Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
PEIDIWCH. t I TfTfEB fod genych Insurance Hat."  MYN'D .M M Pe digwyddai i chwi gy far fod A I ODDICARTREF amwain cawsech .ç1 th tra yn cJ. y r wythnos analluog, a I Irj aa i'r perthynas agosaf mewn achos o farwolaeth, 3/9 yr un. SHOP YR ERYR, Church Street. ow HI MAYPOLE YN POD! EDRYCHWCH ALLAN AM EIN AGORIAD YN S3S», 12, CHURCH STREET9 snSp"? X?!? ) BLAENAU FFESTINIOG, DYDD GWENER NESAF. Fel cymelliad arbenig i bawb i roddi prawf ar ein Ymenyn Llaethdy u Maypole?" j Y Pris Agoriadol fydd Gwarantedig o'r ansawdd goreu'n bosibl. I i- y pwysp FRPQH « MFIlflVil Gydag UN GEINIOG Newydd YJWE fly N FRESPP dd PIEDOVAP ynol,yngwneydypnsyn Fob Pwys mewn Box Cardboard. Yn syth o'r Hufendai. ?1c. y pwys. TE sc MAYPOLE" } UN GEINIOG YN OL aryrAgoriad, Y goreu oil 1/6 Paham talu mwy ? r yn gwneyd ei bris yn Y PWYS. 1/5 y pwys. Hefyd Cymysgiadau diguro o Un Geiniog yn ol DE MAYPOLE I ar yr Agoriad ? | gyda phob pwys o De am y Am 1/4. a 1/2 y Pwys. j prisiau hyn. POB PECYN YN LLAWN PWYSAU HEB Y PAPUR. Ein "MAYPOLE" BUTTER-SUBSTITUTE Enwog, PRYDAIN-WNEUTHUREDIG, itiq 60., 8c. a 10c. y Pwyjs- Rhoddir Haner Pwys ychwanegol gyda phob pwys; rhoddir Chwarter Pwys gyda phob haner pwys; a Dwy Owns ychwanegol gyda phob chwarter pwys. Mae genym hefyd Ansawdd am 4c. y pwys. Gwarantedig i Poddhau. | COFIWCH Y CYPEIRIAD- 129 CHURCH STREET, BLAENAU FFESTINIOG. MAYPOLE DAIRY CO., LTD. Dros 450 o Ganghenau yn awr yn agored.
AT EIN GOHEBWYR. I
AT EIN GOHEBWYR. I HEN WEITHIWR.—Rhoddwch eich cwyn i I aelod o'r Cyngor Dinesig. Gwelwch i'r mater gael sylw maith yn y ddau gyngor diweddaf. FFESTINIOG, MAENTWROG, &c.-Byddwn yn ddiolchgar iawn i'n gohebwyr ffyddlon hyn am anfon y FAN BELLAF at foreu Mercher, gan fod cylchrediad Y RHEDEGYDD yn cyn- yddu yn wythnosol, ac felly yr ydym dan orfod i fyned i'r Wasg yn gynarach. Rhaid fu i ni dalfyru, a gadael allan lawer o bethau dyddor- ol am fod eu gohebiaethau yn ddiweddar yn dod i law. Y GENINEN A'R TRAETHODYDD.—Mewn llaw.
NODIADAU WYTHN0S0L.
