Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

I Cynghor Dinesig Ffestiniog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynghor Dinesig Ffestiniog. Cyfarfu y Cyngor ar ei noson reolaidd nos Wener diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. J. Lloyd Jones, Cadwaladr Roberts, William Owen, J. Lloyd Jones, (ieu.), John Cadwaladr, Hugh Jones, Hugh Lloyd, W. J. Rowlands, William Evans, E. LI. Powell, Evan Jones, Richard Roberts, William Jones, R. O. Davies, (clerc), W. E. Alltwen Wil- liams, (Arolygydd a Pheirianydd), ac Evan Roberts, (clerc cynorthwyol). Can fod y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn absenol, dewisiwyd Mr. William Owen i'r Gadair. CYDYMDEIMLAD.—Ar gynygiad Mr. Richard Roberts pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Cadeirydd (Mr. E. M. Owen) yn ei waeledd trwm. Y Cadeirydd a gynygiodd eu bod yn anfon eu cydymdeimlad dyfnaf a Mr. Roberts, Plasmeini yn ei brofedigaeth o golli ei briod. Bu ef yn aelod o'r Cyngor ac yn llenwi cylch- oedd pwysig ar eu rhan. Pasiwyd yn unfrydol. Wedi cadarnhau cofnodion y Cyngor Rheol- aidd a'r Cyngor Rhaith awd yn mlaen i ystyr- ied adroddiadau y Pwyllgorau. Y PWYLLGOR GWAITH. Cyfarfu hwn ar ol cyfarfod olaf y Cyngor, ac etholwyd Mr. William Owen yn Gadeirydd iddo.—Penderfynwyd fod y personau canlynol i gael gwaith yn ol 3/6 y dydd d gyflog:- Thomas Penny, Neuadd Ddu; Robert Ed- wards, Glynllifon Street; S. Williams, Rock Terrace: R. Price, South Street; a J. M. Jones, Brynawel. Ar gynygiad Mr. Evan Jones a chefnogiad Mr. John Hughes, pasiwyd i Mr. Owen Owens, y foreman, roddi ei holl amser gyda'r gwaith yn Cwmbowydd fod Mr Owen Jones i fod yn gynorthwywr iddo, a bod ei gyflog i'w godi i 4s y dydd; a bod Mr. R. Williams sydd yn gofalu am y saethu i gael codi ei gyflog i 3s 9c y dydd. Hefyd fod rhestr o'r dynion teilwng i gael codiad yn eu cyflogau i gael eu dwyn o flaen y pwyllgor. Mr. Richard Roberts, I ba beth y mae yr ychwanegu swyddogion fel hyn i wylio dynion fel pe byddent yn hollol ddiegwyddor neu yn gaethweision,-Y Cadeirydd a eglurodd mai gwael ei iechyd ydoedd Mr, George Davies yr hwn oedd i ofalu dros y dynion yn Cwmbowydd ac nid oedd yn debygol y gallai ddod at ei waith am dair wythnos eto. Yr oedd Owen Owens i gymeryd y gofal yn ei le, ac i fod yn Cwmbowydd yn gyfangwbl. ac Owen Jones i ofalu am y dynion oeddynt yn gweithio neu rllanau eraill o'r ardal.-Mr. E. Lloyd Powell, Felly mai Owen Owens i fod yn Cwmbowydd o hyd ac nid yn un man arall, "-Cadeirydd, Ydyw. Mae'r gwaith mor bwysig yno fel y Mae yn ofynol cael rhywun yn barhaur ar y lie -Alr. Richard Roberts, "Paham y mae un o'r dynion sydd gyda'r saethu yn cael codi ei gyflog a'r llall ddim ?"—Cadeirydd, "Am mai ganddo ef y mae y certificate gyda'r pylor, Mr. Richard Roberts, Y mae y llall yn trin Rj-iyy ax y-pylor na R. Williams; Efe sydd yn ei gario i'r lie, ac y mae yn rhaid fod ganddo ^ftificate."