Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Dywedyd a Gwneyd. i
Dywedyd a Gwneyd. Nid yn anaml y ceir rhai yn dadleu yn gryf dros wneyd pethau, a phan ddaw y cyfle i hyny y maent yn profi yn eglur mai siarad gwag ydoedd y cwbl. Yn Mwrdd Gwarcheidwaid Dolgellau darllenwyd llythyr o Fwrdd Caer- narfon, yn dadleu dros roddi rhagor o gynorth- wy i'r tlodion. Mr. Hugh Owen, a ddywedodd i wraig o Undeb Caernarfon ddod i fyw i Dol- gellau. Gofynodd am gynorthwy plwyfol, ac argymellasant i Gaernarfon ganiatau pedwar swllt yr wythnos iddi, ond nid oedd gan Warcheidwad y lie hwnw ddim gwell i'w gynyg iddi na'r Tlodty. Rhad yw siarad, a drud yw j; wneyd.
Ffordd Gwas o Fwynhau ei Hun.
Ffordd Gwas o Fwynhau ei Hun. Cafodd James William Brandrick, gwas fferm Cotton Abbots, ger Caer, ddiwrnod o wyl gan ei feistr, a threuliodd yntau'r dydd mewn Hadrata pedair o'i heffrod a'u gwerthu. Cafodd £ 45 am danynt, prynodd siwt o ddillad, ac yr oedd yn mwynhau ei hun yn Nghaer pan gym- merwyd ef i'r ddalfa. Yr oedd ganddo £ 38 heb eu gwario o'r arian. Anfonwyd ef i sefyll ei brawf yn y Frawdlys Chwarterol.
Canlyniad i Gyngaws am Enllib.
Canlyniad i Gyngaws am Enllib. Yn Llys Manddyledion Machynlleth, gwnaeth Mr. Williams, Gwestywr yn y dref gais oflaen y Barnwr Gwilym Evans, am archeb yn erbyn William Jones, gwerthwr llysiau, am y gweddill dyledus iddo yn nghylch cyngaws am enllib wrandawyd yn y Trallwng rai misoedd yn ol. Ar ran y Diffynydd, dywedwyd ei fod wedi ei werthu i fyny mewn canlyniad i'r cyngaws hwnw. Gwnaed archeb am 10/- yn y mis.
Plant heb Hetiau. I
Plant heb Hetiau. I Mae prif-feistres y babanod yn ysgol Mary- port yn cefnogi y plant i ddyfod i'r ysgol heb hetiau. Dywed ei bod wedi dal sylw, yn ystod y gauaf diweddaf, fod yr ysgolheigion ddaeth- ent i'r ysgol heb hetiau yn dioddef llai oddi- wrth anwydau na'r lleill. Mae y rhan fwyaf o blant yr ysgol hon wedi rhoi'r goreu i wisgo hetiau.
Ymrysonfalr Seindyrf yn NewI…
Ymrysonfalr Seindyrf yn New Brighton. Profodd cvstadleuaeth y Seindyrf yn New Brighton ddydd Sadwrn y fwyaf llwyddianus a gynhaliwyd yno hyd yn hyn. Daeth 16 yn mlaen allan o'r 20 a anfonasant eu henwau i mewn. Yr oedd y datganiadau o Spohr's "Grand Selection" yn galed i'r eithaf. Mr. William Short. L.R.A.M., Arweinydd Seindorf Cyngor Dinesig Llundain oedd y Beirniad, a dyfarnodd y £ 30, Her-gwpan haner can' gini, ac arweinffon arian i Gossage Soap yr ail wobr o [20 i Crossfield Soap y drydedd wobr 0 f 15 i Goodshaw; y bedwaredd wobr 0 £12 i Wingates. y burned wobr o £10 i Rochdale Public; y chweched wobr o f 8 i Rushder Temperance; a'r seithfed wobr o 65 i Guide Temperance. Y Seindyrf eraill a gystadleuent oeddynt:—Longridge Prize, Shaw Prize, Batley Old, Eagley Mills, Eccles Borough, Irlam St. Johwils, Wyke, Linwaithe, a Litherland Silver.