NODIADAU WYTHN0S0L. Yr Anghydfod a Thwrci. Uydd Gwener, hysbyswya ly r Cyrrredin fod y Llywodraeth wedi barnu yn angen- rheidiol gryfhau y fyddin Brydeinig yn yr Aipht trwy anfon yno ddwy fil o filwyr. Ymddengys fod Twrci drwy feddianu lie o'r enw Tabah, yr hwn yr edrychid arno hyd yn awr o fewn terfynau yr Aipht, wedi peri rhyw gymaint o anesmwythdra yn mhlith yr Aipht- iaid, a bod y milwyr chwanegol wedi eu han- fon ar y dybiaeth y dichon yr anesmwythdra gymeryd ffurf terfysg. Dywedodd Syr Ed- ward Grey, ddydd Mawrth, mai yr hyn y .ceisir gan Twrci ei wneyd ydyw cydsynio i benodi eyd-ddirprwyaeth i nodi allan yn glir ffiniau Twrci a'r Aipht; a'i bod yn anewyll- ysgar i wneyd hyny, ond fod y Uywodraeth yn gwasgu arni gydsynio. Gwyddom yn dda fod y Swltan a'i gynghorwyr wedi arfer bod yn gyndvn, ac na byddant yn gwneyd dim hyd oni bydd raid iddynt. Mae eu cyndynrwydd yn yr achos yma i'w briodoli mewn rhan i'r ffaith nad arnheuir gan neb ei bod wedi cymeryd y cam y cwynir o'i biegid ar gymhelliad Ymherawdwr yr Almaen. Mae'r gwr hwnw yn cyfrif mai y gefnogaeth roddodd Prydain Fawr i Ffrainc yn y Gyn- hadledd ynghylch Morocco a barodd iddi syrthio ar gynllun nad yw ef ynlfoddlon iddo, a cheisiodd dalu'r pwyth yn ol iddi trwy ber- swadio Twrci mai eiddo hi yw Tabah ac y dylai feddianu y He. Pa mor bell y mae yn barod i fyn'd i gefnogi Twrci nis gwyr neb ond ef ei hun. Mae'n debygol fod y Swltan yn hyderu rhyw gymaint arno; ar fesur ei hyder y dibyna mesur ei gyndynrwydd i gyt- uno i benodi cyd-ddirprwyaeth, ac i alw ei filwyr yn ol o Tabah hyd oni orpheno y gyd- ddirprwyaeth ei-gwaith. Dywedir fod Ffrainc a Rwssia yn cefnogi ein Llywodraeth ni, ond nis gwyddom faint o wir sydd yn hyny. Hawdd genym gredu ei fod yn wir am Ffrainc, ond mae'n anhawdd credu ei fod yn wir am Rwssia. Penderfyniad y Pabyddion. I Wedi cymeryd amser i roddi ystyriaeth I bwyllog i'r Mesur Addysg, mae arweinwyr y Pabyddion o'r diwedd wedi gwneyd eu meddyliau i fyny. Cyhoeddwyd eu pender- fyniad gan yr Archesgob Bourne ddiwedd yr wythnos, ac y mae yn debyg i'r hyn ddis- gwyliem iddo fod. Mae datganiad yr Arch- esgob o ran ei ffurf yn hollol deilwng o. hono ef a'r gwyr y sieryd drostynt. Mae ei don yn rhesymol, a'i iaith yn llednais, ac yn y pethau hyn dyry i Esgobion Eglwys Loegr esampl y byddai yn dda iddynt er eu mwyn eu hunain ei dilyn. Yr un pryd mae'r datgan- iad yn glir diamodol a chryf,ac yn dangos yn eglur na dderbynir y Mesur gan y Pabydd- ion, ac y gwnant bob peth yn eu gallu i'w ddifetha. Yn y datganiad dywedir fod holl esgobion, a chynrychiolwyr gwyr lien a lleyg jyr Eglwys Babyddoi yn y wlad hon yn un- i frydol yn gorfod condemnio'r Mesur fel un | anghyfiawn i'r eithaf. Rhoddir tri o resymau dros y farn hon, a hawhr i blant Pabyddion i addysg grefyddo! Babyddoi mewn ysgolion gan athrawon Pabyddol, ac yn niwedd y datganiad dywedir fod yr arweinwyr yn teimlo yn hollol hyderus y cant gefnogaeth unol a phenderfynol holl Babyddion y deyrn- as. Nid oes ynddo o'r dechreu i'r diwedd air bygythiol, na gair sydd yn awgrymu beth a wnant os daw y Mesur yn gyfraith. Un peth yn unig sydd yn hollol eglur, a'r un peth hwnw ydyw y dinystriant ef os gallant fodd yn y byd. Er nad ydym (wrth reswm) yn cytuno a hwynt nac yn barnu eu bod yn gwneuthur yn ddoeth, nid ydym yn rhyfeddu atynt nac yn eu beio chwaith. Y Llywodraeth a Cholegau Cymru. I Aeth dirprwyaeth at Mr. Asquith ar ran