Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Blaenau Ffestiniog. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Blaenau Ffestiniog. I I ICYWIRIAD.-Rhag i neb gam gasglu oddi wrth yr Adroddiad o Rheolwyr Ffestiniog, a fyddwch gystal a chyhoeddi mai y Rheolwyr a ofynodd i Mrs Robert Griffith (Miss C, Edwards), aros yn ei lie fel Prif-athrawes yn Tanygrisiau, hyd nes y gwneid y cyfnewidiad fwredir, ac nid Mrs Griffith anfonodd i ofyn a gaffai aros fel y cyhoeddwyd. CYFARFOD YMADAWOL.—Cynhaliwyd cyfar- fod ymadawol ddydd Linn, 23ain cyfisol, ar yr awr giniaw, yn chwarel y Graig Ddu, i ffarwelio a Mr. John Ellis, Manod Road, yr hwn sydd wedi penderfynu myned i Colorado. Cafwyd cyfarfod neillduol o dda. Canwyd ton Gynulleidfaol i agor y cyfarfod ac wedi cael anerchiad gan y Llywydd, Mr. Robert Thomas, Isfryn.sawd yn mlaen gyda'r rhaglen. Cymerwyd rhan ynddo gan y rhai canlynol:— Mri. Evan Jones a W. P. Jones, Deuawd; W. O. Jones, Unawd; Owen R. Ellis a'i gyfeillion, Pedwarawd. 'Cafwyd anerchiadau barddonol gan Mri. Evan Evans, Evan Jones, David Jones, a John Owen, yr oil yn ddoniol a phwrpasol. Siaradwyd yn ystod y cyfarfod gan Mr T. R. Davies a chyflwynodd Mri. Evan Evans ac Owen R. Ellis bwrs yn cynwys rhodd mewn aur, gan ddatgan eu teimladau a dymuno i Mr. John Ellis ddyddiau braf a llawer o lwyddiant yn y wlad bell. Cafwyd llais unfryd o'r holl weithwyr o blaid hyn. ac wedi i Mr. John Ellis ddiolch am yr oil c'garedigrwydd ei gydweithwyr, terfynwyd cyfarfod hynod o ddymunol, trwy ganu emyn dan arweiniad Mr, William Jones, A.C., Bodunig.—L. LL. J. MARWOLAETH A CHLRADDEDIGAETH MR. JOHN WILLIAMS, BRYN TIRION, GLANDWR. —Nos Iau ddiweddaf. ar ol cystudd cymharol fyr, ond hynod o boenus, ehedodd ysbryd y gwr ieuanc anwyl uchod "at yr Hwn a'irhoes." Cymerodd yr angladd le ddydd Mawrth, yn mynwent Bethesda. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. John Owen, M.A. Llawenydd oedd gweled iddo gael angladd tywysog ienanc. Tyner iawn oedd canu y plant a phobl ieuanc y lie. hyd y ffordd ac yn y gladdfa. Yr oedd pedair o Wreaths heirddion wedi eu hanfon, un oddiwrth ei ddos- barth yn yr Ysgol Sul. dwy oddiwrth ei gyfeill- ion ieuanc yn Glandwr; ac un oddiwrth gyfaill mynwesol sef, Mr. Hugh Roberts. Digon yw dweyd, fod amlygiad o alar anghyffredin yn yr angladd, i ddangos pa mor uchel yr oedd y cyfaill ieuanc yn syniadau ei gydnabod. Er iddo syrthio i'r bedd yn yr oedran prydferth o ugain mlwydd, bu fyw yn llawer hwy na hyny. Yr oedd yn dalentog mewn amryw gyfeiriadau, ac yn ddiamheuol dduwiol. Ni chaniatta amser inni heddyw ymhelaethu, ond ceir cyfle etb. Teimlir hir chwithdod am ei wen ddi- ragrith, a'i gyfarchiad Siriol bob amser, ond i'r teulu y mae y ddyrnod yn anhawdd ei dwyn, a gallwn ar ran pawb gyflwyno iddyntoll gydym- deimlad diamheuol gywir. 2 B v u tJ ° v v. Ah marw llanc oedd mor lion—dywy 'i einioes Drywana ein calon; Trom a hell yw y storm hon Yn tori ar Fryntirion. D. Gwr ifanc, hawddgar hefyd-oedd loan, Fu'n dduwiol drwy i fywyd; Er ei wyro i oer weryd Ei enw gawn yn wyn i gyd. Caeffridd. JOHN D. JONES, LLWYDDIANT CERDDOROL.—Diameu y teimla yr ardal yn gyffredinol yn falch o glywed am lwyddiant eithriadol Miss A. E. Owen-Davies, ynglyn a chwareu y Berdoneg. Yr wythnos hon cafwyd gwybodaeth ei bod wedi enill yr Anrhydedd uchel o A.R.C.M., (Associate of the Royal College of Music). I bawb ac sydd yn gwybod rhywbeth am gerddoriaeth," fe welir ei bod wedi cyrhaedd safle ac y gall yr ardal deimlo yn falch iawn o honi. Bu yn derbyn ei haddysg gyda Dr. Bridge, Caer ynghydaDr Middleton, Llundain a thystiolaeth yr athrawon yw, ei bod yn Gyfeilyddes naturiol a galluog iawn ac yn un o'r rhai cyflymaf fu yn derbyn addysg erioed ganddynt. Mae deall hyn yn brawf na fu cefnogaeth