/ Ocheneidiau Meirion.I
Ocheneidiau Meirion. Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Sirol Meirion yn Dolgellau dydd Iau, o dan lywyddiaeth Dr. J. Jones. Yr Henadur Haydn Jones a gyflwynodd y gyllideb am y flwyddyn, a dywedodd eu bodyn cychwyn y flwvddyn gyda;64,168 7s 2c mewn Haw, ac yr oedd cyfanswm y derbyniadau yn 16.1-17 16s, Sc. Cyfanswm y taliadau oeddynt ;614,377 19s 4c, £ 965 i'w gwario ar heddlu, yn gadael gweddill mewn Haw o £ 774 17s 4c. Cydsyniwyd i godi treth o Is Ic yn y bunt. Mewn perthynas i bwngc Addysg yr oeddid yn amcan-gyfrif y byddai yn rhaid i'r Cyngor ddarparu £ 30,000 at Addysg Elfenol. Tra yn Croesawu beirniadaeih ar wariadau y Cyngor Sirol, yr oedd yn argyhoeddedig fod y Cyngor yn gwbl effro i'r cynydd mewn costau. Yr oedd gwerth trethiadol y sir yn hynod isel, ar grants yn nodedig isel. Sir dlawd ydoedd, a chyda grants bychain ac arwynebedd mor fawr byddai y baich yn rhwym o fod yn drwm gyda phoblogaeth deneu, a 290 milltir o brif-ftyrdd i ofalu am danynt. Yr oedd y cyngor yn cymeradwyo argymelliad y pwyllgor i ddeddfu ar fod goleu i'w osod ar bob cerbyd &c wedi machludiad haul. Yr An- rhyaeddus C. Wynn a sylwodd mai Meirion ydoedd yr unig Sir yn y Deyrnas ar nad oedd hyn ynddi.
I Gwcbrwy Geirwiiredid.
I Gwcbrwy Geirwiiredid. 1 ) iHi °w Cn ^st?siaid Dyffryn, Caergybi, cyhudd- ië!l Wm. Roberts, B/ynteg' ool^yno heb ? f ??t. ? ?efcddy Cadeirydd (Canon Rich- l a:¡\:ds) bod y faine wedi eu b???h?u gymamt gan ? ? ??? ??oranghy&edmoeir?redd y? y j -.lys bwnv/fei yr ?'?y?y Soiling y trosedd- ? "rynrhya?dhebddu-wy. -edd
YmneilEduad y Parch. Evan…
YmneilEduad y Parch. Evan Jones, j Wedi oes faith o lafur gyda'r Wasg, gyda Gwleidyddiaeth, a chyda'r Weinidogaeth, y mae y Parch. Evan Jones, Caernarfon wedi rhoddi i fyny ofal Eglwys Moriah, lie y bu yn ddedwydd a llwyddianus, am yn agos i 31 mlynedd. Mae i Mr. Jones le anwyl yn serch ei gydwladwyr, a una phawb i ddymuno iddo nawnddydd tawel dibryderon. Llawn enillodd ei orphwysfa fel gweithiwr diwyd a chadarn.
Hunanladdiad .MasnachyddI…
Hunanladdiad Masnachydd I Cymreig. Dydd Sadwrn, darganfyddwyd Mr. John Ed. Jones, Haiarnfaelwr a Masnachwr cyffredinol, ac un o ddynion mwyaf cyhoeddus Rhuthyn, yn hongian yn farw wrth dylath yn ei fasnach- dy. Yn y trengoliad, awgrymwyd ei fod mewn anhawsderau arianol.
IWedi Meddwi. -I
Wedi Meddwi. Me\tn achos wrandawyd yn Heddlys Clerk- enwell, cymerodd yr ymddiddan ganlynol le:- Yr Ynad A oedd y dyn hwn mewn diod? Y Swyddog: Nag oedd, ond yr oedd diod ynddo ef. Nid oedd yn feddw, ond yr oedd wedi bod yn yfed. Yr Ynad: Meddwl yr ydych nad oedd mor feddw ag y gallasai fod. Y Swyddog Na, yr oedd yn ddigon sobr. Yr Ynad: Yr oedd yn meddwl i chwi ddy- wedyd ei fod yn waeth oherwydd d:od. Y Swyddog: Na Syr. Dywedais iddo fod yn yfed. Yr Ynad Wel, ynte, nid oedd yn sobr. Swyddog Nid oedd yn feddw. Yr Ynad Nid ydym yn gwneyd y fath wa- haniaethau cywrain yma. Yr wyf yn taflu yr achos allan.
Profi ei Haniad.I I Profi…
 Profi ei Haniad. I I Profi ei Haniad. Ar achlysur neillduol yr oedd torf lawn o dan gwladgarol yn Awstralia yn curo'u dwylaw yn frwdfrydig pan grybwyllodd enw Lloegr, ac un o'r rhai mwyaf selog yn y lie ydoedd dyn tywyll. Troes ymwelydd Seisnig ato mewn syndod, a dywedodd, "yn sicr nid oes genych chwi waed Seisnig yn eich gwytheni ? Dim gwaed Seisnig yn fy ngwytheni," gwaeddai yntau, fe gynorthwyodd fy ngor-hendaid i fwyta Cadben Cook."
,Cwympiadau y Llechwedd.-…
Cwympiadau y Llechwedd. I Dal i gwympo y mile o hyd yn Chwarel y Llechwedd, ac y mae y rhagolygon braidd yn waeth yr wythnos hon na'r un ddiweddaf. Mae y cwympiadau hyn yn gwneyd bron yr oil o'r gwaith tan y ddaear yn rhy beryglus i fyned ato; a'r canlyniad yw fod llu o weithwyr yr wythnos hon eto wedi eu hatal i weithio. DyWedir fod y perygl yn rhy fawr i ganiatau i'r gweithwyr gymaint a nol eu harfau allan.
