- fecca. Cymerodd amryw wyr blaenllaw ran yn yr ymddiddan neu'r ddadl, a gwelwyd fod cryn wahaniaeth barn rhyngddynt. Ar wahan i'r ffaith eu bod yn hwyrfrydig i dori'r hen gysylltiadau barnai rhai mai anfantais yn hytrach na mantais fyddai dwyn eu coleg i gysylltiad agos iawn a choleg y Brifysgol. Yr oil a ddywedwn ydyw fod mwy i'w, ddywedyd dros y farn yna nag a wyr rhai.