Colegau Aberystwyth, Bangor. a Chaerdydd, i geisio ganddo roddi iddynt yn flynyddol swm mwy nag y maent yn ei gael yn bresenol, sef P,4000 yr un. Gan fod y cyfarfod yn gyfrinachol nid oes sicrwydd Hawn ynghylch yr hyn a gymerodd le, ond y mae'n wybydddus na lwyddasant i gael ganddo addewid fel a ddymunent. Pan wnaed cais tebyg at Mr. Austen Chamber- lain tua blwyddyn yn ol, hysbysodd ef y ddirprwyaeth fod Colegau Cymru yn awr yn cael mwy na Cholegau LIoegr yn ol y boblogaeth-eu bod hwy yn cael C5 19s 2c am bob R3 a roddir i'r rhai hyny. Nis gwyddom a ellir dibynu ar gysondeb y ffigyrau hyn, ond yr ydym yn deall eu bod gan Mr. Asquith dydd Gwener a'i fod wedi galwjsylw y ddirprwyaeth atynt, ac y mae'n ddiameu genym fod ganddynt atebiad parod i'w roddi iddo. Dywedir eu bod wedi cael eu boddloni i fesur yn y modd y derbyniwyd hwy er na chawsant atebiad pendant. Ewyllysia Canghellydd y Trysorlys gael gwybodaeth fanylach a helaethach nag sydd ganddo. Cydnebu fod amgylchiadau Cymru yn eithiadol, a dywedodd ei fod yn gwybod hyny cyn i'r dirprwyaeth alw ei sylw at y ffaith. Cawsant sicrwydd ganddo ybydd iddo wedi y rhoddir iddo y wybodaeth bellach a gais roddir i'w hapel ystyriaeth gwr 1 mewn cydymdeimlad a hwynt. Fel y dywedasom ni chaniatawyd i gynrychiolwyr y Wasg fyn'd i'r cyfarfod er hyny credwn fod yr hyn yr ydym wedi ei benderfynu yn gywir. f Etholiad Eifion. I ba le bynag yn Eifionydd yr eir, anhawdd ydyw cael ymddiddan a neb ynghylch unrhyw fater ond yr Etholiad yn unig. Cyfrifir am hyn gan y ffaith fod Rhyddfrydwyr yn anghytuno a'u gilydd ac nid ydym heb ofni fod perygl iddynt ffraeo a'u gilydd. Y ddau ymgeisydd sydd ar y blaen ydyw Mr. D. P. Williams a Mr. E.W. Davies, ac o'r ddau yma edrycher ar y cyntaf fel 11 dyn y Rhydd- frydwyr Swyddogol ac ar Mr. Davies fel dyn y bobl." Eisoes cerdda cwynion o afreoleidd-dra ac anhegwch ynghylch y modd y cyfansoddir y Gymdeithas Ryddfrydol a'r modd y gelwir ei chyfarfodydd hefyd. Gan Mr. Davies a'i gyfeillion y cwynir. Yr ydym yn cofio am rywbeth tebyg yn Meirion, a'r diwedd fu i ddau ymgeisydd Rhyddfrydol ddyfod allan, Yr ydym yn haner ofni mae felly y bydd yn Eifionydd hefyd. Cred y Rhyddfrydwyr nad oes berygl i'r Sedd syrthio i ddwylaw y Toriaid hyd yn nod pe digwyddai hyny. A bwrw fod hyny yn sicr, gresyn fyddai gweled Rhyddfrydwyr yn ymladd yn erbyn ea gilydd, oblegid cynyrch neu ganlyniad hyny fyddai teimladau chwerwon a barhaent am lawer iawn o flyn- yddoedd. t Deddf Fuddiol. I Geilw y British Medical journal sylw at y ffaith fod mewn grym mewn amryw o'r Talaethau Unol ddeddf sydd yn gwahardd i bobl yn dioddef oddiwrth fathau neillduol o afiechyd briodi. LIuniwyd deddf felly yn Connecticut yn 1895, a dilynwyd esampl y dalaeth hono gan Michigan, Minnesota, Kansas ac Ohio. Cosbir y neb a'i troseddo trwy ei garcharu am dymor heb fod yn llai na thair blynedd. Pe bai rhai yn myn'd i dalaeth yn yr hon nid oes deddf felly mewn grym, ac yn priodi yno, ac wedi hyny yn dychwelyd ni chyfrifid eu bod wedi priodi yn gyfreithlawn a chyfrifid hwy yn droseddwyr o'r ddeddf yr un ffunyd a phe buasent wedi priodi yn eu talaeth eu hunain. Byddai yn dda genym gael gwybod sut mae'r ddeddf yn gweithio. Rhaid fod iddi effeithiau da; a ydyw yn bosibl fod iddi effeithiau drwg sydd yn gorbwyso y da? Mae yn y wlad hon lawer o filoedd o bobl yn dioddef oddi- wrth afiechydon ydynt nid yn heintus ond yn etifeddol, ac mae'n bosibl