—Cadeirydd, "Nag oes, gan R, Williams mae'r certificate.-Mr. Richard Roberts, Nid ydych yn gywir. Mae gan y ddau certificate, a dylai y ddau gael yr un cyflog,"—y Cadeirdd (wrth Mr. Alltwen Williams), Sut y mae gyda'r certificate a, Oes gan rywun ond R, Williams un?"—Mr. I Williams, Oes, wrth gwrs, mae gan y ddau gan eu bod yn trin y pylor. Dywedais hyny yn y pwyllgor yn hollol eglur.—Mr. Richard Roberts, Yr ydwyf yn cynyg fod y ddau yn cael codi eu cyflogau yr un fath a'u gilydd. Ir-adeirydd Y mae yn afreolaidd i chwi gynyg hyny gan fod yr holl fater wedi ei roddi yn llaw ypwyllgor gyda hawl terfynol i weithredu. r. Richard Roberts, I beth y darllenir cofnodion y pwyllgor yn y Cyngor, a phaham r gofynir i ni eu mabwysiadu, os oes gallu erfynol gan y Pwyllgor ar wahan ?"—Cadeir- tdd, "Rhaid doda'r oil i'r Cynghor, arhaidi'r yngor eu cymeradwyo cyn y bydd grym y dynt."—Pasiwyd cynygiad Mr. R, Roberts 1 gyflog y ddau ddyn fod yr un fath, a chymer- etgjjpyd gwaith y pwyllgor gyda'r holl bethau PWYLLGOR Nwy. DWFR. A GOLEUNI. k?yfarfu y Pwyllgor hwn Ebrill 23ain, ac all^j viswyd Mri. J. Lloyd Jones (hynaf) yn GadirYdd, a W. J. Rowlands yn Is-Gadeiryd. -Yr oedd y Clerc wedi anfon gair yn gofidio nad oedd yn abl i fod yn bresenol, am ei fod Yn Llundain yn gweled yr awdurdodau gyda golwg ar gael y Benthyciad at Adran 3 o'r ynilun Carthffosol. Awgrymai hefyd y pwys o benodi Pwyllgor i fyned i mewn yri. drwyadl i ■{j y Goleuni Cyhoeddus i'r amcan o leihau gost. Pasiwyd i gymeradwyo awgrymy Clerc a r modd goreu i gasglu Treth y Dwfr. MCAN-GYFRIF.—Amcangyfrifai y Pwyllgor Y Costau am Gwaith Nwy yn £ 1200; Gwaith DWfr, £ 5-60, a'r Tan-Gatrawd £50. R-)IVFR CWMORTHIN.-Pasiwyd i Dreth y dwfr yn y dyfodol fod yn 2s. y chwarter, a bod Y Clerc i anfon at Gwmni Oakeleys i ofyn can- lc..tad i osod Cron-gell (Tanli) yn y lie er cyf- nerthn y cyflenwad dwfr. trafYfLENW^D DWFR PENYMOUNT.—Cafwyd traodaeth faith ar y mater hwn. Yr oedd Mr. EIlts ^edv i anfon yn cvyno ei fod heb ddwfr yno a'r Anedd-dai uwchlaw er's mis, a bod y dWf ^"e^- ei aia* gan faw aeth i'r pibelli pan °edd ni0n y Cyngor yn ymwnevd a dwfr Brv "??yn-—Mr. Alltwen Williams a ddvv2- &i OCl^ mai pythetnos yn ol oedd er pan wnpC i y soniai Mr. Ellis am dano, ac felly nid oedd yn gywir yn rhoddi y bai ar Welti, ? Cyngor. Hefyd, yr oedd ef ei hr?r. ? Cyu-or" Hefyd, yr oedd ef ei ■K Ve £ 1 1 T "]°ddi prawf ar y bibell redai i lawr gyfeiriad Penymount, yr oedd darnau o'r j „vrf T °n ) ??" y Cyngor i weled drostvnt en hn na'' ei bod wedi cau i fyny gyda ??er oed???? -?egu mor gadarn a'r bibell ei hun.  flli11 P?sll newydd ar hyd yr holl ff °lc-d, a chostiai hyn swm Iled bwysig. B? ? ? ?ostiai byn swm IIedbwysig. Helaw 11yny, P?"" anghyhoedd oedd hon, a tb?sud c2 10s am gyflenwad o ddwfr at wasan- a„tll v tai trwy y bibell. Byddai i'r Cyngor wnevJ Y gwaith agor ar fater o bwys mawr gan y golygai eu bod yn cymeryd gofal holl bibell anghyoedd y dosbarth.