Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

AWEL 0 GYDYMDEIMLAD I

0 Lanau'r Fachno.

Cor Cymreig i Ganu gerbron…

Advertising

AANWYL GOFFADWRIAETH. ) A…

BEN FYNWENT BETTWS' COED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BEN FYNWENT BETTWS' COED. Hen lanerch oer, ddigysur, A'i gwedd yn welw, drom, Hen lecyn neillduedig I fod yn gartref Siom Gwarchodlu Teyrn y Beddrod Ar wyliadwriaeth 'roed,— I geisio cadw Gobaith o fynwent Bettws' Coed. O i hamgylch y mae natur A'i thanau bron yn fud, ^Gonwy ymlonydda Fel baban yn ei chryd Mae Rhyfyg ar ei eithaf, Yn ofni sangu 'i droed, I dori ar ddistawrwydd Hen fynwent Bettws' Coed. Hen randir y galaru, Dy ddaear sydd yn llaith, O'r dagrau a gostrelaist Ar hyd yr oesau maith Sawl enaid dan drallodion, A welwyd yma 'rioed,— Yn tywallt ffrydiau calon Ar fynwent Bettws' Coed. Holl genedlaethau'r ardal Ar hyd yr oesau fu, Orphwysant heddyw'n dawel 0 dan dy briddell ddu; Tylodion, a boneddwyr, 0 bob rhyw radd ac oed, Sy'n huno yn nhawelwch- Hen fynwent Bettws' Coed. A minau, y presenol Sy'n cyrchu tua 'i chol, Tros fryniau niwlog amser Yn gyflym ar eu hoi; Yn nghanol hoender bywyd Pob cam a 'rydd ein troed, Sy'n tynu i gyfeiriad Hen fynwent Bettws' Coed. Hen fynwent er y tristwch 'Mawr o dy amgylch sydd, Mae Gobaith trwy'r tywyllwch Yn canfod Toriad dyddj" Y dydd sydd wedi 'i selio Mewn Arfaeth fawr erioed,— Bydd Duw yn mynu 'i eiddo 0 fynwent Bettws' Coed, Bettws-y-coed. R. D. JONES,