pe gellid cael gwaredigaeth oddiwrthynt unwaith, nad ad- gyfodent drachefn. Eglur yw na ddarfydd- ant o'r tir byth tra y bydd rhai sydd yn dioddef oddiwrthynt yn priodi ac yn eu trosglwyddo yn etifeddiaeth i'w plant. Yn sicr iawn, y mae hwn yn fater sydd yn haeddu ystyriaeth dyngarwyr, diwygwyr cymdeithasol a seneddwyr; enillai y neb a ddarparai foddion i gyrhaedd yr amcan yma iddo iddo ei hun enw fel un o gymwynaswyr penaf ei genedl. Y Gyllideb. Eglurodd Canghellydd y Trysorlys ei gyll- ideb gyntaf nos Fawrth. Yr oedd derbyn- iadau y Trysorlys (neu incwm y Wladwr- iaeth) am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 31, 1906, yn £143,978,000, a'r treuliau yn £ 140,512,000. Felly yr oedd mewn llaw weddill o £ 3,466,000. Nid oes gan Mr. Asquith hawl i gyffwrdd a'r gweddill hwn rhaid iddo, yn ol y rheol, fyn'd at leihau y ddyled wladol, ac y mae hyny yn beth ag y mae yn wir angenrheidiol ei wneyd. Yn ol amcangyfrif y Canghellydd bydd derbyniad- au y flwyddyn ddiwedda Mawrth 31, 1907 yn zF,144,806,000, a'r treuliau yn zE141,786, 000; a gedy hyny weddiil o £ 3,074,0C0. Yr hyn oedd ganddo i'w wneyd oedd pen- derfynu pa doHau, &c., i'w gostwng, canys ar y dybiaeth fod y follau, &c., yn cael eu gadael fel y maent y byddai y derbj-niadau yn cyrhaedd y swm a nodwyd uchod. Cred Mr. Asquith y gall wneyd ar lai na hyny. A'i gynllun ydyw rhoddi £ 500,000 at dalu y ddyled (ar wahan oddiwrth ac yn chwanegol at y ddyled wladol) yr aeth y Llywodraeth ddiweddaf iddi; £ 135,000 at gynorthwyo dosbeirth ysgolion anghenus—-h.y. y dosbeirth lie mae treth addysg yn fwy na 1/6 y bunt; £105,000 at ostwng y tal am archebion ar- ianol y Llythyrdy, ac am gludo parseli; -ci,ooo,ooo i ddiddymu y doll ar lo a allforir, a 9920,000 tuag at wneyd gostyngiad o Ig. yn y doll ar de. Heblaw hyn, gostynga y doll ar fath neillduol o fyglys o 3c. i 2tc. ond nid yw yn cyfrif y bydd y derbyniadau ddim yn llai o hyn. Rhoddwyd derbyniad ffafriol ar y cyfan i'r gyllideb hono. Ni pharodd i neb synu, ac ni pharodd i neb deimlo yn siomedig chwaith. Dichon hefyd fod rhai o'r bobl sydd yn talu treth incwm wedi gobeithio y gostyngid hi; os felly, caw- sant hwy dipyn o siomedigaeth. Hysbysodd Mr. Asquith ei fwriad i benodi pwyllgor cryf o aelodau Ty'r Cyffredin i ystyried treth yr incwm yn ei holl gysylltiadau gyda'r amcan o'i graddoli fel y byddo y dreth yn fwy yn y bunt ar incwm mawr nag ar incwm cydmar- 01 fychan. Fel y mae yn awr, mae'r dyn nad yw ei incwm ond j5161 y flwyddyn yn talu yr un faint o dreth yn y bunt a'r dyn ag y mae ei incwm yn £ 250,000 neu fwy, ac nid yw hyny yn beth rhesymol. Cytuna pawb o'r bron i ddywedyd hyn, ond anhawdd fydd graddoli'r dreth mewn modd a ddyru fodd- lonrwydd cyffredinoK Credwn fod y gyllid- eb gystal ag oedd yn rhesymol disgwyl iddi fod yn yr amgylchiadau. I Mr. Howell Idris, A.S. Tybid unwaith nad oedd Mr. Howell Idris, cynrychiolydd Bwrdeisdrefi Fflint, nemawr gwaeth o herwydd y ddamwain a'i cyfarfu pan syrthiodd o'i fodur, ond wedi dechreu gwella gwaethygodd yn ddisymwth, ac er's wythnos bellach y mae mewn cyflwr difrifol sydd yn peri pryder mawr i'w gyfeill- I ion. Bu am amryw ddyddiau mewn cyflwr o anymwybodolrwydd. Erbyn hyn y mae yn ymwybodol ond rhaid i amryw ddyddiau etofyn'd heibio cyny dichon droi ar wella." Pwy nad yw yn cydymdeimlo ag ef pan y mae ar ddechreu ei yrfa Seneddol wedi bod mor anffodus. Eiddunwn iddo adfedad buan a Hawn.