- - - - - - Marwolaeth Prif…
Marwolaeth Prif Weinidog New I Zealand. Dydd Sul diweddaf, o dan amgylchiadau annisgwyliadwy, bu farw Mr. Seddon, Prif Weinidog New Zealand. Cwynai yprydnawn blaenorol, ei fod yn wael, ac aeth i'w ystafell i orphwyso. Pan ddeffroes arosodd i bwyso ar y couch, yn disgwyl am giniaw. Yr oedd Mrs, Seddon wrth ei ochr ar y pryd, Yn sydyn cododd Mr. Seddon a phwysodd ei ben ar ysgwydd Mrs, Seddon gan ddweyd, Good- bye, fy anwydlyd, 'rwyn myn'd," ac ar hyny bu farw 5yn ei breichiau. Mae galar dwfn a chyffredinol yn Awstralia am farwolaeth y llywodraethwr poblogaidd hwn.
- Dedfryd o Lofruddiaeth.--I
Dedfryd o Lofruddiaeth. I Mewn trengholiad a gynhaliwyd dydd LIun yn Wallasey, sir Gaer, ar gorph Jessie Moran,, yr hon a fu farw o dan amgylchiadau amhens* yn mis Mai diweddaf, rhoddwyd tystiolaeth feddygol oedd yn dangos fod gweithred law- feddygol anghyfreithlon wedi ei chyflawni ar y trancedig gan Famaeth o Lerpwl, a phasiwyd dedfryd o lofruddiaeth yn erbyn y cyfryw Famaeth yr hon sydd wedi difianu er's rhai dyddiau.
Ch warel wr o Bethesda yn…
Ch warel wr o Bethesda yn Ymgrogi I Dydd Gwener diweddaf, taflwyd ardal Beth- esda i gryn fraw gan y newydd fod corph John lOwen, Braichmelyn, gwr adnabyddus iawn yn y cylch wedi ei gael yn crogi wrth goeden ar ochr Braichmelyn. Yr oedd John Owenyn uu o gyn-weithiwyr y Penrhyn, ond gwrthodwyd gwaith iddo wedi terfyniad y Streic. Yr oedd y truan wedi ei golli o'r ty y dydd blaenorol.
[No title]
Mae Canon Hughes wedi ymddiswyddo o reithioraeth yr Abermaw, He y bu yn gwasan- aethu am amryw fiynj-ddoedd.
E- - -;?- d-Earsgfrydedd y…
E ?- d Earsgfrydedd y Rhyl. Yn Nghyngor Dineajg Rhyl, dydd LIun diweddaf, dywedodd ifr. J. H. Ellis, tra yr oedd yn cytuno i rwystro y rhai fynent redeg ceir ar ddydd Sul yn ol a blaen ar hyd y dref, ei fod o'r farn y dylid caniatau rhyddid i redeg o'r dref i leoedd tuallan, megis Rhuddlan, Dyserth, Prestatyn, &c. Argymellai wneyd gorsaf yn y dref ile y gellid cael moduriau ar y ddealltwriaeth clir mai ar gyfer siwrneion tu allan i'r dref yr oeddynt i gael eu defnyddio. Credai y byddai yn anfantais iddynt ddangos im culni tuag at foduriau a modurwyr. Yn yr un Cynghor caniataHvvd rhagor o k i>yneusderau ar gyfer ymdrochi cymysg.
Oyffafptn Erchyll. -, I '!
Oyffafptn Erchyll. I Cy?lawnwyd cyflafan ercbyll dydd LIun diweddaf mewn tya e]wid Heathfield. yn Camberly, palasdy bach ar y brif-ffordd i Llun- dain, ac a berchenogid gan ddwy foneddiges ddibriod, Misses Hogg. Rhwng pedwar a phump o'r gloch, rhuthrodd un o'r chwiorydd allan o'r ty gyda'r gwaed yn ffrydio o'i gwddf yr hwn oedd wedi ei archolli yn ddwfn. Gwaeddai bod rhywun wedi ei llofruddio. Cymerwyd hi i dy cyfagos a galwyd am y meddyg. Pan ofynwyd yn milia le yr oedd ei chwaer ni allai roddi ateb mwy na dweyd "murddr, murder." Pan aethpwyd i'r tya cafwyd y chwer arall yn gorwedd ar y llawr yn farw, a'i phen wedi ei wahanu oddiwrth ei chorph, ond yn dal gafael mewn morthvvyl mawr. Dywedir fod y ddwy chwaer yn werth i eiddo mawr. Ond nid oes goleuni wedi ei gael hyd yn hyn ar y gyflafan.