Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

I -Llanrwst-

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I Llanrwst- St. Mary.—11. Parch. T. Felix, 6, Parch J. Morgan. St. Crwst.—10-30, Parch. J. Morgan; 6, Parch. T. Felix. Seion.—Parch. E. J. Jones, B.A., Llangerniew Scotland Street—Parch. John Hughes, Edeyrn Tabernacl—10, Parch. W. C. Williams. 6, Cyfarfod Gweddi. Ebenezer-10, Cyfarfod Ysgol. 6, Parch H. Jones. Trefriw. Horeb-Parch Phillip Price. St. James-Rev James D. Hall, Colwyn Bay. Penuel-Parch H. Bryn Davies, Llandudno. P. YR EISTEDDFOD.—Y mae golwg mwy add- awol nag y bu o gwbl am Eisteddfod lwydd- ianus y Llungwyn nesaf. Y mae yr ysgrifen- ydd Ilafurus-Mr Henry Jones, yn derbyn llu o"enwau"ymgeiswyr yn barod. Pe na byddai yr un enw arall yn dod i law, y mae digon o ddefnyddiau i gynal Eisteddfod ardderchog. RHWYMO HEDDGEIDWAID.—Prydnawn dydd Llun yn ngwydd tyrfa fawr o dystion yn ngha- pel Penuel (B.), Llanrwst, unwyd mewn glan briodas yr Heddgeidwaid H. S. Evans a Miss Florence May Wells. Y gwas ydoedd yr hedd- geidwaid Davies, a Miss Williams. Gorph wysfa yn forwyn. Gwasanaethwyd gan y Parch. Cernyw :Williams (ewythr y priodfab), yn cael ei gynorthwyo gan Mr Alfred T. Hughes, cof- restrydd. Ar ol y seremoni, bu i nifer fawr eistedd wrth fwrdd y wledd yn nhy y par ieu- anc, a chafwyd anerchiadau a dymuniadau lu am fvwvd hapus i'r ddau. CYFARFODYDD DIWYGIADOL.-Y mae Cym- deithas Ymdrech Grefyddol Pobl Ieuanc Tab- ernacl (A.), wedi trefnu nifer o gyfarfodydd diwygiadol yn nghapel Seion M. C. yn dechreu nos Lun, Ebrill 30, ac i barhau hyd nos Iau, Mai 3ydd. Disgwylir y Proff. E. Keri Evans, M.A., Caerfyrddin, a'r datganydd enwog Mr. Sam Jenkins. Bydd y cyfarfodydd yn dechreu bob nos am chwarter i saith. Cynhelir Cyfar- fod neillduol i'r Bobl Ieuangc yn Nghapel Horeb (W.) prydnawn ddydd Iau am 2.30, o dan lywyddiaeth y Parch Keri Evans. Cynhel- ir Cyfarfod Gweddio Undebol o holl Eglwysi y dref er parotoi ar gyfer y genhadaeth uchod yn Nghapel y Tabernacl, George Street, nos- weithiau Iau, Gwener a Sadwrn, Ebrill 26, 27, a 28, am saith o'r gloch. CYNHADLEDD Y BOBL IEUAINc.-Daethnifer fawr o gynrychiolwyr o wahanol Eglwysi y M.C., yn nghylch y Cyfarfod Misol ynghyd i Gapel Seion dydd Sadwrn diweddaf o dan lywyddiaeth Mr W. Hughes, Gwernfor. Prif amcany cyfarfod oedd trefnu i gael Cynhadledd etto eleni a dewis swyddogion. Dewisiwyd Mr. W. Williams, County School yn llywydd y Pwyllgor Gweithiol; Mr H. Davies, Talybont yn drysorydd, a Mr. J. D. Jones, Cyfreithiwr, Llanrwst yn ysgrifenydd a bod y Gynhadledd nesaf i'w chynal yn Llanrwst ddiwedd Medi neu ddechreu Hydref, ac i wahodd prif ddynion yr enwad i Anerch. MEWN GWAELEDD.—Drwg genym hysbysu fod y boneddwr cristion cywir Mr. W. Williams, Preswylfa, yn beryglus wael. Ofnir y gwaethaf. LLYS ARBENIG.—Boreu Mercher, o flaen O. Isgoed Jones a W, J. Williams, Ysweiniaid, cyhuddwyd Thomas Roberts o fod yn feddw ac afreolus yn Heol Scotland y noson cynt. Yn ychwanegol dywedai yr Arolygydd Woollam i'r carcharor rwygo dillad y gwely gwerth 4s, Dirwywyd ef i 2s 6c a'r costau. CYMDEITHAS Y GWEINYDDESAU—Yn y Town Hall, dydd Iau diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Gymdeithas ragororol hon, pryd yr oedd yn bresenol Mr. E. Jones- Williams Rhydlanfair (Cadeirydd); Arglwydd ac Arglwyddes Carrington, Parch. a Mrs John Morgan, Mrs Owen, Bryn Ynyr; Mrs T. Rogers Jones, Dale Cottage; Mrs Waiting Fron; Mr, W. J. Williams, Y.H., Mr. E: Jones-Owen (trysorydd) a Miss Leighton (ysgrifenyddes). Cafwyd adroddiad ffafrial am waith y Gymdeithas yn ystod y flwyddvn. Sylwai yr Arglwyddes Carrington fod yr Ad- roddiad yn dra ffafriol ond gofidiau weled cyn lleied yn bresenol. Y Cadeirydd a sylwodd eu bod yn anffortunus yn rhif y rhai oedd yn bresenol ond yr oedd gwaith rhagorol wedi cael ei wneyd. Yr oedd Nurse Cook yn gwneyd Parhad yn tudalen S.

IFootball Competition.

Marwolaeth to fs. Jones, 3,…

IMarwolaeth [ Mrs. Williams,…

Briwsion o Ffestiniog. I

Harlech.II

I -- - -Liangerniew. - - -…

Cyngor Gwledig Lianrwst. j

Llys Ynadol Lianrwst.I

Advertising