j NODION 0"R CYLCH.
j NODION 0"R CYLCH. Yn lie ystormydd o darth, tan, a mwg," fel y bygythid, cafwyd Festri eithriadol o dawel yn y Blaenau prydnawn Sadwrn. Distaw iawn ydoedd gwyr y Llwyfan," a phruddach nag arferol o gryn lawer ar gyfrif fod yn rhaid codi y dreth o bum' swllt i bump a cbwech y- bunt. Eglurodd y Cadeirydd y rheswm dros y codiad, ac mai y lleihad yn ngwneuthuriad y llechi oedd y prif achos o hono. Fe geisiwyd codi hwyl trwy awgrymu nad oedd yr "arian gwaddol" yn cael eu rhanu yn briodol, a bod bai ar y pwyllgor treth- iadol" am fod enw etholwr heb fod ar yr etholrestr ond methodd yr un awgrymodd yr anhegwch wneyd dim ond haeru, ac yn achos yr enw. yr oedd hwnw yn hen beth, bron o gof pawb. Wedi gwastadhau y ddau bwngc dyrus (?) yna aeth pawb i'w fan, a'r cwrdd wedi parhau am ryw haner awr o'i ddechreu i'w ddiwedd. Nid oedd ond ryw haner cant o'r miloedd trethdalwyr sydd yn y plwyf yn bresenol, a dengys hyny nad oes y nesaf peth i ddim o ddyddordeb yn cael ei gymeryd mewn materion plwyfol yn ein plith. Dydd Iau diweddaf, yn yr oedran teg o 89 mlwydd, bu farw Mr, Griffith Owen, Bryn- glaslyn, Porthmadoc. Gwyr holl Cnwarelwyr Gogledd Cymru am ei waith, os nad am dano ef yn bersonol. Hyd i fyny i tua ugain mlyn- edd yn ol yr oedd yn un o Gwmni Mri. Owen, Isaac, ac Owen, yr Haiarnfaelwyr enwog o Porthmadoc.' Yr oedd ef yn Beirianydd medrus nodedig; ond yr hyn a'i gwnaeth yn fwyaf adnabyddus ydoedd i chwarelwyr Cymru ydoedd ei ddyfais o Fwrdd Llifio Llechi yr hwn a Freintebwyd ganddo, ac a wnaed gan y Cwmni o dan ei arolygiaeth bersonol ef ei hun, ac y mae y Byrddau hyn mewn arferiad yn mhob chwarel bron trwy Ogledd Cymru. Yr un amser ag y dyfeisiodd Mr. Owen y Byrddau Llifio, y dyfeisiodd y diweddar Mr. J. W. Greaves y Peiriant Troellog at Naddu Llechi (Revolving Slate Dresser), yr hwn hefyd sydd mewn arferiad yn yr holl chwareli. Yr oedd Mr. Owen yn Gerddor gwych, ac adeiladodd Grwth a'i law ei hun. Rhoddodd brawf o'i sel fel Eglwyswr trwy gyfranu ^400 at gych- wyn trysorfa i waddoli Eglwys Sant loan, Porthmadoc, yr hon eglwys a adeiladwyd yn benaf trwy ei ymdrechion personol ef, a llwyddodd i gael y Drysorfa gyda gwaddol o £ 3,000 at gynal yr Eglwys yn mlaen. Hedd- wch i'w lwch. Nid yn ami y tarewir ar ddyn mor ddiamwys a didderbyn wyneb a'n cydwladwr galluog, y Parch. Edward Lloyd Jones, Gweinidog gada'r Wesleyaid Seisnig. Gwr clyd ei amgylchiadau, a gwerinol ei syniadau ydyw, ond llesg ei iechyd ar hyd ei oes. Yr ydym yn dodi isod ddarn o'i bregeth yn Accrington y Sabboth diweddaf:— Pwy a feddyliai am ddyn cyfoethog yn myned i'r Eglwys ddwywaith ar y Sabboth I Ni ddaliai eu hiechyd beth felly, er