- Gohiriwyd y mater hyd nos Iau i gael barn y Clerc arno. Y GOLEUNI CYHOEDDUS.—Nid oeddid wedi gwneyd s.mcan-gyfrif am y goleuni cyhoeddus, ac felly yr oedd yn ofynol eistedd yn arbenig i ystyried yr holl bwngc yn barod at nos Iau, pan y cynhelir Cyngor Arbenig ii wneyd i fyny y cyfrifon a'r amcan-gyfrifon.— Mr. Cadwaladr Roberts a gynygiodd fod yr holl Gyngor yn ei ystyried, a chefeogodd Mr. Richard Roberts.—Mr. Evan Jones a gynyg- iodd fod Is-bwyllgor yn cael ei benodi er mwyn gwneyd y gwaith yn effeithiol. Dylid myned o gwmpas i weled sut yr oedd y gwahanol ranau o'r ardal yn cael ei goleuo.—Mr. John Cad- waladr a gefnogodd i gael pwyllgor o 7.—Mr. Cadwaladr Roberts, Bydd y lleuad yn gwneyd ei waith yn Tanygrisiau yr wythnos nesaf, fel na waeth i chwi heb ddod acw i weled y goleuo (chwerthin). Dylai yr holl Cyngor eistedd er mwyn i'r wasg fod yn bres- enol, Mae'n bryd rhoddi terfyn ar y pwyll- gorau man sydd yma, i gornelu pethau o olwg y trethdatwyr."—Pasiwyd i'r holl bwyllgor eistedd, a'i fod i gyfarfod nos Fawrth.—Clerc, Dylid trafod y mater yn llawn pe byddem gydag ef am bum awr Mae llawn bryd cael terfyn ar y peth unwaith am byth yn lie ei adael vn ei sefvllfa anfoddhaol Dresenol." I PWYLLGOR ARIANOL. Cyfarfu y Pwyllgor hwn ar Ebrill 24ain, ac ail-ddewisiwyd Mr. Owen Jones yn Gadeirydd, a Mr. Richard Jones yn Is-gadeirydd. Galwyd sylw at y ffaith fod yr Arolygydd wedi rhoddi gwaith i ddynion ar wahan i'r gwaith wneir yn Cwmbowydd, heb fod y pwyll- gor gwaith yn cymeradwyo hyny.—Mr. Wil- liams a ddywedodd mai at y gwaith yn Cwm- bowydd yr oedd y rheol hono yn cyfeirio ac nid at ddim a wneir oddiallan.—Cynygiodd Mr. William Owen fod Mr. Williams i dalu o'i logell ei hun i'r dynion a gymerodd i mewn, ond ni chefnogodd neb.—Y Cadeirydd (Mr. Owen Jones) a ddywedodd eifod ynddealladwy yn awr mai trwy y pwyllgor yr oedd pawb i gael gwaith. Y Clerc a hysbysodd iddo, trwy gyfarwyddyd y Cynghor osod Mr. J. P. Humphreys i wneyd gwaith yr Arolygydd Iechydol (Mr George Davies) yn ystod afiechyd y swyddog hwnw, ac argymellai ei fod yn cael ei dalu am ei waith.— Cynygiodd Mr. William Owen a chefnogodd Mr. J. Ll. Jones ei fod yn cael £ 2 yr wythnos. —Mr. Cadwaladr Roberts a gynygiodd a Mr. R. Roberts a gefnogodd ei fod yn cael 30s. yr wythnos. Yr oedd y pleidleisiau yn gyfartal, a rhoddodd y Cadeirydd ei bleidlais derfynol dros 30s."I-Argymellwyd talu biliau i'r swm o £ 932 19s 2c.—Gadawyd y pwngc o baentio y Neuadd a'r Swyddfeydd i ofal y Cadeirydd, Is-gadeir- ydd, y Clerc a'r Peirianydd. Mabwysiadcdd y Cyngor yr oil o'r argymell- ion uchod. I PWYLLGOR IECHYDOL, Y FFYRDD, A'R GWELLIANTAU. Yr oedd y Peirianydd a'r Arolygydd Iech- ydol wedi adrodd i'r Pwyllgor hwn, a phen- derfynwyd arnynt fel yr adroddir isod. ADRODDIAD Y PEIRIANYDD. Yr oedd lledu y ffordd yn Manod Road wedi ei ddech- reu, a'r Garthffos yn y lie wedi ei symud yn ol y cytundeb. Byddai y gost o ledu yn y lleoedd yr adeiladwyd yn £ 40, y ffos yn Llwynygell yn £ 20, gwella Congl Mynwent St. Dewi yn £55, a gosod pibell ddeunaw modfedd yn y Cae Difyrion hyd Ysgolion y Manod yn £ 65.