yr ardal yn ofer, pan yn trefnu Cyngherdd i'w chynorthwyo, ac hefyd profa iddi hithau weithio yn egnlol iawnei hunan, neu ni buasai wedi llwyddo i fyned trwy yr ar- holiad caled ac a sicrhaodd iddi y safle an- rhydeddus. Bydd hyn yn ei gosod yn rheng flaenaf y cyfeilwyr a'n dymuniad yw iddi eto gael cefnogaeth deilwng o'i gallu a'i safle yn y byd cerddorol. Gall Ffestiniog ymffrostio yn ei chefnogaeth i'w hamryaiol dalentau, a diameu y gall lawenhau wrth weld ymdrech difiino un o'i phlant yn cael ei goroni, nes dwyn anrhydedd ar yr ardal. Gadewch i ni eto ddal i'w gwerthfawrogi. a thrwy hyny alw sylw y wlad i ddod i chwilio am ei gwasanaeth gwerthfawr. CYFNOD CROMWEL,=Dymunwn alw sylw ein darllenwyr at y cyfleusdra fydd iddynt i ymgydnabyddu a'r cyfnod pwysig hwn yn hanes ein glwad. trwy ddarlith y Parch. W. O. Evans, arno yn Ebenezer nos Iau Mai 3ydd. Daw o'r cyfnod genadwri bwysig ac addysg werthfawr i n gwlad yn yr argyfwng pwysig presenol yn ei hanes. Ac at feddu gwybodaeth am y cyfnod, ceir hefyd o wrando ar Mr. Evans y pleser o dderbyn y wybodaeth gan un sydd yn ddiamheuol yn un o brif ddarlith- wyr Cymru, EGLWYS ST. DEWI.—Bwriedir cynal Gwas- anaeth Seisnig yn Neuadd St. Dewi y Sul nesaf. Y boreu am 10-30, a'r nos am 6-30. Gwneir casgliadau at ddileu y ddyled.—Agorir y Neuadd yn ffurfiol Mai 3ydd. Gwledd o de yn y prydnawn o 4 hyd 7-30, a Chyngerdd am 8 o'r gloch. Llywyddir gan Mr. T. P. Osborne Yale, U.H. Y bobl ieuaingc sydd yii gwneyd yr holl drefniadau. LLYS COLEG BANGOR.—Yn nghyfarfod y Llys, gynhaliwyd yn Nghaer ddydd Mercher, penderfynwyd cynal y Llys nesaf yn Blaenau Ffestiniog, yn mis Hydref. Etholwyd y personau canlynol i gynrychioli y Rheolwyr yn Llys Coleg Cymru :-Arglwydd Kenyon; y Prif athraw T. P. Dodd, M.A., Blaenau Ffestiniog Proff. Ellis Edwards, M.A., Bala; a Mr. T. G. Osborne, M.A.. Colwyn Bay. ENILLWYR Y PASG A'R GROGLITH.—At y rhestr a wnaed yr wythnos ddiweddaf, da genym gael ychwanegu y rhai canlynol:—Mr. W. Morgan enill ar Englyn a Phenillion yn Nghyfarfod Llenyddol Salem, Dolgellau; Perorfryn enill ar Bryddest i Amser," yn Eisteddfod Llandderfel y Groglith. Hefyd yr oedd W. O. Jones yn beimiadu yn Nghaergybi nos Fawrth y Pasg, ac yn canu gyda'r tanau. Llongyfarchiad iddynt. YMADAWIAD MR. LEWIS JENKINS.—Fel y gwelir mewn colofn arall, y mae Rhyddfryd- wyr Rhanbarth y Rhiw a Bowydd wedi colli eu hysgrifenydd medrus—Mr. Lewis Jenkins, a gelwir yr etholaeth yn nghyd erpenodi olynydd iddo. Nid yn hawdd y ceir un a all lenwi y bwlch hwn adawodd Mr. Jenkins ar ei ol trwy ei ymfudiad i'r Gorllewin, Nid oedd rhagor- ach ysgrifenydd' yn y Sir, fel y profid bob blwyddyn wrth anfon adroddiad i'r Gym- deithas Sirol. Eiddunwn iddo bob llwydd yn yr America bell. DAMWEINIAU.-Prydnawn dydd Mercher, wrth daflu ysgarthion i'r afon gyferbyn a Medd- ygfa Dr W. Vaughan Roberts, syrthiodd Mr Arthur Williams, mab Mr Williams, gorsaf- feistr y Llan, dros y wal i'r afon ac anafodd ei goesau a'i droed yn drwm. Y syndod yw iddo ddod mor ddianaf.—Wrth ddod at ei orchwyl ganol dydd Llun, cafodd Mr John Humphreys.. Swyddfa'r RHEDEGYDD," gic gan geffyl wrth basio ar yr heol, ac anafwyd ei goes yn drwm iawn. GWAELEDD.—Drwg genym ddeall am wael- edd trwm ein cyd-drefwr poblogaidd, Mr E. M. Owen, Bank Place. Cafodd ei daraw dydd Iau diweddaf gan enyniad yr ysgyfaint, ond y mae heddyw (ddydd lau) ag arwyddion troi ar wella. Mawr hyderwn y caiff arbediad a llwyr wellhad.—Y mae lluaws eraill mewn llesgedd mawr yn yr ardal, a rhai y pryderir llawer yn eu cylch. Gobeithiwn y try pethau allan yn well na'r ofnau.

11\-PWYSIG I CHWARELWYR.

PLANT Y PENRHYN. I

Advertising

Cuddio'r Arian mewn Carpiau.

Etholiad Eifion. I

1-----Gwas Anonest. - - -…

Cosb Drom ar "Jehu." I

O'R PEDWAR CWR.I

I -Llanrwst-