y gwnai I hyny pan oeddynt yn dlodion Nid Paganiaid Prydain yw y bobl dlodion fu'n gollwng eu colomenod neu redeg eu cwn ond meibion y cyfoethog y rhai a dreuliaut Ei ddydd Ef yn y Car Modur. Y mae yna filoedd o gapeli pe'r elai y gweithiwr iddynt, fe'u hystyrid yn atgas- edd (nuisance) perffaith. Mae y capeli hyn mor ddamniol o barchus fel pe'r elai y gweith- iwr iddynt caffai yr holl bobl da y frech goch. Y dydd o'r blaen, yn un o'r trefi mawrion aeth dyn cyfoethogt a un o oruchwylwyr y capel, a dywedodd "Yn awr, peidiwch rhoddi yr un hysbyslen allan nid wyf yn hoffi tyrfa, fe dalaf fi i'r pregethwr." Wrth siarad am y penboethi gyda'r bel, dywedodd iddo deithio i Manceinion yn nghwm- ni 17 o ddynion oedd yn myned i ymrysonfa cicio pel. Addefodd un o honynt iddo fod yn mhob ymrysonfa yn ystod y tymor ag ydoedd yn ei gyraedd, a chostiodd iddo 17s 6c i 22s y tro. Ei gyflog ydoedd 35s yr wythnos. "Beth," gofynai Mr. Jones, am wraig a phlant y dyn hwnw a'i debyg ?" Mae sylwadau fel yr uchod yn peri i'ddyn feddwl nid ychydig uwch ben arferion yr oes. Bu y dyddiau diweddaf yn rhai hynod am eu damweiniau angeuol. Nid oeddym ond wedi prin gael ein hanadl atom ar ol y ddam- wain yn y Rhiwbach a'r llall yn y Diphwys, nad oedd yr ardal wedi ei tharaw a braw wrth glywed am dair arali. Y ddwy gyntaf yn chwareli Oakeley, a'r llall yn Nghoed Maen- twrog. Bachgen ieuangc a dau wr oedranus Thomas Roberts yn 17; William Jeremiah Williams yn 56: a John Pritchard yn 60. Yr oedd y tri yn gynefin a'u goruchwylion, yn neillduol Williams a Pritchard. Yr oedd y "sesyn goed" flynyddol ar etifeddiaeth Mr. Oakeley, yn Nyffryn Maentwrog, yn anghy- flawn heb i John Pritchard fod yno, ac yr oedd yn nodedig o boblogaidd fel rhisglwr coed, a gofalwr am y rhisgl. I ran John Pritchard, fel rheol, y deuai gofalu am yr hogiau drwg fyddai ar y lie, ac yr oedd yn gallu eu trin fel y mynai gyda'i ddull doniol ac arabus. Byddai yn un o'r rhai cyntaf i waeddi, "Tendiwch hogia!" pan welai yr arwydd leiaf o berygl. a degau o weithiau y clywsom ef yn dywedyd M gwaith ofnadwy o berig ydi hwn. Wyddocb chi ddim pa fynyd y gall coeden droi net! ddisgyn arnoch." Bychan feddyliai pan edrychai fel y Gog ddydd Mawrth diwedd- af, ac y dywedai wrthym ei fod yn dechra yo y coed ddydd Llun," y byddai yn gorph ddydd Mawrth wedi hyny. Yr hen bererin diddan I Mae cydymdeimlad mawr a'r ddau deulu arall hefyd, yn neillduol teulu y bachgen ieil- angc; y tad wedi colli ei aelod, mab yn fedd- yliol gystuddiol, a mabaral1 wedi colli ei olwg! Os nad oes le i'r galon fwyaf ei chydymdeim- lad i ddangos ei "hymysgaroedd cariad" yn y fan hon, nis gwyddom yn mha le y'i ceir.