—Yr oedd wedi archwilio Pistyll Tynant, a chafodd y dwfr yno yn Ian. Ni fuasai yn argymell cau i fyny yr adeilad i'r lie, ond dodi llidiart gloedig ar y fynedfa fel y gellid myned yno pan fyddai angen. Gwnelai y lie safle Trothai Cyhoeddus rhagorol.—Yr oedd J. N, Edwards wedi cau y tir wrth Glasdo er iddi gael rhybudd gan y Clerc i beidio.—Myg- ddarthwyd Ysgolion y Llan a'r Ffosydd, a gwnaed archwiliad manwl ar yr holl le.-Yr oedd Miss Brymer wedi adeiladu mur ar draws y ffordd arweiniai i Llwynhir Terrace wrth Ysgolion y Manod, ac wedi tynu mur y ffordd er cael y ffordd at dir buarth Victoria House. -Yr oedd y gwaith ar y ffordd, a'r gwaith yn Cwmbowydd yn cael ei gario yn mlaen yn foddhaol. ADRODDIAD YR AROLYGYDD IECHYDOL.- Gofidiai orfod adrodd am gynydd yn y Nod- iadau Clefydon 30 ar gyfer 7 y mis cynt, a 4 yr un amser y llynedd. Gwddfglwyf 23, Twymyncoch 6, Taniddwf 1. Nodwyd 19 gan Dr. G. J. Roberts, 6 gan Dr. Jones, a 5 gan Dr Evans. Yr oedd achosion y Gwddf-glwyf oil ond dau o'r Llan, a rhai o honynt o natur lym, a bu tri yn angeuol.—Rhoddodd Mr. Davies adroddiad manwl am yr archwiliad a wnaeth ar Ysgolion-y Llan, ac awgrymai rai gwelliantau gyda'r gwygelli a'r pibelli.—Nid oedd Ysgarth- ion Lladd-dy Tynant yn cael gofalu am danynt yn briodol. Yr oedd yno lestr priodol i'w dodi, ond ni wneid defnydd o hono er Rheolau a chyfarwyddiadau pendant y Cyngor. Cerid yr oil i gae agored, a llusgid y ffieidd-dod ar hyd y ffyrdd a'r heolydd gan gwn.—Am Bistyll Tynant, yr oedd y lie yn cael ei ddefn- yddio yn y nos i bwrpas aflan, ac argymellai fod y fynedfa yn cael ei gau i fyny.-Gofidiai ddywedyd iddo fod yn analluog i wneyd ei waith yn ystod y bythefnos diweddaf oherwydd enyniad ei lygad. Gwnaed y gwaith yn ei absenoldeb gan Mr. J. Parry Humphreys, yr hwn fu gydag ef fel cynorthwydd (trwy eu cydsyniad) er mis Awst. Cyfarfu y Pwyllgor i ystyried yr adroddiadau hyn a materion eraill Ebrill 25. Dewisiwyd Mr, John Cadwaladr yn gadeirydd, a Mr. Hugh Jones yn Is-gadeirydd. Y GWDDFGLWYF YN YjLLAN.—Yn ngwyneb yr ayroddiad difrifol am ledaeniad y clefyd peryglus hwn yn y Llan, a bod plant yn cael cymysgu a'u gilydd o'r tai lie mae'r afiechyd, ac yn casglu yn nghyd mewn cyrddau Te, pasiwyd i'r swyddogion gymeryd mesurau i ddal y troseddwyr a'u herlyn. YSGOLION Y LLAN.—Pasiwyd i anfon ad- ysgrif o adroddiad yr Arolygydd Iechydol i'r Rheolwyr addysg yn nglyn a'r Ysgolion uchod. LLADD-DY TyNANT.—Pasiwyd [i wasanaethu rhybuddion, ac i gymeryd cwrs pellach os parheir i weithredu fel yn brese,nol yn y lie hwn. 8.:Im PISTYLL TYNANT.—Pasiwyd i ddodi drws cloedig ar y fynedfa i'r lie hwn. Y CAE DIFYRION.—Cynygiodd Mr. J. Hughes a chefnogodd Mr. W. D. Jones fod y gwaith o wneyd carthffos,—yn ol y Peirianydd gostiai 665-yn y lie hwn yn cael ei gario allan os ceid cydsyniad y perchenogion; Mri. E. Ll. Powell a gynygiodd a Mr. C. Roberts a gefnogodd fod y mater i'w ystyriedyn mhellach wedi cael cydsyniad pawb cysylltiol a'r lle.- Ni ddywedai adroddiad y pwyllgor pa gynyg- iad a basiodd. DYFR-FFOS LLWYNYGELL.—Ystyriwyd ar- gymellion y Clerc, ac eiddo y Peirianydd fod yn well i'r Cyngor ddodi pibelli newyddion o dan y ffordd na lledu y ddyfr-ffos bresenol os oeddid am ymgymeryd a r gwaitb.Argymell- ion y Clerc oeddynt, (1) Fod maint y ddyfrffos i'w fwyhau ond heb ragfarnu hawliau a chyfrif- oldeb y Cyngor; (2) Fod Mri. Greaves i'w dal yn gyfrifol am gadw eu hochr hwy o'r ddyfr- ffos yn glir; (3) Nad yw y Cyngor yn cydnabod unryw hawliad wneid nac unrhyw niweidiau honedig.—Cymeradwyd yr argymellion gyda'r gwelliant awgrymid gan y Peirianydd.—Dar- llenwyd Ilythyrau oddiwrth Mri. W. Owen ac Owen Jones yn dal allan fod y Cyngor yn gyf- rifol i wneyd yn dda y niweidiau achoswyd i'w heiddo gan y gorlifiad.-Yn ngwyneb y pen- derfyniad basiwyd ni chymerwyd sylw o'r hawliadau hyn. Mr. William Owen-" Nid wyf yn siarad yn awr fel Cadeirydd nag fel Aelod o'r Cyngor, ond fel cynrychiolydd Mri. Greaves a chyn- rychiolydd fy hunan. Yr wyf wedi dangos i'r pwyllgor fu yn y lie gyfrifoldeb y Cyngor yn y mater, ac er fy mod braidd bob amser yn cyd- weled a barn aeddfed y Clerc, yr wyf yn gwahaniaethu oddiwrtho yn ei adroddiad ar y mater hwn ac Y Clerc Mr. Owen, nid oes genych hawl i ddywedyd gair yma heno, gan eich bod yn dywedyd nad fel aelod o'r Cyngor yr ychydig yn siarad, ond fel cynrych- iolydd buddiant Mri. Greaves a chwi eich hunan. Nid dyma y lIe i drafod mater cyf- reithiol, ac yr wyf yn rheoli fod hyny allan o drefn. Yr wyf fel eich cyfreithiwr a'ch Clerc yn cyflwyno i chwi fy Adroddiad ar ol'ystyried y mater yn fanwl am fis o amser, ac yr wyf yn barod i sefyll wrth y cyfarwyddyd wyf yn ei roddi i chwi."—Mr. W. Owen, Yr wyf/yn gwahaniaethu oddiwrth eich adroddiad ar y mater. "-Clerc, Nid ydych wedi eu glywed eto." Mr. W. Owen, "Do, yr wyf wedi ei ddarllen bob gair."—Y Clerc, "Y mae hyny yn anmhosibl. Heddyw prydnawn yr ysgrifen- ais ef, ac yn awr y mae yn cael ei ranu gan Mr. Evan Roberts i'r Aelodau. "—Mr. Hugh Lloyd, Cafodd y mater ei drafod yn llawn yn y Pwyllgor neithiwr."—Mr. W. Owen, Methais a dod i'r pwyllgor, neu buaswn wedi codi y peth i fyny ynddo."—Mr. Hugh Lloyd, Eich bai chwi yw hyny. Y mae y Cyngor wedi eu cyfarwyddo yn fanwl a chlir gan y Clerc."—Ar gynygiad Mr. Cadwaladr Roberts a chefnogiad Mr. William Evans, pasiwyd i'r gwaith gael ei ddechreu ddydd Llun er mwyn ei orphen yn ddiymdroi. GWLAW-FESURYDD.—Pasiwyd i beidio prynu y ddau offeryn sonid am eu gosod i fesur disgyniad y gwlaw yn y Llan a Bethesda trwy 7 pleidlais yn erbyn 6. CONGL MYNWENT ST DEWI..