IDAMWEINIAU ANGEUOL YN-CHWARELI…
I DAMWEINIAU ANGEUOL YN CHWARELI ,OAKELEY" BLAENAU I FFESTINIOG. 1 Ei Ladd gyda'r Wagen. Prydnawn dydd Gwener, yn Ysgoldy (M.C.) Glandwr, cynhaliwyd trengholiad gan Mr. K» O. Jones, Trengholydd y Sir, ar gorph Thomas Roberts, 17eg oed, mab Mr. Griffith Roberts, Hafodunos, Glanpwll Road, yr hwn gyfarfydd- odd a'i ddiwedd mewn modd hynodyn Chwarel Oakeley, dri o'r gloch ddydd Iau. Blaenorid y Rheithwyr gan Mr. George Brymer Hughes, ac yr oedd Mr. G. J. Williams, Arolygydd y Llywodraeth yn bresenol. Zacheus Roberts a dystiodd ei fod yn frawd1 i'r trangcedig yr hwn a fuasai yn 17 mlwydd oed y lOfed o'r mis nesaf. Canlyn ceffyl0 dan Mr. Griffith Roberts, Rhiw. yr oedd yn J chwarel er's tua chwe wythnos. Yr oedd y11 fachgen iach, ac yn gynefin a chanlyn ceffylatl- Mr. Ellis Owen, a ddywedodd ei fod yi Archwiliwr LIechi yn y Chwarel, ac adwaen y trangcedig yn dda. Yr oedd yn canlyn ceffyl ac yn symud gwageni llwythog o lechi ar le gwastad uwchben "Incline Holland," Gwelodd ef ychydig fynudau cyn y ddamwain. Tair 0 wageni llawnion oedd ganddo yn ei lwyth. yr oedd ef o fewn haner can' llath i'r fan y cyiner, odd y ddamwain le. Wrth weled Roberts Yi hir yn dod yn ei ol gyda'r ceffyl, troes ei ben i edrych am dano, a gwelodd y ceffyl yn sefyl* yn llonydd a yntau ar lawr yn ymyl y gwageni; Gwaeddodd am ddyn i ddod ato, a rhedodd ymofyn dynion i gael y stretcher. -Un ochenaid a roddodd. Nid oedd ond archoll bychan ax ei arlais. ond yr oedd yn amlwg iddo gael ergyd farwol. Ychydig o waed oedd yn y lie. LIe hynod o fanteisiol i fachu gwageni oedd y fen yr oedd arno. Gweithiai y trangcecig yn Y chwarol er's tua thair blynedd ond aeth ganlyn ceffyl yn rheolaidd bum wythnos yn ol Bydd yn arferol a chanlyn ceffyl yn achlysuroI cyn hyny. Gan Mr. G. J. Williams-Yr oedd tair 0 wageni llawnion wedi eu symud gadddo cynt, hwn oedd yr ail lwyth. Yr oedd y ceffyl wedi ei ddadfachu, ac yn sefyll yn llonydd gerllaw: Ei farn ef a'i gyd-swyddogion ydoedd mat congl ymyl isaf y wagen oedd wedi ei daraillf wrth iddo geisio ei bachu wrth y tair wagen arall. Mr. Hugh Jones, 104. Manod Road a dyst- iodd ei fod yn lwythwr llechi yn yr OakeleyS- Yr oedd yn llwytho tua haner can' llath oddi- wrth Roberts pan fu'r ddamwain, ond ni wel" odd y peth yn cymeryd lie. Yr oedd yn fachgen *cyfarwydd a'i waith, ac yr oedd bachu gwageni yn rhan o'i waith fel ceffylwr. Dychwelwyd reithfarn 0" Farwolaeth Ddam- weiniol wrth ddilyn ei orchwyl gyda cheffyl yn y Chwarel." Ar gynygiad Blaenor y Rheith- wyr pasiwyd pleidlais ogydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth. Cwymp Angeuol dros y Dwfn. Jrrydnawn ddydd Llun, yn Festri Capei Salem, o flaen Mr. R. O. Jones, a 13 o Reith- wyr, i'r rhai yr oedd Mr. H. T.' Owen, Church Street yn Flaenor, cynhaliwyd trengholiad ar gorph Mr. William Jeremiah Williams, Bryn- ftynon, Dolwyddelen, yr hwn a gwympodd dros y dwfn yn Fall Chwarel Ganol Oakeley pryd- nawn ddydd Gwener, ac a fu farw yr un noson yn yr Yspytty. Yr oedd Mr. G. J. Williams, Arolygydd y Llywodraeth yn bresenol. John Williams, Talsarnau a ddywedodd el fod yn llafurwr yn Chwarel Ganol Oakeley- Gwelodd y Trangcedig yn gweithio ar ochr y graig yn y Fall prydnawn ddydd Gwener. Nid