—Gan fod y gost ( £ 55) o wneyd y gwaith hwn mor uchel, pasiwyd i gyflwyno y mater yn ol i'r pwyllgor i'w adystyried. CAU Y TIR YN GLASDO.—Os byddai y Clerc yn cael fod y tir gauwyd ar Brydles Mr. J. N. Edwards yr oedd y mater hwn i'w adael yn llonydd. MYNWENT Y LLAN.—Penodwyd Pwyllgor arbenig i gyfarfod yn y Llan i ystyried pa gamrau gymerid i gael darn o dir at y Gladdfa hon. YR AMCAN-GYFRIFON.—Gosodwyd yr amcan gyfrifon canlynol o flaen y Cynghor, a phasiwyd hwynt :-Carthffosydd £ 383, cariocarthion &c., £ 450; Prif-ffyrdd, £ 1,235 y Ffyrdd eraill £ 325 Nodi clefydon, £20, Claddfeydd, £ 20 Cae Difyrion, £ 15. Nid yw hyn yn cynwys y gost gyda'r gwaith newydd, na'r Garthffos yn Tanygrisiau, deuai y naill a'r llall i fyny yn y Pwyllgor arbenig. LLETYGWILYM.—Addawai Dr. Jones, Llan- rwst, wneyd y gwaith ofynid ynsy lie hwn mor fuan ag oedd yn bosibl. AMRYWIOL. I ARIANOL.—Casglwyd o wahanol ffynonellau yn ystod y mis £ 316 14s 5c. Derbyniwyd o'r Cyngor Sirol £ 370, gan Arolygwyr y Tlodion £ 120:— £ 811 14s 5c. Felly yr oedd £ 240 Is 3c yn yr Ariandy yn ffafr y Cyngor. Y SEL.—Dodwyd sel y Cyngor wrth y cytundeb a'r Cyngor Sirol i ofalu am y Prif- ffyrdd am y tair blynedd nesaf. CARTHFFOSYDD ADRAN 3.—Y Clerc a rodd- odd adroddiad am ei ymweliad a Bwrdd y Llywodraeth Leol gyda'r cais am awdurdod i fenthyca arian at yr adran uchod. Heddyw cafodd y cydsyniad i fenthyca £ 3160, yr hyn oedd yn ddigon at orphen yr oil ond y gwelyau —Awdurdodwyd y Clerc i fenthyca yr Arian, a diolchwyd yn gynes iddo am ei lafur yn yr achos. Gwnaed yn berffaith eglur nad oedd cyflog yr un o'r Swyddogion i gael ei gymeryd o'r swm a fenthycid ond eiddo y Clerc am ei waith ychwanegol fel cyfreithiwr. DIOLCH.—Diolchodd Mr, Wm. M. Owen ar ran y cadeirydd (Mr. E. M. Owen) am gyd- ymdeimlad y Cyngor ag ef yn ei gystudd.A Llys Coleg Aberystwyth am y croesaw gawsant pan ar ymweliad a'r Blaenau. GLO.—Mr. W. M. Owen, a anfonodd i ddy- wedyd na wnelai gyfienwi y Cyngor a glo mwy am fod rhai o'r aelodau yn awgrymu ei fod yn anghyfreithlon iddo wneyd hyny oherwydd fod ei dad yn aelod o'r Cyngor.—Y Cadeirydd, Wel beth wnawn i rwan ? Mae pobl yn ryw rydd iawn eu siarad Pasiwyd i ail hysbysebu a gadael trefnu am lo i'r Gwaith Nwy ar law y Clerc. YNADON.—Pasiwyd i gefnogi y Mesur sydd yn awr o flaen y Senedd i benodi pob Cadeir- ydd Cyngorau Dosbarthol a Dinesig yn Ynadon parhaol os byddai wedi llenwi cadair y Cyngor am ddwyflynedd olynol. RHYDDFREINIAD ADDOLDAI.—Mr. Cadwal- adr Roberts a ofynodd oni fyddai yn well i'r Cyngor ddeisebu o blaid rhyddfreinio Addoldai. —Mr. Richard Roberts, "Gadewch o i'r Cym- manfaoedd sydd ar gael eu cynal yma."—Mr. Cadwaladr Roberts. Na gadewch i ni ddysgu tipyn arnynt" (chwerthin mawr).—Y Cadeir- ydd, Oes genych ryw gynygiad ?"-Mr. Cad- waladr Roberts, "Wel, gadewch i ni feddwl am y peth (chwerthin mawr). Cododd y Cyngor ar hyny.

Festri Flynyddol Ffestiniog,

-Cynghor Dinesig Bettwsycoed.…

Maentwrog.